Dysgu proffesiynol staff
Trosolwg
Mae’r meysydd uchod, sy’n ymwneud â dysgu proffesiynol staff, wedi’u cysylltu mor agos â’i gilydd fel eu bod yn cael eu trin fel un o fewn y daith ddysgu broffesiynol.
Mae mwy o fanylion am ddysgu proffesiynol staff i’w gweld yn yr adrannau eraill ar ddatblygiad proffesiynol ar Hwb.
Meysydd i’w hystyried
Rhai meysydd y gallai ysgolion eu hystyried yn y maes hwn yw:
- creu cyfleoedd dysgu parhaus i staff
- diwylliant o ddysgu proffesiynol parhaus
- strwythurau dysgu proffesiynol a dull cyfunol
- archwiliad o sgiliau a dewisiadau staff
- darparu amser a chyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol
- dysgu mewn tîm a chydweithio
- rhwydweithio
- hyfforddi/mentora
- ymholiad gweithredu
- ethos o onestrwydd a rhannu
- creu systemau ar gyfer casglu a chyfnewid gwybodaeth ar gyfer dysgu
- safonau proffesiynol a’r Pasbort Dysgu Proffesiynol
- strwythur ac adnoddau ar gyfer dysgu proffesiynol mewn ysgolion
- triawdau/parau – cydweithredu yn yr ysgol a’r clwstwr
- ‘TeachMeets’ a chefnogaeth ranbarthol.
Adnoddau cysylltiedig
Mae’r adnoddau rhestr chwarae isod yn dangos sut mae rhai ysgolion wedi mynd i’r afael â rhai neu fwy o’r agweddau uchod.
- Rhan o:
- Cyhoeddwyd gyntaf:
- Diweddarwyd ddiwethaf: