English

Ap a gwefan rhwydweithio cymdeithasol a rhannu fideos di-dâl yw YouTube, lle mae defnyddwyr yn gallu gweld, rhoi sylwadau, gwneud a rhannu fideos ar bob math o bynciau. Mae'n hawdd rhannu fideos sydd wedi'u lanlwytho i'r wefan trwy fathau eraill o gyfryngau cymdeithasol, a gellir eu cynnwys mewn gwefannau a chynnwys eraill hefyd. Gyda thua 120 miliwn o ddefnyddwyr dyddiol yn gwylio dros biliwn awr o fideos bob dydd, YouTube yw un o'r platfformau cyfryngau cymdeithasol mwyaf poblogaidd yn y byd.

Yr oedran isaf ar gyfer cyfrif YouTube yw 13, ond does dim unrhyw ddull trylwyr o ddilysu oedran.

Mae'r oedran hwn yn berthnasol i wylio cynnwys a chreu sianel YouTube. Dim ond gyda chaniatâd rhieni y caiff plant rhwng 13 ac 17 agor cyfrif.

Mae rhai fideos YouTube yn cynnwys cyfyngiad oedran i oedolion os yw YouTube o'r farn bod ynddynt gynnwys a allai fod yn anaddas. Dim ond defnyddwyr sy'n honni eu bod yn 18 oed neu'n hyn yn ôl manylion eu cyfrif, sy'n cael gwylio'r rhain.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau.

Gall pobl ifanc ymgysylltu â'r ap hwn mewn dwy ffordd allweddol: fel gwyliwr cynnwys a chrëwr cynnwys.

Mae gwylwyr yn gwylio ac yn rhannu fideos ar bynciau sydd o ddiddordeb iddyn nhw yn bennaf. Gall hyn fod yn hwyl ac yn ddifyr i bobl ifanc, yn enwedig os ydyn nhw'n gallu cysylltu â defnyddwyr eraill yn yr adran sylwadau neu trwy ddilynwyr cyffredinol y sianel.

Mae crewyr yn sefydlu eu sianel YouTube eu hunain ac yn ei defnyddio fel platfform i rannu fideos maen nhw wedi’u creu am bynciau o'u dewis. Mae'n gyfrwng creadigol i bobl ifanc guradu cynnwys gyda'r cymhelliant posib o ddod yn enwog neu'n gyfoethog fel 'YouTuber', fel y mae llawer o bobl eraill eisoes wedi'i wneud.

Mae YouTube yn fwyaf adnabyddus am ei fideos 'ffurf hir'. Yn aml mae crewyr yn darparu cynnwys ar thema neu mewn arddull benodol sy'n eu helpu i ddenu cefnogwyr a dilynwyr. Mae cyflwyno YouTube Shorts wedi ychwanegu haen arall at y cynnwys ar y platfform ac, i rai defnyddwyr, mae'n well na phlatfformau ffurf fer eraill fel TikTok, Instagram, Facebook, Snapchat.

“Rwy'n hoffi YouTube gan ei fod yn caniatáu i mi wylio'r pethau rwy'n eu hoffi, ac mae'n fy nhawelu i ac yn rhoi seibiant i mi o straen bywyd.”, plentyn, 14 oed.

  • Personoliaeth ar-lein sy'n cynhyrchu cynnwys ar YouTube.

  • Fel teledu, mae YouTube yn cynnwys sianeli gwahanol. Gofod personol deiliad cyfrif yw sianel lle gallant rannu'r cynnwys maen nhw wedi'i gynhyrchu.

  • Mae'r adran sylwadau ar YouTube yn caniatáu i ddefnyddwyr adael sylwadau ar fideos a welwyd, ac mae crëwr y cynnwys yn gallu darllen y sylwadau hyn ac ymateb iddynt.

  • Ystyr hyn yw 'blogiau fideo', lle mae defnyddwyr yn creu a rhannu fideos ar bynciau poblogaidd, fel gemau cyfrifiadurol a harddwch. Yn aml mae 'vlogwyr' proffil uchel yn cael eu talu i ddefnyddio eu dylanwad i hyrwyddo cynhyrchion neu frandiau.

  • Mae mân-luniau fideos yn galluogi gwylwyr i weld delwedd o gynnwys pob fideo er mwyn eu helpu i ddewis y fideo mwyaf priodol i'w wylio. Mae'n bwysig nodi, hyd yn oed os yw fideo wedi'i flocio i ddefnyddiwr oherwydd ei fod dan 18 oed, y gall weld mân-lun o'r fideo o hyd, a allai gynnwys delwedd sy’n anaddas i blant.

  • Geiriau allweddol disgrifiadol yw 'tags', y gallwch eu hychwanegu at eich fideos er mwyn helpu gwylwyr i ddod o hyd i'ch cynnwys.

