English

Mae cyfnodau sefydlu statudol yn berthnasol i’r holl athrawon a enillodd eu statws athro cymwysedig ar neu ar ôl 1 Ebrill 2003. Mae’r Rheoliadau’n darparu’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gofynion sefydlu. Mae'r canllawiau hyn yn ategu gofynion y Rheoliadau ac yn rhoi mwy o fanylion am sut y dylid gweithredu'r trefniadau. Maent hefyd yn amlinellu rolau a chyfrifoldebau pob parti sy'n rhan o'r broses sefydlu yn ogystal â'r gefnogaeth a ddarperir i athrawon newydd gymhwyso drwy gydol eu cyfnod sefydlu statudol. Mae’n dwyn ynghyd y canllawiau ar gyfer athrawon newydd gymhwyso, mentoriaid sefydlu, mentoriaid allanol, gwirwyr allanol, cyrff priodol, ysgolion a gynhelir, sefydliadau addysg bellach, asiantaethau cyflenwi ac arweinwyr sefydlu rhanbarthol neu awdurdodau lleol.

Dylai athrawon newydd gymhwyso (gan gynnwys rhai sy’n cyflenwi) a phawb sy’n gysylltiedig â’r broses sefydlu sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r trefniadau sefydlu statudol yng Nghymru a’r safonau proffesiynol perthnasol.

Pwrpas sefydlu statudol yw:

  • cyfrannu at y gwaith o ddatblygu gweithlu addysgu rhagorol er budd pob dysgwr
  • cefnogi athrawon newydd gymhwyso er mwyn iddynt gael y dechrau gorau posibl i’w gyrfaoedd
  • rhoi cyfle i athrawon newydd gymhwyso ddatblygu eu harfer drwy ganolbwyntio ar y gofynion a nodir yn y safonau proffesiynol
  • paratoi athrawon newydd gymhwyso ar gyfer eu gyrfa drwy sefydlu’r sgiliau a’r ymddygiadau y bydd angen iddynt adeiladu arnynt drwy gydol eu gyrfa
  • sicrhau bod athrawon newydd gymhwyso’n canolbwyntio ar flaenoriaethau cenedlaethol
  • sicrhau bod athrawon newydd gymhwyso’n canolbwyntio eu dysgu proffesiynol ar y dulliau mwyaf effeithiol gan gynnwys ymarfer myfyriol, cydweithio effeithiol, hyfforddi a mentora, a defnyddio data a thystiolaeth ymchwil yn effeithiol
  • adeiladu ar y profiadau a gafwyd mewn addysg gychwynnol athrawon (AGA) i gefnogi twf proffesiynol gydol gyrfa.

Cymhwysedd i ddysgu mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru

Er mwyn cael eu cyflogi fel athro mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, mae’n ofyniad cyfreithiol i athrawon newydd gymhwyso fod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg fel athro ysgol (Cyngor y Gweithlu Addysg). Mae’r gofyniad bod Cyngor y Gweithlu Addysg yn cynnal cofrestr wedi’i bennu yn Neddf Addysg (Cymru) (O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, mae’n ofynnol i Gyngor y Gweithlu Addysg sefydlu a chynnal Cofrestr Ymarferwyr Addysg yng Nghymru). Rhaid i athrawon hefyd feddu ar statws athro cymwysedig, ar wahân i eithriadau penodol, ac mae'n rhaid i athrawon a enillodd statws athro cymwysedig ar neu ar ôl 1 Ebrill 2003 hefyd fod wedi cwblhau cyfnod sefydlu.

Sefydliadau lle gellir cynnal cyfnod sefydlu

Dim ond yn y lleoliadau canlynol y gellir cynnal cyfnod sefydlu:

  • ysgolion a gynhelir yng Nghymru (gan gynnwys ysgolion meithrin a gynhelir lle mae gan yr ysgol bennaeth, a lle bo modd i’r ysgol ddarparu cyfnod sefydlu boddhaol a fydd yn rhoi cyfle i’r athro newydd gymhwyso fodloni’r safonau proffesiynol perthnasol)
  • unedau cyfeirio disgyblion (gweler Atodiad A)
  • sefydliadau addysg bellach yng Nghymru sy’n cynnwys colegau chweched dosbarth – gweler Atodiad B)
  • ysgolion annibynnol yng Nghymru (gweler Atodiad C)
  • ysgol neu sefydliad addysg bellach yn Lloegr os yw’r ysgol/sefydliad a’r cyfrifoldebau addysgu’n bodloni meini prawf sefydlu Lloegr.

Sefydliadau lle na ellir cynnal cyfnod sefydlu

Ni ellir cynnal cyfnod sefydlu yn y lleoliadau canlynol:

  • ysgolion arbennig cymunedol neu ysgolion arbennig sefydledig mewn ysbytai
  • ysgolion annibynnol nad ydynt yn bodloni’r meini prawf a ddisgrifir yn y Rheoliadau (gweler Atodiad C)
  • ysgolion meithrin annibynnol (oni bai eu bod yn ysgolion annibynnol sy’n bodloni’r meini prawf a nodwyd yn y Rheoliadau) a lleoliadau blynyddoedd cynnar eraill (oni bai eu bod yn ysgolion meithrin a gynhelir)
  • ysgolion sydd angen mesurau arbennig yn ôl Estyn (gweler Atodiad E am ragor o fanylion).

Llwybrau i sefydlu

Gellir ymgymryd â sefydlu yng Nghymru drwy ddau lwybr:

  • cyflogaeth llawnamser neu ran-amser fel athro, neu
  • adeiladu gwasanaeth addysgu trwy gyflogaeth mewn swyddi cyflenwi hirdymor neu dymor byr.

Ystyrir cyflenwi hirdymor fel lleoliad o 11 diwrnod yn olynol neu fwy mewn un lleoliad.

Ystyrir cyflenwi tymor byr (a elwir hefyd yn gyflenwi 'o ddydd i ddydd') fel lleoliad o 1 sesiwn (hanner diwrnod) neu fwy hyd at uchafswm o 10 diwrnod yn olynol mewn un lleoliad.

Mae cyfnod sefydlu effeithiol yn golygu gwaith partneriaeth rhwng nifer o randdeiliaid allweddol sydd oll â’u prif gyfrifoldebau eu hunain. Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o’r rolau a chyfrifoldebau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan Gwybodaeth am y rheini sy'n cefnogi athrawon newydd gymhwyso.

Rhaid i athrawon newydd gymhwyso sicrhau eu bod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn y categori athro ysgol cyn dechrau ei swydd. Mae’n rhaid i athrawon newydd gymhwyso sy’n cwblhau’r cyfnod sefydlu drwy’r llwybr cyflenwi tymor byr gofnodi pob sesiwn o gyflogaeth.

Dylai athrawon newydd gymhwyso gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu proffesiynol eu hunain a darparu tystiolaeth o sut mae eu harferion yn bodloni’r safonau proffesiynol yn eu proffil sefydlu ar-lein, sy’n rhan o’r pasbort dysgu proffesiynol. 

Bydd y pennaeth neu’r athro sy’n gyfrifol a’r ysgol neu’r lleoliad cyfan sicrhau bod cymorth parhaus ar gael i’r athro newydd gymhwyso drwy gydol y cyfnod sefydlu fel rhan o’r trefniadau mentora cyffredinol. Dylai’r pennaeth neu’r athro sy’n gyfrifol benodi aelod o staff enwebedig i ddod yn fentor sefydlu a dylent ddarparu’r cyfleoedd dysgu proffesiynol sydd eu hangen i gyflawni’r rôl yn effeithiol. Mae’r pennaeth neu’r athro sy’n gyfrifol yn gweithio ar y cyd â’r mentor a’r gwiriwr allanol i alluogi’r athro newydd gymhwyso i wneud cynnydd.

Bydd pob athro newydd gymhwyso yn cael cefnogaeth gan fentor. Bydd athrawon newydd gymhwyso sy’n cael eu cyflogi gan ysgol/uned cyfeirio disgyblion yn gweithio gyda mentor sefydlu sydd wedi’i leoli yn yr ysgol/uned cyfeirio disgyblion. Bydd athrawon newydd gymhwyso sy’n cael eu cyflogi i gyflenwi am dymor byr yn gweithio gyda mentor allanol sy’n gweithio ar sail leol/rhanbarthol.

Bydd y mentor yn arsylwi’r athro newydd gymhwyso ac yn gweithio gyda’r gwiriwr allanol i sicrhau bod yr athro newydd gymhwyso yn derbyn mentora o ansawdd uchel, a bydd yn ymgymryd ag asesiad terfynol yr athro newydd gymhwyso. Dylai’r mentor wneud argymhelliad ysgrifenedig i’r corff priodol pan fydd yn fodlon bod yr athro newydd gymhwyso wedi cwblhau’r cyfnod sefydlu statudol ac wedi dangos ei fod wedi cyflawni’r safonau proffesiynol.  Bydd y mwyafrif o athrawon newydd gymhwyso yn cymryd tri thymor neu sesiynau cyfwerth i gwblhau eu cyfnod sefydlu’n llwyddiannus.

Mae’r gwiriwr allanol yn sicrhau ansawdd trefniadau’r cyfnod sefydlu ar ran y corff priodol ac mae’n gweithio gyda’r mentor a’r corff priodol i sicrhau bod athrawon newydd gymhwyso’n cael mentora a goruchwyliaeth o safon. Bydd y gwiriwr allanol yn cysylltu â’r mentor ynghylch datblygu ac asesu’r athro newydd gymhwyso.

Mae’r corff priodol yn gyfrifol am oruchwyliaeth gyffredinol a hyfforddiant athro newydd gymhwyso sy’n ymgymryd â chyfnod sefydlu a hefyd am sicrhau bod y cyfnod sefydlu’n bodloni’r gofynion statudol. Mae’r corff priodol yn defnyddio tystiolaeth asesu i wneud y penderfyniad terfynol ar ganlyniad y cyfnod sefydlu. Ar gyfer ysgolion a gynhelir, rhaid i awdurdod lleol yr ysgol weithredu fel corff priodol. Er hynny, gall yr awdurdod lleol, yn ymarferol, gytuno i ddirprwyo’r rôl hon i’r consortiwm rhanbarthol perthnasol sy’n gyfrifol am recriwtio, hyfforddi a lleoli gwirwyr allanol. Yn yr amgylchiadau hyn, dylai consortia rhanbarthol sicrhau bod gwahaniad clir rhwng dyletswyddau corff priodol enwebedig a’r rhai sy’n gyfrifol am gynllunio a chyflwyno’r rhaglen dysgu proffesiynol ar gyfer athrawon newydd gymhwyso.

Mae’r cydlynydd sefydlu (sydd wedi’i leoli yn y bartneriaeth/consortiwm rhanbarthol/awdurdod lleol) yn gyfrifol am raglen genedlaethol o ddysgu proffesiynol ar gyfer mentoriaid, gwirwyr allanol ac athrawon newydd gymhwyso. Maent hefyd yn gweithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i fonitro a chefnogi’r trefniadau ymarferol wrth ddarparu’r rhaglen sefydlu.

Wrth recriwtio athrawon newydd gymhwyso, dylai adrannau Adnoddau Dynol awdurdodau lleol sicrhau bod ymgeiswyr llwyddiannus yn darparu tystysgrifau o’u statws athro cymwysedig a’u cyfnod sefydlu. Os nad yw athro penodedig wedi cwblhau cyfnod sefydlu ac felly nid oes ganddo dystysgrif sefydlu, rhaid i’r adran Adnoddau Dynol hysbysu ysgolion bod yr athro y maent yn ei recriwtio yn athro newydd gymhwyso sy’n ymgymryd â chyfnod sefydlu. Rhaid i’r adran Adnoddau Dynol hefyd sicrhau bod yr athro newydd gymhwyso wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn y categori athro ysgol cyn dechrau ei swydd. Mae gan gyflogwyr/awdurdodau lleol fynediad trwy wefan Cyngor y Gweithlu Addysg i wirio statws cofrestru a sefydlu unigolion.

