English

Mae Snapchat yn ap negeseua am ddim sy’n caniatáu i ddefnyddwyr gyfnewid lluniau a fideos, o’r enw ‘snaps’. Y syniad yw y gall y lluniau hyn ymddangos dros dro cyn diflannu, er y gellir eu cipio drwy sgrinluniau. Mae Snapchat yn caniatáu i ddefnyddwyr olygu eu lluniau a’u fideos drwy realiti estynedig ddefnyddio hidlyddion, lensys, emojis, testun neu effeithiau eraill, y gallan nhw wedyn eu rhannu gyda ffrindiau. Gall defnyddwyr ddewis pa mor hir mae eu ‘snaps’ i’w gweld ar yr ap o un eiliad i ddim terfyn amser. Gall derbynwyr y ‘snaps’ fod â’r gallu i ailchwarae unrhyw rai maen nhw’n eu derbyn hefyd. Snapchat yw un o’r platfformau cyfryngau cymdeithasol mwyaf poblogaidd yn fyd-eang, yn enwedig gyda phobl ifanc, ac mae ganddo 332 miliwn o ddefnyddwyr gweithredol dyddiol ledled y byd. Mae ar gael i’w lawrlwytho ar y rhan fwyaf o ddyfeisiau symudol a PC, ac mae hefys yn bosib i’w gyrchu ar-lein drwy wefan Snapchat. 

Rhaid bod defnyddwyr Snapchat yn 13 oed o leiaf. Fodd bynnag, nid oes gan Snapchat unrhyw ddulliau dilysu oedran trwyadl. Nid yw’n bosib i ddefnyddwyr newid eu dyddiad geni unwaith y mae’r cyfrif wedi ei greu.

Mae pob cyfrif wedi’i osod i ‘Ffrindiau’ yn ddiofyn, lle mai dim ond ffrindiau rydych chi wedi’u hychwanegu ar y platfform all weld cynnwys. Mae’n werth gwirio bod gosodiadau cyfrif eich plentyn yn adlewyrchu hyn.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein ‘Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau‘.

Mae Snapchat yn ap hynod boblogaidd ymhlith plant a phobl ifanc. Mae’r gwahanol ffyrdd y gall defnyddwyr olygu lluniau, a’r nodwedd allweddol o greu negeseuon dros dro, yn rhoi naws hwyliog a chwareus i’r ap. Gall defnyddwyr roi terfyn amser rhwng 1 a 10 eiliad i’r ‘snaps’ maen nhw’n eu hanfon yn uniongyrchol i’w cysylltiadau neu mewn sgyrsiau grwp. Mae pob ‘snap’ sy’n cael ei rannu â’ch dilynwyr fel stori yn neges dros dro hefyd, ac ar gael am 24 awr, oni bai eich bod yn dileu’r stori cyn hynny. Mae gan yr ap lu o nodweddion eraill hefyd, gan gynnwys bitmojis, gemau, tanysgrifiadau lle gall defnyddwyr ddilyn cynnwys dylanwadwyr, a thudalen ddarganfod gyda gwahanol fathau o newyddion a chynnwys wedi’i guradu i sgrolio drwyddo. Cymhelliant mawr i ddefnyddio’r ap yn barhaus yw’r nodwedd ‘Snapstreak’, lle mae rhif yn cael ei ddangos wrth ymyl enw defnyddiwr i ddynodi nifer y dyddiau olynol iddo anfon negeseuon. Weithiau ystyrir hyn yn adlewyrchiad o’u cyfeillgarwch, ac os yw’r defnyddwyr yn anghofio anfon neges am ddiwrnod, mae’r cyfrif yn mynd yn ôl i sero, sy’n gallu peri gofid i rai defnyddwyr a rhoi cymhelliant pellach i ddefnyddio’r ap yn ddyddiol.

