English

Canllaw i lywio’r ymholiadau PYPC

Edrychwch ar y fideo byr hwn yn ymddangos y ffordd gyflymaf i lywio’r ymholiadau ysgolion PYPC.

Ymholiadau dan sylw

Trosolwg

Fel rhan o’r Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol ac i gefnogi datblygiad y cwricwlwm ysgol newydd, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu consortia rhanbarthol a thri phartner o’r Sefydliadau Addysg Uwch (Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant) i ddatblygu rhaglen genedlaethol ymholiad proffesiynol athrawon.

Pwrpas

Mae'r rhaglen hon yn cefnogi rhwydwaith cynyddol o ysgolion i ddatblygu ystod o sgiliau ymholi trwy arwain ymholiadau yn eu lleoliad eu hunain i archwilio gofynion dysgu proffesiynol ar gyfer y cwricwlwm newydd. Yn dilyn cylch ymholiadau 2020 i 2021, bydd yr ysgolion ymholi arweiniol hyn yn barod i gefnogi’r rhwydwaith ehangach o ysgolion i ddechrau datblygu fel ymholwyr proffesiynol yn barod ar gyfer 2022. 

Cam 1 (2018 i 2019): Datblygiad Cynnar a Threialu

Yn ystod blwyddyn 1 y prosiect ymholiad, cefnogwyd arloeswyr dysgu proffesiynol gan Sefydliadau Addysg Uwch i ddechrau datblygu eu sgiliau fel ymholwyr proffesiynol trwy archwilio goblygiadau dysgu proffesiynol y cwricwlwm newydd. Bu arloeswyr yn gweithio mewn grwpiau ymholi cenedlaethol, gan arbenigo yn un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Isod gwelir crynodeb o’r adroddiadau ar gyfer y gwaith a wnaed yn ystod Gwanwyn a Haf 2018 i 2019.

  • Gwanwyn 2019 pdf 751 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
  • Haf 2019 pdf 819 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Yn ystod tymhorau’r gwanwyn a’r haf, dechreuodd arloeswyr weithio gyda chlystyrau o ysgolion i estyn a dyfnhau eu sgiliau ymholi proffesiynol y tu hwnt i’w lleoliad eu hunain. Arweiniodd yr arloeswyr dri chylch ymholi yn ystod y flwyddyn gyntaf. Er mwyn cefnogi arloeswyr i ddod yn ymholwyr proffesiynol, mae Sefydliadau Addysg Uwch wedi datblygu eu dealltwriaeth o ddulliau ymholi perthnasol, casglu data ac ystyriaethau moesegol er mwyn ymgysylltu â’r broses ymholi.

Rhaglen Ymholiad Proffesiynol Athrawon 2019 i 2020 Cam 2: Cryfhau a Chyfoethogi

Gan gydweithio â chonsortia rhanbarthol, mae partneriaid Sefydliadau Addysg Uwch yn mireinio sgiliau ymholi proffesiynol eu harloeswyr trwy raglen gryfhau/cyfoethogi, gan alluogi’r Arloeswyr Dysgu Proffesiynol i ddod yn ymholwyr arweiniol, waeth beth fo’u hachrediad. Bydd yr arloeswyr yn parhau eu cylchoedd ymholi sy’n canolbwyntio ar y cwricwlwm newydd ac addysgeg gysylltiedig i nodi gofynion dysgu proffesiynol er mwyn cefnogi ymarferwyr i gynllunio a darparu’r cwricwlwm newydd

Drwy ail hanner tymor yr hydref 2019, tymor y gwanwyn 2020 a hanner cyntaf tymor yr haf 2020, mae’r arloeswyr yn parhau i ddatblygu fel ymholwyr arweiniol trwy gynnal ymholiadau yn eu hysgolion eu hunain (ail hanner tymor yr hydref 2019) ac mewn clystyrau o ysgolion (tymor y gwanwyn ac ail hanner tymor yr hydref 2020).

Dewiswyd yr ymholiadau o blith dewislen ymholi genedlaethol (a luniwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, y Consortia, y Prifysgolion a’r arloeswyr) yn cwmpasu’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad, llunio cwricwlwm, addysgeg a dysgu proffesiynol

Bydd hyd y cylchoedd ymholi yn hyblyg ac yn cael eu cytuno gan yr arloeswyr, y Sefydliadau Addysg Uwch a’r consortia. Gellir cyflawni rhai ymholiadau o fewn hanner tymor, gall eraill estyn y tu hwnt i hyn a bod yn fwy treiddgar i gynnwys clwstwr ehangach o ysgolion.

Cam 3 (2020 i 2021): Ehangu a Datblygiadau Pellach

Wrth i'r ysgolion ymholi arweiniol ddyfnhau eu dealltwriaeth o ymholi, mae ysgolion ymholi partneriaid ychwanegol yn cael eu cynnwys yn y prosiect, gyda phedair ysgol bartner ar gyfartaledd yn gweithio ar brosiectau a arweinir gan yr ysgol ymholi arweiniol ac a gefnogir gan Sefydliadau Addysg Uwch ychwanegol.