Rhaid i’r asiantaeth gyflogaeth neu gyflenwi, fel cyflogwr athrawon newydd gymhwyso sy’n ymgymryd â rhywfaint neu’r cyfan o’u cyfnod sefydlu fel athro cyflenwi, sicrhau bod gwiriadau diogelu a chyn-gyflogaeth yn cael eu cynnal, gan gynnwys gweld tystysgrifau statws athro cymwysedig. Mae’n ofynnol i asiantaethau ddarparu’r dysgu a’r gefnogaeth broffesiynol angenrheidiol i’w hathrawon newydd gymhwyso, y gall rhai ohonynt gael eu lleoli mewn amrywiaeth o ysgolion am gyfnodau byr.

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn gyfrifol am gasglu ynghyd a chynnal ffynhonnell ganolog o ddata am athrawon newydd gymhwyso sy’n gwneud cyfnod sefydlu, ac yn gweinyddu cyllid sefydlu i ysgolion, gan weithio gyda chonsortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol. Yn ogystal, mae’r Cyngor yn cynnal ac yn darparu mynediad i’r proffil sefydlu ar-lein drwy’r Pasbort Dysgu Proffesiynol. Mae hyn yn galluogi athrawon newydd gymhwyso i fyfyrio ar eu cynnydd a chofnodi eu profiadau proffesiynol yn erbyn y safonau proffesiynol perthnasol. Mae’r Cyngor yn cyhoeddi tystysgrifau sefydlu i athrawon newydd gymhwyso ar ôl iddynt gwblhau cyfnod sefydlu’n llwyddiannus. Mae hefyd yn gyfrifol am glywed apeliadau sefydlu.

Mae Llywodraeth Cymru yn llunio rheoliadau a pholisi ac yn nodi blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol. Mae’n gweithio gyda chonsortia rhanbarthol/awdurdodau lleol a Chyngor y Gweithlu Addysg i fonitro ac adolygu trefniadau cenedlaethol.

Hyd y cyfnod sefydlu

Rhaid i bob athro newydd gymhwyso gwblhau cyfnod sefydlu o dri thymor ysgol o hyd, neu gyfwerth. Er hynny, mae gan gyrff priodol ddisgresiwn i leihau hyd y cyfnod sefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso sy’n gallu dangos eu bod yn bodloni’r safonau proffesiynol mewn llai na thri thymor / 380 o sesiynau.  Ni all unrhyw athro newydd gymhwyso gwblhau cyfnod sefydlu mewn llai nag un tymor (110 o sesiynau).

Mae'r hyblygrwydd hwn yn golygu y gall athrawon newydd gymhwyso, sy'n gallu dangos eu bod yn bodloni’r safonau proffesiynol, yn gallu cwblhau eu cyfnod sefydlu mewn llai na thri thymor (neu 380 o sesiynau). Gall athrawon newydd gymhwyso sydd â phrofiad blaenorol o weithio mewn lleoliad addysg, fel cynorthwyydd addysgu, mewn ysgol dramor, neu mewn coleg Addysg Bellach, elwa ar yr hyblygrwydd gan y gallai eu profiad olygu eu bod yn gallu dangos eu bod yn cyflawni’r safonau yn gynt.

Cyfnodau cyflogaeth sy’n cyfrif tuag at y cyfnod sefydlu

Rhaid i bob cyfnod o gyflogaeth fel athro cymwys (mewn lleoliad perthnasol) o un sesiwn ysgol (hanner diwrnod) neu fwy gyfrif tuag at y cyfnod sefydlu. Ni cheir unrhyw hyblygrwydd yn hyn o beth, ac ni chaiff athrawon newydd gymhwyso nac ysgolion wneud cais i beidio â chynnwys cyfnod o gyflogaeth fel athro cymwys tuag at y cyfnod sefydlu. Ni all gwaith a wnaed fel cynorthwyydd addysgu lefel uwch (CALU) neu weithiwr cymorth dysgu gyfrif tuag at gyfnod sefydlu athro newydd gymhwyso.

Rhaid i athro newydd gymhwyso sy’n symud rhwng cyflogaeth llawnamser, cyflogaeth rhan-amser a swyddi cyflenwi sicrhau bod pob cyfnod o gyflogaeth yn cael ei gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg drwy gyflwyno’r ffurflen hysbysu briodol.

Sefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso ar sail llawnamser, rhan-amser neu gyflenwi hirdymor

Os yw athro newydd gymhwyso yn cael ei gyflogi gan ysgol ar sail lawnamser, rhan-amser neu mewn swydd gyflenwi hirdymor, bydd y Ffurflen Hawlio Cyllid Sefydlu y mae'r ysgol yn ei chyflwyno i Gyngor y Gweithlu Addysg ar ddiwedd pob tymor academaidd, neu'n gynt os daw'r cyflogaeth i ben, yn darparu'r dystiolaeth angenrheidiol ar gyfer y cyfnod o gyflogaeth a weithiwyd.

Os oes angen, gall asiantaethau cyflenwi wirio sesiynau ar gyfer athrawon newydd gymhwyso hirdymor.

Sefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso ar sail cyflenwi tymor byr

Bydd yn ofynnol i athrawon newydd gymhwyso sy'n ymgymryd â chyfnod sefydlu trwy gyflenwi tymor byr gael y sesiynau y maent wedi gweithio wedi'u gwirio gan eu hasiantaeth gyflenwi (cyflogwr) neu'r prif gyswllt o ddydd i ddydd ar gyfer yr athro newydd gymhwyso yn yr ysgol lle gwnaed y sesiwn/sesiynau o gyflogaeth (aelod o'r uwch dîm arwain fel arfer). Mae ffurflen cofnodi presenoldeb ar gael ym mhroffil sefydlu ar-lein yr athro newydd gymhwyso.

Yn ystod eu cyfnod sefydlu, mae athrawon newydd gymhwyso a gyflogir ar sail cyflenwi yn cael eu hannog yn gryf i sicrhau bod eu cyfnod sefydlu yn cynnwys cyflogaeth mewn un lleoliad am dymor, neu ddau hanner tymor yn olynol. Mae cyfnod parhaus o addysgu mewn un lleoliad yn sicrhau bod athrawon newydd gymhwyso yn cael cyfle i brofi a bod yn rhan o fywyd gwaith ysgol – er enghraifft, drwy gymryd rhan mewn nosweithiau rhieni a/neu gynllunio’r cwricwlwm. Mae’n eu galluogi i gael y profiad proffesiynol a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddangos tystiolaeth o’r ystod lawn o safonau proffesiynol a bydd yn helpu i’w paratoi ar gyfer gyrfa ym maes addysgu.

Gweithredu os yw’r cynnydd yn anfoddhaol

Os nad yw athro newydd gymhwyso yn gwneud cynnydd boddhaol tuag at gwblhau’r cyfnod sefydlu’n llwyddiannus, dylai’r mentor godi unrhyw bryderon gyda’r athro newydd gymhwyso a’r corff priodol ar unwaith.

Bydd camau cynnar yn cael eu cymryd, fel yr amlinellir isod, i gefnogi a chynghori’r athro newydd gymhwyso i wneud unrhyw welliannau angenrheidiol.

  • Dylai’r pennaeth neu’r mentor roi gwybod yn brydlon, yn ysgrifenedig, am unrhyw bryderon mewn perthynas â chynnydd yr athro newydd gymhwyso i’r gwiriwr allanol, y corff priodol a’r athro newydd gymhwyso ei hunan.
  • Cyn gynted ag y daw’n amlwg nad yw’r athro newydd gymhwyso yn gwneud cynnydd boddhaol, bydd y corff priodol yn cynyddu’r gefnogaeth i’r athro newydd gymhwyso ar unwaith ac yn sicrhau bod cynllun gweithredu yn cael ei roi ar waith y bydd yr athro newydd gymhwyso, yr ysgol a’r gwiriwr allanol yn cytuno arno’n ysgrifenedig.
  • Bydd y cynllun gweithredu’n cynnwys y gofynion ar gyfer cwblhau’r cyfnod sefydlu a chanlyniadau peidio â chyflawni’r gwelliannau angenrheidiol. Dylai ysgol(ion) yr athro newydd gymhwyso a’r gwiriwr allanol gadw copi o’r cynllun gweithredu.

Gweithredu mewn achos o dangyflawni difrifol

Mewn ambell achos arbennig o ddifrifol, gall ddod yn amlwg nad yw’r athro newydd gymhwyso yn debygol o gwblhau cyfnod sefydlu yn yr ysgol yn foddhaol heb gefnogaeth sylweddol. Mewn achosion o’r fath, efallai y bydd y pennaeth, ar ôl ymgynghori â’r corff priodol, am ystyried cychwyn gweithdrefn medrusrwydd unrhyw bryd cyn diwedd y cyfnod sefydlu. Prif ddiben gweithdrefnau o’r fath fydd cefnogi’r athro newydd gymhwyso i wella’i berfformiad. Gall methiant yr athro newydd gymhwyso i wella’i berfformiad arwain at ei ddiswyddo cyn diwedd y cyfnod sefydlu. Cyhyd ag y bo’r athro newydd gymhwyso yn yr ysgol rhaid i’r broses sefydlu barhau ochr yn ochr â’r weithdrefn medrusrwydd fel a nodir yn y canllawiau medrusrwydd.

Y corff llywodraethu sy’n rheoli ymddygiad a disgyblaeth staff ysgol a rhaid iddo sefydlu gweithdrefnau ar gyfer hyn ac ar gyfer ymdrin â diffyg medrusrwydd staff ysgol. Rhaid i’r corff llywodraethu hysbysu’r staff am y gweithdrefnau hyn.

Os bydd pennaeth yn dewis dilyn y trywydd hwn i fynd i’r afael â diffyg medrusrwydd, rhaid i’r pennaeth hysbysu’r corff priodol yn ysgrifenedig.

Asesu a gwneud penderfyniad terfynol ar ddiwedd y cyfnod sefydlu

Mae’r broses asesu’n cynnwys y camau canlynol.

Cyn pen 10 diwrnod gwaith (i berwyl y cylchlythyr cyfarwyddyd hwn, mae diwrnod gwaith yn golygu unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul neu wyl gyhoeddus). Ar ôl i athro newydd gymhwyso gwblhau cyfnod sefydlu, dylai’r mentor roi argymhelliad ysgrifenedig i’r corff priodol gan ddefnyddio proffil sefydlu’r athro newydd gymhwyso.

Cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl cwblhau’r cyfnod sefydlu, mae’n rhaid i’r corff priodol ystyried yr argymhelliad a phenderfynu a yw’r athro newydd gymhwyso:

  • wedi cwblhau’r cyfnod sefydlu’n foddhaol; neu
  • angen estyniad i’r cyfnod sefydlu (o uchafswm o dri thymor ysgol); neu
  • wedi methu cwblhau’r cyfnod sefydlu’n foddhaol.

Mae’n rhaid i’r corff priodol ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gafwyd gan yr athro newydd gymhwyso wrth ddod i’r penderfyniad hwn.

I sicrhau bod y broses asesu’n deg, yn gyson ac yn drylwyr, caiff sampl o benderfyniadau’r cyrff priodol eu safoni a’u cymedroli ar lefel leol a chenedlaethol.

