Y Fframwaith Gwella Cenedlaethol
Mae'r fframwaith hwn yn cydlynu ein hymdrechion ar y cyd i sicrhau cynnydd pennaf dysgwyr, gan ein galluogi i weithio gyda chysondeb i sicrhau gwelliant cynaliadwy.
Rydym i gyd yn gyfrifol am ddysgwyr yng Nghymru. Mae'r Fframwaith Gwella Cenedlaethol yn rhoi eglurder i'r system ysgolion drwy ganolbwyntio ar ein diben a'n nod cyffredin, gan amlinellu'r themâu allweddol ar gyfer hunanwerthuso a chynllunio gwelliant, a chan nodi'r elfennau hanfodol sy'n galluogi'r gwelliant hwnnw.
Dylai'r Fframwaith Gwella Cenedlaethol alinio holl weithgarwch y system â phrosesau gwerthuso a gwella, ac mae'n darparu dull cydlynol ac iaith gyson yn hyn o beth. Dylai hefyd helpu i ganolbwyntio ac alinio'r ffordd yr ydym yn cofnodi, yn casglu ac yn rhannu gwybodaeth.
Ein nod: Cynnydd pob dysgwr
Ein nod yw galluogi pob dysgwr i gyflawni eu potensial wrth iddynt wneud cynnydd tuag at y pedwar diben.
Hunanwerthuso a Chynllunio Gwelliant: tair thema allweddol
Wrth ystyried y materion a allai effeithio ar gynnydd dysgwyr, bydd yn bwysig archwilio'r themâu canlynol (a'r berthynas rhyngddynt):
- Gweledigaeth, Arweinyddiaeth a Rheoli
- Y Cwricwlwm, Dysgu ac Addysgu
- Lles, Cynhwysiant a Thegwch
Galluogi a chefnogi gwelliannau: cydweithio a dysgu proffesiynol
Mae cydweithio pwrpasol a dysgu proffesiynol effeithiol yn elfennau hanfodol wrth yrru gwelliannau.
Bydd angen i ysgolion weithio gyda'i gilydd mewn modd effeithiol ac effeithlon i fireinio eu prosesau gwerthuso a gwella.
Bydd gweithredu fel sefydliad sy'n dysgu yn hanfodol er mwyn sicrhau gwelliant cynaliadwy.