English

Mae’r daith ddysgu proffesiynol wedi’i datblygu i helpu i arwain ysgolion trwy’r agweddau strwythurol a dysgu proffesiynol er mwyn paratoi ar gyfer Cwricwlwm i Gymru. Mae’n eich helpu i ddod o hyd i’ch ffordd trwy’r gwahanol fodelau ar gyfer dysgu proffesiynol, a chynllunio taith eich ysgol eich hun.

Gyda llawer o wahanol fodelau a dulliau ar gael, yn ogystal â datblygiadau sylweddol hefyd ar y gweill mewn prosiectau fel y Prosiect Addysgeg Cenedlaethol, yr Adnodd Gwerthuso a Gwella Cenedlaethol, datblygiad pellach gydag ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu a chefnogaeth ar gyfer dylunio’r cwricwlwm, mae’r daith ddysgu proffesiynol yn ffordd o gysylltu’r dysgu proffesiynol o amgylch y rhain mewn un man, gan ddarparu dolenni i fwy o fanylion o’r dudalen we hon.

Cynhyrchwyd rhaglun fideo i grynhoi'r daith.

Mae’r daith ddysgu proffesiynol yn ymgorffori’r modelau a’r dulliau hyn yn greiddiol yn uniongyrchol.

Mae hefyd yn cyd-fynd yn agos â’r datblygiadau a’r anogeiriau yn yr Adnodd Gwerthuso a Gwella Cenedlaethol sydd yn dod yn fuan.

Mae’r daith ddysgu proffesiynol yn troi’r rhain yn fodel llinol, gan eu gwneud yn haws i’w llywio, eu cyrchu a’u defnyddio wrth gynllunio. Mae’r canllaw defnyddiwr canlynol yn darparu mwy o wybodaeth ar sut i ddefnyddio’r ffenestr ryngweithiol isod a’r cysylltiadau rhwng hyn a modelau, canllawiau a dulliau gweithredu eraill.

Mae’r ffenestr isod yn darparu profiad rhyngweithiol o wylio’r daith ddysgu proffesiynol ar lefelau amrywiol o fanylion a gellir ei defnyddio hefyd fel offeryn i lywio i adrannau penodol ac i gael mynediad at adnoddau. Gallwch chi chwyddo’r wybodaeth i weld y daith ddysgu proffesiynol yn fwy manwl ac i sgrolio trwy’r daith yn ogystal â gallu troshaenu’r wybodaeth ychwanegol ganlynol:

  • manylion ychwanegol i ddangos syniadau a’r gweithredoedd ar gyfer pob cydran
  • gweld y rhaglenni cymorth traws-ranbarthol, wedi’u halinio â phob cydran.

Fel man cychwyn rydym yn argymell bod ysgolion yn cynnal arolwg ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu i ddarparu asesiad sylfaenol. Bydd adroddiad arolwg ciplun yr ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu yn rhoi proffil i chi yn seiliedig ar ymatebion eich ysgol. Gellir defnyddio hwn i’ch cefnogi chi i nodi meysydd i’w blaenoriaethu ar y daith ddysgu proffesiynol.

Mae’r daith ddysgu proffesiynol yn darparu strwythur posibl ond nid yw wedi’i ddylunio fel model rhagnodol i ysgolion ei ddilyn yn uniongyrchol. Er ein bod yn argymell bod ysgolion yn dechrau gyda gweledigaeth ar gyfer yr ysgol, gellir mynd i’r afael â gweddill cydrannau’r daith ddysgu proffesiynol mewn unrhyw drefn. Mae’n bwysig bod hyn yn cael ei ystyried fel gwelliant parhaus ac ni ddylid ei ystyried yn ddull tasg a gorffen.

Un llwybr posibl fyddai trwy ddatblygu gweledigaeth ysgol gyfan, modelu a gwella arweinyddiaeth ddysgu ac arwain newid, gan symud ymlaen i fynd i’r afael â dysgu proffesiynol staff i weithredu Cwricwlwm i Gymru.

Er mwyn cefnogi’r daith ddysgu proffesiynol, mae grŵp o 20 o ysgolion ymholi arweiniol wedi bod yn datblygu rhestrau chwarae o sut maen nhw wedi mynd i’r afael â gwahanol gydrannau o’r daith ddysgu proffesiynol. Mae’r rhain wedi’u grwpio yn ôl cydran berthnasol y daith ddysgu proffesiynol y maen nhw’n cyd-fynd â hi.

Gallwch gyrchu’r adnoddau hyn yn yr adrannau isod neu drwy chwilio am y rhestrau chwarae a’r adnoddau sydd ynddyn nhw gan ddefnyddio geiriau allweddol.

Er mwyn eich helpu i ddod o hyd i adnoddau, bydd y tacsonomeg canlynol yn darparu rhestr o’r geiriau allweddol a ddefnyddir i nodi’r adnoddau.