Bydd cymedroli lleol neu ranbarthol yn cael ei drefnu a’i gynnal gan bob corff priodol er mwyn sicrhau cysondeb.

Cyn pen deng niwrnod gwaith ar ôl gwneud y penderfyniad a’i gofnodi, mae’n rhaid i’r corff priodol hysbysu’r athro newydd gymhwyso, corff llywodraethu’r ysgol neu’r coleg (neu’r perchennog os yw’n ysgol annibynnol), pwyllgor rheoli yr uned cyfeirio disgyblion, pennaeth yr ysgol (y bu’r athro newydd gymhwyso yn gweithio ynddi ar ddiwedd y cyfnod sefydlu), yr athro sy’n gyfrifol am yr uned cyfeirio disgyblion, y cyflogwr fel yr asiantaeth cyflenwi (os yw’n wahanol i’r corff priodol ei hun) a Chyngor y Gweithlu Addysg.

Os bydd y corff priodol yn penderfynu estyn y cyfnod sefydlu neu’n dod i’r casgliad bod yr athro newydd gymhwyso wedi methu cwblhau ei gyfnod sefydlu’n foddhaol, mae’n rhaid i’r corff priodol hysbysu’r athro newydd gymhwyso yn ysgrifenedig fod ganddo’r hawl i apelio i Gyngor y Gweithlu Addysg, gan nodi cyfeiriad Cyngor a’r dyddiad cau ar gyfer apeliadau.

Rhaid i athro newydd gymhwyso sy’n dymuno apelio anfon rhybudd o’r apêl a ddylai gyrraedd Cyngor y Gweithlu Addysg cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl i’r athro newydd gymhwyso dderbyn yr hysbysiad perthnasol. Ar ôl 20 diwrnod gwaith, mae’r hawl hon yn dod i ben oni bai bod Cyngor y Gweithlu Addysg yn ymestyn y dyddiad cau, ond gall wneud hyn dim ond os yw’n fodlon y byddai peidio ag ymestyn yr amser yn peri cryn anghyfiawnder.

Mae’r weithdrefn ar gyfer apelio wedi’i nodi yn Atodlen 3 o’r Rheoliadau. Ceir manylion llawn am y broses apelio ar y dudalen Apeliadau sefydlu ar wefan Cyngor y Gweithlu Addysg.

Estyniadau i’r cyfnod sefydlu

Estyniadau cyn cwblhau’r cyfnod sefydlu

Os yw athro newydd gymhwyso wedi bod yn absennol o’r gwaith am gyfanswm o 30 diwrnod ysgol neu fwy yn ystod ei gyfnod sefydlu, efallai bydd y corff priodol yn ymestyn y cyfnod sefydlu am gyfanswm y cyfnodau o absenoldeb.

Efallai bydd corff priodol yn ei hystyried yn briodol rhoi estyniad i gyfnod sefydlu athro newydd gymhwyso sy’n llai na chyfanswm y cyfnodau o absenoldeb pan fydd y cyfnod o absenoldeb yn fwy na nifer y diwrnodau/sesiynau sydd eu hangen i gyrraedd 380 sesiwn, ar yr amod ei bod yn debygol y bydd tystiolaeth ddigonol i fodloni’r safonau proffesiynol perthnasol.

Ni all estyniadau o’r fath fod yn fwy na chyfanswm y cyfnodau o absenoldeb. Gall athrawon newydd gymhwyso sy'n cymryd cyfnod mamolaeth, tadolaeth, rhiant neu fabwysiadu statudol wrth wneud eu cyfnod sefydlu neu estyniad i’w cyfnod sefydlu benderfynu p’un a ddylid ymestyn eu cyfnod sefydlu (neu ei ymestyn ymhellach) i gyd-fynd â’r dyddiau yr oeddent yn absennol.

Ni ddylai unrhyw asesiadau sydd ar ôl gael eu gwneud tan i’r athro newydd gymhwyso dan sylw ddychwelyd i’r gwaith a chael y cyfle i ddewis ymestyn (neu ymestyn ymhellach) y cyfnod ai peidio. Os bydd athro newydd gymhwyso yn dewis peidio ag ymestyn (neu ymestyn ymhellach) ei gyfnod sefydlu, bydd ei berfformiad yn dal i gael ei asesu yn erbyn y safonau proffesiynol perthnasol. Argymhellir, felly, bod unigolyn mewn sefyllfa o’r fath yn ceisio cyngor cyn penderfynu.

Os daw'r corff priodol i'r casgliad bod angen estyniad ar yr athro newydd gymhwyso, bydd hyd unrhyw gyfnod o estyniad yn cael ei bennu yn ôl disgresiwn y corff priodol a gall gynnwys estyniad o'r terfyn amser o bum mlynedd (gweler isod), yn dibynnu ar amgylchiadau. Os bydd y corff priodol yn penderfynu ymestyn y cyfnod sefydlu, rhaid i'r corff priodol hysbysu'r athro newydd gymhwyso yn ysgrifenedig, yn ogystal â chorff llywodraethu'r ysgol neu'r coleg (neu berchennog ysgol annibynnol), pennaeth yr ysgol (y bu’r athro newydd gymhwyso yn gweithio ynddi ar ddiwedd y cyfnod sefydlu), y cyflogwr fel yr asiantaeth cyflenwi (os yw’n wahanol i’r corff priodol ei hun) a Chyngor y Gweithlu Addysg.

Estyniadau ar ôl cwblhau’r cyfnod sefydlu

Gall y corff priodol, neu Gyngor y Gweithlu Addysg yn dilyn apêl, benderfynu a ddylid ymestyn cyfnod sefydlu athro newydd gymhwyso ar ôl cwblhau’r cyfnod hwnnw. Dylid gwneud hyn fesul achos.

Estyniadau mewn ysgol neu sefydliad gwahanol

Mae'n bosibl na fydd gan athrawon newydd gymhwyso sydd wedi gorfod ymestyn eu cyfnod sefydlu ar ôl ei gwblhau (gan y corff priodol neu Gyngor y Gweithlu Addysg yn dilyn apêl) gyflogaeth i barhau yn yr ysgol lle cwblhawyd y cyfnod sefydlu gwreiddiol. Mewn achosion o’r fath, cyfrifoldeb yr athro newydd gymhwyso yw chwilio am swydd addysgu arall er mwyn cwblhau’r cyfnod sefydlu. Cyfrifoldeb yr athro newydd gymhwyso hefyd yw sicrhau eu bod yn hysbysu’r ysgol ei bod yn ofynnol iddynt gwblhau estyniad i’w cyfnod sefydlu wrth dderbyn swydd arall mewn ysgol.

Cwblhau'r cyfnod sefydlu o fewn pum mlynedd

O dan y Rheoliadau diwygiedig, mae'n ofynnol bellach i bob athro newydd gymhwyso gwblhau eu cyfnod sefydlu o fewn pum mlynedd.

Bydd gan athrawon newydd gymhwyso a enillodd statws athro cymwysedig ers 1 Ebrill 2003 a chyn 7 Tachwedd 2022, ac nad ydynt eto wedi dechrau neu sydd wedi dechrau ond nad ydynt wedi cwblhau eu cyfnod sefydlu, bum mlynedd o 7 Tachwedd 2022 i gwblhau eu cyfnod sefydlu yn foddhaol.

Bydd gan athrawon newydd gymhwyso sy'n ennill statws athro cymwysedig o 7 Tachwedd 2022 ymlaen, bum mlynedd o'r dyddiad y dyfarnwyd eu statws athro cymwysedig i gwblhau eu cyfnod sefydlu'n foddhaol.

Daw hyn ag addysgu yn unol â phroffesiynau eraill fel y proffesiwn cyfreithiol, lle gosodir terfynau amser ar gyfer cwblhau cymwysterau.

Bydd gan y cyrff priodol ddisgresiwn i ymestyn y terfyn amser o bum mlynedd fel yr amlinellir isod.

Rhaid i'r corff priodol ymestyn y terfyn amser hwn o bum mlynedd ar gyfer athro newydd gymhwyso y mae ei gyfnod sefydlu yn cael ei ymestyn cyn neu ar ôl ei gwblhau (gan benderfyniad y corff priodol neu Gyngor y Gweithlu Addysg ar apêl) mewn amgylchiadau lle nad oes digon o amser yn weddill (o fewn y terfyn amser o bum mlynedd) i gwblhau’r cyfnod sefydlu estynedig ac i’r corff priodol benderfynu a yw’r athro newydd gymhwyso wedi bodloni’r safonau proffesiynol.

Gall y corff priodol ymestyn y terfyn amser i athrawon newydd gymhwyso sydd wedi dechrau eu cyfnod sefydlu neu i athrawon newydd gymhwyso sydd heb ddechrau eu cyfnod sefydlu eto lle mae'n fodlon bod rhesymau da dros wneud hynny a lle bo’r athro newydd gymhwyso yn caniatáu hynny. Byddai rheswm da yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r enghreifftiau canlynol:

  • cyfnod hirdymor o ofalu am aelod agos o’r teulu sy'n ddifrifol wael
  • cyfnod o absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, rhiant neu fabwysiadu
  • cyfnod o absenoldeb salwch hirdymor
  • seibiant gyrfa.

Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr a bydd y corff priodol yn rhoi ystyriaeth ddyledus i bob achos unigol.

O dan yr amgylchiadau hyn, byddai'n ofynnol i athro newydd gymhwyso drafod estyniad gyda’r corff priodol, ac, os cytunir i’r estyniad, byddai'r corff priodol yn penderfynu ar hyd yr estyniad).

Os yw athro newydd gymhwyso yn gwybod ymlaen llaw na fyddant yn gallu cwblhau eu cyfnod sefydlu o fewn y terfyn o bum mlynedd, dylent hysbysu'r corff priodol mor gynnar â phosibl i drafod estyniad, ac os caiff yr estyniad ei gytuno, bydd y corff priodol yn penderfynu hyd yr estyniad.

Cynghorir athrawon newydd gymhwyso y mae'r terfyn amser o bum mlynedd wedi mynd heibio ac nad ydynt wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i ofyn am gymeradwyaeth ar gyfer estyniad i'r terfyn amser gan y corff priodol cyn iddynt gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Ym mhob achos rhaid i'r corff priodol, o fewn 10 diwrnod gwaith o wneud penderfyniad, hysbysu Cyngor y Gweithlu Addysg yn ogystal â chorff llywodraethu'r ysgol neu'r coleg (neu berchennog ysgol annibynnol), pennaeth yr ysgol (y bu’r athro newydd gymhwyso yn gweithio ynddi ar ddiwedd y cyfnod sefydlu), y cyflogwr fel yr asiantaeth cyflenwi (os yw’n wahanol i’r corff priodol ei hun) a yw estyniad wedi'i roi,  ac os felly, hyd yr estyniad.

Dwy flynedd yw uchafswm hyd estyniad ym mhob achos, oni bai bod y corff priodol (neu Gyngor y Gweithlu Addysg ar apêl) yn penderfynu bod angen estyniad hirach i alluogi penderfyniad y corff priodol, neu Gyngor y Gweithlu Addysg ar apêl, i ymestyn y cyfnod sefydlu.

Canlyniadau methu cwblhau’r cyfnod sefydlu’n foddhaol o ran cyflogaeth

Pan fydd y corff priodol wedi gwneud argymhelliad terfynol bod athro newydd gymhwyso wedi methu cwblhau’r cyfnod sefydlu’n foddhaol, ni fydd yr athro newydd gymhwyso yn gymwys bellach i gael ei gyflogi’n athro mewn ysgol a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yng Nghymru gan na fydd modd iddo gofrestru mwyach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn y categori athro ysgol. Ni fyddai methu â chwblhau cyfnod sefydlu’n llwyddiannus yn eu hatal rhag chwilio am waith mewn ysgol nas cynhelir, mewn addysg bellach neu fel gweithiwr cymorth dysgu yn y sector a gynhelir.

