English

Trosolwg

Mae’r agwedd hon yn cyd-fynd yn agos iawn â gofynion a chynnwys Cwricwlwm i Gymru ei hun ac yn amlinellu peth o’r dysgu proffesiynol a fydd yn datblygu dealltwriaeth ymarferwyr, ynghyd ag ymholi ac archwilio parhaus i ddyfnhau dealltwriaeth o fynd i’r afael ag anghenion dysgwyr, gwella addysgeg a mireinio fel sy’n briodol trwy arloesi pellach.

Dylai arweinwyr ac athrawon sicrhau eu bod yn gyfarwydd â chanllawiau Cwricwlwm i Gymru, egwyddorion cynnydd a chynnwys y meysydd dysgu a phrofiad, ynghyd â’r sgiliau trawsgwricwlaidd cysylltiedig.

Bydd hyn yn galluogi gwireddu’r weledigaeth a’r datblygiadau proffesiynol a wnaed ar gamau cynharach y daith trwy gynllunio a darparu profiadau dysgu dilys i’r dysgwyr yn effeithiol, trwy gwricwlwm a ddatblygwyd yn lleol sy’n darparu parhad dysgu ar draws y clwstwr.

Gyda chryn dipyn yn llai o gyfarwyddo penodol yn y cwricwlwm newydd, dylid annog diwylliant lle mae staff yn ymgysylltu ac yn myfyrio ar arfer cyfredol gan ddefnyddio tystiolaeth ac ymchwil. Bydd hyn yn arwain at staff yn cynnal ymholiadau proffesiynol lle cymerir risgiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi arloesi a phenderfynu ‘beth sy’n gweithio’ wrth i’r ysgol archwilio gwneud cwricwlwm yn seiliedig ar ddibenion a chynnydd.

Meysydd i’w hystyried

Rhai meysydd y gallai ysgolion eu hystyried yn y maes hwn yw:

  • Dysgu trwy’r system ddysgu ehangach
    • Gweithio trwy glystyrau a rhwydweithiau
    • Dull a rennir o ddylunio’r cwricwlwm
    • Profiadau dysgu dilys a pherthnasol
    • Cydweithio parhaus â rhanddeiliaid
    • Addysgeg ar gyfer cynnydd dysgwr
  • Sefydlu diwylliant o ymholi ac archwilio
    • Ymholi proffesiynol
    • Dyfnhau dealltwriaeth o’r cwricwlwm
    • Archwilio/gwerthuso cynnydd
    • Arloesi pellach

Mae ysgolion yn datblygu peth adnoddau i gefnogi’r dysgu proffesiynol yn y maes hwn ond bydd yr agwedd hon yn cael ei datblygu ymhellach yn ystod y flwyddyn academaidd 2020/21.

Agwedd bwysig yma yw hwyluso ymgysylltiad a dysgu gyda’r gymuned broffesiynol ehangach i ddatblygu ymhellach ein dealltwriaeth o addysgeg ac ymarfer. Cefnogir hyn trwy’r Prosiect Addysgeg Cenedlaethol a rhaglenni dysgu proffesiynol traws-ranbarthol.

Adnoddau cysylltiedig (Ymholi)

Mae’r adnoddau rhestr chwarae isod yn dangos sut mae rhai ysgolion wedi mynd i’r afael â rhai neu fwy o’r agweddau uchod.