English

Ein dull o ddefnyddio data a gwybodaeth i gefnogi a gwella dysgu

Mae ein canllawiau Gwella Ysgolion: fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd yn nodi ein dull o ddefnyddio data a gwybodaeth i gefnogi a gwella dysgu, mewn ffordd sy'n gydnaws ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru.

Mae gwella dysgu yn dibynnu ar arweinyddiaeth, cydweithio a rhannu gwybodaeth yn agored. Yn y cyd-destun hwn, mae data a gwybodaeth yn gyfrifoldeb i bawb, a dylid eu defnyddio'n barhaus a'u hymgorffori yng nghylch gwella ysgol, ar draws awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.

Ein disgwyliad yw bod y defnydd o ddata a gwybodaeth yn gymesur ac yn gytbwys: Dylai fod yn effeithiol wrth ysgogi gwelliannau i ddysgwyr. Mae data ansoddol a meintiol yn bwysig er mwyn cael darlun cyflawn a chrwn o ddysgwyr, dysgu ac ysgolion.

Credwn fod defnyddio mathau addas o ddata a gwybodaeth eang mewn ffyrdd priodol yn help i'r system gyfan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig, ac yn helpu i ddarparu set gynhwysfawr a chytbwys o wybodaeth i ddysgwyr, rhieni a gofalwyr, ysgolion, awdurdodau lleol, llywodraeth genedlaethol a phartneriaid eraill.

Rydym yn diwygio nifer o elfennau o'n gofynion a'n disgwyliadau o ran data a gwybodaeth, ein prosesau rheoli mynediad, a'n systemau a'n hadnoddau hwyluso er mwyn cydymffurfio'n llawn â'r dull gweithredu hwn.

Ar hyn o bryd rydym wrthi'n ymgynghori ar rai o'r elfennau hyn, gan gynnwys set o egwyddorion i seilio'r dull gweithredu hwn arni, ynghyd â fframwaith o ddangosyddion hawliau dysgu 14 i 16.

Disgwyliadau o ran defnyddio data a gwybodaeth ar draws ysgolion ac awdurdodau lleol

Mae gan ysgolion ac awdurdodau lleol eu ffynonellau cyfoethog eu hunain o ddata a gwybodaeth yn ogystal â gwybodaeth a ddarperir iddynt gan Lywodraeth Cymru. Yn ein canllawiau Gwella Ysgolion: fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd, rydym wedi nodi disgwyliadau bras ynghylch sut y dylai ysgolion ac awdurdodau lleol ddefnyddio data a gwybodaeth i gefnogi dysgwyr a dysgu.

Dylai ysgolion ac awdurdodau lleol:

  • ddefnyddio dull cytbwys sy'n dibynnu ar set gydlynol a chynhwysfawr o wybodaeth ansoddol a meintiol i werthuso cynnydd dysgwyr mewn ysgolion mewn modd nad yw'n hierarchaidd. Dylai'r wybodaeth hon fod yn berthnasol i anghenion a chyd-destun ysgolion unigol, ond mae'n debygol y bydd elfennau cyffredin ar draws ysgolion i gefnogi dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ac i sicrhau bod ysgolion yn rhoi sylw i ddisgwyliadau cenedlaethol
  • peidio â dibynnu'n llwyr ar ffyrdd cyfyngedig o fesur cyrhaeddiad dysgwyr i ddod i gasgliadau ar berfformiad ysgolion
  • sicrhau na chaiff sylw arweinwyr ysgolion, ymarferwyr a staff cymorth ei dynnu oddi wrth eu gwaith gyda dysgwyr i gasglu a chadw tystiolaeth, sy'n aml yn helaeth, er mwyn bodloni gwahanol ofynion

Dylai ysgolion:

  • ddefnyddio amrywiaeth eang o wybodaeth i edrych ar gynnydd yr holl ddysgwyr a'r systemau sy'n eu cefnogi, gan ddilyn yr egwyddorion cynnydd, er mwyn llunio barn gyfannol ar gynnydd dysgwyr
  • datblygu llinellau ymholi ar gyfer gwaith hunanwerthuso a chynllunio gwelliannau pellach, gan adeiladu ar dystiolaeth a gasglwyd am gynnydd dysgwyr, yn ogystal â gwybodaeth ehangach ar draws holl weithgareddau'r ysgol
  • dewis yr wybodaeth a ddefnyddir i hunanwerthuso gan ddibynnu ar eu cyd-destun, eu hanghenion a'u blaenoriaethau eu hunain, ac anelu at gynnal gwerthusiad gwrthrychol o'u sefyllfa bresennol
  • ystyried yn ofalus, ac o fewn y cyd-destun, y defnydd o unrhyw wybodaeth gymharol: sut y gellir ei defnyddio i nodi meysydd posibl i'w harchwilio, ac i gefnogi mwy o gydweithio rhwng ysgolion a rhannu arferion effeithiol
  • defnyddio'r wybodaeth sydd ganddynt yn effeithiol at ddibenion hunanwerthuso, yn ogystal â defnyddio amrywiaeth eang o dystiolaeth sydd wedi cael ei darparu iddynt neu y maent wedi cael gafael arni

Dylai awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth er mwyn:

  • sicrhau bod unrhyw wybodaeth sydd ganddynt a fyddai'n helpu ysgolion i hunanwerthuso ar gael i ysgolion, fel rhan o ddiwylliant o weithio mewn partneriaeth
  • rhannu gwybodaeth berthnasol am ysgolion â'i gilydd, yn unol â deddfwriaeth GDPR, gan atgyfnerthu eu partneriaeth broffesiynol
  • ystyried tystiolaeth a gwybodaeth briodol ar lefel ysgol er mwyn:
    • helpu i benderfynu pa gymorth sydd ei angen ar ysgolion a'u gallu i helpu eraill
    • cyfrannu at eu gwaith o werthuso eu gwasanaethau eu hunain i gefnogi ysgolion a ddylai, yn ei dro, lywio adolygiadau cynghorau o'u perfformiad ar lefel gorfforaethol, strategol

Defnydd Llywodraeth Cymru o ddata a gwybodaeth

Er mwyn rhoi darlun cyflawn a chytbwys inni o ysgolion a dysgu yng Nghymru, rydym yn ymgysylltu'n rheolaidd â'n holl bartneriaid ac yn defnyddio'r wybodaeth a gawn o'r ddeialog honno ochr yn ochr â'n data cymwysterau, ein data presenoldeb, ein hadroddiad cenedlaethol ar asesiadau personol, ein canlyniadau PISA a dadansoddiadau eraill sy'n cymharu, arolygon y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, datganiadau ystadegol eraill, adroddiadau blynyddol a thematig Estyn yn ogystal â'r mewnwelediad sy'n deillio o'r ymchwil amrywiol sydd ar gael inni.

Rydym yn gwella ehangder ac ansawdd yr wybodaeth genedlaethol sydd ar gael am ein system addysg, ac yn datblygu'r ffyrdd rydym yn ei defnyddio i lywio ein gwaith llunio polisi a chefnogi ein partneriaid.