“Rwy'n hoffi defnyddio Snapchat gan y gallwch chi anfon lluniau heb iddyn nhw gael eu harbed i'ch rôl camera a'i fod yn dweud wrthych chi pan fydd rhywun yn tynnu sgrinlun neu'n arbed rhywbeth. Rwy'n hoffi defnyddio'r hidlyddion yn fwy na dim. Weithiau bydda i'n postio straeon am fy nheulu a'm ffrindiau. Rydw i’n hoffi defnyddio'r mapiau i weld lle mae pobl hefyd.” (Plentyn, 13 oed)

  • Llun neu fideo rydych chi’n ei anfon drwy’r ap at un neu ragor o ffrindiau yw ‘Snap’. Gall defnyddwyr ddewis ychwanegu terfyn amser o 1 i 10 eiliad ar ddelweddau sy’n cael eu rhannu. Mae fideo ‘snap’ yn gallu parhau hyd at 60 eiliad mewn cyfres o chwe chlip 10 eiliad. Ar ôl i’r derbynnydd weld y ‘snap’, mae’n cael ei ddileu oni bai eich bod chi’n ei ychwanegu at eich stori. Yn yr achos hwnnw, maen nhw’n diflannu ar ôl 24 awr.

  • Casgliad o ‘snaps’ sy’n chwarae yn nhrefn eu tynnu yw stori. Maen nhw’n cael eu harddangos am 24 awr i’ch ffrindiau gael eu gweld, ond mae hefyd yn bosib eu gwneud yn breifat fel bod defnyddwyr yn gallu dewis pwy sy’n eu gweld.

  • Mae’r nodwedd hon yn ffrwd newyddion â chynnwys o ffynonellau newyddion.

  • Dyma nodwedd gemau Snapchat, lle gallwch chwarae gemau gyda ffrindiau a sgwrsio â nhw drwy’r ap.

  • Mae hyn yn dangos sesiwn estynedig o ‘snaps’ rhwng ffrindiau am dri diwrnod yn olynol. Bydd yr ap yn dangos y nifer o ddyddiau ers i’r sesiwn ddechrau.

  • Rhestr wedi’i llunio o’r defnyddwyr rydych chi’n cysylltu â nhw amlaf yn yr ap.

  • Mae hyn yn cyfeirio at swyddogaeth sgwrsio lle mae defnyddwyr yn gallu anfon neges destun at ei gilydd heb orfod cymryd ‘snap’.

  • Hidlydd Snapchat neu effaith arbennig sy’n cael ei ychwanegu at lun neu ‘snaps’. Mae yna lensys Snapchat hefyd sy’n eich galluogi i ychwanegu animeiddiadau ac effeithiau arbennig wrth gymryd ‘snap’.

  • Mae ‘Snap Map’ yn caniatáu i ddefnyddwyr rannu eu lleoliad mewn amser real ac mae wedi’i analluogi’n ddiofyn. Unwaith y mae wedi’i alluogi, gall defnyddwyr ddewis pwy sy’n cael gweld eu lleoliad.

  • Nodwedd ychwanegol yw hon y gellir ei hychwanegu at ‘Snap Maps’, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr gael cyfarwyddiadau i union leoliad eu ffrind drwy rannu manylion lleoliad byw. Yna bydd y map yn dangos y llwybr a pha mor hir y bydd yn ei gymryd i’w cyrraedd.

  • Gall defnyddwyr ddefnyddio ‘Ghost mode’ i osgoi rhannu eu lleoliad eu hunain gydag eraill, gan ei fod yn dileu unrhyw nodweddion lleoliad byw o’r ap.

  • Adnodd i hyrwyddo fideos poblogaidd o broffiliau cyhoeddus.

  • Gall defnyddwyr wneud galwad ffôn neu alwad ffôn fideo i’w ffrindiau gan ddefnyddio Snapchat.

  • Gall defnyddwyr greu a phersonoli eu rhithffurf eu hunain, a’i ddefnyddio ar eu proffil a ‘Snap Maps’.

  • Gall defnyddwyr arbed ‘snaps’ maen nhw wedi eu cymryd i’w ‘memories’.

  • Dyma lle mae defnyddwyr yn arbed ‘snaps’ ac atgofion yn breifat, ac mae angen pin neu gyfrinair i’w gweld.

  • Chatbot deallusrwydd artiffisial y gall defnyddwyr ryngweithio ag e. Mae ‘My AI’ yn defnyddio technoleg ChatGPT a ddatblygwyd gan OpenAI. Gallant ofyn cwestiynau i’r chatbot a chael atebion yn syth, wedi’u cynhyrchu gan dechnoleg AI.

  • Dyma arian cyfred rhithwir rydych chi’n ei brynu ag arian go iawn. Gallwch ddefnyddio Snap Token i brynu anrhegion i’w hanfon at ffrindiau neu grewyr poblogaidd mewn ymateb i’w stori.

