English

Mae’r canllawiau hyn ar adolygu datblygiad proffesiynol yn ymwneud â Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011 ac yn disodli canllawiau rheoli perfformiad Llywodraeth Cymru ar gyfer athrawon, penaethiaid ac athrawon digyswllt (2012). Mae hefyd yn nodi canllawiau ar gyfer gweithwyr cymorth dysgu.

Defnyddir y term 'adolygu datblygiad proffesiynol' drwy gydol y ddogfen i gyfeirio at y broses a elwir hefyd yn 'rheoli perfformiad' neu 'gwerthuso'.

Mae'r canllawiau hyn yn sicrhau bod y trefniadau yn cyd-fynd â newidiadau yn y byd addysg, gan gynnwys y Cwricwlwm i Gymru, trefniadau gwella ysgolion, yr hawl genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol a’r model ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu. Datblygwyd y canllawiau gyda'r proffesiwn, rhanddeiliaid ac undebau athrawon, arweinwyr a gweithwyr cymorth dysgu. Mae’r canllawiau ar gyfer pob ymarferydd ysgol (sef athrawon, penaethiaid, athrawon digyswllt a gweithwyr cymorth dysgu), cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol.

Pwrpas adolygu datblygiad proffesiynol yw sicrhau addysgu ac arweinyddiaeth effeithiol er budd pob dysgwr, ymarferydd a staff ehangach yr ysgol. Mae'n gwneud hyn drwy gefnogi ymarferwyr i ddatblygu eu hunain yn barhaus fel dysgwyr proffesiynol ymroddedig trwy fyfyrio, cydweithredu ac arloesi.

Yn sail i broses adolygu datblygiad proffesiynol effeithiol mae diwylliant o ymddiriedaeth a disgwyliad bod ymarferwyr yn cymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad eu hunain. Er mwyn i hyn ddigwydd, rhaid i'r ysgol gynllunio i ddarparu'r amser a'r lle sydd eu hangen i fod yn sefydliad sy’n dysgu effeithiol.

Dylai adolygu datblygiad proffesiynol gefnogi lles yr ymarferydd, datblygiad proffesiynol, myfyrio ac adolygu parhaus. Mae hyn yn annog ymarferwyr i ddatblygu ymdeimlad o gysylltiad a galluogedd o ran cyflawni gweledigaeth yr ysgol a chefnogi gweithredu cynllun datblygu'r ysgol o fewn amgylchedd dysgu. Fel rhan o hyn, dylai ysgolion sicrhau eu bod yn buddsoddi yn sgiliau ymholi ac addysgeg ymarferwyr a fydd yn eu galluogi i fod yn ddysgwyr proffesiynol arloesol mewn diwylliant o ymholi.

Mae'r dull hwn o ymdrin ag adolygu datblygiad proffesiynol yn cynnig modd unigol a chyfunol o wireddu pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru. Disgrifir priodoleddau allweddol ysgolion sy'n cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru yn llwyddiannus yn y canllawiau gwella ysgolion.

Cysylltiad

Datblygu perchnogaeth a chysylltiad ag adolygu datblygiad proffesiynol fel rhan annatod o ddysgu proffesiynol a gwelliant pob ymarferydd.

Galluogedd

Cael amser a lle i ymgysylltu â'ch taith dysgu proffesiynol eich hun, myfyrio arno a’i mapio i ddiwallu anghenion dysgwyr, mewn diwylliant ac amgylchedd cefnogol.

Uchelgais

Gosod eich uchelgeisiau ar gyfer twf proffesiynol trwy ddefnyddio'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu, arweinyddiaeth a chynorthwyo addysgu fel fframwaith ar gyfer gwelliant parhaus.

O'r gwerthoedd hyn, nodir bod yr egwyddorion canlynol yn hanfodol ar gyfer proses adolygu datblygiad proffesiynol effeithiol, sef ei bod:

