English

Cynulleidfa a awgrymir: dysgwyr, staff ysgol, pencampwyr digidol mewn ysgolion, gweinyddwyr Hwb mewn awdurdodau lleol, gweinyddwyr Hwb ar gyfer consortia addysg rhanbarthol.

Mae Just2easy (J2e) yn cynnig set o adnoddau meddalwedd ar gyfer addysg, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae J2e yn cynnig gemau, apiau ac adnoddau creadigrwydd ar gyfer Mathemateg, Saesneg, Cyfrifiadura a gweithgareddau creadigol trawsgwricwlaidd mewn profiad dysgu cwbl bersonol.

Mae gan holl ddogfennau J2e gyfeiriad gwe unigryw eu hunain. Gallwch eu defnyddio ar unrhyw borwr gwe, a’u rhannu’n rhwydd ag athrawon, dysgwyr, teulu a ffrindiau.


Mae gan ddefnyddwyr Hwb ddau opsiwn i gael mynediad at Just2easy:

Opsiwn 1:

  1. Ewch i https://hwb.llyw.cymru a mewngofnodi gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Hwb.
  2. Cliciwch Just2easy.
  3. Dewiswch y rhaglen J2e rydych am ei defnyddio.

Opsiwn 2:

  1. Ewch i j2e.com.
  2. Cliciwch yr eicon Hwb.
  3. Mewngofnodwch gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Hwb.
  4. Dewiswch y rhaglen J2e rydych am ei defnyddio.

Fel mater o drefn, bydd defnyddwyr yn cael eu rhestru yn ôl eu henw cyntaf a cymeriad gyntaf eu cyfenw.

Gall athro olygu’r enw arddangos er mwyn gwahaniaethu rhwng defnyddwyr sydd â’r un enw:

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen rheoli defnyddwyr.
  3. Cliciwch y tab rheoli defnyddwyr(ar hyd y top).
  4. Cliciwch yr enw sy’n cael ei ddangos ar gyfer y defnyddiwr perthnasol, a byddwch chi’n gallu teipio enw newydd.

Neu, gall defnyddiwr newid ei enw sy’n cael ei ddangos ei hun:

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch eich enw (yng nghornel dde uchaf sgrin j2launch).
  3. Cliciwch fy ngosodiadau.
  4. Teipiwch eich enw yn y blwch enw sy’n cael ei ddangos.
  5. Cliciwch y groes wen i gau eich gosodiadau.

j2launch yw’r hafan ar gyfer J2e, lle bydd cyfres o deils sy’n gysylltiedig â gwahanol raglenni J2e ar gael. Fe allwch chi greu teils ychwanegol, eu trefnu’n ffolderi, a rhannu teils neu ffolderi cyfan â grwpiau o ddysgwyr. Gall y teils hyn fod yn ddolenni at wefannau eraill (gan gynnwys rhestrau chwarae Hwb), neu’n ddolenni at ffeiliau j2e5.

  • Mae pob math o becynnau iaith ar gael i ddefnyddwyr, gan gynnwys y Gymraeg.

    I newid eich gosodiad iaith:

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch eich enw (yng nghornel dde uchaf y sgrin) a dewis fy ngosodiadau.
    3. Cliciwch y fflag wrth ymyl iaith.
    4. Dewiswch iaith arall.
    5. Cliciwch y groes wen i gau eich gosodiadau.
  • Bydd gofyn i ddysgwyr fewngofnodi yn J2e cyn y gall eu hathro reoli eu cyfrifon. Fyddan nhw ddim yn ymddangos yn y deilsen rheoli defnyddwyr nes byddan nhw wedi mewngofnodi am y tro cyntaf.

  • Pan fydd dysgwyr yn mewngofnodi i J2e am y tro cyntaf, byddan nhw’n cael eu rhoi mewn dosbarth o’r enw disgyblion.

    Gall athrawon ddefnyddio’r adnodd rheoli defnyddwyr i drefnu dysgwyr yn ddosbarthiadau ac yn grwpiau addysgu.

    Mae’n syniad da creu dosbarthiadau addysgu fesul un yn J2e, neu bydd gennych chi ddysgwyr mewn gwahanol ddosbarthiadau addysgu yn J2e, a bydd yn anoddach rhoi trefn ar hynny.

    Dim ond i un dosbarth y gall dysgwyr berthyn, ond fe allan nhw fod yn aelod o fwy nag un grŵp addysgu.

    Creu dosbarth:
    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen rheoli defnyddwyr.
    3. Cliciwch y tab dosbarthiadau (ar hyd y top).
    4. Cliciwch + (o dan rheoli dosbarthiadau).
    5. Dewiswch naill ai dosbarth cofrestru neu dosbarth addysgu, teipio enw dosbarth a chlicio iawn.
    6. Ar ôl gwneud hyn, bydd eich dosbarth yn ymddangos yn y rhestr o ddosbarthiadau.
    Ychwanegu dysgwyr at eich dosbarth:
    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen rheoli defnyddwyr.
    3. Cliciwch y tab dosbarthiadau (ar hyd y top).
    4. Cliciwch y saeth i lawr (i’r dde o enw'r dosbarth) wrth ymyl y dosbarth perthnasol.
    5. Cliciwch yr eicon +.
    6. Chwiliwch am ddysgwr drwy deipio ei enw a phwyso enter ar eich bysellfwrdd.
    7. Cliciwch enw’r dysgwr perthnasol (gallwch ddewis mwy nag un dysgwr drwy ddal y fysell Ctrl i lawr ar eich bysellfwrdd i ddewis y dysgwyr) a chlicio iawn.
  • Fel mater o drefn, bydd defnyddwyr yn cael eu rhestru yn ôl eu henw cyntaf a cymeriad gyntaf eu cyfenw.

    Gall athro olygu’r enw arddangos er mwyn gwahaniaethu rhwng defnyddwyr sydd â’r un enw:

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen rheoli defnyddwyr.
    3. Cliciwch y tab rheoli defnyddwyr (ar hyd y top).
    4. Cliciwch yr enw sy’n cael ei ddangos ar gyfer y defnyddiwr perthnasol, a byddwch chi’n gallu teipio enw newydd.

    Neu, gall defnyddiwr newid ei enw sy’n cael ei ddangos ei hun:

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch eich enw (yng nghornel dde uchaf sgrin j2launch).
    3. Cliciwch fy ngosodiadau.
    4. Teipiwch eich enw yn y blwch enw sy’n cael ei ddangos.
    5. Cliciwch y groes wen i gau eich gosodiadau.
  • Dylai ffolder fy ffeiliau y dysgwyr symud gyda nhw o’r naill ysgol i’r llall.

    I gael cymorth, cysylltwch â Desg Gymorth Hwb: hwb@llyw.cymru | 03000 25 25 25.

  • Gall athro weld y ffeiliau sydd wedi’u cadw gan ddysgwyr yn yr ysgol drwy glicio’r deilsen tudalennau’r disgyblion yn j2launch:

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen tudalennau’r disgyblion.
    3. Bydd ffolder i’w gweld ar gyfer pob un o’ch dysgwyr. Cliciwch y ffolder berthnasol i weld ffeiliau’r dysgwr.

    Fydd y dysgwyr eraill ddim yn gallu gweld y ffeiliau, oni bai y bydd y ffeiliau’n cael eu rhannu’n uniongyrchol â nhw.

  • Chewch chi ddim llwytho mwy na 512mb i fyny yn J2e.

    Gall defnyddwyr lwytho ffeiliau i fyny o’u dyfais i’r maes fy ffeiliau yn J2e.

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen uwchlwytho.
    3. Naill ai:
      • Gallwch lusgo a gollwng ffeiliau o’ch dyfais i’r blwch.
      • Cliciwch dewis ffeiliau, dewis ffeil o’ch dyfais a chlicio agor.

    Yna, bydd y ffeiliau hyn ar gael yn fy ffeiliau.

  • Gallwch gael mynediad at J2e ar unrhyw borwr gwe. Ond, mae Apple yn gosod cyfyngiadau ar swyddogaeth y wefan pan fyddwch yn defnyddio iPad. Felly, dydy rhai swyddogaethau J2e ar gyfrifiadur neu liniadur ddim ar gael drwy’r porwr ar iPad neu iPhone. I ddatrys y broblem hon, mae J2e wedi datblygu ap j2launch y gellir ei lwytho i lawr am ddim o’r App Store.

    Does gan ddyfeisiau Android a Windows ddim yr un cyfyngiadau â dyfeisiau Apple. Felly, fe ddylech chi allu defnyddio holl swyddogaethau J2e drwy borwr gwe; does dim angen ap ychwanegol.

    Ap iOS j2launch

    Mae ap j2launch yn edrych yn debyg iawn i’r wefan, gyda bar llwyd ychwanegol ar draws y top. Mae hyn yn gadael i ddefnyddwyr wneud y canlynol:

    • defnyddio camera’r ddyfais i lwytho i fyny unrhyw luniau neu fideos sydd wedi’u storio ar y ddyfais, neu gynnwys o apiau eraill sydd wedi’u cadw ar Rôl y Camera.
    • recordio fideo, sain a delweddau yn fyw i’r safle drwy ddefnyddio’r camera a’r microffon ar yr iPad.
    • sganio cod QR ac, os yw’n briodol, ychwanegu’r wefan fel teilsen yn J2launch.
    • allgludo ffeiliau o unrhyw ap arall (fel Keynote: Ap i greu, golygu a gwneud cyflwyniadau ar iPhone neu iPad, neu Book Creator sy’n ffordd syml o wneud eLyfrau ar eich iPad), a’u cadw yn J2e.

    Mewngofnodi i ap iOS j2launch gyda chyfrif Hwb

    Pan fyddwch chi’n llwytho ap j2launch, bydd sgrin mewngofnodi yn ymddangos i chi, uwchben cyfres o eiconau.

    1. Cliciwch yr eicon Hwb o dan y blwch mewngofnodi.
    2. Bydd hyn yn agor tudalen hafan Hwb. Mewngofnodwch yma gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Hwb.
    3. Cliciwch y Ddewislen (ar frig y dudalen) a chlicio Just2easy.

    Nodyn: Os byddwch chi’n ceisio mewngofnodi’n uniongyrchol i J2e gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Hwb (heb glicio ar eicon Hwb i ddechrau), fydd hyn ddim yn gweithio.

    Byddwch chi’n gallu defnyddio’r eiconau fideo, microffon, camera a ffolder ar frig y sgrin i lwytho cynnwys i fyny i J2e.