  • Mae ardal ddynodedig ar YouTube lle gall gwylwyr wylio, creu a lanlwytho fideos byw. Mae'r cynnwys hwn yn cael ei rannu mewn amser real heb ei olygu, ond mae'n cael ei fonitro yn yr un modd â'r holl gynnwys arall ar y platfform.

  • Hysbysiadau mewn fideos yw'r rhain sy'n helpu i hyrwyddo brand a fideos eraill y crëwr. Bydd bocs rhagflas yn ymddangos yn ystod fideo, ac wrth ei glicio, bydd yn llywio'r gwyliwr at fwy o gynnwys gan yr un crëwr.

  • Mae'r swyddogaeth hon yn caniatáu i ddefnyddwyr chwilio a gweld beth bynnag a fynnant heb iddo ymddangos yn eu hanes chwilio. Mae popeth rydych chi'n ei wneud yn parhau'n breifat yn y modd hwn.

  • Dyma ffordd i ddangos adborth gwyliwr ar fideo penodol. Mae modd dangos hoff a chas bethau trwy'r eiconau 'bawd lan' neu 'fawd i lawr' o dan y fideo sy'n cael ei chwarae. Mae niferoedd sy'n hoffi'r fideo yn cael eu cyfrif, ond does dim rhif i ddangos faint sydd ddim yn hoffi'r fideo.

  • Swyddogaeth sy'n caniatáu i wyliwr ddilyn ('Follow') sianel a derbyn hysbysiadau pan fydd cynnwys newydd yn cael ei ychwanegu at y sianel. Mae'r sianeli y tanysgrifir iddynt wedi'u rhestru ar hafan y gwyliwr, sy'n ei gwneud hi'n haws dod o hyd i hoff sianeli.

  • Swyddogaeth sy'n caniatáu i wyliwr rannu fideo neu sianel trwy'r cyfryngau cymdeithasol neu e-bost, neu trwy ddolen y gellir ei gludo'n unrhyw le.

  • Mae'r rhain yn fideos hirach, yn amrywio o 15 munud hyd at sawl awr fel arfer.

  • Fideos byr sy’n para dim mwy na 60 eiliad yw’r rhain. Mae’r fideos byr yn caniatáu i wylwyr wylio a rhyngweithio â ffrwd ddiddiwedd o fideos yn y ‘Short feed’.

  • Yr enw ar gynnwys sy’n ceisio tynnu sylw ac annog gwylwyr drwy ddefnyddio dichell, cyffrogarwch neu wybodaeth gamarweiniol. Mae YouTube wedi cael ei gysylltu’n benodol â’r math hwn o farchnata.

  • Tanysgrifiad misol i YouTube sy’n cynnig nodweddion ychwanegol i ddefnyddwyr, fel gwylio heb hysbysebion, a chaniatáu i ddefnyddwyr lawrlwytho fideos i’w dyfeisiau.

  • Mae'r rhain yn bostiadau mae crewyr yn eu defnyddio sy'n eu galluogi i ryngweithio â gwylwyr mewn gwahanol ffyrdd. Mae postiadau cymunedol yn caniatáu defnyddio polau, cwisiau, delweddau a fideos i gyrraedd cynulleidfa. Nid yw cyfrifon sy'n cael eu goruchwylio neu 'Made for Kids' yn gallu cael mynediad at bolau cymunedol.

  • Mae bathodynnau yn nodwedd o YouTube y gall gwylwyr eu 'casglu’. Mae gwylwyr yn casglu bathodynnau drwy ryngweithio â chynnwys ar YouTube a chyflawni 'milestones.’ Mae enghreifftiau o gerrig milltir yn cynnwys cwblhau cwisiau, bod yn un o'r aelodau cyntaf i dalu am sianel crëwr, bod yn wrandäwr gorau neu gael crewyr eraill i ymateb i'ch sylwadau.

Gyda'r fath gyfoeth o fideos ar gael i ddewis ohonynt ar YouTube, mae'r perygl i wylwyr iau ddod ar draws deunydd anaddas yn gymharol uchel os nad yw'r hidlyddion angenrheidiol wedi'u galluogi. Er mai 13 yw'r oedran isaf i agor cyfrif, y gwir amdani yw bod y rhan fwyaf o'r cynnwys wedi'i fwriadu ar gyfer defnyddwyr hyn. Yn ogystal â chwilio'n fwriadol am gynnwys a allai fod yn anaddas, mae gan YouTube nodwedd 'Related feature' sy'n cynnig argymhellion pellach yn seiliedig ar y fideo sy'n chwarae ar y pryd, rhai ohonynt â dim ond cysylltiad amwys iawn â'r cynnwys gwreiddiol ac nad yw'n addas i blant o bosib.

