Academi Seren
Mae Seren yn cefnogi'r dysgwyr mwyaf disglair a addysgir gan y wladwriaeth i gyflawni eu potensial academaidd llawn.
2. Meini Prawf Cymhwystra
Cam 01: Blynyddoedd 8 ac 9
Meini prawf cymhwystra
Rhyddid i athrawon i greu carfan Seren i gynnwys y rhai sy'n cyflawni i lefel uchel, ond hefyd y rhai sydd â'r potensial i gyflawni i lefel uchel os dônt i gysylltiad â rhaglen Academi Seren yng ngham 01.
Cofrestru ar Gofod Seren
Dim angen.
Cam 02: Blwyddyn 10 ac 11
Meini prawf cymhwystra
Mae angen i ddysgwyr naill ai:
- fod â’r potensial i gael 6A* ar lefel TGAU
- fod ag o leiaf 5A*/A cyd-destunol*
- fod â sgôr 9 pwynt wedi’i chapio sydd oddeutu 460 neu'n uwch
Cofrestru ar Gofod Seren
Angen.
Cam 03: Blynyddoedd 12 ac 13
Meini prawf cymhwystra
Fel o'r blaen:
- Mynediad Awtomatig: Mae'r dysgwr wedi cael o leiaf 6A*– (TGAU llawn)
neu
- Mae'r dysgwr yn dangos gallu eithriadol mewn maes dysgu penodol er enghraifft, mathemateg ac Mae'r dysgwr wedi cael o leiaf 5A*/A – (TGAU llawn) ac mae gan y dysgwr fwy o botensial.
Cofrestru ar Gofod Seren
Angen.
Cynigion cyd-destunol
Disgresiwn athrawon i dderbyn graddau mynediad is o 5 A neu A* os yw dysgwyr wedi profi rhwystrau sydd wedi rhwystro eu cynnydd academaidd. Er enghraifft, y rhai sydd â statws ffoadur neu ddysgwyr â phrofiad gofal.