Ni chaiff athrawon newydd gymhwyso sydd heb dderbyn estyniad i’w cyfnod sefydlu ymgymryd â’u cyfnod sefydlu eto mewn sefydliad gwahanol yng Nghymru neu Lloegr.

Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer pob athro newydd gymhwyso, boed yn llawnamser, yn rhan-amser neu'n ymgymryd â chyfnod sefydlu trwy swydd gyflenwi tymor byr neu hirdymor.

Beth sydd angen i mi ei wybod a’i wneud?

Pwy sy’n gorfod cwblhau cyfnod sefydlu?

Yng Nghymru  mae'n ofynnol i bob athro newydd gymhwyso a gafodd statws athro cymwysedig ar neu o 1 Ebrill 2003 ymlaen gwblhau cyfnod sefydlu statudol.

Eithriadau

Mae sawl eithriad i’r gofyniad i gwblhau cyfnod sefydlu. Crynhoir y rhain isod. Ceir rhestr lawn o’r eithriadau i'r gofyniad i gwblhau cyfnod sefydlu yn Atodlen 2 o Reoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu i Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015.

Nid oes rhaid i chi gwblhau cyfnod sefydlu os:

  • cawsoch SAC cyn 1 Ebrill 2003
  • rydych chi'n athro sy'n disgwyl apêl yn erbyn penderfyniad o fethu â chwblhau eich cyfnod sefydlu’n llwyddiannus
  • rydych wedi cwblhau’n foddhaol cyfnod sefydlu, cyfnod prawf, neu'r hyn sy'n cyfateb yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw, Guernsey, Jersey, Gibraltar, neu ysgol Addysg Plant y Lluoedd Arfog yn yr Almaen neu Gyprus
  • rydych chi'n athro o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir sydd wedi ennill SAC
  • rydych chi'n athro sydd ddim yn dymuno bod yn gymwys i addysgu mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir
  • rydych wedi'ch heithrio o'r gofyniad i gwblhau cyfnod sefydlu o dan drefniadau sefydlu Lloegr. Gweler Induction for early career teachers (England) am fanylion.

Cyn dechrau eich swydd addysgu gyntaf yng Nghymru, rhaid i chi:

  • feddu ar statws athro cymwysedig
  • cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn y categori athro ysgol cyn i chi ddechrau gweithio. Ni fydd unrhyw gyfnodau o gyflogaeth a wneir cyn cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn y categori athro ysgol yn cyfrif tuag at hyd eich cyfnod sefydlu.

Ceir rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion am sut i wneud cais, ar wefan Cyngor y Gweithlu Addysg.

Mae'n rhaid i chi hefyd:

  • gadw eich cofrestriad â Chyngor y Gweithlu Addysg drwy gydol eich cyfnod sefydlu
  • sicrhau bod gennych wiriad cyfredol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer rôl athro, yn unol â chanllawiau'r awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru ar ddiogelwch wrth recriwtio
  • sicrhau eich bod yn gwbl ymwybodol o’r trefniadau statudol ar gyfer sefydlu yng Nghymru
  • sicrhau eich bod yn gwbl ymwybodol o’r safonau proffesiynol yng Nghymru
  • sicrhau eich bod yn gwbl ymwybodol o'r gofynion i gwblhau'r proffil sefydlu ar-lein sydd ar gael yn y pasbort dysgu proffesiynol.

Pan fyddwch yn dechrau eich rôl addysgu gyntaf, mae'n rhaid i chi:

  • hysbysu Cyngor y Gweithlu Addysg eich bod yn ymgymryd â chyfnod sefydlu yng Nghymru drwy'r ffurflen hysbysu sefydlu (ewc.wales), a fydd yn rhoi mynediad i chi i'ch proffil sefydlu ar-lein
  • lanlwytho eich Proffil Dechrau Gyrfa a Fframwaith y Gymraeg i’r proffil sefydlu er mwyn rhannu eu blaenoriaethau dysgu proffesiynol gyda'r ysgol a’ch mentor
  • sicrhau eich bod wedi cael mentor ac wedi cysylltu â’r mentor i drafod eich trefniadau sefydlu, gan gynnwys blaenoriaethau datblygu a gosod targedau

Beth i'w wneud os ydych chi'n ymgymryd â chyfnod sefydlu drwy gyflenwi tymor byr:

  • Os ydych chi'n ymgymryd â rhan neu’r cyfan o’ch cyfnod sefydlu drwy gronni cyfnodau cyflenwi tymor byr h.ycyfnodau o hyd at bythefnos mewn un lleoliad, dylech sicrhau eich bod yn cwblhau Ffurflen hysbysu sefydlu fel athro cyflenwi byrdymor (ewc.wales) Cyngor y Gweithlu Addysg cyn dechrau eich cyfnod sefydlu neu o fewn 10 diwrnod i ddechrau’r cyfnod sefydlu fan bellaf.

Beth i'w wneud os ydych yn ymgymryd â chyfnod sefydlu drwy gyflenwi hirdymor

  • Os ydych yn ymgymryd â rhan neu’r cyfan o’ch cyfnod sefydlu drwy gronni cyfnodau cyflenwi hirdymor (cyfnodau o 11 diwrnod yn olynol neu fwy mewn un lleoliad) bydd angen i’ch ysgol gyflwyno ffurflen hysbysu sefydlu (ewc.wales) i Gyngor y Gweithlu Addysg.

Ni all unrhyw gyfnodau o gyflogaeth o lai na tymor/dau hanner dymor yn olynol mewn un lleoliad cyn 1 Medi 2012 gyfrif tuag at y cyfnod sefydlu.

Drwy gydol eich cyfnod sefydlu, rhaid i chi:

  • sicrhau bod eich cofnodion sefydlu yn gywir a chyfredol, drwy wneud y canlynol:
    • hysbysu eich pennaeth/asiantaeth gyflenwi eich bod yn athro newydd gymhwyso a bod pob sesiwn addysgu yn cyfrif tuag at y cyfnod sefydlu;
    • rhoi gwybod i Gyngor y Gweithlu Addysg os ydych yn symud ysgolion yn ystod eich cyfnod sefydlu neu os yw eich contract yn newid, er enghraifft, nifer yr oriau bob wythnos.
  • defnyddio'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth a’r pasbort dysgu proffesiynol gyda'ch mentor a chydweithwyr eraill i:
    • fyfyrio'n gyson ar eich arferion a nodi profiadau er mwyn eu gosod yn erbyn y safonau proffesiynol gan ddefnyddio eich Proffil Sefydlu ar-lein (ewc.wales)
    • nodi blaenoriaethau datblygu er mwyn cyflawni dysgu proffesiynol priodol
    • cofnodi ystod o brofiadau proffesiynol i ddangos eich bod yn bodloni'r safonau ar gyfer cyflawni'r cyfnod sefydlu’n llwyddiannus drwy ddefnyddio’r Proffil Sefydlu ar-lein (ewc.wales).

Eich hawl fel athro newydd gymhwyso

Mae gennych hawl i gael cymorth a chyngor o ansawdd uchel o ddechrau eich cyfnod sefydlu gan eich mentor a’r consortiwm rhanbarthol neu awdurdod lleol. Bydd hyn yn sicrhau eich bod, fel athro newydd gymhwyso, yn gallu canolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen i ddatblygu’n broffesiynol a chwblhau cyfnod sefydlu yn llwyddiannus.

Mae pob athro newydd gymhwyso yn gymwys i gael cymorth gan fentor hyfforddedig wrth sefydlu, waeth beth yw'r llwybr y maent yn ei gymryd. 

Mae'r cymorth a ddarperir i athrawon newydd gymhwyso yn cynnwys:

Llai o amser addysgu yn ystod y cyfnod sefydlu

Mae gan athrawon a gyflogir o dan ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) hefyd hawl i ostyngiad pellach o 10 y cant i’w hamserlen addysgu er mwyn caniatáu amser digyswllt statudol ar gyfer cynllunio, paratoi ac asesu.

Yn ogystal, mae'r ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon yn cynnwys hawl i athrawon  sy'n ymgymryd â chyfnod sefydlu gael gostyngiad pellach o 10 y cant yn eu hamserlen addysgu i fyfyrio ar eu harferion a chymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu proffesiynol priodol yn ystod eu cyfnod sefydlu.

Dyma enghreifftiau o weithgareddau sefydlu y gellir eu cynnal yn ystod cyfnod y gostyngiad o 10 y cant yn yr amserlen addysgu:

  • arsylwi ar eraill yn addysgu
  • mynychu dysgu proffesiynol (cenedlaethol/rhanbarthol)
  • gwneud ymchwil neu ddarllen ehangach
  • cofnodi profiadau dysgu proffesiynol/myfyrio ar arferion
  • cyfarfod â'ch mentor neu wiriwr allanol
  • cyfarfod ag aelodau o staff er enghraifft, Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • cyfarfod ag athrawon newydd gymhwyso eraill
  • cysgodi aelodau eraill o staff

Gall ysgolion wneud cais am gyllid i dalu am y gostyngiad ychwanegol o 10 y cant yn yr amserlen addysgu drwy Gyngor y Gweithlu Addysg. Os bydd ysgolion yn penderfynu peidio â gwneud cais am gyllid sefydlu, rhaid iddynt barhau i ddarparu'r gostyngiad yn yr amserlen i'w hathrawon newydd gymhwyso.

Anogir asiantaethau cyflenwi i ddarparu amser a ariennir i athrawon newydd gymhwyso allu cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol.

Mae’r hyn y mae gan athrawon newydd gymhwyso sy’n ymgymryd â chyfnod sefydlu hawl i’w cael tra eu bod yn cael eu cyflogi gan asiantaeth gyflenwi wedi’u nodi yn Fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer Asiantaethau Cyflenwi yng Nghymru.

Mentora

Mae Mentora yn rhan bwysig o ddysgu proffesiynol gydol gyrfa ac mae’n rhan hanfodol o’r cyfnod sefydlu. Ceir rhaglen dysgu proffesiynol cenedlaethol strwythuredig a chyson i bob athro newydd gymhwyso ar draws Cymru, sy'n canolbwyntio ar feithrin ymddygiad proffesiynol yn ogystal â chryfhau sgiliau a gwybodaeth yn unol â'r safonau proffesiynol.

Mae’r mentora a'r cymorth yn cael ei ddarparu gan fentor sefydlu hyfforddedig a ariennir, sydd fel arfer wedi’i leoli yn yr ysgol lle caiff yr athro newydd gymhwyso ei gyflogi. Mae’r mentora a’r gefnogaeth ar gyfer athrawon newydd gymhwyso sy’n cyflenwi am dymor byr yn cael ei wneud gan fentor allanol hyfforddedig a ariennir, a allai weithio gydag athrawon newydd gymhwyso ar draws nifer o ysgolion. Byddai'r un mentor yn aros gyda chi drwy gydol y cyfnod sefydlu lle bynnag y bo hynny'n bosibl.

Dysgu proffesiynol

Rydym am i bob ymarferydd gael mynediad at ddysgu proffesiynol o safon i'w galluogi i ddarparu addysg o safon a phennu dyheadau uchel i bawb. Bydd yr Hawl genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol (yr Hawl) yn chwarae rhan allweddol yn ein taith tuag at gyflawni hyn.