Mae j2message yn galluogi athrawon a dysgwyr i anfon neges at ei gilydd mewn amser real. Anfonir hysbysiad pan fydd neges newydd ar gael. Gall athrawon ddewis anfon neges naill ai i ysgol neu ddosbarth, neu at ddefnyddwyr unigol. Gall y disgyblion anfon neges at athro, a gall athro ddewis rhannu'r neges honno gyda dosbarth, os dymunant. Gellir dileu negeseuon ond byddan nhw’n wastad ar gael  i bob athro drwy'r botwm 'log j2message' ar y j2dashboard.

Defnyddio’r gwasanaeth

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2. Cliciwch ar deilsen j2message.
  3. Crëwch neges drwy glicio ar yr ysgol, y dosbarth, neu'r defnyddiwr ac ysgrifennu’r neges yn y blwch a ddarperir. Yna bwyswch y botwm anfon gwyrdd (ar ochr dde'r dudalen).
  4. Bydd y neges yn ymddangos yn awtomatig ar gyfer y defnyddiwr/defnyddwyr a ddewiswyd os yw j2message ar agor gyda nhw. Os nad yw, byddan nhw’n gweld hysbysiad coch yn dangos nifer y negeseuon sy'n aros amdanyn nhw ar deilsen j2message ar y j2dashboard.
  5. Gall athrawon ddewis atal disgyblion rhag ateb negeseuon mewn dosbarth drwy ddad-ddewis yr eicon "sgwrs disgybl" ar frig ochr dde bwrdd negeseuon y dosbarth.
  6. Yn ddiofyn, ni fydd negeseuon disgyblion yn cael eu gweld gan ddisgyblion eraill. Fodd bynnag, os bydd athro yn clicio ar y clo wrth ymyl yr eicon llefaru (ar ochr dde'r bwrdd negeseuon dosbarth), bydd hyn yn newid, er mwyn i'r disgyblion allu gweld negeseuon disgyblion eraill yn syth yn y dosbarth hwnnw.
  7. Ymateb i neges drwy glicio ar y "botwm ateb" llwyd wrth ymyl neges.
  8. Dileu neges drwy glicio ar y groes goch wrth ymyl neges.
  9. Gall athrawon rannu neges drwy glicio ar y botwm "rhannu" glas wrth ymyl neges. Bydd hyn yn copïo'r neges i'r blwch neges isod, lle gall athro ychwanegu ei sylw ei hun os yw’n dymuno.

Archwilio

I weld ffeil sy'n cynnwys pob neges ar gyfer yr ysgol, cliciwch ar y botwm 'log j2message' ar y "j2dashboard". Bydd hyn yn lawrlwytho ffeil csv o bob neges ar gyfer yr ysgol, gan gynnwys unrhyw negeseuon sydd wedi'u dileu. Nodyn: Ni ellir golygu negeseuon, felly bydd y log hwn bob amser yn cynnwys popeth.

Mae J2homework yn caniatáu i ddysgwyr weld y tasgau a osodwyd gan yr athro yn hawdd.

Dysgwyr

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Just2easy.
  2. Cliciwch ar y deilsen j2homework.
  3. Os oes tasg wedi ei gosod i chi, cliciwch ar y saeth werdd i weld yr holl gyfarwyddiadau gwaith cartref
  4. Cliciwch y botwm gwyrdd ‘go to homework’
  5. Cwblhewch y dasg.
  6. Ewch yn ôl i’r deilsen j2homework a chlicio ar “Mark complete” fel bod yr athro yn gwybod eich bod wedi cwblhau’r dasg.

 

Offer Athrawon

Gosod gwaith cartref

  1. Cliciwch ar y deilsen j2homework
  2. Cliciwch ar ‘Assign homework’
  3. Ysgrifennwch bennawd y gweithgaredd a’i ddisgrifio.
  4. Ychwanegwch URL i adnodd ar y we (dewisol)
  5. Dewiswch y dosbarth a’r dyddiad cwblhau ar gyfer y dasg.
  6. Gosodwch y gwaith cartref.
  7. Gall athrawon weld rhestr ‘Completed by’, sy’n rhestr o ddysgwyr sydd wedi marcio eu bod wedi cwblhau’r dasg.

 

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch yr eicon + (ar frig y dudalen).
    3. Dewiswch deilsen a rhoi URL (cyfeiriad gwe) y wefan rydych am greu dolen ati. Gallwch hefyd ychwanegu teitl a llun bach os oes angen.
    4. Cliciwch + ar waelod y ffenestr i ychwanegu’r deilsen.
    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch yr eicon llyfrgell (ar frig y dudalen).
    3. Daliwch eich cyrchwr dros unrhyw un o’r teils i gael mwy o wybodaeth, a chlicio’r symbol + glas i ychwanegu’r deilsen berthnasol at eich sgrin j2launch.
    4. Sgroliwch i frig y dudalen a chlicio’r eicon saeth yn ôl i fynd yn ôl i j2launch i weld y teils rydych newydd eu hychwanegu.
    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch yr eicon + a dewis ffolder.
    3. Rhowch enw i’r ffolder drwy deipio yn y maes enw, ac ychwanegu unrhyw dagiau a disgrifiad (dewisol).
    4. Cliciwch yr eicon + glas ar waelod y sgrin.
    5. Yna, mae modd llusgo teils i’ch ffolder newydd, a’u gollwng yno.

    I dynnu ffolder, dylech ei llusgo i’r bin ailgylchu (eicon bin ar frig y dudalen).

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Daliwch eich cyrchwr dros y deilsen/ffolder berthnasol, a chlicio’r eicon rhannu (sy’n edrych fel dau berson) a fydd i’w weld i’r dde o’r deilsen/ffolder.
    3. Yn y gwymplen, dewiswch yr enw, y dosbarth neu’r grŵp rydych chi am rannu’r deilsen/ffolder â nhw. Bydd y deilsen/ffolder yn ymddangos yn j2launch y tro nesaf ar ôl mewngofnodi.

Mae j2e5 yn rhoi cyfle i ddysgwyr ac athrawon greu cynnwys ar-lein yn rhwydd ar ‘bapur digidol’. Mae modd ychwanegu testun, delweddau a fideos a rhannu gwaith ar-lein.

Mae modd defnyddio j2e5 hefyd i greu arolygon i gasglu a dadansoddi data ar-lein. Bydd yr holl waith yn cael ei gadw ar-lein, a bydd modd cael mynediad ato ar unrhyw ddyfais sydd â phorwr gwe.

Dechrau arni

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen j2e5.
  3. Dewiswch arddull y testun a’r ffont o’r opsiynau ar y dde.
  4. Cliciwch unrhyw le ar y dudalen a theipio eich gwaith.
    • I newid arddull y testun neu’r ffont ar ôl i chi deipio, amlygwch y testun a defnyddiwch yr opsiynau ar yr ochr dde. Hefyd, gallwch gylchdroi’r testun gan ddefnyddio'r saethau llusgo er mwyn cylchdroi sy’n ymddangos pan fyddwch chi’n amlygu’r testun.
    1. Cliciwch y symbol person gwyrdd ar y bar offer ar y brig.
    2. Bydd pedwar opsiwn yn ymddangos ar y dde:
      • Lluniau o fy ffeiliau
      • Chwilio ar y we – teipiwch derm yn y blwch chwilio a phwyso enter ar eich bysellfwrdd.
      • Lluniau sydd wedi cael eu rhannu â chi
      • Uwchlwytho delwedd o’ch dyfais

    Dewiswch y ddelwedd a’i llusgo a’i gollwng ar eich tudalen.

    1. Er mwyn newid maint eich delwedd, cliciwch arni a defnyddio’r sgwariau glas i’w llusgo i’r maint o’ch dewis. I gylchdroi eich delwedd, defnyddiwch y saethau llusgo er mwyn cylchdroi sy’n ymddangos pan fyddwch chi’n clicio arni.

    Pan fyddwch chi’n clicio ar eich delwedd, bydd opsiynau’n ymddangos ar y dde i newid eich delwedd yn jig-so, i ychwanegu ffrâm ac i roi ymylon crwn i’r ddelwedd.

  • Gallwch greu siapiau mewn ffordd debyg i’r hyn y byddech chi’n ei wneud yn Microsoft Paint:

    1. Cliciwch un o’r opsiynau siâp ar yr ochr dde.
    2. Dewiswch drwch yr amlinell naill ai drwy newid y rhif neu ddewis un o feintiau’r cylchoedd.
    3. Cliciwch ar eich tudalen a defnyddio eich llygoden i lusgo a gollwng i greu eich siâp.
    1. Cliciwch y symbol W gwyrdd ar y bar offer ar y brig.
    2. Bydd pedwar opsiwn yn ymddangos ar y dde:
    • Rhestrau geiriau rydych chi wedi’u creu yn fy rhestrau geiriau
    • Chwilio drwy’r llyfrgell
    • Rhestrau geiriau wedi’u rhannu â chi
    • Ychwanegu eich rhestr geiriau eich hun

    Cliciwch restr geiriau a bydd yn ymddangos ar waelod y dudalen.

    1. Cliciwch y rhan o’r dudalen rydych chi’n dymuno i’r gair ymddangos arni.
    2. Cliciwch y gair o’r rhestr ar waelod y dudalen. Yna bydd y gair yn ymddangos yn y lleoliad rydych chi wedi’i ddewis.
    1. Cliciwch y blwch glas gyda llinell cyrchwr ynddo ar y bar offer ar y brig.
    2. Bydd pum opsiwn yn ymddangos:
      • Blwch gwirio
      • Botwm radio (blwch gwirio cylch)
      • Blwch ar gyfer testun (ar gyfer un llinell o destun)
      • Ardal i osod testun (ar gyfer mwy nag un llinell o destun)
      • Rhestr ollwng

    Ar ôl i chi ddewis un o’r opsiynau hyn, cliciwch lle’r hoffech chi iddo ymddangos ar y dudalen. Mae modd golygu’r opsiynau hyn ar y bar offer ar y dde.

