English

Hwb

Dysgu am y Celfyddydau Mynegiannol

Gwybodaeth

Bydd angen ichi ddarllen y trosolwg hwn ar y cyd â Canllaw i Gwricwlwm i Gymru 2022

Gall natur ddeinamig y Celfyddydau Mynegiannol ennyn diddordeb dysgwyr a’u cymell i ddatblygu i’r eithaf eu sgiliau creadigol ac artistig ynghyd â’u sgiliau perfformio.

Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol yn canolbwyntio ar bum disgyblaeth, sef celf, cerddoriaeth, dawns, drama, a ffilm a’r cyfryngau digidol. Mae’r disgyblaethau hyn i gyd yn rhannu proses greadigol a sgiliau trosglwyddadwy cyffredin, ac eto mae perthyn i bob un ohonynt gorff o wybodaeth a set o sgiliau sy’n perthyn yn benodol i’r ddisgyblaeth honno. Bydd y maes dysgu a phrofiad hwn yn sicrhau bod gan y dysgwyr hawl i astudio a phrofi pob un o’r pum disgyblaeth.

Bydd Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol yn cynnig profiadau ystyrlon i’r dysgwyr a fydd yn eu galluogi i ddod i ddeall a gwerthfawrogi’r cymunedau amrywiol sydd yng Nghymru a’r byd ehangach. Boed fel cynulleidfa neu ymarferwyr celf, cerddoriaeth, dawns, drama neu ffilm a’r cyfryngau digidol, bydd y dysgwyr yn dod i wybod am eu diwylliant a’u cymuned eu hunain yn ogystal â rhai pobl eraill. Bydd hyn yn eu galluogi i archwilio amrywiaethau diwylliannol rhyngddynt a phobl eraill mewn lleoedd a chyfnodau gwahanol. At hyn, bydd yr wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd y maent yn eu datblygu yn eu galluogi i ymdrin â materion sy’n codi yn eu bywydau.

Fel rhan o brofiadau y Celfyddydau Mynegiannol, bydd dysgwyr yn ymwneud yn gorfforol, yn gymdeithasol ac yn emosiynol â’r maes, ac o ganlyniad bydd eu lles, eu hunan-barch a’u gwydnwch yn cael eu meithrin. Bydd hyn yn ei dro yn arwain at well hunanhyder.

Bydd Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol hefyd yn meithrin creadigrwydd a sgiliau meddwl yn feirniadol a fydd yn gymorth i’r dysgwyr ddatblygu eu gallu i holi cwestiynau, gwneud cysylltiadau, bod yn flaengar, datrys problemau, cyfathrebu, cydweithio ac adfyfyrio’n feirniadol. Mae’r rhain i gyd yn sgiliau lefel uwch y mae galw amdanynt ymhlith cyflogwyr ac maent yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr ddod yn ddinasyddion sy’n chwarae eu rhan yn yr unfed ganrif ar hugain.

Yn bwysig iawn, bydd y maes dysgu a phrofiad yn sicrhau bod y Celfyddydau Mynegiannol yn agored ac yn hygyrch i bawb, a thrwy’r ymagwedd gynhwysol hon, bydd yn ehangu gorwelion pob dysgwr.

Cwricwlwm gweddnewidiol

Mae’r Papur Gwyn Cenhadaeth ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol yn nodi’r cynigion deddfwriaethol manwl ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022.

Y cynnig yw y bydd gofyn i leoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion ddarparu cwricwlwm eang a chytbwys sy’n bodloni pedwar diben y cwricwlwm ac sy’n cynnwys y chwe maes dysgu a phrofiad. Bydd dysgu Cymraeg, Saesneg, addysg grefyddol, addysg cydberthynas a rhywioldeb, a’r tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, i gyd yn ddyletswyddau statudol. Mae rhagor o wybodaeth ar sut y gall Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol gefnogi hyn yn adran ‘Datblygu cwricwlwm eang a chytbwys’ o’r ddogfen hon.

Bydd hawl gan leoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion i ddewis sut i gynllunio’u cwricwlwm ar lefel ysgol er mwyn cyflawni eu dyletswyddau cwricwlaidd. Fodd bynnag, wrth arfer yr hawl honno, bydd rhaid iddynt roi sylw i ganllawiau statudol a gaiff eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru. Yn ymarferol, golyga hyn y dylent ddilyn y canllawiau statudol oni bai bod ganddynt reswm da i beidio.

