English

Llinell amser 10 mlynedd Hwb

Rydyn ni wedi edrych yn ôl ar y degawd diwethaf, gan ddathlu sut mae Hwb wedi esblygu a datblygu ers cael ei lansio.

2012

2013

2014

  • Lansio’r ystorfa ddysgu ddigidol genedlaethol gan ddarparu ystod o adnoddau dysgu ac addysgu dwyieithog i athrawon.

  • Mae ysgolion bellach yn gallu creu gwefan gyhoeddus eu hunain.

2015

Lansio’r parth dysgu creadigol mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru.

colorful face painting

2016

  • Lansio Parthau Hwb i gefnogi diogelwch ar-lein, dysgu Cyfnod Sylfaen a’r rhwydweithiau cenedlaethol ar gyfer rhagoriaeth mewn mathemateg a gwyddoniaeth a thechnoleg.

  • Cyflwyno cymuned Hwb, gan ddarparu cyfleoedd cydweithredol i athrawon yng Nghymru.

2017

  • Ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, lansio’r parth diogelwch ar-lein newydd gan ddarparu canllawiau cynhwysfawr, adnoddau a hyfforddiant i gefnogi ysgolion i gadw’n ddiogel ar-lein.

  • Cyflwyno profiad mwy personol i ddefnyddwyr Hwb, gan eu galluogi i deilwra cynnwys a thanysgrifiadau.

2018

  • Asesiadau darllen a rhifedd sydd ar gael trwy Hwb, yn cymryd lle’r profion darllen a rhifedd cenedlaethol papur.

  • Yn dilyn cau Dysgu Cymru, daw Hwb yn gartref i’r cwricwlwm a’r pwynt canolog ar gyfer addysg yng Nghymru.

  • Mae partneriaeth newydd gyda Google yn golygu bod G Suite for Education ar gael trwy Hwb.

  • Eich cyfrif Hwb yn cynnig mynediad i ystod o wasanaethau addysg ar-lein trwy fewngofnodi sengl (SSO).

2019

  • Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i ariannu meddalwedd ystafell ddosbarth Microsoft ar gyfer pob ysgol a gynhelir, gan roi mynediad i ddefnyddwyr Hwb i Microsoft Office 365 ProPlus ar hyd at bum dyfais bersonol.

  • Minecraft: Education Edition yw'r ychwanegiad diweddaraf i Hwb.

  • Croesawu maes newydd sbon i gefnogi lansio Cwricwlwm i Gymru.

2020

  • Creu’r adran dysgu cyfunol i gefnogi parhad dysgu gartref yn ystod pandemig y coronafeirws.

  • Carreg filltir newydd i blatfform Hwb gyda 10.6 miliwn o ymweliadau â’i dudalennau ym mis Mawrth 2020, sy’n gynnydd enfawr o’r cyfartaledd misol blaenorol.

  • Cyflwyno'r adran adnoddau newydd a newid enw’r parth diogelwch ar-lein i cadw'n ddiogel ar-lein..

  • Caniatáu i ddefnyddwyr gael mynediad i Adobe Creative Cloud Express trwy Hwb diolch i’r bartneriaeth swyddogol gydag Adobe

  • Lansio 360 digi Cymru i helpu ysgolion i werthuso a chynllunio eu dysgu digidol.

  • Cyflwyno’r ymgyrch ‘Arwyr Hwb’ sy’n arwain at blant a phobl ifanc yn rhannu miloedd o negeseuon gyda phobl hŷn a phobl fwy agored i niwed yn ystod pandemig y coronafeirws.

2021

Hwb yw aelod cyntaf unrhyw lywodraeth o’r Internet Watch Foundation, gan gryfhau platfform Hwb ymhellach a dangos ein hymrwymiad i roi terfyn ar gam-drin plant.

IWF - Internet Watch Foundation logo

2022

Mae Hwb wedi bod ar-lein yn swyddogol ers 10 mlynedd! Mae'n parhau i dyfu a chynnig offer a gwasanaethau newydd i'w 500,000 o ddefnyddwyr.

Cyflwyno proses ddilysu aml-ffactor i gadw Hwb a'i ddefnyddwyr yn ddiogel.

2023…beth fydd y datblygiadau nesaf?