  • yn hawl i bob ymarferydd sy’n gweithio mewn 1 ysgol am dymor cyfan neu 2 hanner tymor yn olynol
  • yn dathlu cryfderau, yn cydnabod cynnydd tuag at nodau ac yn hyrwyddo datblygiad pellach
  • yn rhan o ddiwylliant o gyd-ymddiriedaeth a pharch
  • yn elfen annatod o ddysgu a chydweithio fel tîm
  • yn gysylltiedig ag ymrwymiad i dwf proffesiynol gydol gyrfa
  • yn cefnogi taith dysgu proffesiynol yr unigolyn ac yn cael ei lywio gan fyfyrio unigol a chefnogaeth gan gyfoedion yn yr ysgol neu gan ysgol arall
  • yn cael ei ategu gan ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel a deialog broffesiynol barhaus â ffocws
  • yn broses lle mae pob ymarferydd yn cael ei drin yn deg
  • yn seiliedig ar ymrwymiad ar y cyd i ddiwallu anghenion dysgwyr
  • yn canolbwyntio ar bobl yn hytrach na phapur
  • yn cynnal cyfrinachedd rhwng y partner adolygu datblygu perfformiad a’r ymarferydd wrth wneud penderfyniadau ffurfiol
  • yn cefnogi lles dysgwyr ac ymarferwyr

Mae safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth a safonau proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu Llywodraeth Cymru yn berthnasol i bawb sy'n gweithio gyda dysgwyr mewn ysgolion. Mae'r 5 safon (addysgeg, arweinyddiaeth, dysgu proffesiynol, arloesi a chydweithio) yn disgrifio'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ymddygiadau sy'n nodweddu arferion rhagorol. Ategir y safonau proffesiynol gan werthoedd ac ymagweddau cyffredin sy’n ysgogi pob ymarferydd i gyrraedd y safon uchaf bosibl. Maen nhw’n gyson â gwireddu’r Cwricwlwm i Gymru ac maen nhw’n cefnogi twf proffesiynol gydol eu gyrfa.

Mae'r safonau'n helpu’r unigolyn i gynllunio, datblygu ac adolygu ei daith dysgu proffesiynol fel rhan o’r hawl genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol.

Mae'r safonau wedi'u cynllunio i'w defnyddio mewn ffordd bwrpasol gan ddefnyddio'r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) ar-lein sy'n cael ei gynnal gan Gyngor y Gweithlu Addysg. Bydd y ffordd y mae ymarferwyr yn ymgysylltu â'r safonau yn dibynnu ar le mae'r unigolyn yn ei yrfa a'r hyn y maen nhw eisiau ei gyflawni. Bydd y mwyafrif o ymarferwyr yn defnyddio’r 5 safon proffesiynol i fyfyrio ar eu hymarfer. Mae’r disgrifyddion o fewn pob safon yn nodi enghreifftiau o sut y gallai’r safonau fod yn berthnasol i waith ymarferydd ar adegau gwahanol o’i yrfa. Nid oes disgwyl i ymarferwyr ddarparu tystiolaeth yn erbyn pob disgrifydd fel rhan o adolygiad datblygiad proffesiynol.

Mae defnyddio'r safonau fel rhan o’r broses adolygu datblygiad proffesiynol yn darparu proses ffurfiol, hyblyg ar gyfer myfyrdod unigol, dathlu llwyddiant a chanolbwyntio ar dwf proffesiynol i gefnogi datblygiad cynhwysfawr. Gall unigolyn ddewis cysylltu disgrifyddion o safon i safon a gwneud cysylltiadau ag arferion proffesiynol, neu ddefnyddio enghreifftiau o arferion a gasglwyd dros amser ac yna archwilio'r disgrifyddion. Fel arall, gallai’r myfyrio ffocysu ar ddigwyddiadau, gweithgareddau neu ymholiadau dysgu proffesiynol, gan ddefnyddio'r disgrifyddion i lywio'r broses honno.

Gellir dod o hyd i awgrymiadau ar gael y gorau o'r safonau ar Hwb.

Mae'n ofynnol i bob ysgol sefydlu polisi ysgrifenedig sy'n nodi sut y bydd adolygu datblygiad proffesiynol yn cael ei weithredu yn yr ysgol yn unol â Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011. Mae'n rhaid i'r corff llywodraethu, yr awdurdod lleol a'r pennaeth sefydlu'r polisi. Os na ellir dod i gytundeb, rhaid i'r awdurdod lleol bennu’r polisi.

Cyn sefydlu'r polisi, rhaid i'r corff llywodraethu sicrhau yr ymgynghorir â phob ymarferydd (ac eithrio athrawon digyswllt) yn yr ysgol. Anogir ysgolion i gynnwys gweithwyr cymorth dysgu wrth ddatblygu polisi. Dylid parchu rôl yr undebau gweithlu addysgu a’r undebau gweithwyr cymorth dysgu cydnabyddedig yn llawn yn y broses hon. Bydd y corff llywodraethu yn sicrhau bod copi o'r polisi ar gael yn yr ysgol i’r staff ei weld.