  • Gwasanaeth tanysgrifio yw hwn sy’n caniatáu i ddefnyddwyr gael gafael ar nodweddion unigryw yn yr ap, megis eiconau ap wedi’u teilwra a mewnwelediadau data.

Yn yr un modd ag apiau eraill sy’n annog defnyddwyr i rannu eu straeon a’u lluniau personol, mae llawer o gynnwys nad yw’n cael ei gymedroli yn cael ei rannu ar Snapchat. Oherwydd y ffyrdd mae’r algorithmau’n gweithio ar blatfformau megis Snapchat, caiff fideos eu rhannu am eu bod yn boblogaidd ac yn apelio at lawer o bobl yn hytrach nag oherwydd eu bod yn ddiogel neu’n briodol i’ch plentyn o reidrwydd. Mae’n bosib hefyd y gall eich plentyn ddod ar draws cynnwys amhriodol ar ffurf iaith anweddus neu gynnwys aeddfed yn ei negeseuon. Drwy gyfyngu ar bwy y gall eich plentyn ei gyrchu ar y platfform, bydd eich plentyn yn llai tebygol o brofi iaith neu ymddygiad nad yw’n addas i’w oedran. Fodd bynnag, dylid cydnabod ei bod yn bosib o hyd i’ch plentyn fod yn agored i gynnwys amhriodol drwy’r cysylltiadau sydd ganddo.

Mae’r testun sy’n diflannu yn peri risg hefyd, gan y gallai defnyddwyr deimlo nad ydyn nhw’n cael eu ffrwyno a thueddu i rannu cynnwys maen nhw’n tybio nad oes modd ei weld eto. Gallai hyn ddigwydd mewn sawl ffordd, gan gynnwys rhannu delweddau noeth, sylwadau hiliol neu atgas neu fwlio ac aflonyddu. Dylid atgoffa defnyddwyr ei bod hi’n hawdd cipio unrhyw gynnwys maen nhw’n ei rannu ar y platfform mewn sgrinlun a’i rannu, felly anogwch eich plentyn i feddwl yn ofalus am y cynnwys mae’n dewis ei rannu.

Hefyd, dylai defnyddwyr gofio bod My AI, y chatbot newydd a grëwyd gan Snapchat, yn defnyddio fersiwn wedi’i haddasu o dechnegol ChatGPT OpenAI. Yn debyg i ChatGPT, mae gan My AI ei set ei hun o hidlwyr cynnwys a’r gallu i gynhyrchu ymateb bron yn syth bin i unrhyw gwestiwn gan y defnyddiwr. Er hynny, fe allai My AI roi camwybodaeth oherwydd ei natur fel ‘Large Language Model’ neu ‘LLM’, sy’n golygu ei fod yn ffurfio ei atebion ar sail tebygolrwydd geiriau mewn brawddeg am bwnc. Dylech wneud yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod y dylai wirio ffeithiau ymatebion My AI bob amser. Hefyd, mae Snapchat yn casglu data defnyddwyr o sgyrsiau gyda My AI, felly mae’n bwysig atgoffa’ch plentyn i beidio â rhannu gwybodaeth breifat neu sensitif gyda My AI, oherwydd fe allai hyfforddwr AI dynol ei gweld.

Mae'r nodwedd realiti estynedig 'Lenses' wedi bod ar gael ar y platfform ers tro, ond mae twf offer deallusrwydd artiffisial a'r twf yn nifer y bobl sy'n eu defnyddio wedi bod yn gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gan ddefnyddio'r offeryn hwn, gall defnyddwyr Snapchat addasu delweddau mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys ychwanegu neu ddileu nodweddion, newid cefndiroedd a chwyddo allan yn artiffisial. Mae'r rhain yn amrywio yn dibynnu ar y math o helaethiad ac maen nhw'n rhyngweithiol, gan ganiatáu i dderbynnydd weld pa newidiadau sydd wedi'u gwneud i'r ddelwedd y mae'n ei derbyn. Bydd dyfrnodau’n cael eu hychwanegu at unrhyw ddelweddau artiffisial a ganfyddir gan y platfform ond, gan fod hwn yn faes sy'n esblygu'n gyflym, mae'n bosibl na fydd pob realiti estynedig yn cael ei adnabod, yn enwedig os yw delwedd yn cael ei chreu y tu allan i'r ap. Siaradwch â'ch plentyn am fod yn feirniadol o ddelweddau a chynyddwch ei ymwybyddiaeth o AI a'r defnydd ohono wrth addasu delweddau.