Ni fydd yr algorithm hwn yn adnabod priodoldeb oedran y fideo cychwynnol, a gallai gynhyrchu argymhellion addas i oedolion yn unig sy’n gofyn am ddim mwy na chlic i'w chwarae. Helpwch eich plentyn i danysgrifio i sianeli rydych chi'n teimlo'n gyfforddus â nhw. Bydd hyn yn cynhyrchu ffrwd o fideos diogel er mwyn i'ch plentyn bori yn ardal 'Subscriptions' YouTube a lleihau'r posibilrwydd y bydd eich plentyn yn dod ar draws cynnwys amhriodol, naill ai wrth chwilio neu o argymhellion algorithmig.

Yn ogystal â'r risg o wylio fideos anaddas, mae posibilrwydd hefyd o weld sylwadau anaddas a all fod yn anghwrtais, yn bwlio ac yn atgas. Mae modd cyfeirio sylwadau at y defnyddiwr a greodd y cynnwys neu a bostiodd y fideo ond hefyd gellid eu cyfeirio at ddefnyddwyr eraill YouTube sy'n postio eu sylwadau eu hunain. Drwy gyfyngu ar bwy mae'ch plentyn yn gallu cael gafael arno ar y platfform (drwy alluogi 'Restricted mode'), mae'ch plentyn yn llai tebygol o ddod ar draws iaith neu ymddygiad anaddas i'w oedran. Er bod canllawiau cymunedol yn eu lle, mae'r platfform yn dibynnu ar ddefnyddwyr i gwyno am sylwadau amhriodol.

Yn aml, mae YouTube yn cael ei ystyried yn ffordd gyflym a hawdd o gael gafael ar wybodaeth neu gynnwys cyfarwyddol fel fideos ‘sut i wneud’ a chyfresi dogfen. Mae’n bwysig cofio mai defnyddwyr sy’n creu y cynnwys hwn ac mai cymedroli cyfyngedig sydd ar waith. Mae’n bosib i ddefnyddwyr ifanc weld gwybodaeth ffug neu gamarweiniol. Siaradwch gyda’ch plentyn am gamwybodaeth ac awgrymu ffyrdd o’i hadnabod. Anogwch nhw i wirio unrhyw wybodaeth y maen nhw’n ansicr ohoni, yn enwedig os yw’n effeithio ar eu lles, neu les rywun arall.

Mae gan YouTube nodwedd 'Supervised accounts' (Saesneg yn unig), sy'n caniatáu i rieni a gofalwyr sefydlu cyfrifon a reolir ar gyfer eu plant. Mae YouTube wedi creu cyfrifon dan oruchwyliaeth er mwyn rhoi'r dewis i rieni a gofalwyr gefnogi ‘Tweens and teens’ dan 13 oed wrth iddyn nhw ddechrau magu annibyniaeth ar-lein a chamu ymlaen o YouTube Kids. Mae cyfrifon dan oruchwyliaeth yn gysylltiedig â chyfrif Google yr oedolyn ac yn darparu rheolyddion pennu cynnwys i gyfyngu ar y fideos a’r nodweddion YouTube y gall eu plentyn gael mynediad atynt. Ni fydd plant sydd â'r cyfrifon hyn yn gallu lanlwytho fideos neu sylwadau, a bydd hidlyddion ar waith i gyfyngu ar y cynnwys.

Unwaith y bydd fideo wedi'i bostio, gall defnyddwyr eraill wneud sylwadau arno. Mae'n bwysig bod eich plentyn yn deall bod y sylwadau hyn yn gallu bod yn gyfystyr â sgwrs ar-lein. Siaradwch â'ch plentyn am y risgiau o gysylltu â dieithriaid ac egluro pwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy ar ei broffil neu mewn sgyrsiau. Atgoffwch eich plentyn i sôn wrthych os bydd rhywun yn gofyn cwestiynau mwy personol neu'n gofyn am sgwrs breifat ar ap arall.

Pan fydd defnyddwyr yn postio cynnwys fideo ar YouTube, mae'r cynnwys yn agored i feirniadaeth gan ddefnyddwyr eraill. Gall y swyddogaeth sylwadau ar YouTube wneud defnyddwyr yn agored i aflonyddu a cham-drin. Er bod gan yr ap safonau cymunedol y mae'n rhaid i bob defnyddiwr gadw atyn nhw, gwnewch yn siwr bod eich plentyn yn gwybod sut i flocio a chwyno am ddefnyddwyr sy'n ymddwyn yn anaddas.

Mae gwylwyr yn gallu nodi eu bod yn hoffi neu ddim yn hoffi fideos sy'n cael eu postio, os nad yw pobl eraill yn hoffi fideo eich plentyn, gall hyn beri gofid iddo. Siaradwch â'ch plentyn am y ffaith nad yw'r 'likes' yn adlewyrchu ansawdd eu fideos o reidrwydd, ac na ddylai danseilio'r ffordd maen nhw'n gweld eu hunain na'r cynnwys maen nhw wedi'i greu.