Dylai'r polisi osod fframwaith i bob ymarferydd allu cytuno ac adolygu blaenoriaethau ac amcanion yng nghyd-destun cynllun datblygu'r ysgol a'u hanghenion eu hunain o ran datblygiad proffesiynol. Bydd hyn yn helpu i gyflawni’r nod o ddatblygu pob ymarferydd, gan gynnwys gweithwyr cymorth dysgu, i ddatblygu eu harferion yn barhaus a chefnogi pob dysgwr i gyrraedd ei botensial.

Dylid adolygu polisi adolygu datblygiad proffesiynol yr ysgol bob blwyddyn a’i ddiwygio fel bo angen, yn dilyn ymgynghoriad.

O leiaf unwaith ym mhob blwyddyn ysgol, rhaid i'r pennaeth gyflwyno crynodeb ysgrifenedig i'r corff llywodraethu ar weithredu polisi adolygu datblygiad proffesiynol yr ysgol, effeithiolrwydd gweithdrefnau adolygu datblygiad proffesiynol yr ysgol, ac anghenion hyfforddi a datblygu ymarferwyr.

Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw datblygu ac adolygu’r polisi adolygu datblygiad proffesiynol ar gyfer athrawon di-gyswllt a rhaid iddyn nhw ymgynghori â nhw cyn creu neu diwygio polisi sy’n gymwys iddyn nhw.

Fel gweithwyr proffesiynol, dylai ymarferwyr gymryd perchnogaeth a chyfrifoldeb personol dros ddatblygu eu harferion trwy ddatblygiad proffesiynol priodol. Mae adolygu datblygiad proffesiynol yn helpu ymarferwyr i ganolbwyntio ar eu blaenoriaethau o ran datblygiad proffesiynol a gwerthuso eu cynnydd tuag at eu cyflawni.

Mae adolygu datblygiad proffesiynol effeithiol yn gofyn bod ymarferwyr yn:

  • myfyrio ar eu llwyddiannau, eu cryfderau a’r meysydd y mae angen eu datblygu yng nghyd-destun y safonau proffesiynol, cynnydd eu dysgwyr, blaenoriaethau datblygu’r ysgol a'u rôl o fewn hynny. Yn ogystal, bydd angen i ymarferwyr mewn rôl arweinyddiaeth ffurfiol fyfyrio ar y safonau perthnasol mewn perthynas â'u maes cyfrifoldeb penodol
  • nodi blaenoriaethau datblygu (amcanion) sy'n heriol ond yn gyraeddadwy. Bydd y blaenoriaethau hyn yn cael eu trafod a'u cytuno gyda chefnogaeth eu partner adolygu datblygiad proffesiynol (gweler isod) a'u defnyddio i ddatblygu taith dysgu proffesiynol unigol yn unol â'r hawl genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol. Mae angen i'r drafodaeth hon nodi meini prawf llwyddiant ar gyfer pob un o'r blaenoriaethau y gellir myfyrio arnyn nhw ar ddiwedd y cylch, yn ogystal â thrwy gydol y flwyddyn
  • mynd ati i ddilyn a myfyrio ar eu taith dysgu proffesiynol, gyda chefnogaeth eu hysgol a'u partner adolygu datblygiad proffesiynol
  • diwygio’r blaenoriaethau, os yn briodol, drwy drafodaeth gyda'u partner adolygu datblygiad proffesiynol
  • ysgogi, ymgysylltu a chyfrannu at ddeialog broffesiynol, myfyrio, ymholi a dysgu proffesiynol
  • ar ddiwedd y cylch adolygu datblygiad proffesiynol, gwerthuso'r cynnydd a wnaed tuag at eu blaenoriaethau datblygu yn erbyn y meini prawf a bennwyd ar ddechrau’r cylch. Myfyrio ar eu cynnydd mewn sgwrs werthuso gyda'u partner adolygu datblygiad proffesiynol
  • cael y cyfle i gyflwyno agweddau ar eu taith dysgu proffesiynol i’w cydweithwyr ar ddiwedd y cylch adolygu datblygiad proffesiynol, os ydyn nhw’n dewis gwneud hynny. Bydd hyn yn eu galluogi i:
    • adlewyrchu gyda phwrpas ar eu taith dysgu proffesiynol
    • rhannu meysydd allweddol o ddysgu a chynnydd
    • cydnabod meysydd lle mae angen dysgu neu ddatblygiad pellach
    • cyfrannu at rannu dysgu ac arferion effeithiol ar draws yr ysgol

Efallai y bydd ysgolion yn dymuno creu templedi ar gyfer y broses hon.

