English

1. Trosolwg

Cenhadaeth ein Cenedl ar gyfer addysg yng Nghymru yw darparu’r sgiliau, yr wybodaeth, y profiadau a’r gwydnwch i blant a phobl ifanc, gyda chymhwysedd digidol yn elfen annatod, i’w galluogi i ffynnu mewn byd sy’n newid yn gyson.

Crëwyd y Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol fel model i helpu ysgolion i ddatblygu a gweithredu eu gweledigaeth ar gyfer dysgu digidol, datblygu dysgu proffesiynol staff a chefnogi gweithredu cymhwysedd digidol ar draws y cwricwlwm.

Mae gan Lywodraeth Cymru, Consortia Rhanbarthol ac Awdurdodau Lleol rolau allweddol wrth gefnogi ysgolion i ddatblygu dysgu digidol ac mae'r DPLJ yn amlinellu cyfranogiad y partneriaid allweddol hyn wrth helpu ysgolion ar hyd eu taith ddatblygu.

Ym mis Gorffennaf 2018, cynhaliodd Estyn adolygiad o weithrediad y Fframwaith Cymhwysedd Digidol gan ysgolion a amlinellodd yr argymhellion canlynol ar gyfer ysgolion.

Dylai ysgolion:

  • gynnwys pob rhanddeiliad wrth ddatblygu gweledigaeth glir ar gyfer y Fframwaith Cymhwysedd Digidol
  • penodi arweinydd digidol, sicrhau cefnogaeth lwyr uwch arweinwyr a monitro datblygiadau’n rheolaidd
  • archwilio anghenion dysgu proffesiynol athrawon a defnyddio’r wybodaeth hon i gynllunio hyfforddiant, cymorth ac arweiniad dros gyfnod realistig
  • mapio’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar draws y cwricwlwm a sicrhau nad oes bylchau yn y ddarpariaeth a bod digon o barhad a dilyniant
  • cynnal archwiliadau caledwedd a seilwaith y rhwydwaith
  • sicrhau bod staff yn cydweithredu â staff eraill i rannu ymarfer da

Nod y DPLJ felly yw helpu ysgolion i fynd i'r afael â'r argymhellion hyn trwy fodel strwythuredig, canllawiau ategol ac adnoddau enghreifftiol.

 

Strwythur

Mae’r Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol wedi’i threfnu yn ôl y llinynnau canlynol i gynorthwyo ysgolion i ddatblygu a gwireddu eu gweledigaeth ar gyfer dysgu digidol.

  • Arweinyddiaeth
  • Dysgu proffesiynol ac arloesi
  • Cwricwlwm, darpariaeth ac addysgeg
  • Technoleg addysg

Mae’r ffeithlun canlynol yn amlinellu strwythur lefel uchel y Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol. Mae’n amlygu gwahanol elfennau, yn awgrymu cyfrifoldebau gwahanol randdeiliaid ysgol a phartneriaid allanol, ac yn dangos y dylai hon fod yn broses gydweithredol sy’n cael ei chefnogi.

Fersiwn fanwl

Sut i ddechrau arni

Mae’r fideo rhaghysbysebu canlynol yn cynnig crynodeb defnyddiol o ddiben y Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol a’i gweithrediad.

Gellir ystyried eich agwedd at y Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol fel proses dri cham. Nid yw’r agweddau a amlinellir isod yn rhagnodol, ond maen nhw’n rhoi crynodeb lefel uchel o’r meysydd y gellid eu hystyried fel rhan o’r broses hon.

Cam 1: Arweinyddiaeth strategol, cynllunio a pholisi

  • Creu gweledigaeth ysgol gyfan ar gyfer dysgu digidol.
  • Diffinio strwythurau staffio, rolau a chyfrifoldebau.
  • Gweithio gyda phartneriaid technoleg addysg i reoli ac ystyried gwasanaethau digidol a thechnoleg newydd.
  • Cynhyrchu cynlluniau a pholisïau perthnasol (i gyd-fynd â chynllun datblygu’r ysgol neu wedi’u cynnwys ynddo), gan gynnwys proffiliau buddsoddi i sicrhau cynaliadwyedd.