Mae Snapchat yn ap cymdeithasol iawn sy’n annog rhyngweithio ac ymgysylltu sy’n fywiog ac yn hwyl. Bu achosion o gysylltu, meithrin perthynas amhriodol ac aflonyddu ar blant a phobl ifanc drwy’r ap. Mae’n debyg bod yr ap yn cael ei dargedu oherwydd ei fod mor boblogaidd ymhlith plant a phobl ifanc, ond hefyd oherwydd gall y nodwedd negeseuon sy’n diflannu fod yn ddeniadol i’r rhai sy’n ceisio niweidio plant. Er bod Snapchat wedi cymryd sawl mesur i warchod defnddwyr ifanc rhag cael eu canfod gan bobl nad ydyn nhw’n eu hadnabod, mae’n dal yn bwysig bod plant a phobl ifanc yn gwybod sut i gyfyngu eu cysylltiadau yn y gosodiadau i’r rhai sy’n ffrindiau hysbys. Siaradwch â’ch plentyn am risgiau cysylltu â dieithriaid, ac eglurwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy ar eu proffil neu mewn sgyrsiau. Anogwch nhw i sôn wrthych chi os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau mwy personol iddyn nhw neu ofyn iddyn nhw sgwrsio’n breifat gan ddefnyddio ap gwahanol. Argymhellir newid y gosodiadau preifatrwydd i rannu gyda ffrindiau’n unig.

Er yr argymhellir bod eich plentyn yn rhyngweithio â phobl mae’n eu hadnabod yn unig ar y platfform, mae angen iddo fod yn ymwybodol hefyd o rai o’r nodweddion newydd yn yr ap a allai fod yn risg bellach. Mae cyflwyno’r nodwedd ‘Meet me’ ar Snapchat yn ddiweddar yn golygu bod defnyddiwr yn gallu cael cyfarwyddiadau i union leoliad ffrind drwy’r ‘Snap Map’. Fel apiau mapiau eraill, mae’r nodwedd hon wedyn yn dangos y llwybr a faint o amser y bydd yn ei gymryd i’w cyrraedd. Er mai’r bwriad y tu ôl i’r nodwedd yw ei gwneud hi’n haws i deulu a ffrindiau all-lein ddod o hyd i’w gilydd a chyfarfod, mae’n bosib i’r nodwedd gael ei chamddefnyddio gan eraill ar y platfform. Mae diweddariadau pellach i'r nodwedd Snap Map yn caniatáu i ddefnyddwyr sy'n rhannu lleoliadau ryngweithio'n uniongyrchol drwy'r map. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys 'codi llaw' ar ddefnyddiwr sy'n agos ar y map neu anfon 'calonnau' pan fyddwch chi'n cyrraedd rhywle. Sicrhewch mai dim ond ffrindiau hysbys ar Snapchat mae eich plentyn yn cysylltu â nhw a’u hatgoffa mai dim ond gyda phobl maen nhw’n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw y dylen nhw rannu eu manylion lleoliad. Siaradwch â’ch plentyn am y peryglon o rannu ei leoliad gyda phobl nad yw’n eu hadnabod a’i annog i sôn wrthych chi os yw wedi cael cais i rannu ei leoliad neu wedi profi ymweliadau digroeso gan bobl ar y platfform.

Yn yr un modd ag apiau cymdeithasol poblogaidd eraill, mae gan Snapchat gasgliad o nodweddion sy’n caniatáu i ddefnyddwyr rannu cynnwys mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mynnwch sgwrs gyda’ch plentyn i’w helpu i ddeall beth sy’n briodol ac yn amhriodol iddo ei rannu ar-lein a’r effaith barhaol mae unrhyw beth mae’n ei bostio yn gallu ei gael arno ac ar ei ddyfodol. Mae nodweddion adnabyddus Snapchat, ‘My eyes only’ a ‘Disappearing message’ yn gallu rhoi ymdeimlad ffug o ddiogelwch i blant ynghylch rhannu hefyd. Mae’n bwysig esbonio i blant y gellir tynnu sgrinlun, cadw a rhannu’r holl gynnwys yn eang. Os yw stori neu ‘snap’ yn cael ei gipio drwy sgrinlun, mae’r defnyddiwr a greodd neu a anfonodd y postiad yn cael ei rybuddio, ond nid yw hyn yn atal y defnyddiwr arall rhag gallu cadw’r ddelwedd. Felly mae’n rhaid i ddefnyddwyr feddwl o ddifrif am y cynnwys maen nhw’n ei rannu, ac ystyried a fydden nhw’n hapus i bawb maen nhw’n eu hadnabod ei weld.

