English

7. Tîm Seren

Mae tîm o Gydlynwyr Seren yn gweithio ledled Cymru i gefnogi taith y dysgwr drwy'r rhaglen. Bydd cydlynwyr Seren yn cysylltu ag ysgolion a cholegau addysg bellach ac yn gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer dysgwyr, athrawon, tiwtoriaid, rhieni a gofalwyr.

Bydd cydlynydd Seren yn tywys dysgwyr drwy raglen o weithgareddau, yn darparu gweithgareddau wyneb yn wyneb i ddysgwyr ac yno i gael arweiniad a chefnogaeth wrth i’r dysgwyr symud ymlaen drwy'r gwahanol gamau. Mae cydlynwyr Seren hefyd yn gweithio fel tîm i ddarparu cyfleoedd ehangach ledled Cymru megis cyfleoedd preswyl gyda phrifysgolion blaenllaw a chystadlaethau Cymru gyfan. Gallwch gysylltu â'ch cydlynydd lleol drwy'r porth ar-lein, Gofod Seren.