Cyfrifoldeb y pennaeth yw creu'r amodau i gefnogi ymarferwyr i allu cyflawni'r gweithgareddau uchod. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod amser yn cael ei ddyrannu yn ystod amser cyfeiriedig ar gyfer trafodaethau datblygu proffesiynol.

Mae'r diagram isod yn crynhoi'r cylch adolygu a rôl partner adolygu datblygiad proffesiynol (ADP) wrth gefnogi'r ymarferydd i gytuno ar flaenoriaethau, monitro a myfyrio ar ei gynnydd gan ddefnyddio'r cynllun datblygu proffesiynol (CDP).

Dylai’r pennaeth benodi partner adolygu datblygiad proffesiynol sydd â’r sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiadau priodol ar gyfer pob ymarferydd yn yr ysgol.

Athrawon a gweithwyr cymorth dysgu

Bydd y pennaeth yn penodi partner adolygu datblygiad proffesiynol priodol, (neu cyflawni'r rôl ei hun) ar gyfer pob ymarferydd yn yr ysgol gan gynnwys gweithwyr cymorth dysgu.

Mae'n rhaid i bartneriaid adolygu datblygiad proffesiynol athrawon fod â statws athro cymwysedig. Bydd partneriaid adolygu datblygiad proffesiynol gweithwyr cymorth dysgu yn athrawon neu’n gynorthwywyr addysgu lefel uwch lle bo hynny’n bosibl.

Gall y pennaeth ddewis partner adolygu datblygiad proffesiynol newydd ar unrhyw adeg a dylid hysbysu'r ymarferydd o unrhyw newid.

Athrawon digyswllt

Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw adolygu datblygiad proffesiynol athrawon digyswllt. Gall awdurdod ddirprwyo hyn i athro neu aelod addas arall o’r ysgol lle bo’r athro digyswllt yn gweithio rhan helaeth o’u hamser.

Penaethiaid

Bydd adolygiad y pennaeth yn cael ei gynnal gan banel sy'n cynnwys:

  • o leiaf 2 lywodraethwr a benodir gan y corff llywodraethu, y mae'n rhaid i 1 ohonyn nhw fod yn llywodraethwr sefydledig os yw’n ysgol ffydd neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir
  • gall y panel hefyd gynnwys 1 neu 2 gynrychiolydd a benodir gan yr awdurdod lleol. Mae adborth gan benaethiaid yn awgrymu gall cael pennaeth o ysgol arall o fewn yr awdurdod lleol ar y panel fod yn fuddiol
  • caiff Awdurdod Esgobaethol ddewis penodi cynrychiolydd i banel adolygu’r pennaeth os yw’n ysgol sydd â chymeriad crefyddol
  • caiff y corff llywodraethu geisio newid aelodau'r panel ar unrhyw adeg. Yn achos y cynrychiolwyr a benodir gan yr awdurdodau lleol, mae hyn yn ôl disgresiwn yr awdurdodau lleol. Os yw'r awdurdod lleol yn gwrthod penodi aelod amgen i’r panel, rhaid iddyn nhw roi esboniad ysgrifenedig o’r rhesymau

Ni chaiff unrhyw lywodraethwr sy'n athro neu sydd â rôl arall yn yr ysgol fod yn aelod o banel adolygu'r pennaeth.

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau bod llywodraethwyr yn derbyn yr hyfforddiant a'r wybodaeth sydd eu hangen arnyn nhw i gyflawni eu rôl yn effeithiol.

Cytuno ar flaenoriaethau datblygu

Wrth gynllunio ac adolygu eu blaenoriaethau datblygu, gofynnir i ymarferwyr gymryd cyfrifoldeb am weithio gyda'u partner adolygu datblygiad proffesiynol i fyfyrio ar eu gwybodaeth, sgiliau, ymddygiadau a phrofiadau cyfredol.