Os oes gan eich plentyn ei sianel YouTube ei hun, mae'n bwysig eich bod chi a nhw'n ymwybodol o'r hyn mae'n ei bostio ac effaith hyn ar ei ôl troed digidol.  Siaradwch â'ch plentyn i'w helpu i ddeall beth sydd, a ddim yn addas i'w rannu, a thrafodwch y dulliau amrywiol o ddiogelu ei hun trwy rannu mewn fforymau preifat yn hytrach na rhai cyhoeddus. Gofalwch fod eich plentyn yn gwybod ei bod hi'n anodd cadw perchnogaeth ar fideo unwaith y bydd wedi cael ei rannu ar-lein, gan ei fod yn hawdd i rywun arall gopïo ac ailbostio cynnwys heb yn wybod iddo ac yna gall fod yn anodd ei ddileu o'r rhyngrwyd.

Cofiwch y gall eich plentyn ddefnyddio'r 'Incognito mode' i guddio ei hanes gwylio oddi wrthych chi os ydych chi'n gwirio ei hanes gwylio a gweld yn rheolaidd. Cofiwch siarad â'ch plentyn a chymryd diddordeb yn ei arferion gwylio er mwyn helpu i leihau'r posibilrwydd o gelu ei hanes gwylio. Mae'n bwysig rhoi gwybod i'ch plentyn nad ydych chi'n bwriadu amharu ar ei breifatrwydd a phwysleisio ei fod yn ffordd o'i gadw'n ddiogel ar y platfform a'ch galluogi chi i'w gefnogi'n well os yw'n dod ar draws cynnwys sy'n ddryslyd neu'n peri gofid iddo.

Mae YouTube yn ap di-dâl, sy'n golygu ei fod yn cynhyrchu’r rhan fwyaf o’i refeniw trwy hysbysebion. Mae'r rhan fwyaf o fideos yn dechrau gyda hysbyseb a bydd gan rai sianeli gynnwys gan noddwyr hefyd. Er bod vloggers yn gorfod datgelu pan fydd fideo’n rhoi sylw i gynhyrchion sy’n rhoddion, gall fod yn anodd i wylwyr ddeall yr hysbysebion hyn, yn enwedig pan mae’r mathau hyn o farchnata i’w gweld yn anodd i’w hosgoi. Siaradwch â'ch plentyn am sut mae hysbysebu yn gweithio cyn dechrau archwilio'r ap. Mae YouTube hefyd yn cynnig gwasanaeth premiwm i ddefnyddwyr, drwy danysgrifiad misol, o’r enw ‘YouTube Premium’. Mae ‘Premium’ yn cynnig y cyfle i ddefnyddwyr lawrlwytho cynnwys i’w dyfeisiau, i wylio heb orfod gweld hysbysebion, ac i ddefnyddio fersiwn talu chwaer ap YouTube, ‘YouTube Music’. Hyd yn oed os yw eu plant yn talu am y gwasanaeth premiwm, mae angen i rieni fod yn ymwybodol y gallen nhw weld cynnwys wedi’i noddi neu gynnwys brandiau fel cwmnïau bwyd cyflym a chwmnïau teganau.

Bydd defnyddwyr sy'n sefydlu eu sianeli YouTube eu hunain yn gorfod cytuno i gyfres o amodau a thelerau maith, nad ydynt wedi'u hysgrifennu mewn ffordd addas a hwylus i blant. Siaradwch â'ch plentyn am rôl 'Terms and conditions' (T&Cs) i'w helpu nhw i ddeall pa hawliau y gallant fod yn eu hildio nawr ac yn y dyfodol drwy eu derbyn.

Mae llawer o YouTuber yn annog eu gwylwyr i danysgrifio ('Subscribe') i'w sianel. Unwaith y bydd defnyddiwr yn tanysgrifio, mae'n golygu y bydd unrhyw fideos neu gynnwys newydd sy'n cael ei gyhoeddi yn ymddangos yn y ffrwd 'Subscriptions' ac y bydd yn derbyn hysbysiad bob tro y caiff cynnwys newydd ei bostio. Os yw'ch plentyn wedi tanysgrifio i lawer o sianeli, mae'n debygol y caiff hysbysiadau niferus, a all fod yn anodd i rai defnyddwyr iau eu rheoli. Esboniwch i'ch plentyn sut mae'r platfform wedi'i gynllunio i gadw diddordeb defnyddwyr, ac ewch ati gyda'ch plentyn i osod terfynau amser realistig a ffiniau ar gyfer defnyddio'r ap.

Fideos byrion yw YouTube Shorts, tebyg i rai sydd ar TikTok ac Instagram, sy’n cael eu darparu fel ffrwd ddiddiwedd ac sy’n chwarae’n awtomatig. Fel fideos arferol YouTube, mae’r fideos byrion hyn yn cael eu hargymell i’r gwyliwr ar sail algorithm sy’n deillio o arferion gwylio’r defnyddiwr. Oherwydd cyfuniad o ffrwd fer, ddiddiwedd ac argymhellion algorithmaidd, mae’n bosib y bydd eich plentyn yn treulio mwy o amser na’r bwriad ar YouTube. Ewch ati gyda’ch plentyn i osod terfynau amser lle bo modd wrth wylio YouTube Shorts, i sicrhau ei fod yn rheoli ei amser ei hun.

