English

Caiff yr Adnodd hwn ei gyflwyno mewn strwythur syml sydd wedi'i drefnu fel a ganlyn:

Sut y caiff y cwestiynau trafod eu trefnu

Caiff y cwestiynau trafod yn yr adnodd eu trefnu'n bedair haen a phedwar maes.

Y meysydd yw:

  • arweinyddiaeth
  • cwricwlwm
  • dysgu ac addysgu
  • lles, tegwch a chynhwysiant

Caiff pob un o'r meysydd hyn eu cyflwyno mewn pedair haen wahanol, gan alluogi ysgolion i weld cwestiynau ar bob haen:

  • maes/thema: y pedwar maes a restrir uchod
  • elfen: adrannau ychwanegol ym mhob maes
  • cwestiwn trafod: cwestiynau manwl mewn perthynas â'r elfen
  • ymchwilio: gwybodaeth ychwanegol, cwestiynau trafod, dolenni i adnoddau ategol ac adnoddau astudiaethau achos

Noder:

Nid oes disgwyl i ysgolion roi atebion i bob cwestiwn trafod na mabwysiadu'r strwythur hwn ar gyfer trefnu eu hunanwerthusiad. Diben y cwestiynau trafod yw cefnogi'r broses hunanwerthuso ac nid oes disgwyl i ysgolion ymateb yn ysgrifenedig i bob cwestiwn mewn adroddiad hunanwerthuso.

  • Arweinyddiaeth

    Mae hyn yn cynnwys gweledigaeth strategol, addysgeg, dysgu proffesiynol, arloesi a chydweithredu, staffio ac adnoddau, systemau, polisïau a gweithdrefnau.

  • Cwricwlwm

    Mae hyn yn cynnwys sefydlu gweledigaeth (arweinyddiaeth ddysgu a rheoli newid), dylunio, cynllunio a threialu (dylunio a gweithredu profiadau dysgu).

  • Dysgu ac addysgu

    Mae hyn yn cynnwys addysgeg, dysgu proffesiynol, cydweithio ac arloesi.

  • Lles, tegwch a chynhwysiant

    Mae hyn yn cynnwys cwricwlwm, hyrwyddo iechyd, agweddau a pherthnasoedd da, diogelu, tegwch a chynhwysiant.

Isod ceir darlun manylach o’r cwestiynau trafod, a drefnir yn ôl maes a chydran.

Mae’r fersiwn PDF yn caniatáu i chi closio ac archwilio’r meysydd/themâu, y cydrannau a’r cwestiynau trafod yn fanylach.

  • Trefnu cwestiynau trafod: diagram manwl pdf 154 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath