English

2. Taith dysgwr

Mae Academi Seren yn un rhaglen barhaus, sy'n cefnogi dysgwyr drwy dri cham o gynnydd, fel a ganlyn:

Cam Un: blynyddoedd 8 a 9

Helpu dysgwyr i ddod o hyd i'w hangerdd, gwneud y dewisiadau cywir ar gyfer eu hunain, cyflwyno beth all eu taith addysgol fod a’u cefnogi i ddechrau eu hastudiaeth uwch-gwricwlaidd.

Cam Dau: blynyddoedd 10 a 11

Darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau a chystadlaethau uwchgwricwlaidd, sesiynau i flasu bywyd yn y brifysgol ac arweiniad ar gyfer cam nesaf eu taith addysgol. Yng ngham 02, bydd dysgwyr yn cofrestru ar Ofod Seren fel bod ganddynt fynediad at ystod gynyddol o gyfleoedd yn dibynnu ar eu maes diddordeb academaidd a'u llwybr addysgol posibl.

Cam Tri: blynyddoedd 12 a 13

Mae'r cam hwn yn pwysleisio'r cefnogaeth benodol y bydd dysgwyr yn ei gael i baratoi mynediad cystadleuol a llwyddiannus mewn prifysgolion blaenllaw. Bydd dysgwyr yn derbyn cyngor uniongyrchol gan diwtoriaid derbyn prifysgolion ar sut i wneud cais, datblygu datganiadau personol cystadleuol, paratoi ar gyfer profion derbyn a chyfweliadau.

Ar draws pob cam, darperir cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu harchwilio uwch-gwricwlaidd a gwthio ffiniau eu datblygiad academaidd a'u hymgysylltiad. Mae dwyster cyfleoedd ac ymrwymiad dysgwyr yn cynyddu wrth i ddysgwyr symud ymlaen trwy bob cam, gan adeiladu o gam un, sy'n ysbrydoli dysgwyr am eu llwybr addysgol yn y dyfodol, hyd at gam tri sy'n gweithredu fel penllanw eu taith Seren.