Nod yr Hawl yw hyrwyddo'r cymorth y mae gan ymarferwyr addysg ac arweinwyr neu gynghorwyr y system addysg hawl iddo. Mae'r Hawl yn nodi sut y bydd datblygiad parhaus ymarferwyr addysg yn cefnogi'r ysgolion neu'r lleoliadau y maent yn gweithio iddynt a'u dysgwyr i wireddu pedwar diben Cwricwlwm i Gymru, cefnogi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac ymgorffori tegwch, lles a'r Gymraeg ym mhob rhan o gymuned yr ysgol gyfan. Ceir Gwybodaeth bellach ar Hwb.

Bydd ystod o gyfleoedd dysgu proffesiynol sydd wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer athrawon newydd gymhwyso ar gael ym mhob rhanbarth neu awdurdod lleol i’ch helpu yn ystod eu cyfnod sefydlu.

Mae eich rhaglen sefydlu yn cynnwys 13 diwrnod (neu gyfwerth) o ddysgu proffesiynol a ddarperir gan y consortiwm/awdurdod lleol a'r ysgol, sy'n cynnwys:

  • tridiau (neu gyfnod cyfatebol) o hyfforddiant gwahaniaethol i bob athro newydd gymhwyso a ddarperir gan y consortiwm rhanbarthol, awdurdod lleol neu bartneriaeth. Disgwylir i chi fynychu'r tri diwrnod
  • cyfnod sy'n cyfateb i bum niwrnod mewn ysgol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu proffesiynol dan arweiniad y mentor
  • cyfnod sy'n cyfateb i bum niwrnod wedi'i gydgysylltu gan y consortiwm rhanbarthol neu'r awdurdod lleol i feithrin dealltwriaeth drwy ddysgu mewn partneriaeth, gan gynnwys darllen yn helaeth am theori ac ymchwil addysgu a chynnal ymchwil.

I gael gwybodaeth am gyfleoedd a rhaglenni dysgu proffesiynol yn eich consortiwm rhanbarthol/partneriaeth/awdurdod lleol, ewch i wefan y consortiwm rhanbarthol/awdurdod lleol dan sylw neu cysylltwch â chydlynydd sefydlu’r awdurdod lleol, y bartneriaeth neu’r consortiwm rhanbarthol am ragor o wybodaeth. Mae’r manylion cyswllt ar gael yma: Sefydlu: pa gymorth sydd ar gael - Hwb (llyw.cymru)

Mae'n bwysig eich bod yn cynllunio'r ffordd orau o ddefnyddio’r pum niwrnod o ddatblygiad proffesiynol o fewn yr ysgol gyda'ch mentor i sicrhau ei fod yn berthnasol i'ch anghenion.

Efallai yr hoffech ystyried:

  • gwaith cydweithredol yn eich pwnc neu’ch cyfnod chi neu bwnc neu gyfnod gwahanol
  • cysgodi neu arsylwi ar athrawon/gweithwyr addysg proffesiynol eraill
  • cynllunio a pharatoi gan gynnwys hunanwerthuso eich cynllunio a'ch addysgu eich hun
  • hunanwerthuso a myfyrio yn seiliedig ar drafodaethau gyda'ch mentor sefydlu/mentor allanol a’ch cynnydd tuag at gyflawni'r safonau proffesiynol
  • darllen proffesiynol a chyfarwyddo ag adnoddau ysgol
  • ymweld ag ysgolion neu leoliadau addysg eraill.

Y proffil sefydlu yn y pasbort dysgu proffesiynol

Bydd disgwyl i athrawon newydd gymhwyso gasglu tystiolaeth drwy gydol eu cyfnod sefydlu er mwyn dangos eu cynnydd o ran bodloni’r safonau proffesiynol perthnasol ac i alluogi asesiad ar ddiwedd y cyfnod.

Rhaid cofnodi eich profiadau dysgu proffesiynol yn eich proffil sefydlu ar-lein (ewc.wales) sy'n ffurfio ffocws pwysig ar gyfer eich hunan-adolygiad a thrafodaeth reolaidd gyda'ch mentor i sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r meysydd y dylech eu blaenoriaethu ar gyfer dysgu proffesiynol pellach. Bydd nifer y profiadau dysgu proffesiynol y bydd gofyn i chi eu cwblhau yn amrywio yn seiliedig ar lefel y manylder a nifer y safonau y maent yn eu cynnwys. Dylai hyn fod yn destun trafodaeth gyda'ch mentor. Fodd bynnag, argymhellir y dylech anelu at gwblhau o leiaf 10 o brofiadau dysgu proffesiynol sy'n dangos sut rydych chi wedi datblygu eich arferion yn unol â'r safonau proffesiynol.

Eich cyfrifoldeb chi yw cynnal eich proffil sefydlu ar-lein drwy gydol eich cyfnod sefydlu. Gellir cyrchu eich proffil sefydlu trwy eich cyfrif FyCGA. Ceir rhagor o wybodaeth am sut i gael mynediad i’r proffil sefydlu a’i gwblhau ar wefan Cyngor y Gweithlu Addysg.

Drwy gydol y cyfnod sefydlu, bydd y mentor sefydlu/gwiriwr allanol a’r corff priodol yn mynd i mewn i’r proffil sefydlu i fonitro cynnydd a nodi unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen. Bydd y proffil sefydlu’n rhan sylweddol o’r dystiolaeth a gaiff ei hystyried yn yr asesiad terfynol a’r cymedroli sy’n digwydd ar ddiwedd y cyfnod sefydlu. Ar ôl cwblhau’r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus, ni fydd gan y corff priodol, y mentor sefydlu na’r gwiriwr allanol yr hawl mwyach i weld y proffil sefydlu.

Trefniadau dwyochrog gyda Lloegr a gwledydd eraill

Ar gyfer athrawon ar ddechrau eu gyrfa (Early Career Teachers) sy’n trosglwyddo o Loegr, sydd wedi dechrau ond heb gwblhau'r cyfnod sefydlu sy'n ofynnol yn Lloegr, bydd y corff priodol yng Nghymru yn cynnal asesiad o'r athro ar yr adeg trosglwyddo i benderfynu ar beth sydd angen iddynt ganolbwyntio er mwyn cyrraedd y safonau proffesiynol a chwblhau’r cyfnod sefydlu'n llwyddiannus.

Bydd yn ofynnol i athrawon ar ddechrau eu gyrfa sydd wedi cwblhau llai na thri thymor yn Lloegr gael eu cyflogi fel athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru nes iddynt gael eu barnu gan y corff priodol eu bod wedi gallu bodloni’r safonau proffesiynol gofynnol. Gall y corff priodol ddefnyddio’i ddisgresiwn i leihau hyd y cyfnod sefydlu ar gyfer athrawon ar ddechrau eu gyrfa sy’n gallu dangos eu bod yn gallu bodloni’r safonau proffesiynol mewn llai na thri thymor ysgol neu 380 o sesiynau.

Caiff cwblhau cyfnod sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru eu gydnabod yn Lloegr.

Bydd yn ofynnol i athrawon newydd gymhwyso sy’n trosglwyddo o Gymru i Loegr ond nad ydynt wedi cwblhau eu cyfnod sefydlu gwblhau proses sefydlu yn unol â'r canllawiau ar gyfer sefydlu yn Lloegr. Ni all lleoliadau cyflenwi tymor byr sy'n cynnwys llai nag un tymor, neu gyfwerth, gyfrif tuag at y cyfnod sefydlu yn Lloegr.

Mae unigolion sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus rhaglen o hyfforddiant proffesiynol i athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i'r DU (sy'n cael ei chydnabod felly gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno), ac sydd hefyd yn bodloni meini prawf ychwanegol, wedi'u heithrio rhag cwblhau cyfnod sefydlu yng Nghymru. Gweler Atodlen 2 yn Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) 2015.

Rhaid i unigolion a enillodd statws athro cymwysedig yng Nghymru ac a symudodd dramor i addysgu cyn cwblhau cyfnod sefydlu yng Nghymru, ac nad ydynt wedi cwblhau rhaglen gydnabyddedig o hyfforddiant proffesiynol ar gyfer athrawon yn y wlad honno y tu allan i'r DU, gwblhau cyfnod sefydlu pan fyddant yn dychwelyd i Gymru.

Mae nifer o randdeiliaid yn allweddol i'r profiad sefydlu. Mae gan bob un ei rôl a'i gyfrifoldebau ei hun.

Y pennaeth/athro sy'n gyfrifol am ysgol neu leoliad

Cyn i athro newydd gymhwyso ddechrau ei swydd, rhaid i’r pennaeth/athro sy’n gyfrifol:

  • sicrhau bod yr athro newydd gymhwyso yn meddu ar statws athro cymwysedig ac wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn y categori athro ysgol
  • sicrhau bod yr athro newydd gymhwyso yn cael cefnogaeth briodol o ddydd i ddydd gan fentor cymwysedig a phrofiadol addas, waeth ar ba sail y cânt eu cyflogi
  • yn achos athro newydd gymhwyso sy’n athro cyflenwi tymor hir neu athro newydd gymhwyso sy'n sefydlu trwy'r llwybr cyflogedig, hysbysu Cyngor y Gweithlu Addysg trwy gyflwyno'r Ffurflen Hysbysu Sefydlu bod yr ysgol yn darparu cymorth sefydlu  i’r athro newydd gymhwyso
  • sicrhau bod gan yr athro newydd gymhwyso gyfrif Hwb.

Drwy gydol y cyfnod sefydlu, rhaid i’r pennaeth/athro sy’n gyfrifol:

  • annog pob athro newydd gymhwyso i wneud popeth o fewn eu gallu i symud ymlaen â'u cyfnod sefydlu
  • sicrhau bod pob athro newydd gymhwyso yn gallu cysylltu â mentor sy'n gyfarwydd â'r disgrifyddion sefydlu yn y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth ac sy'n meddu ar sgiliau a phrofiad addas i gefnogi'r athro newydd gymhwyso i ddefnyddio'r safonau yn ystod y cyfnod sefydlu. (Bydd athrawon newydd gymhwyso a gyflogir ar sail cyflenwi tymor byr yn cael mentor gan y cydlynydd sefydlu)
  • ar y cyd â'r mentor, ddarparu'r dystiolaeth ofynnol drwy gydol y cyfnod sefydlu, drwy’r proffil sefydlu ar-lein, a fydd yn cyfrannu at asesiad terfynol yr athro newydd gymhwyso gan y corff priodol
  • lle’n briodol, sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion a amlinellir yn Nogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru). Ni ddylai athro sy’n cwblhau cyfnod sefydlu addysgu am fwy na 80 y cant o’r amser y byddai disgwyl i athro ei dreulio’n addysgu yn yr ysgol fel arfer. Mae hyn yn rhoi amser ychwanegol i athrawon newydd gymhwyso ar ben amser ar gyfer cynllunio, paratoi ac asesu i fyfyrio ar eu harferion ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu proffesiynol priodol
  • sicrhau bod pob athro newydd gymhwyso yn cael y cyfle i fanteisio ar amrywiaeth o brofiadau proffesiynol er mwyn cynnwys y safonau proffesiynol yn ei arferion
  • sicrhau bod pob aelod o staff yn ymwybodol ei bod yn ofynnol i athro newydd gymhwyso ddefnyddio'r safonau proffesiynol at ddibenion ei gyfnod sefydlu, â'i rôl wrth gefnogi'r trefniadau hyn
  • ystyried y posibilrwydd o gyflogi athrawon newydd gymhwyso ar y llwybr cyflenwi am gyfnod o un tymor i dalu am ryddhau athrawon i fynychu dysgu proffesiynol, cymryd cyfnod sabothol
  • ystyried cyflogi athro newydd gymhwyso ar sail clwstwr, er enghraifft, rhannu ag ysgolion eraill.