Wedyn bydd yr ymarferydd yn:

  • nodi anghenion eu dysgwyr (unigol, grwpiau neu ddosbarthiadau) a/neu flaenoriaethau ysgol gyfan
  • yn nodi'r hyn y maen nhw (yr ymarferydd) yn bwriadu ei ddysgu, ei ddatblygu neu ei wneud yn wahanol
  • yn amlinellu’r dysgu proffesiynol sydd ei angen i gyflawni hynny

Lle bo'n bosibl, bydd ymarferwyr wedyn yn amlinellu effaith bosibl y dysgu proffesiynol hwn ar arfer.

Mae disgwyl i’r ymarferydd a'r partner adolygu datblygiad proffesiynol gytuno ar y blaenoriaethau datblygu, gan gofio pwysigrwydd ymreolaeth a dewis yn y broses hon. Dylai'r blaenoriaethau datblygu fod yn realistig ac yn hylaw, tra’n ystyried gwybodaeth ac arbenigedd presennol yr ymarferydd. Mae rhoi cyfleoedd i ymarferwyr weithredu a chyfeirio eu blaenoriaethau trwy arferion ac ymholi yn ysgogiad pwerus.

Mewn achosion lle na ellir dod i gytundeb ar flaenoriaethau datblygu, er enghraifft os nad ydyn nhw’n cydlynu ag anghenion y dosbarth, dosbarthiadau penodol, grwpiau, dysgwyr unigol neu flaenoriaethau’r ysgol gyfan, bydd y partner adolygu datblygiad proffesiynol yn nodi blaenoriaethau priodol y caiff yr ymarferydd roi sylwadau arnyn nhw’n ysgrifenedig.

Rhaid i flaenoriaethau datblygu ystyried tystiolaeth berthnasol y cytunwyd arni gan yr ymarferydd a'r partner adolygu datblygiad proffesiynol.

Ar gyfer ymarferwyr ac athrawon digyswllt, bydd y blaenoriaethau hyn yn cynnwys cynnydd dysgwr wrth wireddu pedwar diben y cwricwlwm a rhaid ei bod yn ymwneud â:

  • datblygu arferion proffesiynol yr ymarferydd
  • y swydd-ddisgrifiad
  • blaenoriaethau perthnasol o gynllun datblygu’r ysgol
  • y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu

Caiff y blaenoriaethau datblygu hefyd ystyried:

  • dyheadau proffesiynol yr ymarferydd
  • y blaenoriaethau addysg cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion

Ar gyfer penaethiaid, bydd y blaenoriaethau hyn yn cynnwys cefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd wrth wireddu pedwar diben y cwricwlwm a rhaid ei bod yn ymwneud ag:

  • arweinyddiaeth a rheolaeth ysgolion
  • disgrifiad swydd y pennaeth
  • unrhyw amcanion ysgol gyfan neu dîm perthnasol a bennir yng nghynllun datblygu’r ysgol
  • y safonau proffesiynol ar gyfer arweinyddiaeth
  • unrhyw flaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion

Ar gyfer gweithwyr cymorth dysgu, bydd ffocws blaenoriaethau datblygu yn dibynnu ar y cyd-destun y maen nhw’n gweithio ynddo, a bydd yn cael ei drafod a'i gytuno gyda'u partner adolygu datblygiad proffesiynol gan ddefnyddio’r safonau proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu.

Weithiau gall fod yn briodol i athro, pennaeth neu weithiwr cymorth dysgu nodi blaenoriaethau datblygu tymor byrrach. Gall hefyd fod yn briodol nodi blaenoriaethau datblygu tymor hwy lle bo gofyn eu cyflawni dros fwy nag 1 flwyddyn academaidd.

Weithiau gall yr ymarferydd neu’r partner adolygu datblygiad proffesiynol deimlo bod angen diwygio blaenoriaethau datblygu yn ystod y flwyddyn. Yn y rhan fwyaf o achosion, disgwylir y bydd yr ymarferydd a'r partner adolygu datblygiad proffesiynol yn cytuno ar y newidiadau. Lle na cheir cytundeb, er enghraifft os nad ydyn nhw’n cysylltu'n gydlynol ag anghenion y dosbarth, y dosbarth/dosbarthiadau a grwpiau penodol, dysgwyr unigol neu flaenoriaethau ysgol gyfan, bydd y partner adolygu datblygiad proffesiynol yn nodi blaenoriaethau priodol. Bydd yr ymarferydd yn cael cyfle i wneud sylwadau ysgrifenedig arnyn nhw cyn iddyn nhw gael eu cwblhau. Bydd y partner adolygu datblygiad proffesiynol yn nodi ac yn cofnodi blaenoriaethau datblygu priodol y gall yr ymarferydd roi sylwadau arnyn nhw’n ysgrifenedig.