    1. Cliciwch yr eicon rîl camera gwyrdd ar y bar offer ar y brig.
    2. Dewiswch fideo/sain/gosod.
    3. Rhowch URL gwefan (ee url fideo YouTube) neu god gosod a chlicio iawn.
    4. Bydd y clip fideo/sain yn ymddangos ar unwaith. Gallwch ddefnyddio eich cyrchwr i’w symud i’w le a chlicio eich llygoden i’w osod.
    1. Cliciwch yr eicon tabl glas ar y bar offer ar y brig.
    2. Nodwch nifer y colofnau a’r rhesi rydych chi eu hangen a chlicio iawn.
    3. Bydd y tabl yn ymddangos ar unwaith. Gallwch ddefnyddio eich cyrchwr i’w symud i’w le a chlicio eich llygoden i’w osod.
    4. Cliciwch y gell berthnasol i deipio ynddi. Bydd opsiynau yn ymddangos yn y bar offer ar yr ochr dde er mwyn gosod fformat y testun.
  • Nodyn: Bydd angen i chi gael data mewn tabl cyn y gallwch ychwanegu siart.

    1. Cliciwch eich tabl, sydd wedi’i lenwi ymlaen llaw, er mwyn ei ddewis.
    2. Cliciwch yr eicon graff pinc ar y bar offer ar y brig.
    3. Ychwanegwch deitl, dewis math o siart, dewis a hoffech weld y gyfres ddata mewn rhesi neu golofnau a chlicio iawn.
    4. Bydd y siart yn ymddangos ar unwaith. Gallwch ddefnyddio eich cyrchwr i’w symud i’w le a chlicio eich llygoden i’w osod.
    1. Cliciwch y symbol + llwyd yn y gornel dde isaf i ychwanegu tudalen newydd. Bydd hyn yn agor tudalen wag newydd.
    2. I fynd yn ôl i'r dudalen flaenorol, cliciwch y botwm tudalen flaenorol llwyd yn y gornel chwith isaf.
    1. Cliciwch y botwm disg hyblyg coch ar y bar offer ar y brig.
    2. Rhowch deitl i’ch gwaith a chlicio arbed. Bydd eich gwaith yn ymddangos yn eich ffolder fy ffeiliau.
  • Nodyn: Bydd gofyn i chi gadw eich gwaith cyn ei gyhoeddi ar j2webby.

    1. Cliciwch yr eicon glôb oren ar y bar offer ar y brig.
    2. Ailenwch eich gwaith os oes angen.
    3. Dewiswch un o’r blogiau a chlicio cyhoeddi i j2webby.
    4. Bydd y gwaith yn ymddangos yn y ffolder cymedroli er mwyn i’r athro gymeradwyo’r gwaith cyn ei gyhoeddi ar j2webby.

    Gall athrawon ddewis creu tudalen newydd ar wefan j2webby hefyd, yn ystod cam 3, a chyhoeddi ar dudalen newydd. Dydy’r opsiwn hwn ddim ar gael i ddysgwyr.

    Gall athrawon gyhoeddi’n uniongyrchol ar j2webby hefyd, heb gymedroli.


Mae jit5 wedi’i ddylunio ar gyfer y dysgwyr ieuengaf, ac yn cynnig 8 adnodd integredig sy’n gweithio ar wahanol lwyfannau. Mae dysgwyr yn gallu ysgrifennu, peintio, creu rhaglenni crwban, pictogramau a siartiau, defnyddio canghennau o gronfeydd data ac animeiddiadau, a’u cyfuno gyda’i gilydd i greu cyfuniad personol. Mae dysgwyr hefyd yn gallu recordio sain i ategu eu gwaith.

Bydd yr holl waith yn cael ei gadw yn adran fy ffeiliau y dysgwyr ar J2e, a bydd staff yr ysgol yn gallu ei weld. Bydd y staff hefyd yn gallu defnyddio sgwrs dysgu, sy’n annog dysgwyr i bwyso a mesur ac yn galluogi athrawon i roi adborth ar unwaith – yn ysgrifenedig neu ar lafar – ar ddarn o waith neu ffolder gyfan.

Dechrau arni

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen jit5.
  3. Dewiswch dempled neu lun yn gefndir.
  4. Ysgrifennu yw’r offeryn diofyn a fydd yn ymddangos. I newid offer, cliciwch un o’r opsiynau ar y tabiau ar frig y dudalen.
    1. Cliciwch y tab ysgrifennu gwyrdd ar frig y dudalen i ddefnyddio’r offeryn ysgrifennu.
    2. Dewiswch dempled neu lun yn gefndir.
    3. Nawr gallwch ddechrau ysgrifennu ar eich cefndir. Defnyddiwch yr opsiynau ar ochr chwith y dudalen i newid ffont, maint a lliw y testun.
    4. Gallwch ychwanegu gair o restr geiriau drwy glicio’r saethau o dan yr opsiynau lliw. Sgroliwch drwy’r pynciau a chlicio ar air o’ch dewis. Mae modd defnyddio’r nodwedd hon i ychwanegu acenion ar lythrennau Cymraeg hefyd.
    1. Cliciwch y tab paent glas ar frig y dudalen i ddefnyddio’r offeryn paent.
    2. Dewiswch dempled neu lun yn gefndir.
    3. Defnyddiwch yr offer rheoli ar ochr chwith y dudalen i newid trwch eich brwsh paent a’ch lliw. Gallwch newid i’r opsiwn llenwi drwy glicio’r eicon tun paent yn gollwng, a fydd yn eich galluogi chi i lenwi rhan ag un lliw.
    4. Cliciwch ar y gair sy’n ymddangos rhwng dwy saeth ar ochr chwith y dudalen i ychwanegu animeiddiad at eich gwaith. Dewiswch thema o’r gwymprestr a defnyddio'r saethau i ddod o hyd i animeiddiad yr hoffech ei ddefnyddio. Defnyddiwch y botymau + , - a saeth i newid maint eich animeiddiad ac i’w droi drosodd. Yna gallwch ei lusgo a’i ollwng ar eich cefndir.
  • Mae crwban yn offeryn codio syml.

    1. Cliciwch y tab crwban gwyrdd ar frig y dudalen i ddefnyddio'r offeryn crwban.
    2. Dewiswch dempled neu lun yn gefndir.
    3. Syml yw’r rhagosodiad, ond gallwch newid hwn i anoddach drwy glicio anoddach ar ochr chwith y dudalen. Pan fyddwch yn defnyddio'r lefel syml, bydd y cymeriad yn symud pan fyddwch chi’n pwyso’r botymau saethau symud o’i amgylch. Ar gyfer y lefel anoddach, fydd y cymeriad ddim yn symud pan fyddwch chi’n pwyso’r botymau saethau symud. Dim ond ar ôl i chi ddyfalu sut bydd yn symud drwy ddefnyddio’r botymau saethau symud a phwyso’r botwm chwarae gwyrdd (yng nghornel dde isaf y dudalen) y bydd yn symud.
    1. Cliciwch y tab siart oren ar frig y dudalen i ddefnyddio'r offeryn siart.
    2. Dewiswch dempled neu lun yn sail ar gyfer eich siart.
    3. Llenwch y tabl ar eich tudalen â’r data yr hoffech ei gynnwys yn eich siart, drwy amlygu’r data presennol a theipio drosto. Bydd eich siart yn diweddaru wrth i chi wneud hyn.
    4. Nawr gallwch newid enw eich siart drwy glicio ar y teitl uwch ben eich siart a theipio enw newydd.
    5. Dewiswch un o’r opsiynau ar ochr chwith y dudalen i newid arddull eich siart (mae pedwar opsiwn: cylch, bar, llinell a bloc). Gallwch guddio eich tabl drwy ei ddad-ddewis.
    1. Cliciwch y tab pictogram coch ar frig y dudalen i ddefnyddio'r offeryn pictogram.
    2. Dewiswch dempled neu lun yn sail ar gyfer eich pictogram.
    3. Rhowch eich data drwy glicio’r symbolau + a - uwch ben pob llun ar eich tudalen.
    4. Cliciwch edit (yng nghornel dde isaf eich tudalen) i newid y lluniau yn eich pictogram. Bydd opsiynau’n ymddangos ar ochr chwith y dudalen i chi. Cliciwch y gair sy’n ymddangos rhwng dwy saeth a dewis thema o’r gwymprestr. Defnyddiwch y saethau i ddod o hyd i lun yr hoffech ei ychwanegu, ac yna ei lusgo a’i ollwng ar eich pictogram.
    1. Cliciwch y tab animeiddio pinc ar frig y dudalen i ddefnyddio'r offeryn animeiddio.
    2. Dewiswch dempled neu lun yn gefndir i'ch animeiddiad.
    3. Gallwch ddefnyddio’r offer paent neu ddewis llun wedi’i animeiddio i’w ychwanegu at eich fideo.
      • Defnyddiwch yr offer rheoli ar ochr chwith y dudalen i newid trwch eich brwsh paent a’ch lliw.
      • Gallwch newid i’r opsiwn llenwi drwy glicio’r eicon tun paent yn gollwng, a fydd yn eich galluogi chi i lenwi rhan ag un lliw.
      • Cliciwch ar y gair sy’n ymddangos rhwng dwy saeth ar ochr chwith y dudalen i ychwanegu animeiddiad. Dewiswch thema o’r gwymprestr a defnyddio'r saethau i ddod o hyd i animeiddiad yr hoffech ei ddefnyddio. Defnyddiwch y botymau + , - a saeth i newid maint eich animeiddiad ac i’w droi drosodd. Yna gallwch ei lusgo a’i ollwng ar eich cefndir.
    4. Defnyddiwch y botwm + gwyrdd i ychwanegu clipiau ychwanegol at eich fideo. Bydd yr animeiddiad rydych wedi’i ychwanegu yn y clip blaenorol yn ymddangos yn llwyd er mwyn i chi weld lle mae’r sleid flaenorol yn dechrau.
    5. Cliciwch y botwm + bach coch i gopïo sleid a chlicio’r botwm X coch i ddileu sleid o’ch animeiddiad.
    6. Cliciwch y botwm chwarae gwyrdd unrhyw bryd i chwarae eich animeiddiad.
    1. Cliciwch y tab cangen piws ar frig y dudalen i ddefnyddio'r offeryn cangen.
    2. Dewiswch dempled neu lun yn gefndir.
    3. Defnyddiwch y botymau rheoli ar y chwith i roi’r eitemau yr hoffech eu gweld yn eich coeden yn y blwch ar y dudalen. Cliciwch y botwm cranc gwyrdd i chwilio drwy’r animeiddiadau, y botwm oren i chwilio’r we a’r botwm W glas i chwilio drwy’r rhestrau geiriau. Cliciwch un o’r opsiynau i’w ychwanegu at eich tudalen.
    4. Pan fyddwch chi’n barod i roi trefn ar yr eitemau, cliciwch trefnu (yng nghornel dde isaf y dudalen).
    5. Pan fyddwch wedi teipio cwestiwn yn y bar cwestiynau pinc gallwch ddechrau llusgo a gollwng eich eitemau yn y colofnau cywir.
    6. Ar ôl i chi orffen, cliciwch iawn a bydd eich diagram cangen yn ymddangos.
  • Mae’r offeryn cyfuno yn debyg i PowerPoint. Gallwch ddewis ychwanegu testun a delweddau at dudalennau o’r cynllun ‘chwarae’ wedi’i gyfuno.