Mentor Sefydlu a Mentor Allanol

Yn y rhan fwyaf o achosion, cydweithiwr yn yr ysgol fydd y mentor sefydlu. Mae'r mentor sefydlu yn cefnogi athrawon newydd gymhwyso sy'n llawnamser, yn rhan amser a'r rhai sy'n cael eu cyflogi fel athrawon cyflenwi hirdymor (er enghraifft, wedi’u cyflogi mewn ysgol am 11 diwrnod yn olynol neu fwy).

Mae'r mentor allanol yn gweithio ar sail leol/rhanbarthol ac yn cefnogi athrawon newydd gymhwyso a gyflogir fel athrawon cyflenwi tymor byr ar draws nifer o ysgolion.

Rôl y mentor yw darparu mentora a chefnogaeth; arsylwi ar yr athro newydd gymhwyso a gwneud argymhelliad ysgrifenedig i'r bwrdd priodol ynghylch a yw'r athro newydd gymhwyso yn bodloni'r safonau, gan ddefnyddio'r proffil sefydlu ar-lein.

Cyn i athro newydd gymhwyso ddechrau yn ei swydd, dylai’r mentoriaid:

  • gymryd rhan yn y rhaglen hyfforddi mentoriaid sefydlu
  • sicrhau y bydd yr athro newydd gymhwyso yn cael cefnogaeth briodol o ddydd i ddydd. Mae hyn yr un mor bwysig o ran athro newydd gymhwyso sy’n ymgymryd â chyfnod sefydlu yn llawnamser, yn rhan-amser neu mewn swydd gyflenwi tymor byr
  • sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r disgrifyddion sefydlu yn y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth
  • ymgyfarwyddo â hawl dysgu proffesiynol yr athro newydd gymhwyso (gweler yr adran athro newydd gymhwyso am ragor o wybodaeth).

Ar ôl i'r athro newydd gymhwyso ddechrau yn ei swydd, dylai’r mentoriaid:

  • wirio a yw’r athro newydd gymhwyso wedi’i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn y categori athro ysgol
  • cysylltu â'r athro newydd gymhwyso i drafod a chadarnhau'r trefniadau ar gyfer y cyfnod sefydlu
  • sicrhau bod yr athro newydd gymhwyso wedi lanlwytho ei Broffil Dechrau Gyrfa a’i asesiad ar gyfer fframwaith y Gymraeg i’w broffil sefydlu ar-lein er mwyn adolygu ei flaenoriaethau datblygu cychwynnol ar gyfer dysgu proffesiynol.

Yn ystod y cyfnod sefydlu, dylai’r mentoriaid:

  • sicrhau eu bod yn parhau i gymryd rhan mewn dysgu proffesiynol priodol er mwyn cyflawni eu rôl yn effeithiol
  • darparu mentora a chefnogaeth i’r athro newydd gymhwyso
  • gweithio'n agos â'r athro newydd gymhwyso, drwy gynnal sgyrsiau proffesiynol cyson, i archwilio ac adolygu profiadau dysgu proffesiynol, cefnogi a herio'r athro newydd gymhwyso mewn perthynas â'r safonau proffesiynol a sicrhau bod y Pasbort Dysgu Proffesiynol yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau
  • defnyddio amrywiaeth o strategaethau, a allai gynnwys arsylwi ar wersi, craffu ar waith, teithiau cerdded addysgol, llais y dysgwr fel rhan o'r gefnogaeth a’r monitro parhaus a wneir ar gyfer datblygiad proffesiynol
  • tynnu sylw'r athro newydd gymhwyso, y gwiriwr allanol a'r corff priodol at unrhyw bryderon, lle bo’n briodol, gan ystyried y ffyrdd mwyaf effeithiol a chefnogol o ymyrryd a chyfeirio at y safonau er mwyn nodi meysydd lle gellid datblygu ymhellach;
  • gweithio mewn partneriaeth â’r gwiriwr allanol i sicrhau y caiff y cyfnod sefydlu ei gynnal yn unol â’r rheoliadau, bod yr athro newydd gymhwyso yn cael y cymorth angenrheidiol a bod yr holl ofynion asesu’n cael eu bodloni
  • gwneud argymhelliad ysgrifenedig i’r corff priodol ynghylch a yw'r athro newydd gymhwyso wedi cwblhau ei gyfnod sefydlu yn foddhaol.

Dysgu proffesiynol a chymorth i fentoriaid

Mae dysgu proffesiynol ar gael i fentoriaid i’w cefnogi i gyflawni ei rôl. Bydd yn cynnwys:

  • dysgu proffesiynol ar y trefniadau sefydlu a'r gofynion ar gyfer y rôl fentora
  • mynediad at raglenni hyfforddi a mentora
  • cyfleoedd i fentora athrawon newydd gymhwyso a gyflogir fel athrawon cyflenwi tymor byr nad ydynt yn rhan o'u hysgol nhw
  • cyfleoedd i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth er mwyn symud ymlaen i rolau arweinyddiaeth ganol neu uwch.

I gael gwybodaeth am raglenni dysgu proffesiynol a chyfleoedd mentora yn eich consortiwm rhanbarthol/partneriaeth/awdurdod lleol chi, ewch i wefan y consortiwm/partneriaeth/awdurdod lleol dan sylw neu cysylltwch â chydlynydd sefydlu’r awdurdod lleol, y bartneriaeth neu’r consortiwm rhanbarthol. Mae rhagor o fanylion ar gael.

Gwiriwr allanol

Y gwiriwr allanol sy’n sicrhau ansawdd trefniadau’r cyfnod sefydlu ar ran y corff priodol ac mae’n gweithio gyda’r mentor sefydlu a’r corff priodol i sicrhau bod athrawon newydd gymhwyso’n cael mentora a goruchwyliaeth o safon. Mae’r gwiriwr allanol yn sicrhau ansawdd sampl o broffiliau sefydlu.

Cyn ymgymryd â'r rôl, rhaid i’r gwirwyr allanol:

  • sicrhau eu bod wedi manteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol priodol er mwyn cyflawni rôl y gwiriwr allanol yn effeithiol
  • sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r disgrifyddion sefydlu yn y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth a'u rôl fel rhan o drefniadau sefydlu athro newydd gymhwyso
  • ymgyfarwyddo â hawl dysgu proffesiynol yr athro newydd gymhwyso. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran athro newydd gymhwyso).

Drwy gydol y cyfnod sefydlu, rhaid i’r gwirwyr allanol:

  • sicrhau ansawdd y trefniadau sefydlu mewn ysgolion ar ran y corff/cyrff priodol i sicrhau bod athrawon newydd gymhwyso yn cael pob cyfle i fodloni’r safonau proffesiynol wrth gwblhau’r cyfnod sefydlu
  • nodi cefnogaeth ar gyfer mentoriaid, yn benodol y rheini sy'n newydd i'r rôl mewn perthynas â safon ac effeithiolrwydd y mentora
  • pwyso’r botwm 'achos pryder' ar y proffil sefydlu ar-lein pan fo angen, yn dilyn trafodaeth gyda'r mentor a’r corff priodol
  • arsylwi ar yr athro newydd gymhwyso yn addysgu a defnyddio ystod o strategaethau i asesu cynnydd yr athro newydd gymhwyso a allai gynnwys craffu ar waith a gwrando ar ddysgwyr fel rhan o'r monitro
  • gweithio mewn partneriaeth â'r mentoriaid sefydlu/mentoriaid allanol i sicrhau y cynhelir y cyfnod sefydlu'n unol â'r rheoliadau, bod yr athro newydd gymhwyso yn cael y gefnogaeth angenrheidiol ac y bodlonir yr holl ofynion asesu
  • asesu sampl o broffiliau sefydlu ar ran y corff priodol
  • cymryd rhan yn y broses safoni/gymedroli genedlaethol ar gais y consortiwm rhanbarthol/awdurdod lleol.

Dysgu proffesiynol a chefnogaeth ar gyfer gwirwyr allanol

Mae dysgu proffesiynol ar gael i wirwyr allanol i’w helpu i gyflawni eu rôl. Bydd y cymorth yn cynnwys:

  • dysgu proffesiynol ar y trefniadau sefydlu a'r gofynion ar gyfer rôl gwiriwr allanol
  • mynediad at raglenni hyfforddi a mentora
  • cyfleoedd i fod yn fentor allanol i athrawon newydd gymhwyso a gyflogir ar sail cyflenwi tymor byr nad ydynt yn wiriwr allanol iddynt
  • cyfleoedd i ddatblygu sgiliau arwain er mwyn symud ymlaen i rolau arweinyddiaeth ganol neu uwch.

I gael gwybodaeth am raglenni dysgu proffesiynol a chyfleoedd ar gyfer gwirwyr allanol yn eich consortiwm rhanbarthol/partneriaeth/awdurdod lleol, ewch i wefan y consortiwm rhanbarthol/awdurdod lleol dan sylw neu cysylltwch â chydlynydd sefydlu’r awdurdod lleol, y bartneriaeth neu’r consortiwm rhanbarthol. Mae rhagor o fanylion ar gael.

Cyrff priodol

Mae’r corff priodol yn gyfrifol am hyfforddi'r athro newydd gymhwyso sy'n cwblhau cyfnod sefydlu a'i oruchwylio'n gyffredinol.

Mae gan y corff priodol gyfrifoldeb statudol cyffredinol am benderfynu’n derfynol ar ddiwedd y cyfnod sefydlu p’un a yw’r athro newydd gymhwyso wedi llwyddo yn ei gyfnod sefydlu, wedi methu, neu a oes angen ymestyn y cyfnod sefydlu. Caiff y penderfyniad hwn ei wneud ar ôl ystyried  argymhelliad ysgrifenedig y mentor.

Dylai’r corff priodol:

  • sicrhau bod systemau sicrhau ansawdd effeithiol a chadarn yn cael eu rhoi ar waith fel bod pob athro newydd gymhwyso yn derbyn cefnogaeth sefydlu o’r ansawdd uchaf
  • sicrhau eu bod yn deall rôl y safonau proffesiynol at ddibenion sefydlu athro newydd gymhwyso
  • defnyddio tystiolaeth o'r asesiad i ddod i benderfyniad terfynol ar ganlyniad y cyfnod sefydlu
  • rhoi trefniadau cymedroli lleol neu ranbarthol ar waith a chymryd rhan mewn proses gymedroli genedlaethol o’r canlyniadau er mwyn sicrhau ansawdd a chysondeb ar draws Cymru
  • rhoi gwybod i Gyngor y Gweithlu Addysg beth yw canlyniad pob athro newydd gymhwyso o fewn amserlenni penodol
  • defnyddio eu disgresiwn i leihau hyd y cyfnod sefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso sy'n gallu dangos eu bod yn bodloni’r safonau proffesiynol mewn llai na thri thymor ysgol / 380 sesiwn
  • defnyddio eu disgresiwn i ganiatáu estyniad i'r terfyn amser o bum mlynedd, mewn rhai amgylchiadau, er mwyn i athrawon newydd gymhwyso gwblhau eu cyfnod sefydlu yn foddhaol (gweler 'Estyniadau i’r cyfnod sefydlu')
  • hysbysu'r athro newydd gymhwyso, mentor sefydlu/mentor allanol/gwiriwr allanol lle bo hynny'n berthnasol, corff llywodraethu’r ysgol neu'r coleg (neu berchennog ysgol annibynnol), pwyllgor rheoli yr uned cyfeirio disgyblion, pennaeth yr ysgol (y bu’r athro newydd gymhwyso yn gweithio ynddi ar ddiwedd y cyfnod sefydlu), yr athro sy’n gyfrifol am yr uned cyfeirio disgyblion, y cyflogwr fel yr asiantaeth cyflenwi (os yw’n wahanol i’r corff priodol ei hun) a Chyngor y Gweithlu Addysg, pan cytunir ar estyniad i’r terfyn amser ar gyfer cwblhau’r cyfnod sefydlu
  • cydweithredu â phob rhanddeiliad i sicrhau bod y broses sefydlu'n gyson ar draws Cymru.