Cynllun datblygu proffesiynol

Y cynllun datblygu proffesiynol yw lle i ymarferwyr nodi eu blaenoriaethau datblygu a’u taith dysgu proffesiynol. Mae hefyd yn galluogi ymarferwyr i nodi cynnydd dros y flwyddyn mewn perthynas â blaenoriaethau datblygu ac unrhyw ffactorau pwysig eraill.

Dylai'r blaenoriaethau datblygu fod yn glir, yn gryno, yn heriol ac yn berthnasol. Dylai'r blaenoriaethau datblygu fod yn fesuradwy, ond efallai na fyddan nhw bob amser, er enghraifft targedau sy’n canolbwyntio ar addysgeg neu’r amgylchedd dysgu.

Anogir pob ymarferydd i ymgymryd ag ymholi proffesiynol, cydweithredu a bod yn arloesol yn eu datblygiad proffesiynol. Dylai ymarferwyr gael mynediad at gyfleoedd dysgu proffesiynol priodol drwy Hwb ac ar lefel ysgol, ynghyd â'r amser i weithio tuag at eu blaenoriaethau datblygu. Bydd yr ymarferydd a'r partner adolygu datblygiad proffesiynol yn cytuno ar elfennau allweddol y daith dysgu proffesiynol a bydd hyn yn cael ei nodi yn y cynllun datblygu proffesiynol.

Dylid annog pob ymarferydd i dreialu dulliau newydd a gynigir gan y dysgu proffesiynol a wneir. Bydd hyn, a myfyrio ar y canlyniadau, yn gwneud y mwyaf o effaith dysgu proffesiynol ar gynnydd dysgwyr a thwf proffesiynol yr ymarferydd.

Fel rhan o wneud yr ysgol yn sefydliad sy’n dysgu, anogir penaethiaid i greu diwylliant o gydweithredu, ymddiriedaeth a thryloywder, lle gall ymarferwyr rannu rhan neu’r cyfan o’u cynllun datblygu proffesiynol gyda chydweithwyr. Bydd hyn yn cefnogi rhannu dysgu proffesiynol ac ymagwedd golegol at ddatblygu. Gallai hyn fod yn arbennig o berthnasol lle mae blaenoriaeth unigol yn cysylltu â blaenoriaeth tîm neu ysgol.

Dylai'r cynllun datblygu proffesiynol fod yn ddogfen 'fyw' y dylai ymarferwyr ei defnyddio drwy gydol y flwyddyn i:

  • fyfyrio ar eu hasesiad eu hunain o gynnydd tuag at gyflawni eu blaenoriaethau datblygu
  • cadw cofnod o unrhyw ddysgu proffesiynol a wneir gan ddefnyddio’r pasbort dysgu proffesiynol
  • cadw cofnod o unrhyw ffactorau eraill a allai effeithio ar eu perfformiad mewn perthynas â'r blaenoriaethau datblygu

Mae arferion gorau yn awgrymu bod pob ymarferydd yn elwa ar gefnogi cydweithwyr a dysgu oddi wrthyn nhw.

Fel rhan o adolygu datblygiad proffesiynol a datblygu fel sefydliad sy’n dysgu, dylai cymorth proffesiynol yn yr ysgol fod ar gael i bob ymarferydd fel eu bod yn gallu ymgysylltu â'u blaenoriaethau datblygu a myfyrio arnyn nhw. Dylai'r ymarferydd a'r partner adolygu datblygiad proffesiynol gytuno yn y cyfarfod cychwynnol pryd a sut y bydd y gefnogaeth hyn yn digwydd.

Gall y gefnogaeth hon fod ar sawl ffurf, gan gynnwys deialog, cyd-gynllunio, mentora neu hyfforddi, dadansoddi, adborth ac arsylwi. Pa bynnag ffurf sydd arni, dylai'r dull fod yn ddatblygiadol ac adeiladol.

