English

Mae gan ddysgwyr hawl i gael yr iechyd gorau posibl a chael eu hamddiffyn rhag niwed. Hefyd, mae lles da yn hanfodol i gynnydd a chyflawniad dysgwyr. Mae angen i ddysgwyr brofi lles corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol er mwyn ffynnu a chymryd rhan yn llwyddiannus yn eu haddysg, mewn cymdeithas ac yn y cyfleoedd y bydd bywyd yn eu cynnig.

Bydd lefelau da o les yn grymuso dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu bywydau eu hunain ac i gael dylanwad cadarnhaol ar fywydau pobl eraill. Mae ysgol deg a chynhwysol yn ystyried yr heriau unigryw sy'n wynebu dysgwyr unigol ac yn ymateb iddynt, gan eu galluogi i wneud cynnydd da.

Mae'r ysgol yn rhoi'r un gwerth ar bob aelod o'i chymuned ac yn helpu pob un ohonynt i gyflawni lefelau uchel o les corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac emosiynol. Mae'n rhoi cymorth o safon uchel i ddysgwyr ag anghenion ychwanegol ac yn lliniaru effaith anfantais gymdeithasol yn llwyddiannus.

Mae'r ysgol yn hyrwyddo ac yn dathlu amrywiaeth yn gadarnhaol o fewn ei chymuned a thu hwnt. Lles y dysgwyr sydd wrth wraidd profiadau addysgu a dysgu bob amser. Mae pob aelod o'r staff yn dangos ymrwymiad i les y dysgwyr drwy fodelu ymddygiad a chydberthnasau cadarnhaol.

Mae'r ysgol yn sicrhau bod y dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth gadarn o ffactorau sy'n effeithio ar eu lles eu hunain ac er lles pobl eraill. Mae'n helpu'r dysgwyr i wneud dewisiadau a penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch materion sy'n effeithio arnyn nhw ac ar bobl eraill.

Mae partneriaethau â'r rhieni ac asiantaethau eraill yn cael effaith gadarnhaol ar brofiad y dysgwyr yn yr ysgol ac ar eu lles. Mae'r ysgol yn galluogi pob dysgwr i feithrin agweddau cadarnhaol at ddysgu a gwneud y cynnydd gorau posibl.

Caiff partneriaethau â rhieni/gofalwyr ac asiantaethau eraill effaith gadarnhaol ar brofiad dysgwyr o’r ysgol ac ar eu lles. Mae’r ysgol yn galluogi pob dysgwr i ddatblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu ac i wneud y cynnydd gorau posibl.

  • cwricwlwm
  • hybu iechyd da
  • agweddau a chydberthnasau
  • diogelu
  • tegwch
  • cynhwysiant
  • I ba raddau y mae'r ysgol yn gwneud y canlynol yn effeithiol:

    • helpu'r dysgwyr i feithrin cydberthnasau iach, gan gynnwys cydberthnasau digidol?
    • darparu ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb?
    • helpu'r dysgwyr i ymddwyn mewn ffordd gadarnhaol?
    • helpu'r dysgwyr i feithrin sgiliau dysgu annibynnol, gwydnwch a dyfalbarhad
    • helpu'r dysgwyr i gyflawni cyfraddau uchel o ran presenoldeb a chyfranogiad mewn dysgu?
    • i ba raddau y mae ein staff yn hyrwyddo cydberthnasau da â'r dysgwyr a rhyngddynt drwy eu gweithredoedd eu hunain?
  • I ba raddau y mae'r ysgol yn gwneud y canlynol yn effeithiol:

    • sicrhau bod y dysgwyr yn cael cyfle cyfartal i gael profiadau ac adnoddau?
    • hyrwyddo a dathlu amrywiaeth?
    • diwallu anghenion y dysgwyr sydd dan anfantais oherwydd tlodi?
    • atal tuedd, anghydraddoldeb, bwlio, rhagfarn neu stereoteipio ar sail nodweddion gwarchodedig a mynd i'r afael ag unrhyw achosion o'r fath?
    • helpu dysgwyr eraill sy'n agored i niwed y gall fod angen cymorth ychwanegol arnynt (er enghraifft gofalwyr ifanc neu blant sy'n derbyn gofal)?
    • hyrwyddo a pharchu hawliau plant a phobl ifanc, gan gynnwys dysgwyr agored i niwed?
    • galluogi'r dysgwyr i ddylanwadu ar yr hyn y maent yn ei ddysgu a sut?
    • ystyried safbwyntiau'r dysgwyr a'u cynnwys mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt?
    • rheoli cyfnodau pontio allweddol rhwng cyfnodau allweddol neu ysgolion ar gyfer dysgwyr agored i niwed?
    • gweithio gyda'r rhieni a phartneriaid eraill i sicrhau tegwch i'r dysgwyr?

    Adnoddau ategol