  • Wrth lanlwytho cynnwys ar y platfform, y gosodiad diofyn yw 'Public, sy'n golygu y gall unrhyw ddefnyddiwr YouTube weld y fideo. Ewch ati i bennu gosodiadau lanlwytho fideos eich plentyn i 'Private' yn hytrach na 'Public'. Fel hyn, bydd angen iddo gymeradwyo pob defnyddiwr newydd sydd am weld ei gynnwys.

    I leihau'r risg y bydd eich plentyn yn gweld fideos anaddas, dywedwch wrth YouTube beth dy'ch chi ddim am ei weld. Dewiswch y tri dot wrth ymyl teitl fideo 'Up next' a dewis 'Don't recommend channel’. Bydd hyn yn dileu'r sianel hon o'ch ffrwd.

    I osod fideos i breifat:

    • ar y cyfrif YouTube, dewiswch 'Settings' yna 'Privacy’
    • dewiswch bob categori rydych am ei wneud yn breifat yna dewiswch 'Save’
  • Argymhellir newid i 'Restricted mode', sy'n helpu i hidlo fideos aeddfed. Awgrymir eich bod yn analluogi 'Autoplay' hefyd, er mwyn atal fideos rhag chwarae'n awtomatig ar ôl i un ddod i ben. I leihau'r risg i'ch plentyn weld fideos amhriodol, dywedwch wrth YouTube beth dy'ch chi ddim am ei weld.

    Fel crëwr, mae gan ddefnyddwyr rywfaint o ymreolaeth dros y sylwadau sy'n ymddangos ar eu sianel. Gall defnyddwyr doglo sylwadau ymlaen/i ffwrdd ac oedi sylwadau hefyd. Bydd sylwadau wedi'u hoedi yn dal i gael eu dangos i'r crëwr ond ni fyddant yn ymddangos wrth ymyl y cynnwys. Gellir eu troi yn ôl ymlaen unrhyw bryd. Gellir cymhwyso'r gosodiadau hyn i fideos unigol neu fel gosodiadau diofyn ar gyfer unrhyw gynnwys sy'n cael ei greu.

    I alluogi 'Restricted mode':

    • ar y cyfrif YouTube, dewiswch 'Settings' yna toglo’r opsiwn 'Restricted mode' (mae angen gosod 'Restricted mode' ar bob dyfais unigol yn hytrach na'i fod ar gyfer y cyfrif cyfan)

    I analluogi 'Autoplay’:

    • ar y cyfrif YouTube, dewiswch 'Settings' yna toglo'r opsiwn 'Autoplay

    I reoli cynnwys:

    • dewiswch y tri dot wrth ymyl teitl y fideo 'Up next'
    • dewiswch 'Don't recommend channel', a fydd yn dileu'r sianel hon o'ch ffrwd

    I ddad-danysgrifio o sianel:

    • ewch i'r sianel rydych chi am ddad-danysgrifio ohoni
    • o dan y fideo, dewiswch 'Subscribed' ac yna 'Unsubscribe'

    I newid gosodiadau sylwadau diofyn:

    • agorwch 'YouTube Studio' a dewiswch 'Settings’
    • ewch i'r tab 'Community' ac yna i 'Defaults’
    • gallwch chi ddewis troi sylwadau 'On' neu 'Off' ar gyfer eich sianel yn awr
    • dewiswch 'Save' i gymhwyso'r gosodiad hwn i'r cyfrif

    I newid gosodiadau sylwadau ar fideo penodol os nad yw'r holl sylwadau wedi'u diffodd:

    • agorwch 'YouTube Studio' a dewiswch 'Content’
    • dewiswch y cryno-lun ar gyfer y fideo rydych chi am addasu'r gosodiad ar ei gyfer
    • ewch i waelod y dudalen a dewiswch 'Show more’
    • ewch i waelod y dudalen hon i'r adran 'Comments and ratings'
    • dewiswch 'On', 'Pause' neu 'Off' ar gyfer sylwadau ar y fideo hwn
    • dewiswch 'Save', ar frig y dudalen, i gymhwyso'r gosodiadau hyn i'r fideo hwn
  • Mae gan deuluoedd yr opsiwn o sefydlu 'Supervised accounts' neu 'supervised experiences' ar gyfer plant o dan 13 oed, ond mae'r gosodiad cynnwys isaf y gall rhiant neu ofalwr ei ddefnyddio yn dechrau ar 9+. Mae'r cyfrifon hyn yn wahanol i YouTube Kids a Restricted Accounts gan y bydd plant â chyfrifon dan oruchwyliaeth yn cyrchu'r prif blatfform YouTube.