Dylai pob ymarferydd fynd ati’n rhagweithiol i gydweithio ag eraill i gefnogi eu dysgu proffesiynol ac i gasglu gwybodaeth am eu cynnydd fel eu bod yn gallu monitro ac addasu eu dysgu. Mae hon yn broses barhaus a gallai gynnwys cyfoedion o fewn a thu hwnt i'r ysgol, gan gynnwys unigolion sydd ag arbenigedd mewn maes penodol. Bydd yr ysgol yn darparu cyfleoedd i hyn ddigwydd drwy gydol y flwyddyn, gan ganiatáu i ymarferwyr a grwpiau fyfyrio, adolygu cynnydd ac ystyried effeithiolrwydd eu harferion. Bydd hefyd cyfle fel rhan o’r ‘cylch adborth parhaus’ hwn i ymarferwyr ystyried, gydag eraill, agwedd ar eu gwaith y maen nhw’n cael trafferth â hi, ‘mewn lle diogel’. Yn ogystal, gall ymarferwyr ddefnyddio’r cyfle hwn hefyd i rannu rhywbeth sydd wedi gweithio'n dda ac a allai fod o ddefnydd i eraill.

Rôl unrhyw ymarferydd wrth gefnogi cydweithiwr yw gweithredu fel cyfaill beirniadol; rhannu profiad neu wybodaeth berthnasol a bod yn glust i wrando ar syniadau. Bydd hyn yn helpu'r ymarferydd i ddod yn arbenigwr addasol sy'n gallu tyfu'n barhaus, myfyrio ar, ac ehangu dyfnder ac ehangder eu harbenigedd. Er mwyn i'r broses hon fod yn effeithiol, mae'n hanfodol bod yna ddiwylliant o ymddiriedaeth, gonestrwydd ac ymrwymiad ar y cyd i wella deilliannau ar gyfer dysgwyr.

Ar gyfer y pennaeth, gall y rôl o gefnogi proffesiynol gael ei chyflawni hefyd gan banel datblygu perfformiad y llywodraethwyr, swyddog yr awdurdod lleol neu fentor cymheiriaid.

Rhaid i’r ymarferydd a'i bartner adolygu datblygiad proffesiynol gytuno ar ddechrau'r flwyddyn sut i fyfyrio ar gynnydd a’i gynnal.

Bydd y math o fyfyrio sy'n digwydd yn amrywio yn unol â'r blaenoriaethau datblygu a gall gynnwys arsylwadau gwersi cefnogol, sesiynau galw heibio, teithiau dysgu, edrych ar lyfrau. Weithiau ni ellir dod i gytundeb ar sut i fyfyrio ar gynnydd. Mewn achosion o’r fath, bydd y partner adolygu datblygiad proffesiynol yn nodi dull y mae’n ystyried yn briodol.

Mae gofyniad statudol i’r partner adolygu datblygiad proffesiynol arsylwi yr ymarferydd o leiaf unwaith yn ystod y cylch adolygu. Anogir ymarferwyr a phartneriaid adolygu datblygiad proffesiynol i roi ystyriaeth ofalus i bwrpas a natur yr arsylwadau a’r canlyniad a ddymunir er mwyn sicrhau eu bod yn adeiladol, yn hytrach na ffocysu ar nifer yr arsylwadau a wneir. Disgwylir i ysgolion greu’r amodau i sicrhau bod arsylwi a gweithgareddau eraill yn cael eu hystyried yn gyfle gwerthfawr ar gyfer datblygiad proffesiynol a gwelliant parhaus ac yn gyfle i bawb gefnogi ei gilydd.

Mae deialog broffesiynol ac adborth adeiladol yn allweddol wrth fyfyrio ar gynnydd tuag at gyflawni’r blaenoriaethau datblygu. Yn y sesiynau adborth y mae'r dysgu a'r gweithredu'n dechrau, drwy ganolbwyntio ar faes penodol ar gyfer datblygu'r unigolyn a/neu'r dysgwyr ymhellach a dylai fod yn:

  • benodol
  • adeiladol
  • heriol ond yn barchus
  • rhan o ddeialog
  • canolbwyntio ar ymddygiadau, ac nid nodweddion
  • myfyrio ar lwyddiannau yn ogystal â meysydd i'w gwella
  • rhan o drafodaeth am y camau nesaf

Bydd unrhyw weithgaredd myfyrio yn cael ei wneud gan bartner adolygu datblygiad proffesiynol neu gydweithiwr sydd â'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ymddygiadau i gyflawni'r rôl yn effeithiol.

Gall cymryd cyfleoedd gyda chydweithwyr ar gyfer sgyrsiau byrfyfyr proffesiynol a cheisio adborth anffurfiol ac adeiladol hefyd fod yn ffyrdd effeithiol o fyfyrio a datblygu heb greu llwyth gwaith ychwanegol.