Yn yr un modd â llawer o apiau eraill, mae Snapchat yn casglu llawer o ddata gan blant ac yn cyflwyno hysbysebion a chynnwys dylanwadwyr. Gall apelio’n fawr iawn at blant, yn enwedig o ran nodwedd ‘Snapstreaks yr ap, sy’n rhyw fath o ‘gystadleuaeth poblogrwydd’. Mae’r nodwedd hon yn caniatáu i blant rannu a dangos cryfderau eu cyfeillgarwch â’i gilydd yn seiliedig ar ba mor aml maen nhw’n cyfathrebu drwy’r ap. Mae’n bwysig siarad â phlant am gyfeillgarwch go iawn ac mai bwriad syml ‘Snapstreaks’ yw cadw defnyddwyr ar y platfform, yn hytrach na mesur ansawdd cyfeillgarwch.

Tra bod Snapchat yn ap am ddim, mae defnyddwyr yn cael eu gwahodd i danysgrifio i Snapchat+. Am swm misol sefydlog, gall defnyddwyr gael gafael ar nodweddion ychwanegol fel gallu pinio ffrindiau gorau a gweld defnyddwyr sydd wedi ail-wylio eich stori. Mae hyn yn gallu apelio’n fawr at ddefnyddwyr Snapchat brwd sydd eisiau profi’r nodweddion ychwanegol. Atgoffwch ddefnyddwyr iau mai’r cyfan yw tanysgrifiadau Snapchat yw ffordd arall o geisio cadw defnyddwyr ar y platfform a gwneud arian.

Mae Snapchat yn annog defnyddwyr i brynu ‘Snap Tokens’ hefyd er mwyn prynu rhoddion yn yr ap fel ffordd o gefnogi eu hoff grewyr, neu nwyddau yn yr ap. Gall hyn fod yn apelgar iawn i bobl ifanc sydd eisiau sylw gan grëwr penodol. Cofiwch atgoffa’ch plentyn mai ffordd arall o wneud arian i Snapchat yw Snap Tokens, yn union fel tanysgrifiadau Snapchat.

  • Er nad oes opsiwn cyhoeddus neu breifat syml yn Snapchat, gall defnyddwyr ddefnyddio’r gosodiadau i benderfynu pwy sy’n gallu gweld unrhyw gynnwys maen nhw’n ei rannu.

    I reoli pwy all gysylltu â chi:

    • ewch i’ch proffil ac yna dewiswch y ddewislen gosodiadau a sgrolio i lawr i ‘Privacy Controls’
    • dewiswch ‘Contact me’ o’r opsiynau sydd ar gael, ac yna ‘My friends’
    • dewiswch ‘View my story’ ac yna ‘Friends only’
  • Mae Snapchat wedi datblygu nodweddion i helpu i gadw defnyddwyr iau yn ddiogel. Mae llawer o'r rhain yn dibynnu ar ddefnyddwyr yn cofrestru gyda'r oedran cywir gan y bydd y mesurau ond yn berthnasol i gyfrifon defnyddwyr sydd yn eu harddegau. Mae'n bwysig eich bod yn annog eich plentyn i gofrestru gyda'r oedran cywir gan y bydd hyn yn golygu y bydd hidlyddion cynnwys a mesurau diogelwch eraill yn cael eu cymhwyso i'w gyfrifon.

    Gall defnyddwyr lywio drwy’r ddewislen gosodiadau i helpu i reoli pwy all gysylltu â nhw a’r wybodaeth maen nhw’n dewis ei rhannu ag eraill. Mae lleoliad byw yn cael ei rannu’n ddiofyn, felly argymhellir analluogi’r nodwedd hon. Ni fydd pobl ifanc yn eu harddegau yn cael eu hawgrymu yn ‘Quick Add’ neu ‘Search’ oni bai eu bod yn rhannu cysylltiadau â'r person arall yn ddiofyn. 