    Mae mwy o ganllawiau am gyfrifon dan oruchwyliaeth, gan gynnwys yr hyn sy'n cael ei analluogi'n awtomatig (Saesneg yn unig).

    I sefydlu cyfrifon dan oruchwyliaeth (ar gyfer rhieni a gofalwyr):

    • mewngofnodwch i YouTube a dewiswch y llun proffil
    • dewiswch yr eicon gêr 'Settings’
    • ewch i 'Family Centre' a dewiswch 'Manage kids’ profiles and features for teens’
    • dewiswch ‘Invite a teen’
    • dewiswch 'Create invite' a rhannwch y ddolen wahoddiad gyda'ch plentyn neu dywedwch wrtho am sganio'r cod QR ar ddyfais symudol

    I alluogi neu addasu gosodiadau cynnwys ar gyfer eich plentyn:

    • mewngofnodwch i YouTube ar y cyfrif rhiant cysylltiedig a dewiswch eich llun proffil
    • dewiswch yr eicon gêr 'Settings', ac yna dewiswch 'Parent settings’
    • dewiswch pa gyfrif yr hoffech chi addasu'r gosodiadau cynnwys ar ei gyfer
    • o dan 'YouTube settings', dewiswch 'Edit' wrth ymyl 'Content settings’
    • dewiswch ba opsiwn cynnwys yr hoffech chi i'ch plentyn ei gael: Mae 'Explore' yn dangos cynnwys 9+ a dim ffrydiau byw, mae 'Explore more' yn dangos cynnwys 13+ ac yn cynnwys ffrydiau byw, ac mae 'Most of YouTube' yn dangos bron pob cynnwys ar YouTube ac eithrio fideos 18+ neu fideos eraill yr ystyrir eu bod yn amhriodol

    I flocio sianel benodol ar gyfrif dan oruchwyliaeth:

    • mewngofnodwch i YouTube ar y cyfrif rhiant cysylltiedig
    • ewch i dudalen sianel y sianel YouTube rydych chi am ei blocio
    • dewiswch y tab 'About' ar dudalen y sianel
    • dewiswch yr eicon baner 'Report user' a dewiswch 'Block channel for kids’
    • dewiswch 'Block' wrth ymyl y plentyn rydych chi am flocio'r sianel hon ar ei gyfer
    • dewiswch 'Done’

    I analluogi chwarae awtomatig:

    • mewngofnodwch i YouTube ar y cyfrif rhiant cysylltiedig a dewiswch y llun proffil
    • dewiswch yr eicon gêr 'Settings’
    • ewch i 'Family Centre' a dewiswch 'Manage kids profiles and features for teens’
    • dewiswch broffil y plentyn rydych chi am analluogi chwarae awtomatig ar ei gyfer
    • dewiswch 'disable autoplay', i'w droi ymlaen

    Mae YouTube wedi rhyddhau tudalen 'frequently asked questions' (Saesneg yn unig) am gyfrifon dan oruchwyliaeth. Mae YouTube wedi cyhoeddi cynlluniau i ddatblygu eu 'supervised experiences' ymhellach hefyd gan gyflwyno nodweddion newydd yn fyd-eang. Mae hyn yn cynnwys creu'r Family Centre hub. Mae'r hyb yn rhoi syniad i rieni a gofalwyr am weithgarwch cyfrif plentyn a bydd yn dangos metrigau fel: nifer y lanlwythiadau, cyfrifon mae'r plentyn wedi tanysgrifio iddynt a sylwadau maen nhw wedi'u gwneud. Yn ogystal, bydd rhieni a gofalwyr yn derbyn e-byst mewn 'key events' megis pan fydd eu plentyn yn lanlwytho fideo neu'n dechrau ffrydio byw.

  • Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr eraill sy'n eu poeni neu sy'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I gwyno am fideo:

    • o dan y fideo yr hoffech chi gwyno amdano, dewiswch yr eicon tri dot a dewis 'Report'
    • dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i gwblhau'r broses

    I gwyno am sylw:

    • ewch i'r sylw rydych am gwyno amdano, dewiswch yr eicon tri dot a dewis 'Report'
    • dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i gwblhau'r broses
  • Mae gan ap YouTube adran 'Time watched' o fewn eich cyfrif, lle gallwch fonitro'ch defnydd a gosod offer gwahanol i helpu i reoli eich amser ar YouTube. Hefyd, gallwch osod nodiadau atgoffa ac amseryddion er mwyn eich annog i gael seibiant o'r platfform.