Cynhelir y cyfarfod adolygu datblygiad proffesiynol blynyddol rhwng yr ymarferydd a’r partner adolygu datblygiad proffesiynol. Cynhelir y cyfarfod fel arfer tua diwedd y cyfnod adolygu datblygiad proffesiynol a rhaid i'r partner adolygu datblygiad proffesiynol roi 10 diwrnod ysgol o rybudd i'r unigolyn.

Diben y cyfarfod yw crynhoi’r gweithgarwch dros y flwyddyn ddiwethaf drwy fyfyrio ar y canlynol:

  • cynnydd yn erbyn blaenoriaethau datblygu (ar lefel yr unigolyn a’r ysgol)
  • safonau proffesiynol perthnasol
  • manteision a chymhwyso dysgu proffesiynol
  • cyflawniad dysgwyr
  • unrhyw ffactorau a allai fod wedi cael effaith ar yr uchod

Gellir defnyddio'r cyfarfod hefyd i gytuno ar yr hyn y mae angen canolbwyntio arno ar gyfer y cylch adolygu datblygiad proffesiynol nesaf.

Bydd yr ymarferydd wedi myfyrio drwy gydol y flwyddyn a rhaid iddo rannu ei fyfyrdodau gyda'i bartner adolygu datblygiad proffesiynol o leiaf 5 diwrnod ysgol cyn y cyfarfod adolygu datblygiad proffesiynol blynyddol.

O fewn 10 diwrnod ysgol i’r cyfarfod adolygu datblygiad proffesiynol blynyddol, bydd y partner adolygu datblygiad proffesiynol yn llunio crynodeb byr o'r drafodaeth a'r casgliadau y daethpwyd iddyn nhw. Anogir partneriaid adolygu datblygiad proffesiynol i rannu'r crynodeb gyda'r ymarferydd o fewn y cyfnod o 10 diwrnod. Gall yr ymarferydd ychwanegu ei sylwadau ei hun at y crynodeb.

Rhaid i'r pennaeth gadw'r crynodeb tan o leiaf 3 blynedd ar ôl cwblhau crynodeb nesaf yr adolygiad.

Os na all yr ymarferydd gytuno ar ganlyniad y cyfarfod adolygu, gall wneud apêl ysgrifenedig i'r corff llywodraethu o fewn 10 diwrnod o dderbyn y crynodeb o’r cyfarfod adolygu.

Bydd yr apêl yn cael ei hystyried gan swyddog apêl (y pennaeth fel arfer) neu gan gadeirydd y corff llywodraethu (gyda chymorth cynrychiolydd a benodir gan yr awdurdod lleol) os yw'r apêl yn cael ei gwneud gan y pennaeth. Os yw cadeirydd y corff llywodraethu ar y panel, bydd yr awdurdod lleol yn penodi cynrychiolydd arall.
Bydd hyn yn digwydd o fewn 10 diwrnod ysgol ar ôl i’r swyddog apêl dderbyn yr apêl a rhaid iddo ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan yr ymarferydd.

Ar ôl ystyried yr apêl, gall y swyddog apêl:

  • benderfynu bod yr adolygiad wedi'i gynnal yn foddhaol
  • diwygio'r crynodeb o’r adolygu datblygiad proffesiynol gyda chytundeb y partner adolygu datblygiad proffesiynol
  • penderfynu cynnal cyfarfod adolygu datblygiad proffesiynol blynyddol newydd gyda phartner adolygu datblygiad proffesiynol newydd o fewn 15 diwrnod ysgol

Ni all y swyddogion apêl benderfynu bod blaenoriaethau datblygu newydd i gael eu cytuno neu bod blaenoriaethau presennol i gael eu diwygio.

Nid yw'r broses adolygu datblygiad proffesiynol yn rhan o unrhyw weithdrefnau disgyblu, cymhwysedd, medrusrwydd neu ddiswyddo. Bydd trefniadau rheoli llinell effeithiol, gan gynnwys y gweithdrefnau adolygu datblygiad proffesiynol a nodir uchod, yn helpu i atal tanberfformio drwy gefnogi'r unigolyn i gyflawni’r blaenoriaethau datblygu a nodwyd.

Mae gweithdrefnau i fynd i'r afael â thanberfformio yn destun rheoliadau ar wahân. Mae canllawiau ar gael ar fedrusrwydd staff addysgu ysgolion a medrusrwydd penaethiaid.