Lles, tegwch a chynhwysiant i ddysgwyr
Mae hyn yn cynnwys cwricwlwm, hyrwyddo iechyd, agweddau a pherthnasoedd da, diogelu, tegwch a chynhwysiant.
Pam mae lles, tegwch a chynhwysiant yn bwysig
Mae gan ddysgwyr hawl i gael yr iechyd gorau posibl a chael eu hamddiffyn rhag niwed. Hefyd, mae lles da yn hanfodol i gynnydd a chyflawniad dysgwyr. Mae angen i ddysgwyr brofi lles corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol er mwyn ffynnu a chymryd rhan yn llwyddiannus yn eu haddysg, mewn cymdeithas ac yn y cyfleoedd y bydd bywyd yn eu cynnig.
Bydd lefelau da o les yn grymuso dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu bywydau eu hunain ac i gael dylanwad cadarnhaol ar fywydau pobl eraill. Mae ysgol deg a chynhwysol yn ystyried yr heriau unigryw sy'n wynebu dysgwyr unigol ac yn ymateb iddynt, gan eu galluogi i wneud cynnydd da.
Darpariaeth, monitro a phartneriaethau
Mae'r ysgol yn rhoi'r un gwerth ar bob aelod o'i chymuned ac yn helpu pob un ohonynt i gyflawni lefelau uchel o les corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac emosiynol. Mae'n rhoi cymorth o safon uchel i ddysgwyr ag anghenion ychwanegol ac yn lliniaru effaith anfantais gymdeithasol yn llwyddiannus.
Mae'r ysgol yn hyrwyddo ac yn dathlu amrywiaeth yn gadarnhaol o fewn ei chymuned a thu hwnt. Lles y dysgwyr sydd wrth wraidd profiadau addysgu a dysgu bob amser. Mae pob aelod o'r staff yn dangos ymrwymiad i les y dysgwyr drwy fodelu ymddygiad a chydberthnasau cadarnhaol.
Mae'r ysgol yn sicrhau bod y dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth gadarn o ffactorau sy'n effeithio ar eu lles eu hunain ac er lles pobl eraill. Mae'n helpu'r dysgwyr i wneud dewisiadau a penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch materion sy'n effeithio arnyn nhw ac ar bobl eraill.
Mae partneriaethau â'r rhieni ac asiantaethau eraill yn cael effaith gadarnhaol ar brofiad y dysgwyr yn yr ysgol ac ar eu lles. Mae'r ysgol yn galluogi pob dysgwr i feithrin agweddau cadarnhaol at ddysgu a gwneud y cynnydd gorau posibl.
Caiff partneriaethau â rhieni/gofalwyr ac asiantaethau eraill effaith gadarnhaol ar brofiad dysgwyr o’r ysgol ac ar eu lles. Mae’r ysgol yn galluogi pob dysgwr i ddatblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu ac i wneud y cynnydd gorau posibl.
Pa mor effeithiol yw darpariaeth yr ysgol ar gyfer cefnogi lles, tegwch a chynhwysiant?
- cwricwlwm
- hybu iechyd da
- agweddau a chydberthnasau
- diogelu
- tegwch
- cynhwysiant
Cwricwlwm
-
I ba raddau y mae dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o'r ‘hyn sy'n bwysig’ o ran eu hiechyd a'u lles?
- mae buddiannau gydol oes yn gysylltiedig â datblygu iechyd a lles corfforol
- mae cydberthnasau iach yn hanfodol i’n hymdeimlad o berthyn a’n lles
- mae'r ffordd rydym yn ymgysylltu â gwahanol ddylanwadau cymdeithasol yn llywio pwy ydym ni a’n hiechyd a’n lles
- mae'r ffordd rydym yn ymateb i’n profiadau yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol
- mae’r penderfyniadau a wnawn yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni ac eraill
I ba raddau y mae'r ysgol yn darparu ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb?
Adnoddau ategol
- Cwricwlwm i Gymru
- Iechyd a lles
- Atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod
- Adnabod eich plant: cefnogi disgyblion sydd wedi cael profi adau niweidiol yn ystod plentyndod
Hybu iechyd da
-
I ba raddau y mae ethos, amgylchedd a darpariaeth ein hysgol yn gwneud y canlynol:
- helpu'r dysgwyr i fod yn gorfforol egnïol ac yn iach?
- hybu arferion bwyta ac yfed iach?
- helpu'r dysgwyr i wneud dewisiadau iach o ran ffordd o fyw?
- cefnogi lles emosiynol ac iechyd meddwl y dysgwyr?