    Er mwyn galluogi 'Time watched':

    • ar eich cyfrif YouTube, dewiswch yr opsiwn ‘Time watched’ a defnyddio'r botymau togl i osod nodiadau atgoffa ar gyfer 'Breaks' a 'Bedtime'

    I osod amserydd cysgu:

    • ar unrhyw fideo, dewiswch yr eicon gêr 'Settings’
    • dewiswch 'Sleep timer’
    • dewiswch pa mor hir rydych chi am i'r amserydd redeg, a bydd y fideo'n oedi awtomatig pan fydd yr amserydd wedi gorffen

    I osod nodyn atgoffa:

    • ewch i'ch proffil a dewis 'Settings' ac yna 'General’
    • toglwch yr opsiynau canlynol ymlaen:
      • Remind me to take a break (gosod amlder atgoffa o'r naidlen)
      • Remind me when it’s bedtime (gosod eich amser gwely o'r naidlen)

    I reoli hysbysiadau:

    • ewch i'ch proffil a dewis 'Settings’
    • sgroliwch i 'Notifications' a dewis yr hysbysiadau rydych chi am eu derbyn o blith y canlynol:
      • Recommended videos
      • Watch on TV

    I reoli hysbysebion:

    • ewch i'ch proffil a dewis 'Settings’
    • sgroliwch i ‘History and privacy’ a thoglo oddi ar yr opsiwn ar gyfer ‘Allow personalised ads’
  • Mae dileu cyfrif yn golygu y bydd eich holl wybodaeth yn cael ei dileu’n barhaol a dim modd ei hadfer. Fel arall, gall defnyddwyr “guddio” eu sianel YouTube, sy’n tynnu’r holl gynnwys cyhoeddus a bostiwyd gan y sianel, ond mae modd i’r defnyddiwr ddadwneud hyn unrhyw bryd.

    I ddileu cyfrif YouTube (ar y we yn unig):

    • dewiswch eich afatar ar gornel dde ucha’r ffenestr
    • dewiswch yr eicon gêr â’r label ‘Settings’
    • dewiswch ‘Advanced settings’, sydd ar ochr chwith y sgrin
    • dewiswch ‘Delete my channel’
    • dewiswch ‘I want to permanently delete my content’
    • ticiwch unrhyw focsys perthnasol a ‘Delete my content’

    I guddio cyfrif YouTube (ar y we’n unig):

    • dewiswch eich afatar ar gornel dde uchaf y ffenestr
    • dewiswch yr eicon gêr â’r label ‘Settings’
    • dewiswch ‘Advanced settings’, ar ochr chwith y sgrin
    • dewiswch ‘Delete my channel’
    • dewiswch ‘I want to hide my channel’
    • ticiwch unrhyw focys angenrheidiol a ‘Hide my channel’

Mae YouTube Kids yn fersiwn ar wahân i YouTube, sydd ar gael yn ddi-dâl fel ap Android ac iOS, a'i osod gan riant neu ofalwr gyda chyfrif Google. Mae'r fersiwn 'Premium' ar gael fel rhan o danysgrifiad Google rhiant neu ofalwr am dâl yn ddi-hysbyseb. Mae YouTube Kids wedi'i gynllunio i ddarparu lle dan oruchwyliaeth i wylwyr iau archwilio detholiad amrywiol ond llai o gynnwys fideo sy'n addas i oedran y plant, ac felly'n haws a saffach i bori drwyddo. Mae YouTube Kids yn cynnig mynediad chwiliadwy i brif gronfa ddata fideo YouTube, ond wedi'i hidlo gan YouTube, er mwyn caniatáu cynnwys diogel i blant yn unig, sy'n addas ar gyfer plant o'r cyfnod cyn ysgol i 12 oed.

Gall rhieni a gofalwyr reoli'r fideos maen nhw am i'w plentyn eu gwylio trwy ddefnyddio un o bedwar gosodiad cynnwys. Mae'r opsiwn 'Approve content yourself' yn caniatáu i rieni a gofalwyr ddewis y cynnwys maen nhw am i'w plentyn ei weld. Y tri opsiwn sy'n seiliedig ar oedran yw 'Preschool' (4 oed ac iau), 'Younger' (5 i 8 oed) ac 'Older' (9 i 12 oed). Mae gan YouTube Kids reolaethau hefyd sy'n caniatáu i rieni a gofalwyr analluogi'r swyddogaeth chwilio, cyfyngu ar sain a gosod amserydd i gyfyngu ar yr amser y gall plentyn ei dreulio ar yr ap. Er mwyn amddiffyn plant rhag cynnwys amhriodol, nid yw YouTube kids yn darparu mynediad i'r swyddogaeth sylwadau sydd yn y prif ap, ac mae'r nodwedd 'like/dislike' wedi'i analluogi hefyd. Mae YouTube Kids yn caniatáu i rieni a gofalwyr rwystro sianeli nad ydynt am i'w plentyn eu gweld hefyd, a chwyno am unrhyw gynnwys amhriodol sy'n osgoi hidlyddion YouTube.

