MA (Gradd Meistr) Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru)
- Rhan o
Mae'r MA Addysg (Cymru) cenedlaethol yn rhaglen wirioneddol drawsnewidiol ac arloesol ar gyfer gweithwyr addysgol proffesiynol yng Nghymru, o athrawon ar ddechrau gyrfa i uwch arweinwyr.
Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd yr MA cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gydweithio'n uniongyrchol ag amrywiaeth o ran ddeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru-yn sicrhau bod pob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle o ansawdd uchel i wella ei wybodaeth broffesiynol, ymwneud ag ymchwil, a gwella eu hymarfer proffesiynol.
Anogir darpar-fyfyrwyr i gysylltu â’r sefydliad trwy dudalen y cwrs isod.
Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys:
- sgiliau ymchwil ac ymholi uwch
- anghenion dysgu ychwanegol, rhagoriaeth mewn ymarfer
- cynllunio a gwireddu'r cwricwlwm
- arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth
Gofynion mynediad
Mae'n rhaid i ymgeiswyr feddu ar statws athro cymwysedig a chael eu cyflogi yn y sector addysg orfodol yn y DU ar hyn o bryd. Gall ymgeiswyr ddefnyddio hyd at 60 credyd o ddysgu blaenorol cymeradwy tuag at radd Meistr. Cysylltwch â'r adran am fwy o fanylion.
Prifysgol Aberystwyth: Addysg (Cymru) MA X3PG
Prifysgol Bangor (bangor.ac.uk)
Prifysgol Metropolitan Cardydd: cyrsiau (metcaerdydd.ac.uk)
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam: addysg (glyndwr.ac.uk)
Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk): Cenedlaethol, MA