    1. Cliciwch y tab cyfuno du ar frig y dudalen i ddefnyddio'r offeryn cyfuno.
    2. Dewiswch gynllun chwarae wedi’i gyfuno a chlicio’r tic gwyrdd.
    3. Cliciwch y symbol * gwyrdd ar frig un o'r meysydd gwaith ar eich tudalen i ychwanegu templed neu lun.
    4. Yn y meysydd ysgrifennu (sy’n cael eu nodi ag ‘Abc…’):
      • Defnyddiwch yr opsiynau ar ochr chwith y dudalen i newid ffont, maint a lliw y testun.
      • Gallwch ychwanegu gair o restr geiriau drwy glicio’r saethau o dan yr opsiynau lliw. Sgroliwch drwy’r pynciau a chlicio ar air o’ch dewis. Mae modd defnyddio hyn i ychwanegu acenion ar lythrennau Cymraeg hefyd.
    5. Yn y meysydd paentio (lle gwag):
      • Defnyddiwch yr offer rheoli ar ochr chwith y dudalen i newid trwch eich brwsh paent a’ch lliw.
      • Gallwch newid i’r opsiwn llenwi drwy glicio’r eicon tun paent yn gollwng, a fydd yn eich galluogi chi i lenwi rhan ag un lliw.
      • Cliciwch ar y gair sy’n ymddangos rhwng dwy saeth ar ochr chwith y dudalen i ychwanegu animeiddiad at eich gwaith. Dewiswch thema o’r gwymprestr a defnyddio'r saethau i ddod o hyd i animeiddiad yr hoffech ei ddefnyddio. Defnyddiwch y botymau + , - a saeth i newid maint eich animeiddiad ac i’w droi drosodd. Yna gallwch ei lusgo a’i ollwng ar eich cefndir.
    6. I ychwanegu recordiad llais at y sleid, cliciwch y botwm microffon ar frig y dudalen.
    7. Cliciwch y botwm + gwyrdd ar frig y dudalen i ychwanegu sleid newydd. Yna, bydd gofyn i chi ddewis cynllun chwarae arall wedi’i gyfuno ar gyfer y sleid newydd.
    8. Defnyddiwch y saethau ar bob ochr i’r dudalen i sgrolio rhwng y sleidiau.
  • Cliciwch y cylch oren sy’n cynnwys llun disg hyblyg glas ynddo (yn y gornel chwith uchaf) i gadw eich gwaith.

  • Nodyn: Bydd gofyn i chi gadw eich gwaith cyn ei gyhoeddi ar j2webby.

    1. Cliciwch y cylch gwyrdd sy’n cynnwys eicon glôb glas ynddo (yn y gornel chwith uchaf).
    2. Cliciwch iawn.
    3. Bydd y gwaith yn ymddangos yn y ffolder cymedroli er mwyn i’r athro gymeradwyo’r gwaith cyn ei gyhoeddi ar j2webby.

Mae j2code yn cynnwys offer, adnoddau a chynlluniau gwersi i gyflwyno’r pwnc codio – o’r Cyfnod Sylfaen hyd at ddiwedd Cyfnod Allweddol 2, a thu hwnt.

Mae modd cwblhau’r gwaith i gyd ar borwr gwe, felly does dim angen meddalwedd arbennig. Bydd holl waith dysgwyr yn cael ei gadw yn eu hadran fy ffeiliau ar J2e, er mwyn i staff fwrw golwg drosto.

Mae’r platfformau codio canlynol ar gael yn j2code:

  • jit – ar gyfer CA1
  • Visual – ar gyfer CA1-CA3
  • Logo – ar gyfer CA1-CA3
  • Microbit – ar gyfer CA1-CA3

Gallwch fewngludo gwaith o Scratch hefyd.

Mae j2code yn cynnwys efelychydd ar gyfer BBC Microbit erbyn hyn, sef microgyfrifiadur llaw y gellir ei raglennu a’i ddefnyddio i wneud arbrofion codio syml a chreadigol.

Mae fideos ‘dechrau arni’ ar gael o brif ddewislen j2code, sy’n egluro holl swyddogaethau j2code.

Dechrau arni

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen j2code.
  • Mae modd i ddysgwyr gael gafael ar unrhyw waith j2code maen nhw wedi’i gwblhau drwy glicio Fy Nghod yn j2code. Byddan nhw’n gallu dod o hyd i unrhyw waith codio sydd wedi’i rannu â nhw drwy glicio Cod wedi’i rannu.


Mae j2vote yn galluogi dysgwyr i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd wedi’i osod gan eu hathro neu gyd-ddysgwyr, gan ddefnyddio dyfais tabled, ffôn a gliniadur. Does dim angen prynu setiau llaw drud sydd ond yn cyflawni un diben.

Bydd siart yn cael ei chreu’n awtomatig o safbwyntiau’r dysgwyr, a fydd yn dangos pa benderfyniadau mae’r grŵp wedi’u gwneud. Bydd y siart yn cael ei diweddaru ar y pryd wrth i’r pleidleisiau gael eu bwrw. Mae j2vote yn gallu rhoi syniad clir i’r athro o ddealltwriaeth y dosbarth, a rhoi cyfle i’r athro weld gyda pha elfennau neu bynciau mae angen help ychwanegol ar y dysgwyr.

Dechrau arni

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen j2vote.
  3. Crëwch arolwg drwy glicio’r tic gwyrdd (ar ochr dde’r dudalen).
  4. Teipiwch gwestiwn yn y blwch eich cwestiwn yma.
  5. Teipiwch eich ateb cyntaf yn y blwch ateb 1. Bydd blwch arall yn ymddangos o dan y blwch cyntaf ar ôl i chi orffen teipio, er mwyn i chi ychwanegu ateb arall. Er mwyn nodi’r ateb cywir, cliciwch y cylch ar y dde i’r ateb hwnnw i’w ddewis. Neu, gallwch ddewis templed gwahanol ar gyfer arolwg drwy glicio templedi (ar y chwith).
  6. Cliciwch y saeth werdd (ar waelod y dudalen) i ychwanegu cwestiynau ychwanegol at eich arolwg.
    1. Bydd angen i chi enwi eich arolwg drwy deipio yn y blwch enw pleidleisio (ar frig y dudalen) cyn y gallwch gadw eich arolwg.
    2. Cliciwch y botwm disg hyblyg gwyrdd (ar frig y dudalen).
    3. Bydd eich arolwg yn ymddangos yn y tab fy mhleidleisiau ar ôl i chi ei gadw.
  • Ar j2webby:

    Nodyn: Bydd gofyn i chi gadw eich gwaith cyn ei gyhoeddi ar j2webby.

    1. Cliciwch y botwm glôb gwyrdd (ar frig y dudalen).
    2. Os hoffech gyhoeddi’r arolwg, cliciwch pleidleisio neu os hoffech gyhoeddi canlyniadau'r arolwg, cliciwch canlyniadau.
    3. Dewiswch a hoffech gyhoeddi’r arolwg ar dudalen j2webby newydd neu ar flog sy’n bodoli’n barod (defnyddiwch y gwymplen).
    4. Cliciwch cyhoeddi.

    Gyda chod QR:

    Bydd eich arolwg yn ymddangos o dan y tab fy mhleidleisiau pan fyddwch chi’n mynd i j2vote.

    1. Daliwch y cyrchwr dros yr arolwg perthnasol a chlicio ar yr eicon gwyrdd. 
    2. Cliciwch cod QR.
    3. Bydd y cod QR yn ymddangos ar y sgrin. Cliciwch yr eicon llwytho i lawr i lwytho’r cod QR hwn i lawr.
    1. Defnyddiwch y cod QR neu’r ddolen sydd wedi’i rhannu yn j2webby i agor yr arolwg.
    2. Atebwch y cwestiwn/cwestiynau.
    3. Teipiwch eich enw.
    4. Cliciwch iawn.
  • Gall athrawon gloi’r pleidleisio pan fyddan nhw am i’r dysgwyr roi’r gorau i ymateb i’r arolwg drwy glicio’r symbol clo clap ar agor yn y gornel dde uchaf. Bydd y symbol yn newid i glo clap ar gau. Er mwyn ei ailagor, cliciwch y symbol eto.

    1. Agor yr arolwg o fy mhleidleisiau.
    2. Cliciwch yr eicon graff gwyrdd (yn y gornel dde uchaf) i weld canlyniadau eich arolwg mewn siart.
    3. Dewiswch un o’r opsiynau yn y gornel dde isaf i newid y math o siart.

Mae j2data yn cynnig set o adnoddau cronfeydd data ar gyfer pob dysgwr – o’r Cyfnod Sylfaen hyd at ysgol uwchradd.

Mae’r offer Pictogramau, Canghennau a Siartiau yn jit ar gael ochr yn ochr â phecyn llawn ac ar-lein i greu cronfeydd data.

Yn yr un modd â j2code, mae’r set yn cynnwys cynlluniau gwersi parod, adnoddau addysgu a chronfeydd data enghreifftiol i chi roi cynnig arnyn nhw.

Mae fideos ‘dechrau arni’ ar gael o brif ddewislen j2data, sy’n dangos holl swyddogaethau j2data.

Dechrau arni

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen j2data.
  • Mae modd i ddysgwyr gael gafael ar unrhyw waith j2data maen nhw wedi’i gwblhau drwy glicio fy nata. Byddan nhw’n gallu dod o hyd i unrhyw waith sydd wedi’i rannu â nhw drwy glicio data a rennir.


Mae j2whiteboard yn cynnig meddalwedd cwmwl ar gyfer eich bwrdd gwyn. Mae’n eich galluogi chi i gyflwyno unrhyw beth ar eich bwrdd gwyn, gan gynnwys ffeiliau, lluniau a chreadigaethau J2e. Mae hefyd yn cyflwyno'r adnoddau i chi wneud nodiadau mewn unrhyw ffordd rydych chi’n dymuno a rhannu eich bwrdd gwyn â’ch dysgwyr.