Dylai ysgolion ddechrau drwy ddatblygu eu gweledigaeth ar gyfer dysgu digidol ac ystyried sut mae hyn yn cyd-fynd â gweledigaeth gyffredinol yr ysgol a sut mae’n cynllunio ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Dylai hyn gynnwys ystyried arweinyddiaeth dysgu digidol a sut mae hyn yn treiddio drwy gynlluniau strategol, staffio a threfniadau cyllidebu er mwyn gwella profiadau dysgwyr a’u cymhwysedd digidol.

Trwy ddatblygiad parhaus y rhaglen EdTech, mae Awdurdodau Lleol yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ysgolion i ddatblygu eu cyfeiriad strategol ar gyfer dysgu digidol a gallant ddarparu cyngor strategol a thechnegol ynghylch sawl agwedd ar ddysgu digidol. Cynghorir ysgolion i gysylltu â'u partner technoleg addysg awdurdod lleol i drafod eu gofynion dysgu digidol.

Cam 2: Gweithredu

  • Deall cynnwys a gofynion y Fframwaith Cymhwysedd Digidol a’r disgrifiadau dysgu perthnasol o ran Gwyddoniaeth a Thechnoleg a gweddill y cwricwlwm.
  • Archwilio sgiliau staff a darparu dysgu proffesiynol perthnasol.
  • Datblygu addysgeg ac ymarfer i fewnosod cymhwysedd digidol ar draws y cwricwlwm, wedi’i gefnogi gan y Fframwaith Cymhwysedd Digidol ac ystyried defnyddio technoleg i wella dysgu ac addysgu.
  • Gweithio gyda phartner technoleg addysg yr ysgol i sicrhau seiberddiogelwch parhaus a datblygiad cadernid digidol ar draws yr ysgol.
  • Sicrhau addysg ar ddiogelwch ar-lein i ddysgwyr a staff. (Mae’n bosib yr hoffech chi gyfeirio at y canllawiau ‘Cadw’n ddiogel ar-lein a’r adnodd hunanwerthuso 360 Safe cysylltiedig).

Cam 3: Adolygu a gwella

Yn dilyn y ddau gam hyn, gallai adolygiad parhaus o brosesau a deilliannau gynnwys y canlynol.

  • Gweithredu prosesau ar gyfer sicrhau cynnydd dysgwyr.
  • Gwerthuso ac adolygu ymarfer.
  • Rhannu ymarfer.
  • Bwydo canfyddiadau i’r cylch cynllunio nesaf.

Dylai adolygu a gwella dysgu digidol yn barhaus fod yn rhan o drefniadau ehangach yr ysgol o ran hunanwerthuso a gwella’r ysgol. Efallai yr hoffai ysgolion gyfeirio at Yr Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella i gael canllawiau pellach ar hunanwerthuso a gwella. Mae’n bosibl y bydd ysgolion hefyd am ystyried dull sy’n seiliedig ar ymholiad. Mae canllawiau pellach ar ddulliau ymholi ac enghreifftiau o ymholi mewn ysgolion ynghylch datblygiadau digidol, dysgu cyfunol ac agweddau eraill ar dudalennau’r Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol (NPEP) ac ar restrau chwarae ar Hwb.

Mae'r cam olaf hwn yn cynnwys gweithrediad terfynol y DPLJ a'i effaith ar brofiadau dysgwyr a datblygu cymhwysedd digidol dysgwr, gan arwain at gynnydd effeithiol dysgwyr mewn cymhwysedd digidol a sgiliau o fewn meysydd dysgu a phrofiad.

Mae’r Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol yn adlewyrchu strwythur y daith dysgu proffesiynol, yn integreiddio â’r prosiect addysgeg cenedlaethol ac ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu. Argymhellir bod ysgolion yn ystyried yr adnodd a’r canllawiau hyn ar y cyd â’r modelau a’r prosiectau hyn. Mae llinyn cwricwlwm, darpariaeth ac addysgeg y Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol yn integreiddio’n llawn â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Argymhellir bod ysgolion hefyd yn cyfeirio at y canllawiau cynllunio eich cwricwlwm, ynghyd â’r canllawiau ar y Fframwaith Cymhwysedd Digidol wrth ystyried a gweithredu’r Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Mae'r ddogfen isod yn darparu mapio manylach o'r DPLJ i'r model ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu.

I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y manylion yn adrannau elfennau’r Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol.

  • Nesaf

    Rolau a chyfrifoldebau allweddol