Partneriaethau/consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol

Mae'r cydlynydd sefydlu yn y partneriaethau/consortia rhanbarthol a’r awdurdodau lleol yn gyfrifol am gefnogi pob athro newydd gymhwyso a gyflogir yn yr ardaloedd daearyddol y maent yn eu cwmpasu.

Maent yn gyfrifol am y canlynol:

  • sicrhau bod cyfnod sefydlu pob athro newydd gymhwyso yn cynnwys rhaglen dysgu proffesiynol, monitro a chefnogaeth effeithiol o ansawdd uchel
  • sicrhau eu bod yn deall rôl y safonau proffesiynol at ddibenion sefydlu athro newydd gymhwyso
  • gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg i sicrhau bod y proffil sefydlu ar-lein yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol i gefnogi'r broses sefydlu
  • sicrhau bod trefniadau sicrhau ansawdd priodol yn eu lle fel bod y trefniadau sefydlu yn diwallu anghenion yr athro newydd gymhwyso a'r gofynion statudol
  • sicrhau bod cyfleoedd dysgu proffesiynol priodol ar gael i gefnogi'r gwaith mentora o ran y broses sefydlu
  • annog/hwyluso'r gwaith o ddod o hyd i adnoddau enghreifftiol er mwyn defnyddio'r safonau proffesiynol yn effeithiol
  • gweithio gyda darparwyr AGA rhanbarthol i godi ymwybyddiaeth myfyrwyr o'r broses sefydlu
  • cydweithredu â chydweithwyr yn y consortiwm/awdurdod lleol/corff priodol i sicrhau bod y broses sefydlu'n parhau’n gyson ar draws Cymru
  • gweithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i sicrhau bod athrawon newydd gymhwyso sy'n ymgymryd â chyfnod sefydlu yn cael gwiriwr allanol
  • lle mae gan athro newydd gymhwyso gontract rhan-amser ar draws dwy neu fwy o ysgolion ar yr un pryd, gweithio gyda’r mentor sefydlu/mentor allanol a’r gwiriwr allanol i sicrhau bod cyswllt rhwng yr ysgolion a datblygu rhaglen sefydlu briodol ar gyfer yr athro newydd gymhwyso.

Asiantaeth gyflogi neu gyflenwi

Cyn lleoli athro newydd gymhwyso mewn ysgol, rhaid i’r asiantaeth gyflogi neu gyflenwi:

  • sicrhau bod yr athro newydd gymhwyso yn gwneud y paratoadau angenrheidiol ar gyfer sefydlu (cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, creu cyfrif ar Hwb, ymgyfarwyddo â’r gofynion statudol ar gyfer sefydlu)
  • rhoi gwybod i'r ysgol am eu statws athro newydd gymhwyso
  • sicrhau bod yr athro newydd gymhwyso wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yn y categori athro ysgol cyn dechrau ei swydd fel athro
  • sicrhau bod y gwiriadau perthnasol – gan gynnwys gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd – wedi’u gwneud a bod y geirdaon yn briodol
  • sicrhau bod gan yr unigolyn sy'n cael ei gyflenwi i'r ysgol y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad angenrheidiol i ymgymryd â'r rôl yn effeithiol.

Mae'n rhaid i bob asiantaeth sy’n rhan o Fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer Asiantaethau Cyflenwi yng Nghymru weithredu yn unol â'r gofynion a nodir yn y fframwaith.

Drwy gydol y cyfnod sefydlu, rhaid i’r asiantaeth gyflogi neu gyflenwi:

  • sicrhau bod gan yr athro newydd gymhwyso fynediad at fentor a bod yr athro newydd gymhwyso yn cael eu sesiynau wedi’u gwirio’n rheolaidd ac yn eu cofnodi gyda Chyngor y Gweithlu Addysg
  • sicrhau bod athrawon newydd gymhwyso sy’n gwneud gwaith cyflenwi yn gyfarwydd â'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth a’u bod yn gallu manteisio ar brofiadau proffesiynol sy’n eu galluogi i ddangos ystod lawn y safonau proffesiynol
  • sicrhau bod yr athro newydd gymhwyso yn defnyddio’r proffil sefydlu ar-lein drwy gydol y cyfnod sefydlu a fydd yn cyfrannu at asesiad terfynol yr athro newydd gymhwyso gan y corff priodol
  • cefnogi dysgu proffesiynol yr athro newydd gymhwyso, gan gynnwys ei gyfeirio at wybodaeth ac adnoddau dysgu proffesiynol er mwyn gallu datblygu ei arferion yn unol â'r safonau proffesiynol, waeth a yw’r athro newydd gymhwyso yn ymgymryd â’r cyfnod sefydlu ar sail llawnamser, rhan-amser neu gyflenwi tymor byr
  • bod yn ymwybodol o'r gofynion i athrawon newydd gymhwyso ddefnyddio'r safonau proffesiynol at ddibenion sefydlu, a'u cefnogi i wneud hynny
  • sicrhau y rhoddir gwybodaeth berthnasol i athrawon newydd gymhwyso am eu hysgol - a hynny cyn iddynt fynd yno, os yn bosibl
  • sicrhau bod gofynion a disgwyliadau lleoliadau yn glir i’r athrawon newydd gymhwyso.

Cyngor y Gweithlu Addysg

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn gyfrifol am:

  • gynnal a darparu mynediad at y proffil sefydlu statudol ar-lein drwy'r Pasbort Dysgu Proffesiynol fel bod yr athro newydd gymhwyso yn gallu cofnodi ei gynnydd yn erbyn y safonau a chofnodi ei brofiadau proffesiynol
  • gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chonsortia i gynnal y Pasbort Dysgu Proffesiynol, gan gynnwys y proffil sefydlu, a sicrhau mynediad (gan gynnwys at unrhyw ddeunyddiau cymorth gofynnol) i bob parti
  • sicrhau bod y sawl sy’n ymgymryd â’r rhaglen sefydlu yn meddu ar statws athro cymwysedig ac wedi’i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn y categori 'athro ysgol'
  • casglu, coladu a chynnal ffynhonnell ddata ganolog ar gyfer athrawon sy'n ymgymryd â'r rhaglen sefydlu
  • rhannu'r wybodaeth hon gyda'r partïon cyfrifol wrth ddarparu'r rhaglen sefydlu drwy gyfleuster Cyngor y Gweithlu Addysg ar y we
  • gweithio gyda’r partneriaethau/consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol i sicrhau bod athrawon newydd gymhwyso sy'n ymgymryd â chyfnod sefydlu trwy gyflenwi tymor byr yn cael mentor a gwiriwr allanol
  • gweinyddu’r cyllid sefydlu ar ran Llywodraeth Cymru
  • cyhoeddi tystysgrifau sefydlu ar sail canlyniadau sefydlu a ddarperir gan y corff priodol
  • gwrando ar apeliadau sefydlu.

Darparwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon

Mae’r darparwyr yn gyfrifol am:

  • weithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, partneriaethau/consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol i godi ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr o'r broses sefydlu
  • sicrhau bod pob myfyriwr yn cwblhau eu proffil dechrau gyrfa a fframwaith y Gymraeg yn y Pasbort Dysgu Proffesiynol ar ôl cwblhau eu hyfforddiant
  • gweithio gyda’r partneriaethau/consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol i ddarparu unrhyw gymorth trosglwyddo sydd ei angen.

Llywodraeth Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn:

  • adolygu'r trefniadau sefydlu yng Nghymru a gweithio gyda phartneriaid er mwyn penderfynu ar bolisi cenedlaethol
  • llunio ac adolygu rheoliadau a chanllawiau perthnasol
  • darparu cyllid i Gyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer gweinyddu'r rhaglen sefydlu
  • adolygu’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.

Cyllid i gefnogi’r broses sefydlu

Cyllid ar gyfer lleihau amserlen athro newydd gymhwyso

  • Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i ysgolion ar gyfer y costau sy’n gysylltiedig â lleihau amserlen yr athro newydd gymhwyso. I’r rheini a gyflogir yn rhan-amser, caiff hyn ei wneud ar sail pro rata. Mae Cyngor Gweithlu Addysg yn gweinyddu'r cyllid hwn ar ran Llywodraeth Cymru ar ôl derbyn y Ffurflen Hawlio Cyllid Sefydlu gan ysgolion. Dylid cyflwyno'r ffurflen hawlio ar ddiwedd pob tymor academaidd, neu'n gynt os daw'r cyflogaeth i ben
  • Dylai athrawon newydd gymhwyso ddefnyddio'r gostyngiad ychwanegol o 10 y cant yn yr amserlen addysgu i ymgysylltu â dysgu proffesiynol a dylai penaethiaid ddefnyddio'r cyllid i dalu’r gost o ryddhau'r athro newydd gymhwyso i ymgysylltu â'r dysgu proffesiynol
  • Bydd cyllid yn cael ei roi hyd at y pwynt y mae'r athro newydd gymhwyso wedi cwblhau ei gyfnod sefydlu'n llwyddiannus
  • Os bydd ysgolion yn penderfynu peidio â gwneud cais am y cyllid sefydlu, rhaid iddynt barhau i ddarparu'r gostyngiad o 10 y cant yn yr amserlen i'w hathrawon newydd gymhwyso
  • Os yw athro newydd gymhwyso yn symud ysgol yn ystod ei gyfnod sefydlu, dylai'r pennaeth/mentor sefydlu yn yr ysgol y mae’r athro newydd gymhwyso yn symud iddi gyflwyno Ffurflen Hysbysu Sefydlu (ewc.wales) newydd i Gyngor y Gweithlu Addysg o fewn 10 diwrnod gwaith i’r athro newydd gymhwyso ddechrau ei gyflogaeth yn yr ysgol. Mae hyn yn hanfodol er mwyn i gyllid a chymorth mentora barhau.

Cyllid ar gyfer mentoriaid sefydlu mewn ysgolion

  • Mae cyllid ar gael i alluogi ysgolion i ryddhau mentoriaid sefydlu i gefnogi athrawon newydd gymhwyso a gyflogir yn yr ysgol neu sy’n cyflenwi am gyfnod hir yn yr ysgol (contract o fwy na 11 diwrnod yn olynol neu fwy). Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn gweinyddu'r cyllid hwn ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd ysgolion yn cael eu talu fesul tymor ar ôl cyflwyno'r Ffurflen Hawlio Cyllid Sefydlu (ewc.wales) ar ddiwedd pob tymor academaidd, neu'n gynt os bydd cyflogaeth yr athro newydd gymhwyso yn yr ysgol yn dod i ben.
  • Bydd cyllid yn cael ei ryddhau'n ôl-weithredol ar ôl diwedd pob tymor academaidd y mae’r athro newydd gymhwyso yn ymgymryd â’r broses sefydlu. Bydd y cyllid ar sail pro rata yn ôl gyfran y contract a weithiwyd gan yr athro newydd gymhwyso neu faint o sesiynau sy'n cael eu cwblhau yn ystod y tymor academaidd.