Dechrau arni

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen j2whiteboard.
  • I ychwanegu cynnwys newydd, defnyddiwch y bar offer ar ochr dde’r dudalen. Bydd hyn yn eich galluogi chi i ysgrifennu ar y dudalen, creu siapiau a dileu (yn debyg i sut byddech chi’n defnyddio Microsoft Paint).

  • Ffeiliau

    1. Cliciwch y botwm llwytho coch (ar y bar offer ar frig y dudalen).
    2. Cliciwch y tab gosod, ar dde eithaf y dudalen.
    3. Cewch yr opsiwn i osod tri math o ffeil:
      • Ffeiliau o’ch ffolder fy ffeiliau: Cliciwch yr eicon ffeil coch
      • Ffeiliau o’ch ffolder ffeiliau wedi’u rhannu: Cliciwch yr eicon pobl glas
      • Ffeiliau o'ch dyfais: Cliciwch yr eicon + Cliciwch dewis ffeil, dewis ffeil o’ch dyfais a chlicio agor.
    4. Llusgwch a gollwng y ffeil rydych wedi’i dewis ar eich tudalen.

    Cyfryngau

    1. Cliciwch y botwm llwytho coch (ar y bar offer ar frig y dudalen).
    2. Cliciwch y tab cyfryngau, ar dde eithaf y dudalen.
    3. Cewch yr opsiwn i osod pedwar math o ffeiliau cyfryngau:
      • Cyfryngau o’ch ffolder fy lluniau a synau: Cliciwch yr eicon person
      • Cyfryngau o’r llyfrgell J2e: Cliciwch yr eicon cabinet glas
      • Cyfryngau o’ch lluniau a rennir: Cliciwch yr eicon pobl glas
      • Cyfryngau o’r we: Cliciwch yr eicon glôb glas
    4. Llusgwch a gollwng y ffeil rydych wedi’i dewis ar eich tudalen.
  • I ychwanegu tudalen, cliciwch yr eicon + yng nghornel dde isaf y dudalen. Gallwch droi tudalennau drwy glicio’r corneli ar waelod pob tudalen.

  • Os hoffech ddatgelu cynnwys eich bwrdd gwyn un ar y tro, gallwch ddefnyddio'r adnodd llen.

    1. Cliciwch yr eicon adnodd llen glas (ar y bar offer ar frig y dudalen).
    2. Bydd eich tudalen yn troi’n llwyd gydag ambell ddot o amgylch y dudalen.
    3. Cliciwch un o’r dotiau a’i lusgo naill ai i lawr, i fyny neu ar draws i ddatgelu eich cynnwys.
    4. I gael gwared ar y llen, cliciwch yr eicon adnodd llen glas eto.
    1. Cliciwch yr eicon disg hyblyg du (ar y bar offer ar frig y dudalen).
    2. Teipiwch enw ffeil a chlicio arbed.

Mae j2office yn becyn prosesu geiriau, taenlenni a chyflwyniadau yn J2e, yn arbennig ar gyfer ysgolion.

Mae apiau j2office i gyd yn gydnaws â fformatau Microsoft Office, felly ar ôl llwytho i fyny gallwch gadw a golygu eich dogfennau yn rhwydd.

Dechrau arni

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen j2office.
    1. Dewiswch y rhaglen rydych chi’n dymuno ei defnyddio. Mae tri opsiwn:
      • Writer – yr adnodd prosesu geiriau
      • Spreadsheet
      • Present – yr adnodd ar gyfer cyflwyniadau
    2. Dechreuwch weithio yn y rhaglen berthnasol. Bydd eich gwaith yn cael ei gadw yn awtomatig yn fy ffeiliau felly does dim angen clicio ‘cadw’ wrth i chi fynd ymlaen.
  • Bydd eich gwaith yn cael ei gadw yn awtomatig yn fy ffeiliau felly does dim angen clicio ‘cadw’ wrth i chi fynd ymlaen.

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen fy ffeiliau.
    3. Llusgwch a gollwng y ffeiliau o’ch dyfais yn y blwch gollyngwch ffeiliau yma (ar ochr chwith y dudalen). Bydd eich ffeiliau’n cael eu cadw yn storfa gwmwl J2e a bydd modd eu hagor a’u golygu yn j2office.
    4. Cliciwch ffeil o fy ffeiliau a bydd yn agor yn j2office.
    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen fy ffeiliau.
    3. Daliwch y cyrchwr dros y ffeil rydych am ei hailenwi, clicio’r eicon i gwyrdd a chlicio ailenwi.
    4. Teipiwch yr enw newydd a chlicio ailenwi.
    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen fy ffeiliau.
    3. Daliwch eich llygoden dros y ffeil rydych am ei rhannu, clicio’r eicon i gwyrdd a chlicio rhannu…
      • Dewiswch rhwng yr opsiwn cyhoeddi (ar y we – mae’r ddolen a’r codau gosod ar gael ar waelod y ffenestr naid), defnyddio cyfrinair i ddiogelu’r ffeil (os byddwch chi’n dewis yr opsiwn hwn, bydd angen i chi deipio cyfrinair yn y blwch cyfrinair) neu’r opsiwn preifat.
      • Cliciwch y saethau yn y maes taflen waith i agor cwymplen lle gallwch chi ddewis a ydych chi am rannu’ch ffeil fel taflen waith i gydweithio arni, neu fel ffeil gweld yn unig.
      • O dan yr adran wedi ei rhannu gyda, gallwch naill ai deipio enw defnyddiwr neu glicio’r saethau i agor cwymplen lle gallwch chi ddewis dosbarth addysgu, grŵp o ddysgwyr neu ddysgwyr unigol. Os hoffech i'r dysgwyr rydych chi’n rhannu â nhw allu golygu’r ffeil, dewiswch y blwch ticio i'r dde wrth ymyl eu henw defnyddiwr.
      • Rhannwch eich ffolder drwy ddefnyddio’r opsiynau dolen, gosod, llun bach neu e-bost.

    Mae ffeiliau sydd wedi’u rhannu i’w gweld yn y ffolder ffeiliau wedi’u rhannu yn j2launch.

    Cyn i ddysgwyr allu rhannu ffeiliau, mae angen rhoi’r opsiwn ar waith ar gyfer yr ysgol yn y deilsen j2dashboard:

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen j2dashboard.
    3. O dan sefydlu, fe welwch chi’r opsiwn caniatáu i ddisgyblion rannu ffeiliau. Dewiswch yr opsiwn hwn.

    Yna gall dysgwyr rannu’r ffeiliau yn yr un modd ag athrawon:

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen fy ffeiliau.
    3. Daliwch eich llygoden dros y ffeil rydych am ei rhannu, clicio’r eicon i gwyrdd a chlicio rhannu….
      • Dewiswch rhwng yr opsiwn cyhoeddi (ar y we – mae’r ddolen a’r codau gosod ar gael ar waelod y ffenestr naid), defnyddio cyfrinair i ddiogelu’r ffeil (os byddwch chi’n dewis yr opsiwn hwn, bydd angen i chi deipio cyfrinair yn y blwch cyfrinair) neu’r opsiwn preifat.
      • Cliciwch y saethau yn y maes taflen waith i agor cwymplen lle gallwch chi ddewis a ydych chi am rannu’ch ffeil fel taflen waith i gydweithio arni, neu fel ffeil gweld yn unig.
      • O dan yr adran wedi ei rhannu gyda, gallwch naill ai deipio enw defnyddiwr neu glicio’r saethau i agor cwymplen lle gallwch chi ddewis dosbarth addysgu, grŵp o ddysgwyr neu ddysgwyr unigol. Os hoffech i'r dysgwyr rydych chi’n rhannu â nhw allu golygu’r ffeil, cliciwch y blwch ticio i'r dde wrth ymyl eu henw defnyddiwr.
      • Rhannwch eich ffolder drwy ddefnyddio’r opsiynau dolen, gosod, llun bach neu e-bost.

    Mae ffeiliau sydd wedi’u rhannu i’w gweld yn y ffolder ffeiliau wedi’u rhannu yn j2launch.


Mae j2blast yn becyn dysgu drwy ddefnyddio gemau yn J2e. Mae’n canolbwyntio ar sillafu, lluosi a rhannu.

Mae Tt blast yn annog dysgwyr i ymarfer mathemateg wrth wneud yr hyn maen nhw’n ei wneud yn naturiol; chwarae a chystadlu yn erbyn ei gilydd. Wrth iddyn nhw symud ymlaen drwy’r lefelau, mae’r cwestiynau’n addasu yn ôl gallu'r dysgwyr, felly fyddan nhw fyth yn credu bod y cwestiynau’n rhy hawdd neu’n rhy anodd.

Gall defnyddwyr ddewis ymarfer neu gymryd rhan mewn gêm fyw. Os na fydd unrhyw chwaraewyr byw yn aros am gêm, bydd robotiaid yn ymuno, felly mae bob amser yn ymddangos fel pe bai mwy nag un chwaraewr. Mae’r bwrdd sgorio yn dangos eich safle yn y dosbarth, yn yr ysgol ac yn y byd.

Gall athrawon weld gwybodaeth fanwl am gyraeddiadau eu dysgwyr yn ogystal â pha nodweddion yr oedden nhw’n eu cael yn anodd.

Wrth i’r defnyddwyr wneud cynnydd, byddan nhw’n ennill pwyntiau sy’n datgloi cymeriadau ‘estron’ newydd. Mae hyn yn golygu bod dysgu’n hwyl ac mae’n rhoi mwy o gymhelliant iddyn nhw.

Dechrau arni

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen j2blast.
    1. Cliciwch y deilsen SpellBlaster.
    2. Cliciwch y botwm cwilsen i ddewis eich cymeriad. Gallwch ddefnyddio'r saethau i sgrolio drwy’r opsiynau. Pan fyddwch yn dal y cyrchwr dros un o’r cymeriadau, bydd dewisiadau lliw yn ymddangos. Cliciwch y cymeriad o’ch dewis a chlicio creu.

    Adnoddau i athrawon

    1. Cliciwch y botwm abc.
    2. Cliciwch +.
    3. Rhowch enw i’ch rhestr drwy deipio yn y maes enw.
    4. Teipiwch eich geiriau yn y blwch ychwanegwch eiriau, gan roi pob un ar linell ar wahân, a chlicio iawn.
    5. Bydd gennych dri opsiwn ar gyfer rhoi cyd-destun i’ch dysgwyr ar gyfer pob un o’ch geiriau:
      • Defnyddiwch y cyd-destun sydd wedi’i greu a’r testun-i-lais sydd wedi’i greu
      • Newidiwch y cyd-destun sydd wedi’i greu drwy deipio drosto ond cadwch y testun-i-lais sydd wedi’i greu (gwrandewch ar rywun yn dweud eich cyd-destun newydd drwy glicio’r botwm seinydd pinc)
      • Recordiwch eich sain eich hun

    Ar ôl i chi ddewis cyd-destun a sain, cliciwch iawn.