Mae gan YouTube ganllaw rheoli i rieni ar gyfer YouTube Kids. Mae’r canllaw hwn yn amlinellu eich gosodiadau a’ch rheoliadau fel rhiant, yn egluro sut i addasu profiadau eich plentyn ar YouTube Kids, a sut i reoli gosodiadau cynnwys. Hefyd, mae’n cynnwys gwybodaeth ar gyfer pobl sy’n creu cynnwys ar YouTube am ddewis newydd ar gyfer rhieni a gofalwyr sy’n galluogi eu plant i ddefnyddio YouTube trwy gyfwng cyfrif sy’n cael ei oruchwylio.

Mae YouTube wedi cyflwyno nodwedd ‘Go live together’, sy’n caniatáu i ffrydwyr byw ar y platfform wahodd gwestai i ymuno â’u llif byw. Mae ‘Go live together' yn berthnasol ar gyfer defnyddwyr 13 i 17 oed sydd â mwy na 1000 o danysgrifwyr i'w sianel.

Mae YouTube wedi datblygu cwricwlwm llythrennedd (Saesneg yn unig) yn y cyfryngau o'r enw 'Hit Pause' ar gyfer athrawon plant 13 i 17 oed.

Helpwch eich plentyn i danysgrifio i sianeli rydych chi'n teimlo'n gyfforddus â nhw. Bydd hyn yn cynhyrchu ffrwd o fideos diogel er mwyn i'ch plentyn bori yn ardal 'Subscriptions' YouTube.

Cofiwch y gall eich plentyn ddefnyddio'r 'Incognito mode' i guddio ei hanes gwylio oddi wrthych chi os ydych chi'n gwirio ei hanes gwylio a gweld yn rheolaidd. Cofiwch siarad â'ch plentyn a chymryd diddordeb yn ei arferion gwylio er mwyn helpu i leihau'r posibilrwydd o gelu ei hanes gwylio.

Mae YouTube Music yn wasanaeth ffrydio cerddoriaeth a ddisodlodd Google Play Music yn 2020. Mae YouTube Music ar gael ar gyfer Android, iOS a chyfrifiadur bwrdd gwaith ac mae'n darparu rhyngwyneb wedi'i deilwra ar gyfer ffrydio cerddoriaeth, gan ganiatáu i ddefnyddwyr bori trwy ganeuon a fideos cerddoriaeth yn seiliedig ar genres, rhestri chwarae ac argymhellion. Gallwch lawrlwytho YouTube Music a'i ddefnyddio am ddim, ond mae ganddo aelodaeth 'Premium' ar gael hefyd sy'n rhydd o hysbysebion ac sy’n caniatáu i'r defnyddiwr lawrlwytho cerddoriaeth i wrando all-lein. Gellir cysylltu YouTube Music â dyfeisiau a seinyddion clyfar sy'n gydnaws â Google. Nid yw YouTube Music ar gael i ddefnyddwyr dan 13 oed oherwydd mae'r catalog enfawr o gerddoriaeth sydd ar gael yn cynnwys rhywfaint o gynnwys anweddus yn anochel, ar ffurf geiriau caneuon a chelf albwm, a allai achosi risg i ddefnyddwyr iau. Fel prif ap YouTube, mae gan YouTube Music 'Restricted mode' sy'n hidlo caneuon gyda geiriau anweddus neu gynnwys aeddfed. Mae 'Restricted mode' yn cael ei actifadu yn gosodiadau ac yn blocio cerddoriaeth a fideos sydd wedi'u labelu gan Google fel rhai 'E' (explicit content). Mae Google wedi cyhoeddi y bydd YouTube Music ar gael trwy'r nodwedd 'Supervised accounts' a fydd yn caniatáu i rieni a gofalwyr reoli'r cynnwys y gellir ei gyrchu trwy'r ap i greu profiad gwrando cerddoriaeth sy'n briodol i oedran.

Mae YouTube Music wedi cyflwyno sylwadau ar gyfer caneuon, fideos a phodlediadau. Mae YouTube Music yn cario drosodd unrhyw osodiadau sydd wedi'u cymhwyso, sy'n golygu bod unrhyw gymedroli fel geiriau wedi'u blocio a defnyddwyr cudd yn weithredol hefyd.

Erbyn hyn, gofynnir i grewyr YouTube ddatgelu cynnwys sy'n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i newid cynnwys. Rhaid i grewyr ddatgelu os yw AI yn cael ei ddefnyddio i:

  • wneud i berson go iawn ymddangos ei fod yn dweud rhywbeth neu'n gwneud rhywbeth nad yw wedi'i ddweud neu ei wneud
  • newid ffilm o ddigwyddiad neu le go iawn
  • cynhyrchu golygfa realistig na ddigwyddodd mewn gwirionedd

Bydd defnyddwyr sy'n creu cynnwys gan ddefnyddio offer AI YouTube yn cael labeli AI wedi'u hychwanegu'n awtomatig. Gofynnir i ddefnyddwyr sy'n lanlwytho cynnwys roi tic yn y blwch a fydd yn cymhwyso'r label i'r cynnwys.