Adnoddau ategol
- Cwricwlwm i Gymru
- Iechyd a lles
- Dangosyddion ar gyfer gwobr ansawdd genedlaethol
cynlluniau ysgolion iach: rhwydwaith Cymru - Bwyta’n iach mewn ysgolion a gynhelir: canllawiau i ddarparwyr addysg
- Addysg camddefnyddio sylweddau: canllawiau
- Meddwl yn gadarnhaol: iechyd a lles emosiynol mewn ysgolion a
lleoliadau Blynyddoedd Cynnar - Cydweithio rhwng CAMHS a'r Gwasanaeth Cwnsela
- Pecyn cymorth gweithredu cwnsela mewn ysgolion ac yn y gymuned (diwygiwyd 2020)
Agweddau a chydberthnasau
-
I ba raddau y mae'r ysgol yn gwneud y canlynol yn effeithiol:
- helpu'r dysgwyr i feithrin cydberthnasau iach, gan gynnwys cydberthnasau digidol?
- darparu ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb?
- helpu'r dysgwyr i ymddwyn mewn ffordd gadarnhaol?
- helpu'r dysgwyr i feithrin sgiliau dysgu annibynnol, gwydnwch a dyfalbarhad
- helpu'r dysgwyr i gyflawni cyfraddau uchel o ran presenoldeb a chyfranogiad mewn dysgu?
- i ba raddau y mae ein staff yn hyrwyddo cydberthnasau da â'r dysgwyr a rhyngddynt drwy eu gweithredoedd eu hunain?
Diogelu
Tegwch
-
I ba raddau y mae'r ysgol yn gwneud y canlynol yn effeithiol:
- sicrhau bod y dysgwyr yn cael cyfle cyfartal i gael profiadau ac adnoddau?
- hyrwyddo a dathlu amrywiaeth?
- diwallu anghenion y dysgwyr sydd dan anfantais oherwydd tlodi?
- atal tuedd, anghydraddoldeb, bwlio, rhagfarn neu stereoteipio ar sail nodweddion gwarchodedig a mynd i'r afael ag unrhyw achosion o'r fath?
- helpu dysgwyr eraill sy'n agored i niwed y gall fod angen cymorth ychwanegol arnynt (er enghraifft gofalwyr ifanc neu blant sy'n derbyn gofal)?
- hyrwyddo a pharchu hawliau plant a phobl ifanc, gan gynnwys dysgwyr agored i niwed?
- galluogi'r dysgwyr i ddylanwadu ar yr hyn y maent yn ei ddysgu a sut?
- ystyried safbwyntiau'r dysgwyr a'u cynnwys mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt?
- rheoli cyfnodau pontio allweddol rhwng cyfnodau allweddol neu ysgolion ar gyfer dysgwyr agored i niwed?
- gweithio gyda'r rhieni a phartneriaid eraill i sicrhau tegwch i'r dysgwyr?
Adnoddau ategol
Cynhwysiant
-
I ba raddau y mae'r ysgol yn diwallu anghenion dysgwyr ag ADY a sicrhau eu bod yn gwneud y cynnydd y dylent?
I ba raddau y mae'r ysgol yn gwneud y canlynol yn effeithiol:
- nodi a diwallu anghenion dysgwyr ag ADY?
- monitro ac adolygu cynnydd, cyrhaeddiad a lles dysgwyr ag ADY?
- cydweithio ag asiantaethau allanol er mwyn diwallu anghenion y dysgwyr, gan gynnwys y rhai sydd ag ADY?
- ymgysylltu â rhieni, gofalwyr a theuluoedd dysgwyr ag ADY a'r rhai y mae angen cymorth ychwanegol arnynt?
- rheoli cyfnodau pontio allweddol rhwng cyfnodau allweddol neu ysgolion ar gyfer dysgwyr ag ADY?
- gwneud addasiadau er mwyn helpu dysgwyr ag ADY i fanteisio ar gyfleoedd?
- dewis strategaethau ymyrryd, eu rhoi ar waith a'u gwerthuso?
Adnoddau ategol
- Cynnwys a chynorthwyo disgyblion
- Canllawiau statudol i helpu i atal plant a phobl ifanc rhag colli addysg – Pecyn cymorth
- Llawlyfr ar gyfer Pwyllgorau Rheoli Unedau Cyfeirio Disgyblion
- Cyflawni'r Her: Safonau Ansawdd mewn Addysg ar gyfer Disgyblion Mwy Galluog a Thalentog
- Cynllunio ar gyfer cynyddu mynediad i ysgolion i ddisgyblion ag anableddau
- Awtistiaeth Cymru
- Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd
- Cod Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru
- Dull a lywir gan drawma ac ymyriadau Penodol ar gyfer trawma (MentalHealth.org)