    1. Gallwch rannu’r rhestr geiriau drwy glicio’r eicon person yng nghornel dde uchaf eich rhestr. Teipiwch enw defnyddiwr neu defnyddiwch y gwymplen i ddewis dosbarth a chlicio ychwanegu.
    2. Gallwch olygu’r rhestr geiriau drwy glicio’r eicon cwilsen yng nghornel dde uchaf eich rhestr.

    1. Cliciwch y botwm graff.
    2. Bydd trosolwg o ganlyniadau eich dosbarth ar gyfer y mis yn ymddangos. Defnyddiwch y gwymplen neu’r saethau i weld canlyniadau misoedd blaenorol.
    3. I weld canlyniadau defnyddiwr penodol yn eich dosbarth, cliciwch y gwymplen dewiswch ddefnyddiwr a dewis defnyddiwr. Bydd y geiriau sydd wedi cael eu camsillafu yn ymddangos ar ochr dde’r dudalen gyda’r geiriau sy’n cael eu camsillafu amlaf i’w gweld mewn ffont mwy.

    _________

    Mynd i ymarfer

    Nodyn: Trowch sain eich dyfais ymlaen cyn i chi ddechrau.

    1. I ymarfer sillafu cliciwch mynd i ymarfer.
    2. Defnyddiwch y bar sgrolio i ddewis y lefel ofynnol. Cliciwch y lefel rydych yn ei dewis.
    3. Pan fyddwch yn clywed rhywun yn dweud y geiriau, teipiwch nhw yn y blwch naill ai gan ddefnyddio eich bysellfwrdd neu’r botymau llythrennau ar y dudalen. Bob tro y byddwch yn cael ateb cywir, bydd eich rhithffurf yn symud gam yn nes at y trysor ar y llwybr ar waelod y dudalen sy’n dangos cynnydd.
    4. Ar ôl i chi ateb deg cwestiwn ymarfer, bydd eich sgôr yn ymddangos ar y sgrin gyda throsolwg o'r cwestiynau y gwnaethoch eu hateb yn gywir ac yn anghywir. Yna cliciwch bwrw ymlaen.
    5. I roi cynnig arall ar yr un prawf, cliciwch chwarae eto neu i symud ymlaen, cliciwch bwrw ymlaen.

    Gwneud y prawf

    Nodyn: Trowch sain eich dyfais ymlaen cyn i chi ddechrau.

    1. Cliciwch gwneud y prawf i chwarae yn erbyn chwaraewyr eraill.
    2. Bydd y gêm yn chwilio am chwaraewyr eraill i chi gystadlu yn eu herbyn. Os na fydd digon o chwaraewyr ar gael, bydd y gêm yn ychwanegu robotiaid i chi gystadlu yn eu herbyn.
    3. Bydd cloc yn cyfrif yn ôl cyn i'r gêm ddechrau.
    4. Ar ddiwedd y gêm, bydd eich sgôr yn ymddangos ar y tabl canlyniadau ar gyfer y gêm honno isod. Yna cliciwch bwrw ymlaen.
    1. Cliciwch y deilsen tt blast.
    2. Cliciwch y botwm cwilsen i ddewis eich cymeriad. Cliciwch ar y cymeriad o’ch dewis a chlicio creu.

    Adnoddau i athrawon

    Adborth:

    1. Cliciwch y botwm graff.
    2. Bydd trosolwg yn dangos canlyniadau eich dosbarth ar gyfer y mis hwnnw. Cliciwch y gwymplen dewiswch ddosbarth i ddewis dosbarth gwahanol.
    3. I weld canlyniadau defnyddiwr penodol yn eich dosbarth, cliciwch y gwymplen dewiswch ddefnyddiwr a dewis defnyddiwr.

    Mynd i ymarfer

    1. I ymarfer cliciwch mynd i ymarfer.
    2. Defnyddiwch y bar sgrolio i ddewis lefel a chlicio bwrw ymlaen.
    3. Naill ai defnyddiwch eich bysellfwrdd i deipio’r ateb a phwyso enter i gyflwyno'r ateb neu defnyddiwch y botymau rhif ar y dudalen. Bob tro y byddwch yn cael ateb cywir, bydd y roced yn symud o amgylch y planedau ar y llwybr ar waelod y dudalen i ddangos cynnydd.
    4. Ar ôl i chi ateb deg cwestiwn ymarfer, bydd eich sgôr yn ymddangos ar y sgrin gyda throsolwg o'r cwestiynau y gwnaethoch eu hateb yn gywir ac yn anghywir. Yna cliciwch bwrw ymlaen.
    5. I roi cynnig arall ar yr un prawf, cliciwch chwarae eto neu i symud ymlaen, cliciwch bwrw ymlaen.

    Chwarae’n fyw

    1. Cliciwch chwarae’n fyw i chwarae yn erbyn chwaraewyr eraill.
    2. Bydd y gêm yn chwilio am chwaraewyr eraill i chi gystadlu yn eu herbyn. Os na fydd digon o chwaraewyr ar gael, bydd y gêm yn ychwanegu robotiaid i chi gystadlu yn eu herbyn.
    3. Bydd cloc yn cyfrif yn ôl cyn i'r gêm ddechrau.
    4. Ar ddiwedd y gêm, bydd eich sgôr yn ymddangos ar y tabl canlyniadau ar gyfer y gêm honno isod. Yna cliciwch bwrw ymlaen.

Set o gymhorthion addysgu yw j2write, i’ch helpu chi pan fyddwch chi’n defnyddio’r adnoddau llythrennedd yn J2e, fel jit, j2e5, j2spotlight, j2bloggy a j2webby.

Mae cynlluniau dysgu gyda syniadau manwl ynghylch sut gallwch chi ddefnyddio’r adnoddau ym mlynyddoedd 1 i 6 yn ogystal â dolenni at adnoddau llythrennedd am ddim sy’n cynnwys rhagor o syniadau ar gyfer gwersi. Mae modd cael gafael ar y rhain drwy glicio'r deilsen adnoddau. Mae set o fideos dechrau arni ar gael hefyd. 

Gallwch weld rhestr o’r ysgolion sydd wedi blogio yn J2e yn ystod y 7 diwrnod diwethaf drwy glicio top schools (ar frig y dudalen). Bydd hyn yn dangos rhestr o'r 10 prif ysgol yn ogystal â map o bob ysgol yn y sir sydd wedi bod wrthi’n blogio. Er mwyn gweld beth mae’r ysgolion wedi bod yn blogio yn ei gylch, cliciwch enw’r ysgol, a byddwch yn mynd i wefan j2webby yr ysgol honno.


Mae j2measure yn gweithio’n debyg i j2e5 o ran ychwanegu testun a delweddau ar ‘bapur digidol’. Ond mae hefyd yn rhoi tri offeryn mesur i chi hefyd:

  • Pren Mesur
  • Onglydd
  • Cwmpawd

Dechrau arni

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen j2measure.
  3. Defnyddiwch un o'r offer siâp (ar ochr dde eich tudalen) i greu siâp, ee cliciwch ychwanegu petryal a defnyddio eich llygoden i glicio ar y dudalen a llusgo eich petryal i'r maint priodol.
  4. Cliciwch yr eicon offer mesur piws ar y bar offer ar y brig a dewis naill ai pren mesur, onglydd neu gwmpawd.
    • Bydd y pren mesur yn ymddangos ar y dudalen a gallwch ei lusgo a’i ollwng lle bynnag rydych chi’n dymuno. Hefyd, gallwch ei gylchdroi drwy glicio’r saethau crwn yng nghanol y pren mesur a symud eich llygoden.
    • Bydd yr onglydd yn ymddangos ar y dudalen a bydd modd ei lusgo a’i ollwng lle bynnag rydych chi’n dymuno. Hefyd, gallwch ei gylchdroi drwy glicio’r saethau crwn yng nghanol yr onglydd a symud eich llygoden.
    • Bydd y cwmpawd yn ymddangos ar y dudalen a gallwch ddefnyddio’r saethau ar un o’r coesau llwyd i’w osod yn y lle iawn. Er mwyn cylchdroi eich cwmpawd, cliciwch y cylch du ar waelod un o'r coesau llwyd a symud eich llygoden i greu siâp cylch.
  5. Yna gallwch ddefnyddio'r testun i deipio eich mesuriadau wrth ymyl eich siâp drwy glicio ar y lleoliad a theipio.
    • I newid arddull y testun neu’r ffont ar ôl i chi deipio, amlygwch y testun a defnyddiwch yr opsiynau ar yr ochr dde. Hefyd, gallwch gylchdroi’r testun gan ddefnyddio'r saethau llusgo er mwyn cylchdroi sy’n ymddangos pan fyddwch chi’n amlygu’r testun.
  • Cliciwch yr eicon disg hyblyg coch (ar frig y bar offer) i gadw eich gwaith.

  • Bydd gofyn i chi gadw eich gwaith cyn ei gyhoeddi ar j2webby.

    1. Cliciwch yr eicon glôb j2webby coch (ar y bar offer ar y brig).
    2. Rhowch deitl i’ch gwaith a dewis a hoffech iddo ymddangos ar dudalen newydd neu fel rhan o flog presennol a chlicio cyhoeddi i j2webby.
    3. Bydd y gwaith yn ymddangos yn y ffolder cymedroli er mwyn i’r athro gymeradwyo’r gwaith cyn ei gyhoeddi ar j2webby.

Mae j2dashboard yn adnodd rheoli yn J2e, lle gallwch reoli gosodiadau, defnyddwyr a dosbarthiadau.

  • Logo’r ysgol

    I ychwanegu logo eich ysgol at J2e:

    1. Cliciwch y blwch â’r saeth wrth ymyl logo’r ysgol.
    2. Dewiswch ffeil o’ch dyfais a chlicio agor.
    3. Bydd eich logo yn ymddangos ar ochr dde’r blwch llwytho i fyny. Cliciwch y symbol bin os hoffech ei ddileu a dechrau eto.

    Caniatâd dysgwyr

    Os hoffech ganiatáu i ddysgwyr sgwrsio wrth gydweithio yn j2e5, ticiwch y blwch wrth ymyl caniatáu sgwrsio wrth gydweithio o fewn j2e5.