Nod y canllawiau statudol hyn ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol, sy’n rhan o’r canllawiau statudol ehangach ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022, yw rhoi fframwaith cenedlaethol y gall lleoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion ei ddefnyddio i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain. Ni fwriedir iddynt fod yn faes llafur hollgynhwysfawr, nac yn ganllaw ar gyfer trefnu amserlenni. Maent yn nodi:

  • yr hyn y dylai lleoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion roi ystyriaeth iddo wrth lunio’u cwricwlwm, a sut y gellir ei strwythuro
  • y disgwyliadau eang ar gyfer dysgwyr ar bob cam cynnydd ym Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol.

Drwy Faes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol, bydd athrawon/ymarferwyr yn annog plant a phobl ifanc i ddatblygu nid yn unig eu gallu i werthfawrogi gweithiau creadigol, ond hefyd eu doniau a’u sgiliau creadigol, artistig a pherfformio. Mae’n cynnig cyfleoedd i archwilio, mireinio a mynegi syniadau wrth feddwl yn greadigol a defnyddio’r dychymyg a’r synhwyrau. Mae hefyd yn hyrwyddo eu gallu i ymchwilio i faterion sy’n ymwneud â hunaniaeth bersonol a diwylliannol. Er mwyn ymwneud â’r maes dysgu a phrofiad hwn, mae gofyn am ymroddiad, dyfalbarhad a manwl gywirdeb; galluoedd sy’n fuddiol i ddysgu yn fwy cyffredinol.

Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol yn ysbrydoli ac yn cymell dysgwyr gan eu bod yn rhoi cyfle iddynt brofi prosesau creadigol yn ogystal â gwaith creadigol pobl eraill. Mae hefyd yn ysgogi eu dulliau arbrofi a’u creadigrwydd eu hunain. Mae’n cynnig llawer o gyfleoedd i gael profiadau megis ymweld â theatrau ac orielau, ac i ddod ag arbenigedd ymarferwyr allanol i mewn i’r ystafell ddosbarth. Mae ymwneud â Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol hefyd yn darparu sail ar gyfer dysgu gydol oes, mynediad i yrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith ac, yn y pen draw, gall gyfrannu at economi lewyrchus. Bydd dysgwyr yn datblygu talentau a sgiliau sy’n hanfodol i ddyfodol a ffyniant Cymru.

Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol yn datblygu dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes drwy eu hannog i fynd i’r afael â her ac anelu at lwyddiant. Mae cynnig cyd-destunau dilys a chyfoethog lle y gall dysgwyr gydweithio yn datblygu eu gallu i arwain a chwarae gwahanol rannau mewn timoedd yn effeithiol ac yn gyfrifol. Mae hyn yn cryfhau eu sgiliau cyflogadwyedd, yn ogystal â’r galw sydd arnynt i reoli eu hunain a’u hadnoddau mewn ffyrdd mentrus.

Mae’r wybodaeth a’r sgiliau a enillir drwy’r Celfyddyau Mynegiannol yn datblygu creadigrwydd y dysgwyr nid yn unig fel artistiaid ond hefyd yn fwy cyffredinol, gan eu bod yn cyfoethogi eu gallu i feddwl yn greadigol. Mae gwerthuso beirniadol, sy’n rhan allweddol o’r broses greadigol, hefyd yn eu helpu i ddod yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith, ac, yn ogystal, mae’n datblygu eu gwydnwch, sydd, yn ei dro, yn eu cefnogi i ddod yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas. At hyn, mae’r gwerthuso sy’n rhan o’r broses greadigol yn galluogi’r dysgwyr i archwilio materion cymhleth. Mae’n eu galluogi i herio canfyddiadau a rhagdybiaethau ac i ddod o hyd i atebion sy’n arwain at well dealltwriaeth o’u hunaniaeth ddiwylliannol eu hunain ynghyd â hunianaethau diwylliannol pobl, lleoedd a chyfnodau eraill. Drwy’r profiad hwn, caiff y dysgwyr gefnogaeth i ddod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd. Yn olaf, wrth iddynt gael mwynhad a boddhad personol drwy fynegi eu hunain yn eu gwaith creadigol daw’r dysgwyr yn fwy hyderus, ac mae hynny i gyd yn cyfrannu’n uniongyrchol at gyfoethogi ansawdd eu bywydau.

Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y Celfyddydau Mynegiannol yw’r broses greadigol, h.y. archwilio, ymateb, myfyrio a chreu. Mynegir hyn fel tri datganiad gwahanol am yr hyn sy’n bwysig ym Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol. Fodd bynnag, mae’r datganiadau hyn yn gydgysylltiedig, a dylid cofio hynny wrth gynllunio ar gyfer dysgu ac addysgu.

Mae archwilio’r Celfyddydau Mynegiannol ac archwilio drwyddynt yn dyfnhau ein gwybodaeth artistig ac yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o hunaniaeth, diwylliant a chymdeithas – mae’r datganiad hwn yn ymwneud yn bennaf â’r broses ymholi.

Mae ymateb a myfyrio, fel artist a chynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu am y Celfyddydau Mynegiannol a dysgu drwyddynt – mae’r datganiad hwn yn ymwneud yn bennaf ag ymateb, myfyrio a gwerthuso.

Mae gwaith creadigol yn cyfuno gwybodaeth a sgiliau gan ddefnyddio’r synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg – mae’r datganiad hwn yn ymwneud yn bennaf â chreu.

Nid yw’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn dilyn trywydd unionsyth. Maent yn gydgysylltiedig. Gyda’i gilydd, maent yn galluogi dysgwyr i ymwneud yn llawn â’r broses greadigol a rennir gan bum disgyblaeth y Celfyddydau Mynegiannol.

Fel rhan o’r broses greadigol, mae dysgwyr yn gallu archwilio, creu ac ymateb i’w gwaith eu hunain wrth gael profiadau cyfoethog, dilys. Er enghraifft, drwy archwilio genre, arddull, artist, ac ati, mae dysgwyr yn dechrau ffurfio barn am waith creadigol pobl eraill a’i werthfawrogi yn ogystal ag arbrofi gyda gwahanol ddeunyddiau a phrosesau, ac ati. Gallant wedyn ddefnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n cael eu hennill fel rhan o’r archwilio hwn i ysbrydoli eu gwaith creadigol eu hunain, gan barhau i fyfyrio ar eu gwaith fel rhan o’r broses greadigol.

Nid yw cynnydd yn y Celfyddydau Mynegiannol yn broses sy’n dilyn trywydd unionsyth, ac nid oes un llwybr sy’n gyffredin i bawb.Gall dysgwyr symud yn ôl ac ymlaen yn hawdd wrth iddynt brofi gweithgareddau’r Celfyddydau Mynegiannol, ac mae gwahanol ddysgwyr yn debygol o wneud cynnydd mewn ffyrdd gwahanol iawn.

Mae’n amlwg bod yr amgylchedd dysgu, gan gynnwys ansawdd yr addysgu, yn ffactor pwysig wrth hwyluso cynnydd dysgwyr. Felly, mae cynyddu lefel yr her a soffistigeiddrwydd cyd‑destunau’r Celfyddydau Mynegiannol yn ffactorau pwysig.

Bydd lleoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion yn datblygu eu cwricwla eu hunain yn y Celfyddydau Mynegiannol yn unol â’r canllawiau, gan ymateb i’w dysgwyr a’u hardal leol. Deellir, er bod dysgwyr unigol yn datblygu ar wahanol gyflymder, y dylai pob dysgwr allu manteisio ar bob agwedd ar Faes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol.

Mae’r pedair egwyddor cynnydd yn y Celfyddydau Mynegiannol yn ddefnyddiol wrth ddisgrifio cynnydd dysgwyr yn fras, ond gan lwyddo i gyfleu rhywfaint o natur ‘droellog’ gwaith dysgu yn y Celfyddydau Mynegiannol. Dylid ystyried yr egwyddorion cynnydd isod ochr yn ochr â’r profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau sy’n gysylltiedig â phob cam cynnydd ym mhob datganiad o’r hyn sy’n bwysig.

