English

Mae’n eich helpu i ddod o hyd i’ch ffordd trwy’r gwahanol fodelau ar gyfer dysgu proffesiynol, a chynllunio taith eich ysgol eich hun.

Gyda llawer o wahanol fodelau a dulliau ar gael, yn ogystal â datblygiadau sylweddol hefyd ar y gweill mewn prosiectau fel y Prosiect Addysgeg Cenedlaethol, yr Adnodd Gwerthuso a Gwella Cenedlaethol, datblygiad pellach gydag ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu a chefnogaeth ar gyfer dylunio’r cwricwlwm, mae’r daith ddysgu proffesiynol yn ffordd o gysylltu’r dysgu proffesiynol o amgylch y rhain mewn un man, gan ddarparu dolenni i fwy o fanylion o’r dudalen we hon.

Cynhyrchwyd rhaglun fideo i grynhoi'r daith.

Mae’r daith ddysgu proffesiynol yn ymgorffori’r modelau a’r dulliau hyn yn greiddiol yn uniongyrchol.

Mae hefyd yn cyd-fynd yn agos â’r datblygiadau a’r anogeiriau yn yr Adnodd Gwerthuso a Gwella Cenedlaethol sydd yn dod yn fuan.

Fel man cychwyn rydym yn argymell bod ysgolion yn cynnal arolwg ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu i ddarparu asesiad sylfaenol. Bydd adroddiad arolwg ciplun yr ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu yn rhoi proffil i chi yn seiliedig ar ymatebion eich ysgol. Gellir defnyddio hwn i’ch cefnogi chi i nodi meysydd i’w blaenoriaethu ar y daith ddysgu proffesiynol.

Mae’r daith ddysgu proffesiynol yn darparu strwythur posibl ond nid yw wedi’i ddylunio fel model rhagnodol i ysgolion ei ddilyn yn uniongyrchol. Er ein bod yn argymell bod ysgolion yn dechrau gyda gweledigaeth ar gyfer yr ysgol, gellir mynd i’r afael â gweddill cydrannau’r daith ddysgu proffesiynol mewn unrhyw drefn. Mae’n bwysig bod hyn yn cael ei ystyried fel gwelliant parhaus ac ni ddylid ei ystyried yn ddull tasg a gorffen.

Un llwybr posibl fyddai trwy ddatblygu gweledigaeth ysgol gyfan, modelu a gwella arweinyddiaeth ddysgu ac arwain newid, gan symud ymlaen i fynd i’r afael â dysgu proffesiynol staff i weithredu Cwricwlwm i Gymru.

Er mwyn cefnogi’r daith ddysgu proffesiynol, mae grwp o 20 o ysgolion ymholi arweiniol wedi bod yn datblygu rhestrau chwarae o sut maen nhw wedi mynd i’r afael â gwahanol gydrannau o’r daith ddysgu proffesiynol. Mae’r rhain wedi’u grwpio yn ôl cydran berthnasol y daith ddysgu proffesiynol y maen nhw’n cyd-fynd â hi.

Gallwch gyrchu’r adnoddau hyn yn yr adrannau isod neu drwy chwilio am y rhestrau chwarae a’r adnoddau sydd ynddyn nhw gan ddefnyddio geiriau allweddol.

Mae’r daith ddysgu proffesiynol wedi’i chynllunio i helpu ysgolion i feddwl, cynllunio a chefnogi eu dysgu proffesiynol wrth baratoi ar gyfer Cwricwlwm i Gymru. Mae’n darparu strwythur i ysgolion ystyried a chyfuno nifer o fodelau a dulliau gweithredu.

Pwrpas y model hwn yw:

  • dangos sut mae’r gwahanol fodelau ar gyfer dysgu proffesiynol yn alinio â’i gilydd
  • darparu trefn weithredu bosibl ar gyfer gwahanol agweddau ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu a’r dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol
  • nodi sut mae’r daith hon yn cael ei chefnogi gan y rhaglenni cymorth traws-ranbarthol
  • darparu strwythur ar gyfer presenoldeb ar y wê a mynediad hierarchaidd i adnoddau
  • darparu dolenni i waith a wnaethpwyd mewn meysydd eraill
  • darparu strwythur ar gyfer adnoddau sy’n cael eu cynhyrchu gan ysgolion i gefnogi diwrnodau arwain dysgu proffesiynol (HMS) cenedlaethol mewn ysgolion

Y daith ddysgu proffesiynol a’i phwrpas ar gyfer gwahanol lefelau o staff a rhanddeiliaid

I bawb:

I ddechrau, bydd diwrnodau HMS Cwricwlwm i Gymru cenedlaethol yn nhymor yr haf yn rhoi cyfle i holl staff Cymru ymgysylltu, myfyrio a chynllunio ar gyfer Cwricwlwm i Gymru. Bydd adnoddau i gefnogi’r gwaith hwn yn cael eu darparu am ddim ar Hwb, felly ni fydd angen i ysgolion brynu adnoddau ychwanegol.

Ar lefel arweinydd ysgol gallwch chi wneud y canlynol:

  • Fel cam cyntaf, defnyddiwch fodel ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu i ddarganfod i ba raddau y mae eich ysgol yn anelu at gefnogi dysgu proffesiynol a datblygu fel sefydliad sy’n dysgu.
  • Cael persbectif ehangach ar y dull strategol o ddysgu proffesiynol a gweld sut mae’r holl elfennau’n cyd-fynd trwy adolygu’r daith ddysgu proffesiynol.
  • Darganfyddwch am opsiynau datblygu arweinyddiaeth yn yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru.
  • Adolygu’r opsiynau yn eich rhaglen gymorth ranbarthol ac, os oes angen, ymgynghorwch â’ch ymgynghorydd her rhanbarthol.

Yr ystyriaethau cynnar fydd:

  • deall pedwar diben y cwricwlwm
  • adolygu gweledigaeth yr ysgol mewn perthynas â’r pedwar diben
  • myfyrio ar sut y bydd gweledigaeth yr ysgol yn gwella dysgu ac addysgu
  • deall sut mae greu cwricwlwm
  • adolygu’r dulliau dysgu proffesiynol staff

Fel unigolyn gallwch chi wneud y canlynol:

  • Adolygu Cwricwlwm i Gymru (dechreuwch gyda’r hanfod – y dibenion a’r elfennau trosfwaol – cyn y meysydd dysgu a phrofiad).
  • Gwiriwch eich cryfderau a’ch meysydd i’w gwella yn erbyn y Safonau Addysgu Proffesiynol.
  • Archwilio’r astudiaethau achos ysgol ar gyfer hyn a phrosiectau eraill.
  • Trafodwch eich anghenion yn y ffordd arferol.

Ar bob lefel, ac yn esblygu dros amser, bydd cefnogaeth ar waith trwy’r rhaglen gymorth draws-ranbarthol fel y gall pawb ddefnyddio Cwricwlwm i Gymru i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer dysgwyr Cymru.

Canllawiau ychwanegol

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn cynhyrchu canllawiau i helpu ysgolion i drefnu a darparu dysgu proffesiynol blaenllaw. Mae hwn yn cael ei gynnal ar wefan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru ac mae’n dal i gael ei ddatblygu.

Rhannu profiadau

Mae'r Sway canlynol yn cynnwys cyfres o gameos gan bobl oedd ynghlwm â datblygu'r rhestrau chwarae ar y wefan hon yn ystod 2019-20, gan amlinellu eu gwaith, buddion cymryd rhan ac ambell eiriau o gyngor i ysgolion sy'n cymryd rhan yng ngham nesaf y prosiect.