    Os hoffech ganiatáu i’ch dysgwyr rannu ffeiliau, ticiwch y blwch wrth ymyl caniatáu i ddisgyblion rannu ffeiliau.

    Ychwanegu parth personol ar gyfer j2bloggy

    Er mwyn defnyddio eich parth eich hun ar gyfer j2bloggy, teipiwch enw eich parth yn y blwch o dan defnyddio eich parth eich hun ar gyfer j2bloggy. Yna bydd angen i chi ddiweddaru eich gosodiadau DNS fel y rhai sydd i’w gweld isod.

    Newid gwybodaeth eich ysgol

    Gallwch newid enw a manylion cyswllt eich ysgol drwy olygu'r meysydd hyn.

  • Rydym yn argymell eich bod chi’n creu eich dosbarthiadau cyn rheoli defnyddwyr.

      1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
      2. Cliciwch y deilsen j2dashboard.
      3. Cliciwch y tab dosbarthiadau (ar hyd y top).
      4. Cliciwch + (o dan rheoli dosbarthiadau).
      5. Dewiswch naill ai dosbarth cofrestru neu dosbarth addysgu, teipio enw dosbarth a chlicio iawn.
      6. Ar ôl gwneud hyn, bydd eich dosbarth yn ymddangos yn y rhestr o ddosbarthiadau.
  • Gallwch ddefnyddio'r adnodd rheoli defnyddwyr i ychwanegu dysgwyr at eich dosbarth:

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen j2dashboard.
    3. Cliciwch y tab rheoli defnyddwyr (ar hyd y top).
    4. Chwiliwch am ddefnyddiwr.
    5. Cliciwch y gwymplen wrth ochr ei enw o dan dosbarth a dewis y dosbarth perthnasol.
  • Gallwch ddefnyddio'r tab j2launch yn eich j2dashboard i guddio unrhyw offer y byddai’n well gennych i ddosbarthiadau penodol beidio â’u gweld. Mae hyn yn ddefnyddiol os byddai’n well gennych chi gyflwyno un offeryn ar y tro.

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen j2dashboard.
    3. Cliciwch y tab j2launch (ar hyd y top).
    4. Cliciwch y deilsen yr hoffech ei chuddio.
    5. O dan y deilsen rheoli disgyblion, dad-ddewiswch y dosbarth yr hoffech guddio'r deilsen rhagddo.

Adnodd creu gwefannau yn J2e yw j2bloggy, a gall ysgolion ei ddefnyddio i greu gwefannau cyhoeddus ar system Wordpress.

Mae canllaw llawn ar ddefnyddio j2bloggy i greu gwefan gyhoeddus ar gael ar Hwb. Mae Rhwydwaith Hwb ar gael hefyd, sy’n cynnwys canllawiau fideo i gynnig cymorth pellach.

Os hoffech chi ddefnyddio eich enw parth eich hun ar gyfer eich gwefan j2bloggy, bydd angen i chi ddiweddaru’r gosodiadau yn j2dashboard:

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen j2dashboard.
  3. O dan defnyddio eich parth eich hun ar gyfer j2bloggy, teipiwch eich enw parth.
  4. Yna bydd angen i chi ddiweddaru eich gosodiadau DNS â’r rhai sydd i’w gweld ar y dudalen.

Gyda j2webby, mae’n rhwydd rhannu â gweddill y byd y gwaith mae dysgwyr wedi’i wneud ar unrhyw un o adnoddau J2e, drwy ddefnyddio gwefan sydd ar gael drwy WordPress.

Yn syml iawn, bydd dysgwyr (neu athrawon) yn clicio eicon j2webby mewn unrhyw adnodd, a bydd eu gwaith yn cael ei anfon i safle j2webby yr ysgol.

Fydd y gwaith ddim yn cael ei gyhoeddi nes bydd aelod o’r staff wedi’i gymeradwyo, gan ddefnyddio’r deilsen cymedroli. Pan fydd y gwaith wedi cael ei gymeradwyo a’i gyhoeddi, bydd yn bosib ei rannu ag unrhyw un yn y byd.

Mae’r ddolen isod yn egluro sut mae defnyddio j2webby i greu blog:

http://www.j2e.com/blogcentral/Admin/Technical+Guides/ 

  • Bydd unrhyw waith y bydd dysgwr yn ceisio ei rannu â defnyddiwr arall, neu’n dymuno iddo ymddangos ar wefan j2webby yr ysgol, yn cael ei anfon yn awtomatig at ei athro i gael ei gymedroli a’i gymeradwyo.

    Gall athrawon fonitro a chymeradwyo gwaith drwy glicio’r deilsen cymedroli yn j2launch a dewis er mwyn cymedroli o’r opsiynau ar ochr chwith y dudalen.

  • Fel mater o drefn, bydd angen i chi fod wedi mewngofnodi i J2e er mwyn gwneud sylw ar unrhyw waith yn j2webby; does dim modd i ymwelwyr wneud sylwadau. Ond, gall staff newid y swyddogaeth i ganiatáu ymwelwyr i wneud sylwadau ar ddangosfwrdd j2webby:

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen j2webby.
    3. Daliwch eich cyrchwr dros enw eich ysgol ar y bar du ar frig y dudalen a chlicio Dashboard.
    4. Cliciwch Settings (ar ochr chwith y dudalen).
    5. Wrth ymyl Open Comments, ticiwch y blwch wrth ymyl allow comments on posts when a user is not signed in a chlicio Save Changes.

    Bydd staff yn cymedroli unrhyw sylwadau a wneir yn j2webby cyn y byddan nhw’n cael eu cyhoeddi.


    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen fy ffeiliau.
    3. Daliwch y llygoden dros y ffeil rydych am ei rhannu, clicio’r eicon i gwyrdd a chlicio rhannu….
      • Dewiswch rhwng yr opsiwn cyhoeddi (ar y we – mae’r ddolen a’r codau gosod ar gael ar waelod y ffenestr naid), defnyddio cyfrinair i ddiogelu’r ffeil (os byddwch chi’n dewis yr opsiwn hwn, bydd angen i chi deipio cyfrinair yn y blwch cyfrinair) neu’r opsiwn preifat.
      • Cliciwch y saethau yn y maes taflen waith i agor cwymplen lle gallwch chi ddewis a ydych chi am rannu’ch ffeil fel taflen waith neu fel dogfen cydweithrediadol.
      • O dan yr adran wedi ei rhannu gyda, gallwch naill ai deipio enw defnyddiwr neu glicio’r saethau i agor cwymplen lle gallwch chi ddewis dosbarth addysgu, grŵp o ddysgwyr neu ddysgwyr unigol.
      • Rhannwch eich ffolder drwy ddefnyddio’r opsiynau dolen, gosod, llun bach neu e-bost.

    Mae ffeiliau sydd wedi’u rhannu i’w gweld yn y ffolder ffeiliau wedi’u rhannu yn j2launch.

    Mae hefyd yn bosib rhannu ffeiliau j2e5 yn j2e5:

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen j2e5.
    3. Gorffennwch eich gwaith.
    4. Cadwch eich gwaith drwy ddefnyddio’r eicon arbed coch yn y bar dewislen ar y brig.
    5. Cliciwch yr eicon rhannu piws yn y bar dewislen ar y brig i weld yr opsiynau rhannu sy’n cael eu disgrifio uchod.

    Cyn i ddysgwyr allu rhannu ffeiliau, mae angen rhoi’r opsiwn ar waith ar gyfer yr ysgol yn j2dashboard:

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen j2dashboard.
    3. O dan sefydlu, fe welwch chi’r opsiwn caniatáu i ddisgyblion rannu ffeiliau. Dewiswch yr opsiwn hwn.

    Ar ôl gwneud hyn, gall dysgwyr rannu ffeiliau yn yr un modd ag athrawon:

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen fy ffeiliau.
    3. Daliwch eich llygoden dros y ffeil rydych am ei rhannu, clicio’r eicon i gwyrdd a chlicio rhannu….
      • Dewiswch rhwng yr opsiwn cyhoeddi (ar y we – mae’r ddolen a’r codau gosod ar gael ar waelod y ffenestr naid), defnyddio cyfrinair i ddiogelu’r ffeil (os byddwch chi’n dewis yr opsiwn hwn, bydd angen i chi deipio cyfrinair yn y blwch cyfrinair) neu’r opsiwn preifat.
      • Cliciwch y saethau yn y maes taflen waith i agor cwymplen lle gallwch chi ddewis a ydych chi am rannu’ch ffeil fel taflen waith neu dogfen cydweithrediadol.
      • O dan yr adran wedi ei rhannu gyda, gallwch naill ai deipio enw defnyddiwr neu glicio’r saethau i agor cwymplen lle gallwch chi ddewis dosbarth addysgu, grŵp o ddysgwyr neu ddysgwyr unigol.
      • Rhannwch eich ffolder drwy ddefnyddio’r opsiynau dolen, gosod, llun bach neu e-bost.

    Mae ffeiliau sydd wedi’u rhannu i’w gweld yn y ffolder ffeiliau wedi’u rhannu yn j2launch.

    Mae hefyd yn bosib rhannu ffeiliau j2e5 yn j2e5:

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen j2e5.
    3. Gorffennwch eich gwaith.
    4. Cadwch eich gwaith drwy ddefnyddio’r eicon arbed coch yn y bar dewislen ar y brig.
    5. Cliciwch yr eicon rhannu piws yn y bar dewislen ar y brig i weld yr opsiynau rhannu sy’n cael eu disgrifio uchod.
  • Mae nifer o opsiynau ar gael wrth osod gwaith cartref yn J2e:

    Dylech greu’r daflen waith fel ffeil j2e5 (mae’n bosib copïo a gludo os yw’n bodoli’n barod mewn fformat arall), cadw’r ffeil a’i rhannu â’ch dosbarth.

    Bydd defnyddwyr yn dod o hyd i’r daflen waith yn eu ffolder ffeiliau wedi’u rhannu. Bydd yn rhaid iddyn nhw agor y daflen waith a chlicio’r botwm arbed i wneud copi o'r daflen waith yn eu ffolder fy ffeiliau. Ar ôl gwneud hynny, byddan nhw’n gallu ychwanegu eu hatebion a chadw’r ffeil, a fydd i’w gweld yn y ffolder tudalennau’r disgyblion.