Cymhlethdod: Gall materion yr ymdrinnir â nhw gan ddysgwyr iau gael eu hystyried gan ddysgwyr hŷn mewn ffyrdd mwy cymhleth a soffistigedig.

Rheolaeth: Dylai dysgwyr ennill mwy a mwy o reolaeth dros ddulliau mynegi’r Celfyddydau Mynegiannol.

Dyfnder: Mae dysgwyr yn symud o amrywiaeth eang o brofiadau yn y Celfyddydau Mynegiannol i archwilio eu dysgu mewn mwy o ddyfnder.

Annibyniaeth: Mae dysgwyr yn dod yn fwyfwy annibynnol.

Llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol

Mae cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn ategu bron yr holl ddysgu ac maent yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr allu cymryd rhan yn llwyddiannus ac yn hyderus yn y byd modern.

Llythrennedd

Mae’r Celfyddydau Mynegiannol yn cynnig amrywiaeth o gyd-destunau cyfoethog lle y gellir atgyfnerthu, datblygu, cymhwyso ac ehangu sgiliau llythrennedd dysgwyr.

Bydd archwilio a dod i gysylltiad ag amrywiaeth o destunau hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu strategaethau darllen ac, yn deillio o hynny, i ddyfnhau gwybodaeth artistig, gan gymharu gwaith neu berfformiadau ar ffurf ysgrifenedig, darllen ac ysgrifennu sgriptiau, a darllen am waith pobl eraill. Gellir defnyddio gweithgareddau ysgrifennu sgriptiau i gefnogi’r amrywiaeth lawn o ddyfeisiau atalnodi er mwyn amrywio’r cyflymder, egluro ystyr, osgoi amwysedd a chreu effeithiau bwriadol.

Caiff llafaredd ar bob ffurf hefyd ei ddatblygu drwy actio, trafod, ymateb a myfyrio ar waith, chwarae rôl, caneuon, perfformio a chyflwyno, prosesau cynllunio a chwestiynu.

Rhifedd

Mae’r Celfyddydau Mynegiannol yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr arloesi, yn ogystal â chyfleoedd creadigol i feithrin sgiliau rhifedd mewn amrywiaeth o gyd-destunau diddorol.

Ym maes dawns, gellir helpu dysgwyr wrth iddynt ddod yn fwy cyfforddus yn arddangos cysyniadau megis siâp, gofod a mesur, patrwm a dilyniant, llwybr, safle, cydberthnasau, dimensiwn safbwyntiol, patrymau, ailadrodd, gan feithrin felly dealltwriaeth gadarnach o’r cysyniadau hyn. Gall y cyfryngau digidol a drama gynnig profiadau dysgu gwerth chweil a go iawn, megis amseru a chyllidebau.

Mae’n bosibl mai cariad dysgwyr tuag at gerddoriaeth a chaneuon fydd yn cyflwyno rhifau iddynt ac, wrth iddynt ddechrau deall y cydberthnasau â rhifau drwy ganeuon mewn ffordd fwy aeddfed, bydd cerddoriaeth hefyd yn datblygu strwythur a ffurf, patrymau a rhythm, ailadrodd, ymadroddion, adrannau, rowndiau a chanonau.

Bydd y celfyddydau gweledol hefyd yn darparu’r cyd-destun ar gyfer cysyniadau megis siâp, gwerthfawrogi patrymau, ymwybyddiaeth ofodol a mesuriadau.

Cymhwysedd digidol

Mewn byd sy’n newid yn gyson, mae cymhwysedd digidol yn chwarae rhan gynyddol bwysig ym mywydau ein dysgwyr. Mae’r Celfyddydau Mynegiannol yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddysgwyr ddod â’r celfyddydau yn fyw gan ddefnyddio sgiliau digidol.

Mae’r cyfryngau digidol yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd penodol i ddatblygu cymhwysedd digidol a darparu’r cyd-destunau ar gyfer esblygu syniadau. Gall dysgwyr ddatblygu a newid algorithm ar gyfer dilyniant cynhyrchu ffilm er mwyn dangos y deunydd a ffilmiwyd yn nhrefn y lleoliadau yn hytrach na threfn gronolegol.