Partneriaid Addysg Uwch 2020 i 2021

  • Prifysgol Bangor
  • Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
  • Prifysgol Aberystwyth
  • Prifysgol Abertawe
  • Prifysgol Cymru, y Drindod Dewis Sant
  • Prifysgol De Cymru
  • Prifysgol Wrecsam Glyndŵr

Mae'r ymholiadau wedi'u had-drefnu mewn pedwar parth ac mae gan ysgolion ymholiadau arweiniol ac ysgolion  partner ddisgwyliadau gwahanol o ran dyfnder yr ymholiadau a'r allbynnau, yn seiliedig ar lefelau profiad yn y prosiect.

Yn dilyn yr hyblygrwydd a gynigiwyd i ysgolion ymholi arweiniol yn 2019 i 2020 mewn perthynas â fformat eu hadroddiadau terfynol, mae'r strwythur adrodd wedi'i ad-drefnu i ganiatáu i ysgolion fod yn greadigol gyda’r fformat cyflwyno ac i gynnwys adnoddau ategol ychwanegol a fyddai'n cyfoethogi adroddiad yr ymholiad.

Cam 4 (2021i 2022): Cydgrynhoi a Gwerthuso

Bydd cam presennol y PYPC yn darparu cyfleoedd ar gyfer y canlynol:

  • cryfhau’r rhwydwaith PYPC a sefydlwyd yn ystod y cam ‘Ehangu a Datblygiadau Pellach’ yn 2021 i 2022.
  • adolygu a gwerthuso llwyddiant y rhaglen PYPC hyd yma ac ystyried y camau nesaf i symud at fodel PYPC cynaliadwy.
  • dechrau cefnogi’r pontio o brosiect i raglen genedlaethol wedi halinio gyda’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol.

Prif nodweddion y cam nesaf fydd:

  • Ehangu’r ffocws ar gyfer gwaith ymholi er mwyn adlewyrchu Cynllun Adnewyddu a Diwygio Llywodraeth Cymru a blaenoriaethau dysgu proffesiynol newydd sy’n codi i gefnogi gwireddu’r cwricwlwm.
  • Bydd ysgolion ymholi yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Consortia Addysg Rhanbarthol a Sefydliadau Addysg Uwch i gynnal gwaith ymholi proffesiynol mewn ysgolion.
  • Ni fydd unrhyw estyniad pellach o’r PYPC yn ystod y cyfnod hwn, nes canlyniad gwerthusiad allanol o’r prosiect yn ystod tymor yr hydref a’r gwanwyn.

Er mwyn parhau ar eu taith ymholi, bydd ysgolion ymholi yn canolbwyntio ar ddechrau datblygu dull ysgol gyfan o ymholi a rhannu allbynnau ymholiadau gyda chlystyrau/rhwydweithiau presennol.

Rhestr llawn o ymholiadau ysgolion

Dyma restr lawn o ymholiadau, wedi'u trefnu yn ôl parth, is-barth a math o ysgol. Cliciwch ar y tab perthnasol ar gyfer ymholiadau 2019 i 2020 neu 2020 i 2021.

Mae prosiectau ymholi ysgolion o 2019 i 2020 wedi'u halinio â'r parth/is-barth perthnasol a gellir eu cyrchu yn unol â hynny.

Prosiectau ymholi ysgolion

Mae themâu’r ymholiadau o 2019 i 2020 a’r themâu newydd o 2020 i 2021 wedi cael eu had-drefnu yn bedwar parth, gydag is-barthau cysylltiedig.

Dyma fap o'r holl barthau ac is-barthau.

  • Rhestr parthau PYPC 2020 i 2021 pptx 1.21 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Adnoddau Ychwanegol

Gweler 'Canllaw i Ymgymryd ag Ymholiadau Proffesiynol' (Medi 2019) a gyhoeddwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Man cychwyn defnyddiol i gefnogi ymarferwyr i ddatblygu fel ymholwyr proffesiynol.

  • Canllaw i Ymgymryd ag Ymholiadau Proffesiynol pdf 4.98 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Gweler 'Taith Ymholi' (Tachwedd 2019) a gyhoeddwyd gan Brifysgol Bangor. Cipolwg byr o'r daith Ysgolion Ymholi Arweiniol (Arloeswyr Dysgu Proffesiynol gynt) yn cydweithio â Phrifysgol Bangor.

  • Taith Ymholi pptx 1.69 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Cyfeiriwch at y ‘Pecyn Cymorth Profiadau Disgyblion’ (Tachwedd 2019) a gyhoeddwyd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (UWTSD). Mae'r adnodd hwn wedi'i gynllunio i helpu ysgolion i gynllunio ar gyfer cipio cynnydd/dilyniant dysgwyr wrth gynnal ymholiad proffesiynol.

  • Pecyn Cymorth Profiadau Disgyblion pdf 1.19 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Llwybr Dysgu Proffesiynol

Mae’r ymagwedd at ymholi proffesiynol yn llunio rhan o Llwybr Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol sy’n darparu map o lwybrau posibl ar gyfer ysgolion er mwyn mynd i’r afael â’r gofynion dysgu proffesiynol o gynllunio a gweithredu’r cwricwlwm newydd. Cefnogir y model gan doreth gynyddol o adnoddau ategol a dolenni i raglenni a ddarperir gan y partneriaid Consortia Rhanbarthol.