    Negeseuon gan ddefnyddwyr anhysbys:

    • Mae pobl ifanc yn eu harddegau yn cael rhybudd awtomatig os ydyn nhw'n derbyn neges gan rywun nad yw eisoes ar eu rhestr ffrindiau yn yr ap neu yn eu cysylltiadau ffôn.
    • Byddan nhw’n derbyn rhybuddion yn awr os ydyn nhw'n derbyn negeseuon gan ddefnyddiwr sydd wedi cael ei flocio/riportio gan bobl eraill neu sydd o ardal/rhanbarth y tu allan i rwydwaith nodweddiadol y defnyddiwr.

    Ffrindiau anhysbys:

    • Ni fydd pobl ifanc yn eu harddegau yn gallu anfon na derbyn ceisiadau ffrind gan ddefnyddwyr os nad oes ganddyn nhw ffrindiau yn gyffredin ac os ydyn nhw mewn lleoliadau anghyfarwydd.

    I reoli ‘Quick add’:

    • ewch i’ch proffil a dewiswch y ddewislen gosodiadau
    • sgroliwch i lawr i ‘Privacy Controls’ a dewis ‘See me in quick add’
    • toglwch yr opsiwn hwn i’w ddiffodd. Bydd hyn yn atal eich proffil rhag cael ei awgrymu fel ffrind posib i eraill ar y platfform

    I analluogi rhannu lleoliad:

    • ewch i’ch proffil a dewiswch y ddewislen gosodiadau
    • sgroliwch i lawr i ‘Privacy Controls’
    • dewiswch ‘See my location’ o’r opsiynau sydd ar gael, ac yna ‘Only me’

    I droi ‘Ghost mode’ ymlaen’:

    • yn ‘Snap Maps’, dewiswch yr eicon gosodiadau
    • toglwch ar ‘Ghost mode’ a dewiswch pa mor hir rydych chi am aros yn y modd hwn:
      • 3 awr
      • 24 awr
      • Nes ei ddiffodd
    • pan fydd ‘Ghost mode’ yn cael ei alluogi, dyw eich ffrindiau ddim yn gallu gweld eich lleoliad
  • Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr sy’n eu poeni neu sy’n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform. Mae defnyddwyr sydd wedi'u blocio yn cael eu hatal rhag creu cyfrif newydd ar yr un ddyfais, neu geisio ail-ychwanegu'r defnyddwyr a gafodd eu riportio.

    I gwyno am ddefnyddiwr:

    • dewiswch y defnyddiwr rydych chi am gwyno amdano o’r rhestr sgwrsio
    • tapiwch a dal eu henw a dewis yr opsiwn ‘Manage friendship’
    • tapiwch ‘Report’ a dewis eich rheswm o’r opsiynau sy’n cael eu rhestru

    I flocio defnyddiwr:

    • ewch i’ch proffil a dewis ‘My friends’
    • tapiwch a dal eu henw a chlicio ar yr opsiwn ‘Manage friendship’
    • cliciwch ‘block’

    I ddileu ffrind:

    • dewiswch y defnyddiwr rydych chi am ei ddileu o’r rhestr sgwrsio
    • tapiwch a dal eu henw a dewis ‘Manage friendship’
    • dewiswch ‘remove friend’
  • Mae llawer o anogwyr a gwahoddiadau ar Snapchat, gan gynnwys awgrymiadau ffrindiau ac anogwyr am grybwylliadau neu snaps heb eu hagor. Gallwch reoli’r hysbysiadau yn y ddewislen gosodiadau.