Mae set o gwestiynau cyffredin a godir gan grŵp cyfeirio o ysgolion sy’n ymwneud â phrofi’r daith ddysgu proffesiynol hefyd yn ddeunydd cyfeirio defnyddiol.

Dyluniwyd ffenestr ryngweithiol y daith ddysgu proffesiynol (uchod) fel offeryn gwybodaeth a llywio. Fodd bynnag, gallwch hefyd lywio i’r gwahanol adrannau trwy’r dolenni isod.

Mae’r daith ddysgu proffesiynol wedi’i chynllunio i helpu ysgolion i feddwl, cynllunio a chefnogi eu dysgu proffesiynol wrth baratoi ar gyfer Cwricwlwm i Gymru. Mae’n darparu strwythur i ysgolion ystyried a chyfuno nifer o fodelau a dulliau gweithredu.

Pwrpas y model hwn yw:

  • dangos sut mae’r gwahanol fodelau ar gyfer dysgu proffesiynol yn alinio â’i gilydd
  • darparu trefn weithredu bosibl ar gyfer gwahanol agweddau ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu a’r dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol
  • nodi sut mae’r daith hon yn cael ei chefnogi gan y rhaglenni cymorth traws-ranbarthol
  • darparu strwythur ar gyfer presenoldeb ar y wê a mynediad hierarchaidd i adnoddau
  • darparu dolenni i waith a wnaethpwyd mewn meysydd eraill
  • darparu strwythur ar gyfer adnoddau sy’n cael eu cynhyrchu gan ysgolion i gefnogi diwrnodau arwain dysgu proffesiynol (HMS) cenedlaethol mewn ysgolion.

Y daith ddysgu proffesiynol a’i phwrpas ar gyfer gwahanol lefelau o staff a rhanddeiliaid

I bawb:

I ddechrau, bydd diwrnodau HMS Cwricwlwm i Gymru cenedlaethol yn nhymor yr haf yn rhoi cyfle i holl staff Cymru ymgysylltu, myfyrio a chynllunio ar gyfer Cwricwlwm i Gymru. Bydd adnoddau i gefnogi’r gwaith hwn yn cael eu darparu am ddim ar Hwb, felly ni fydd angen i ysgolion brynu adnoddau ychwanegol.

Ar lefel arweinydd ysgol gallwch chi wneud y canlynol.

  • Fel cam cyntaf, defnyddiwch fodel ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu i ddarganfod i ba raddau y mae eich ysgol yn anelu at gefnogi dysgu proffesiynol a datblygu fel sefydliad sy’n dysgu.
  • Cael persbectif ehangach ar y dull strategol o ddysgu proffesiynol a gweld sut mae’r holl elfennau’n cyd-fynd trwy adolygu’r daith ddysgu proffesiynol.
  • Darganfyddwch am opsiynau datblygu arweinyddiaeth yn yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru.
  • Adolygu’r opsiynau yn eich rhaglen gymorth ranbarthol ac, os oes angen, ymgynghorwch â’ch ymgynghorydd her rhanbarthol.

Yr ystyriaethau cynnar fydd:

  • deall pedwar diben y cwricwlwm
  • adolygu gweledigaeth yr ysgol mewn perthynas â’r pedwar diben
  • myfyrio ar sut y bydd gweledigaeth yr ysgol yn gwella dysgu ac addysgu
  • deall sut mae greu cwricwlwm
  • adolygu’r dulliau dysgu proffesiynol staff.

Fel unigolyn gallwch chi wneud y canlynol.

  • Adolygu Cwricwlwm i Gymru (dechreuwch gyda’r hanfod – y dibenion a’r elfennau trosfwaol – cyn y meysydd dysgu a phrofiad).
  • Gwiriwch eich cryfderau a’ch meysydd i’w gwella yn erbyn y Safonau Addysgu Proffesiynol.
  • Archwilio’r astudiaethau achos ysgol ar gyfer hyn a phrosiectau eraill.
  • Trafodwch eich anghenion yn y ffordd arferol.

Ar bob lefel, ac yn esblygu dros amser, bydd cefnogaeth ar waith trwy’r rhaglen gymorth draws-ranbarthol fel y gall pawb ddefnyddio Cwricwlwm i Gymru i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer dysgwyr Cymru.

Canllawiau ychwanegol

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn cynhyrchu canllawiau i helpu ysgolion i drefnu a darparu dysgu proffesiynol blaenllaw. Mae hwn yn cael ei gynnal ar wefan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru ac mae’n dal i gael ei ddatblygu.

Rhannu profiadau

Mae'r Sway canlynol yn cynnwys cyfres o gameos gan bobl oedd ynghlwm â datblygu'r rhestrau chwarae ar y wefan hon yn ystod 2019-20, gan amlinellu eu gwaith, buddion cymryd rhan ac ambell eiriau o gyngor i ysgolion sy'n cymryd rhan yng ngham nesaf y prosiect.