    Mae modd ychwanegu sylwadau’n uniongyrchol at y ffeil, neu roi sylwadau gan ddefnyddio’r adnodd sgwrs dysgu:

    1. Yn y ffolder tudalennau’r disgyblion, byddwch chi’n gweld ffolder ar gyfer pob un o’ch dysgwyr. Cliciwch y ffolder berthnasol a bydd rhestr o’u gwaith yn ymddangos.
    2. Daliwch y cyrchwr dros ddarn o waith (yn y 4edd golofn) a bydd swigen siarad yn ymddangos.
    3. Cliciwch y swigen siarad ac fe allwch chi deipio adborth i’r dysgwr am ei waith. Gallwch hefyd ychwanegu nodiadau ar lafar, lluniau ac atodiadau gan ddefnyddio’r symbolau i’r dde o’r blwch testun.

    Drwy newid taflen waith i’r opsiwn dogfen cydweithrediadol yn y ddewislen rhannu, mae’n bosib i grŵp o ddysgwyr gydweithio ar ddogfen, yn hytrach na chreu eu copi eu hunain.

  • Mae’n bosib cydweithio ar un ffeil j2e5, ond nid ar ffeiliau sydd wedi’u creu mewn unrhyw un o adnoddau eraill J2e:

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen j2e5.
    3. Cadwch eich gwaith drwy ddefnyddio’r eicon arbed coch yn y bar dewislen ar y brig.
    4. Cliciwch yr eicon rhannu piws yn y bar dewislen ar y brig i weld yr opsiynau rhannu.
      • Dewiswch rhwng yr opsiwn cyhoeddi (ar y we – mae’r ddolen a’r codau gosod ar gael ar waelod y ffenestr naid), defnyddio cyfrinair i ddiogelu’r ffeil (os byddwch chi’n dewis yr opsiwn hwn, bydd angen i chi deipio cyfrinair yn y blwch cyfrinair) neu’r opsiwn preifat.
      • Cliciwch y saethau yn y maes taflen waith i agor cwymplen, a dewis yr opsiwn dogfen cydweithrediadol.
      • O dan yr adran wedi ei rhannu gyda, gallwch naill ai deipio enw defnyddiwr neu glicio’r saethau i agor cwymplen lle gallwch chi ddewis dosbarth addysgu, grŵp o ddysgwyr neu ddysgwyr unigol.
      • Rhannwch eich ffolder drwy ddefnyddio’r opsiynau dolen, gosod, llun bach neu e-bost.

    Bydd defnyddwyr eraill yn gallu dod o hyd i’r ffeil yn eu ffolder ffeiliau wedi’u rhannu.

  • Mae’n bosib cyhoeddi ffeil er mwyn i unrhyw un y tu allan i’r ysgol allu ei gweld:

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen fy ffeiliau.
    3. Daliwch y cyrchwr dros y ffeil rydych am ei rhannu, clicio’r eicon i gwyrdd a chlicio rhannu.
    4. Yn rhes uchaf y ffenestr naid, dewiswch yr opsiwn cyhoeddi neu’r opsiwn cyfrinair (os byddwch chi’n dewis cyfrinair, bydd angen i chi roi cyfrinair yn y blwch cyfrinair.
    5. Ar waelod y ffenestr naid, fe welwch chi ddolen y gallwch chi ei chopïo a’i rhoi i ddefnyddwyr allanol er mwyn iddyn nhw weld y ffeil.

    Neu, yng ngham 3 gallwch ddewis cod QR yn hytrach na rhannu i weld dolen cod QR ar gyfer eich ffeil.

    Pan fydd dysgwyr yn rhannu eu ffeiliau fel hyn, bydd y ffeiliau’n cael eu dal yn ôl i’w cymedroli gan athro yn y ffolder cymedroli cyn y bydd modd eu gweld.

    Rhaid i chi gyhoeddi’r ffeil er mwyn i’ch codau QR weithio:

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen fy ffeiliau.
    3. Daliwch y cyrchwr dros y ffeil berthnasol a chlicio’r eicon i.
    4. Cliciwch rhannu, a gwneud yn siŵr eich bod wedi dewis naill ai cyhoeddi neu cyfrinair.
  • Gyda j2webby, mae’n rhwydd rhannu â gweddill y byd y gwaith mae dysgwyr wedi’i wneud ar unrhyw un o adnoddau J2e, drwy ddefnyddio gwefan sydd ar gael drwy WordPress.

    Yn syml iawn, bydd dysgwyr (neu athrawon) yn clicio eicon j2webby (llun glas a gwyrdd o’r byd, neu’r botwm cyhoeddi) mewn unrhyw adnodd J2e, a bydd eu gwaith yn cael ei anfon i safle j2webby yr ysgol.

    Fydd y gwaith ddim yn cael ei gyhoeddi nes bydd aelod o’r staff wedi’i gymeradwyo, yn y deilsen cymedroli.

    Pan fydd y gwaith wedi cael ei gymeradwyo a’i gyhoeddi, bydd yn bosib ei rannu ag unrhyw un yn y byd. Gall ymwelwyr wneud sylwadau, ond unwaith eto, bydd staff yn cymedroli’r rhain cyn eu cyhoeddi.


    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen tudalennau’r disgyblion.
    3. Chwiliwch am y darn o waith rydych chi am roi adborth arno, dal y cyrchwr dros y gwaith a chlicio’r swigen siarad.
    4. Gallwch deipio neges, a bydd gennych chi’r opsiwn i roi teitl i’r gwaith (yn y blwch teitl) a rhoi gradd i’r gwaith (yn y blwch gradd).
    5. Cliciwch X (yng nghornel dde uchaf y ffenestr naid), a bydd yr adborth yn cael ei gadw’n awtomatig.

    Bydd y dysgwr yn gwybod os bydd sylw oherwydd bydd swigen siarad yn ymddangos dros y ffeil yn ei ffolder fy ffeiliau, a fydd yn cynnwys y nifer o sylwadau.

    Gall y dysgwr ateb yr athro yn yr un ffordd.

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen tudalennau’r disgyblion.
    3. Chwiliwch am y darn o waith rydych chi am ei farcio, dal y cyrchwr dros y gwaith a chlicio’r eicon i gwyrdd.
    4. Cliciwch ychwanegu cynnydd. Bydd hyn yn agor y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd.
    5. Dewiswch yr elfennau o’r Fframwaith rydych chi’n rhoi sylw iddyn nhw, y datganiadau grŵp blwyddyn rydych am eu defnyddio, a chlicio’r blwch gwyrdd wrth ymyl y datganiad sy’n berthnasol i’r gwaith.
    6. Cliciwch X (yn y gornel dde uchaf), a bydd yr adborth yn cael ei gadw’n awtomatig.
  • Mae j2review yn faes lle gall athrawon fwrw golwg dros waith dysgwyr ac asesu eu cynnydd.

    Mynediad at j2review:

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen j2review. Hefyd gallwch gael mynediad at j2review drwy glicio’r deilsen fy ffeiliau a dewis j2review o’r dewisiadau ar ochr chwith y dudalen.

    Ychwanegu cynnydd:

    1. Cliciwch y gell berthnasol o dan y golofn cynnydd.
    2. Dewiswch fframwaith o’r gwymplen o opsiynau ar frig y dudalen.
    3. Dewiswch y blwch o dan y golofn bodloni os yw’r un o’r sgiliau’n cael eu cyflawni.
    4. Cliciwch yr X du (yn y gornel dde uchaf) i ddychwelyd i'r trosolwg.

    Argraffu trosolwg o gynnydd eich dosbarth:

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen j2review.
    3. Dewiswch yr eitemau rydych am eu cynnwys yn y trosolwg drwy glicio’r blwch ticio gwyn yng ngholofn gyntaf y rhestr.
    4. Ar ôl dewis pob eitem, cliciwch yr eicon llwytho i lawr (cwmwl oren â saeth wen uwchben y rhestr o ddarnau gwaith). Bydd hyn yn llwytho cynnydd y dysgwr neu’r dosbarth i lawr i ffeil CSV.
  • Bydd unrhyw waith y mae’r dysgwyr wedi’i gyhoeddi yn mynd i ffolder cymedroli yr athrawon, lle gallan nhw wirio’r gwaith cyn ei gyhoeddi.

    Mynediad at y ffolder cymedroli:

    1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
    2. Cliciwch y deilsen cymedroli. Hefyd gallwch gael mynediad at y ffolder cymedroli drwy glicio ar y deilsen fy ffeiliau a dewis er mwyn cymedroli o’r dewisiadau ar ochr chwith y dudalen.

    Cyhoeddi gwaith dysgwr:

    1. Cliciwch y gair dolen (o dan Cymedroli). Bydd hwn yn rhestru’r holl waith sy’n aros i gael ei gyhoeddi.
    2. Daliwch y cyrchwr dros ddarn o waith a chlicio’r botwm rhagolwg i wirio’r gwaith.
    3. Pan fyddwch chi’n hapus â’r gwaith, cliciwch cyhoeddi.

Saesneg yw'r iaith ddiofyn ar gyfer yr ap Just2Easy, ond gallwch chi newid hyn i'r Gymraeg trwy ddilyn y camau canlynol:

  1. Mewngofnodi i Hwb ac ewch i Just2Easy.
  2. Cliciwch ar eich proffil yn y gornel dde uchaf> Cliciwch Fy Ngosodiadau.
  3. O dan Iaith, dewiswch Cymraeg > Cliciwch y groes yn y gornel dde uchaf i gau'r pop-up.
  4. Yna bydd yr ap yn adnewyddu a byddwch yn cael y rhyngwyneb yn Gymraeg.

Adnodd creu gwefannau yn J2e yw j2bloggy, a gall ysgolion ei ddefnyddio i greu gwefannau cyhoeddus ar system Wordpress.

Mae canllaw llawn ar ddefnyddio j2bloggy i greu gwefan gyhoeddus ar gael ar Hwb. Mae Rhwydwaith Hwb ar gael hefyd, sy’n cynnwys canllawiau fideo i gynnig cymorth pellach.

Os hoffech chi ddefnyddio eich enw parth eich hun ar gyfer eich gwefan j2bloggy, bydd angen i chi ddiweddaru’r gosodiadau yn j2dashboard:

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i Just2easy.
  2. Cliciwch y deilsen j2dashboard.
  3. O dan defnyddio eich parth eich hun ar gyfer J2bloggy, teipiwch eich enw parth.
  4. Yna bydd angen i chi ddiweddaru eich gosodiadau DNS â’r rhai sydd i’w gweld ar y dudalen.

I gael rhagor o gymorth, cysylltwch â Desg Gymorth Hwb: Hwb@llyw.cymru | 03000 25 25 25.