Cyllid i fentoriaid allanol sy'n gweithio ar sail leol/rhanbarthol i gefnogi nifer o athrawon newydd gymhwyso sydd mewn swyddi cyflenwi tymor byr

  • Mae cyllid ar gael i alluogi ysgolion i ryddhau mentoriaid allanol i gefnogi athrawon newydd gymhwyso sy’n gweithio fel athrawon cyflenwi tymor byr. Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn gweinyddu’r cyllid hwn i’r consortia rhanbarthol/partneriaethau/awdurdodau lleol ar ran Llywodraeth Cymru.
  • Dyma rai awgrymiadau o sut y gellid defnyddio'r cyllid i gefnogi gwaith y mentor allanol: 
    • rhyddhau mentoriaid allanol o'r ysgol i fynychu rhaglenni dysgu proffesiynol
    • cydlynu gweithgareddau sefydlu yn yr ysgol, er enghraifft, rhaglen sefydlu i fynd drwy bolisïau’r ysgol
    • amser i arsylwi ar wersi’r athro newydd gymhwyso a rhoi adborth
    • mentora rheolaidd
    • gosod targedau a’u hadolygu
    • cwrdd â’r gwiriwr allanol
    • deialog reolaidd o fewn y proffil sefydlu ar-lein gan gynnwys cymeradwyo profiadau dysgu proffesiynol
    • gwneud argymhelliad ysgrifenedig i’r cyrff priodol.

Bydd y cyrff priodol, y gwirwyr allanol a’r cydlynwyr sefydlu yn monitro gweithgareddau’r mentor sefydlu/mentor allanol drwy:

  • bresenoldeb mewn dysgu proffesiynol;
  • defnydd rheolaidd o'r proffil sefydlu ar-lein yn y Pasbort Dysgu Proffesiynol i roi adborth i'r athro newydd gymhwyso a sicrhau bod targedau’n cael eu gosod ac adolygiadau’n cael eu cynnal.

Cyllid ar gyfer gwirwyr allanol sy’n gweithio ar sail leol/rhanbarthol

  • Mae cyllid ar gael i alluogi ysgolion i ryddhau gwirwyr allanol i gefnogi'r broses sefydlu. Mae'r Cyngor y Gweithlu Addysg yn gweinyddu'r cyllid hwn ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno i ddysgwyr unedau cyfeirio disgyblion o fis Medi 2022, a bydd yn parhau i gael ei gyflwyno i ddysgwyr ym mlynyddoedd 7 i 11 fesul cam, tan fis Medi 2026. Mae cyflwyno’r cwricwlwm newydd mewn unedau cyfeirio disgyblion yn golygu y gallant ddarparu amgylchedd addas i athrawon newydd gymhwyso ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnynt i fodloni’r safonau proffesiynol. Dyma oedd y sail ar gyfer caniatáu i gyfnod sefydlu gymryd lle mewn unedau cyfeirio yng Nghymru.

Dylai’r awdurdod lleol y mae’r uned cyfeirio disgyblion wedi’i lleoli ynddo wasanaethu fel y corff priodol. Dylai’r corff priodol fodloni ei hun fod yr uned cyfeirio disgyblion yn bodloni’r holl ofynion ar gyfer cyfnod sefydlu statudol athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru cyn i’r cyfnod sefydlu ddechrau, a bod hynny’n parhau i fod yn wir drwy gydol y cyfnod sefydlu.

Dylai'r corff priodol drafod trefniadau sefydlu gyda phennaeth/rheolwr yr uned cyfeirio disgyblion cyn i’r cyfnod sefydlu ddechrau i sicrhau y bydd lefel ddigonol o'r Cwricwlwm i Gymru yn cael ei addysgu gan yr athro newydd gymhwyso. Fel arall, efallai y bydd yn bosibl i’r athro newydd gymhwyso ymgymryd â lleoliad byr mewn ysgol prif ffrwd i sicrhau ei fod yn bodloni’r holl safonau sefydlu. Bydd rhwydwaith ysgolion yr uned cyfeirio disgyblion ei hun yn gallu cynorthwyo gyda hyn.

Dylai athrawon newydd gymhwyso dderbyn cefnogaeth a mentora rheolaidd a’r amser angenrheidiol i'w galluogi i fyfyrio ar eu hymarfer a chymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu proffesiynol priodol (fel yr amlinellir yn yr adran ‘Gwybodaeth ar gyfer y rhai sy’n cefnogi athrawon newydd gymhwyso’).

Bydd mentoriaid sefydlu ac athrawon newydd gymhwyso sy'n ymgymryd â sefydlu mewn uned cyfeirio disgyblion yn gallu cael mynediad at y rhaglen dysgu proffesiynol a ddarperir gan y consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol.

Gall sefydliadau addysg bellach, sy’n cynnwys colegau chweched dosbarth, ddarparu cyfnod sefydlu cyhyd â bo’r meini prawf canlynol yn cael eu bodloni.

  • Rhaid i sefydliadau addysg bellach gytuno ag awdurdod lleol y bydd yn gweithredu fel y corff priodol cyn cynnig cyfnod sefydlu yn y sefydliad. Gall unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru fod yn gorff priodol ar gyfer sefydliad addysg bellach, ond argymhellir y dylai’r awdurdod lleol ar gyfer ardal y sefydliad weithredu fel y corff priodol. Heb gytundeb o’r fath bydd unrhyw gyfnod sefydlu a gyflawnir yn annilys
  • Bydd yr athro newydd gymhwyso yn derbyn cymorth a mentora rheolaidd, ynghyd â’r amser priodol i fyfyrio ar ei arferion a chymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu proffesiynol priodol
  • Ni ddylai’r athro newydd gymhwyso dreulio mwy na 10 y cant o’i amser addysgu yn addysgu dosbarthiadau o ddysgwyr sy’n 19 oed a throsodd yn bennaf
  • Dylai’r athro newydd gymhwyso, yn ystod y cyfnod sefydlu, dreulio’r hyn sydd gyfwerth â 10 diwrnod ysgol o leiaf yn addysgu dysgwyr (argymhellir y dylai sefydliadau addysg bellach, gyda chymorth eu corff priodol, ddarparu rhwng 20 a 25 o ddyddiau o brofiad mewn ysgol).

Dylai’r corff priodol fodloni ei hun fod y sefydliad addysg bellach y mae wedi cytuno i fod yn gorff priodol ar ei gyfer yn bodloni’r holl ofynion ar gyfer sefydlu’n statudol athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru cyn i’r cyfnod sefydlu ddechrau, a bod hynny’n parhau i fod yn wir drwy gydol y cyfnod sefydlu.

Caiff y corff priodol godi tâl rhesymol ar y sefydliad addysg bellach am ymgymryd â rôl y corff priodol yn ystod cyfnod sefydlu’r athro newydd gymhwyso. Bydd hefyd angen i sefydliadau addysg bellach dalu costau sy'n gysylltiedig â’r sefydlu, er enghraifft, gwiriwr allanol a llai o amser addysgu i’r athro newydd gymhwyso yn ystod y cyfnod sefydlu.

Os bodlonir y meini prawf uchod, rhaid i’r athro newydd gymhwyso gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yn y categori athro ysgol yn ogystal â’r categori ‘athro addysg bellach’.

Gellir ond cynnal cyfnod sefydlu mewn ysgolion annibynnol yng Nghymru os bodlonir y meini prawf canlynol.

  • Mae’r cwricwlwm i bob dysgwr yn yr ysgol yn bodloni gofynion y Cwricwlwm i Gymru
  • Mae’r ysgol a’r awdurdod lleol wedi cytuno y bydd yr awdurdod lleol yn gweithredu fel corff priodol yr ysgol. Gall unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru fod yn gorff priodol ar gyfer ysgolion annibynnol, ond argymhellir y dylai’r awdurdod lleol ar gyfer ardal yr ysgol annibynnol weithredu fel y corff priodol. Rhaid trefnu hyn cyn dechrau’r cyfnod sefydlu. Os na wneir hynny, ni fydd unrhyw gyfnodau sefydlu a gwblhawyd cyn y cytundeb hwn yn cyfrif. Ni cheir unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â’r gofyniad hwn.

Dylai’r corff priodol fodloni ei hun fod yr ysgol annibynnol y mae wedi cytuno i fod yn gorff priodol ar ei chyfer yn bodloni holl ofynion sefydlu statudol ar gyfer athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru cyn i’r cyfnod sefydlu ddechrau, a bod hynny’n parhau i fod yn wir drwy gydol y cyfnod sefydlu.

Caiff y corff priodol godi tâl rhesymol i’r ysgol annibynnol am ymgymryd â rôl y corff priodol yn ystod cyfnod sefydlu’r athro newydd gymhwyso. Bydd angen i ysgolion annibynnol hefyd dalu costau sy’n gysylltiedig â sefydlu, er enghraifft, darparu gwiriwr allanol a llai o amser addysgu yn ystod y cyfnod sefydlu.

Os bodlonir y meini prawf uchod, argymhellir bod athrawon newydd gymhwyso sy’n ymgymryd â chyfnod sefydlu mewn ysgol annibynnol yn cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yn y categori athro ysgol.

Bydd unrhyw gyfnod sefydlu (o un tymor neu ddau hanner tymor olynol) a gwblhawyd cyn 1 Medi 2012 gan athro newydd gymhwyso wedi’i gofrestru fel athro gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn cael ei gario drosodd ac yn cyfrif tuag at y broses sefydlu. Mae’r cyfnodau o gyflogaeth a wnaed cyn 1 Medi 2012 y gellir eu cyfrif tuag at y broses sefydlu yn cynnwys tymhorau cyfan, dau hanner tymor yn olynol (heb ystyried gwyliau’r ysgol) neu gyfnod o gyflogaeth a bennir gan y corff priodol (oddeutu 10 wythnos yn olynol). Gellir cyfrif y cyfnodau hyn o gyflogaeth tuag at y cyfnod sefydlu os cadarnhawyd yn flaenorol eu bod yn rhan o’r cyfnod sefydlu.

Dylai athrawon newydd gymhwyso a ddechreuodd eu cyfnod sefydlu cyn 1 Medi 2012 barhau i ddefnyddio’r deunyddiau ategol cyfredol ar gyfer asesu, arsylwi a gosod targedau. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Cyngor y Gweithlu Addysg.

Ni all unrhyw gyfnodau o gyflogaeth fel athro cyflenwi tymor byr neu hirdymor a wnaed cyn 1 Medi 2012 gyfrif tuag at y cyfnod sefydlu.

Yn gyffredinol, ni ellir gwneud cyfnod sefydlu mewn ysgol sydd, ym marn Estyn, angen mesurau arbennig.

Mae dau eithriad posibl i’r gofyniad hwn:

  • dechreuodd y person dan sylw ei gyfnod sefydlu yn yr ysgol, neu cafodd ei gyflogi yn yr ysgol fel athro graddedig neu athro cofrestredig ar gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth, ar adeg pan nad oedd y fath amgylchiadau’n berthnasol
  • mae un o Arolygwyr Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru wedi ardystio’n ysgrifenedig eu bod yn fodlon bod yr ysgol yn addas ar gyfer darparu goruchwyliaeth a hyfforddiant sefydlu.

Lle cynhelir cyfnod sefydlu, bydd y corff priodol yn gyfrifol am sicrhau bod yr ysgol yn darparu unrhyw gefnogaeth ychwanegol angenrheidiol.

I weld canllawiau Estyn ar ysgolion mewn mesurau arbennig a'r cyfnod sefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso, ewch i www.estyn.llyw.cymru

Ar gyfer ymholiadau eraill, e-bostiwch ymholiadau@estyn.llyw.cymru neu ffoniwch Estyn ar 029 2044 6446.