    I reoli hysbysiadau:

    • ewch i’ch proffil a dewiswch y ddewislen gosodiadau
    • sgroliwch i lawr a dewis ‘Notifications’ a dewis pa nodweddion rydych chi am gael gwybod amdanyn nhw (mae rhestr helaeth o hysbysiadau ar gael, felly cydweithiwch gyda’ch plentyn i ddewis y gosodiadau hysbysiadau sy’n addas ar ei gyfer)
  • Dylai defnyddwyr gofio ei bod hi’n cymryd 60 diwrnod i ddileu cyfrif Snapchat. Mae’r broses yn cychwyn gyda dadactifadu, sy’n para 30 diwrnod. Gall defnyddiwr stopio’r broses o ddileu cyfrif yn ystod y cyfnod hwn trwy fewngofnodi os yw’n newid ei feddwl. Fodd bynnag, os nad yw’r defnyddiwr yn mewngofnodi i’r cyfrif wedi’i ddadactifadu am 30 diwrnod, ni fydd modd adfer y cyfrif wedyn. Mae’r broses ddileu’n digwydd yn ystod y 30 diwrnod nesaf.

    I ddileu cyfrif Snapchat (PC/Android):

    • mewngofnodwch i’ch cyfrif Snapchat ar eich porwr o ddewis
    • dilynwch y ddolen hon i ddileu eich cyfrif
    • teipiwch eich enw defnyddiwr a chyfrinair Snapchat a dilyn y cyfarwyddiadau i ddileu eich cyfrif

    I ddileu cyfrif Snapchat (iOS):

    • agorwch eich proffil trwy ddewis yr eicon afatar ar y gornel chwith uchaf
    • dewiswch yr eicon gêr yn y gornel dde uchaf i agor ‘Settings’
    • sgroliwch i lawr i ‘Account Actions’
    • dewiswch ‘Delete Account’
    • teipiwch y cyfrinair i ddilysu dadactifadu cyfrif
    • dewiswch ‘Continue’ (bydd eich cyfrif yn cael ei ddadactifadu am 30 diwrnod a’i ddileu ar ôl hynny)

Mae Snapchat yn cynnig gwasanaeth ‘Here for you’, porth cymorth i ddefnyddwyr a allai fod yn profi problemau iechyd meddwl. Mae yn yr adran ‘Support’ yn y ddewislen gosodiadau.

Mae Snapchat wedi lansio Snapchat Family Centre oddi mewn i’r ap, lle mae rhieni a gofalwyr yn gallu cysylltu eu cyfrif nhw â chyfrif eu plant. Nod ‘Family Centre’ yw helpu i gefnogi pobl ifanc yn eu harddegau sy’n dechrau defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Mae nodweddion ‘Family centre’ yn cynnwys:

  • mae rhieni a gofalwyr yn gallu gweld rhestr ffrindiau eu plentyn
  • mae rhieni a gofalwyr yn gallu monitro â phwy y mae eu plentyn yn siarad a pha mor aml maen nhw’n siarad, heb weld cynnwys y neges
  • mae rhieni a gofalwyr yn gallu rhoi gwybod am gamdriniaeth neu gyfrifon sy’n peri pryder iddynt
  • mae’n bosib hefyd i rieni a gofalwyr weld gosodiadau preifatrwydd a diogelwch y person ifanc o dan eu gofal, gan gynnwys gosodiadau stori, gosodiadau cyswllt, ac a yw’r person ifanc yn rhannu ei leoliad ar SnapMaps
  • at ddibenion tryloywder, mae pobl ifanc yn eu harddegau yn gallu gweld yr hyn y mae eu rhieni a’u gofalwyr yn gallu ei weld yn ‘Family centre’

Mae Snapchat wedi cynhyrchu 'Guide for Educators' i ddatblygu dealltwriaeth o sut mae pobl ifanc yn defnyddio'r platfform a'r amddiffyniadau sydd ar gael. Mae'r canllaw hwn yn cynnwys pecyn cymorth sydd â’r nod o ddarparu gwybodaeth am sut i gefnogi diogelwch a lles eu myfyrwyr ar-lein – yn gyffredinol ac ar Snapchat.

Mae Snapchat wedi cyhoeddi ei ganllawiau ei hun am My AI. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Canllaw ChatGPT.

Ar hyn o bryd, mae Snapchat yn profi rhannu cynnwys cyhoeddus ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 oed mewn rhai gwledydd, er y gallai hyn ehangu cyn bo hir i gynnwys y DU. Law yn llaw â hyn, bydd Snapchat yn ychwanegu nodwedd 'Family Pairing' hefyd a fydd yn caniatáu i rieni a gofalwyr weld a oes gan eu plentyn 16 i 17 oed stori gyhoeddus ar y pryd neu a oes ganddo gynnwys cyhoeddus wedi'i rannu i'w gyfrif.