Bydd cyfleoedd megis cydweithredu, hawliau digidol, drama, adborth adeiladol, trwyddedu, technoleg cerddoriaeth, perchenogaeth, cynhyrchu, cadw a rhannu gwaith digidol yn digwydd yn naturiol drwy’r maes dysgu a phrofiad.

Y dimensiwn Cymreig a phersbectif rhyngwladol

Mae traddodiad Celfyddydau Mynegiannol cyfoethog ac amrywiol yng Nghymru. Fel rhan annatod o gwricwlwm y Celfyddydau Mynegiannol, bydd dysgwyr yn profi pob agwedd ar ein diwylliant amrywiol yng Nghymru, ar lefel leol a chenedlaethol. Mae gan bob dysgwr yr hawl i ddysgu am y Celfyddydau Mynegiannol yng Nghymru. Rhoddir pwyslais ar ymarferwyr creadigol hanesyddol a chyfoes o Gymru o bob disgyblaeth yn y maes dysgu a phrofiad. Drwy hyn, bydd dysgwyr yn gwerthfawrogi arwyddocâd Cymru a’r diwylliant Cymreig ac yn atgyfnerthu eu dealltwriaeth o hunaniaeth Cymru yn y byd. Bydd dysgwyr yn profi’r Celfyddydau Mynegiannol ar lefel fyd-eang o oedran cynnar, gan ddatblygu cyfoeth ac amrywiaeth yn eu dealltwriaeth ac yn eu gwaith creadigol. Mewn byd cynyddol ryng-gysylltiedig, bydd dysgwyr yn cael eu hysgogi gan ystod eang o waith creadigol byd-eang, i ddylanwadu ar eu gwaith eu hunain ac i werthfawrogi ac ymateb i amrywiaeth ddiwylliannol.

Dylid ystyried cynnwys y canlynol.

  • Ffocws ar ddiwylliant Cymreig a thraddodiadau Cymru er mwyn sbarduno dysgu pellach drwy brofi gwaith artistiaid, gweithiau creadigol, gwaith cerddorion, perfformwyr, perfformiadau a lleoliadau, o bersbectif cyfoes a thraddodiadol.
  • Archwilio gweithiau creadigol, gan wybod pam y cawsant eu creu a chan feithrin dealltwriaeth dysgwyr o faterion lleol, cenedlaethol a byd-eang.
  • Y ddealltwriaeth fod gan Gymru dreftadaeth gerddorol gref, y caiff ei hadnabod fel gwlad y gân a bod ganddi sîn gerddorol sy’n esblygu’n gyson.
  • Cyfranogiad mewn gweithdai yn seiliedig ar sgiliau neu arddangosiadau gydag ymarferwyr creadigol o’r gymuned leol ac yn genedlaethol.
  • Meithrin hunaniaeth y dysgwyr eu hunain fel artistiaid a aned yng Nghymru, a meithrin y doniau a’r sgiliau sy’n hanfodol er mwyn sicrhau ffyniant Cymru yn y dyfodol.
  • Gofyn am gyngor ac adborth gan ymarferwyr creadigol wrth gynllunio ac ymgymryd â phrosiectau newydd.
  • Cymryd rhan mewn prosiectau cymunedol yn seiliedig ar y celfyddydau.
  • Gwylio a gwrando ar berfformiadau byw neu gyflwyniadau yn ardal leol y dysgwyr eu hunaina/neu ar lwyfannau digidol ac ymateb iddynt.
  • Galluogi dysgwyr i brofi’r holl elfennau uchod yn y Gymraeg, yn y Saesneg ac mewn ieithoedd cymunedol.
  • Defnyddio adnoddau Cymraeg traddodiadol a chyfoes.

Sgiliau ehangach

Bydd dysgwyr yn meithrin sgiliau trosglwyddadwy pwysig o ran meddwl yn feirniadol a datrys problemau, cynllunio a threfnu, creadigrwydd ac arloesi, ac effeithiolrwydd personol.

Meddwl yn feirniadol a datrys problemau

Tynnir sylw at fireinio gwaith yn y datganiadau o'r hyn sy’n bwysig ‘Mae ymateb a myfyrio, fel artist a chynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu am y Celfyddydau Mynegiannol a dysgu drwyddynt’ ac mae hefyd yn rhan o’r broses greu. Mae'n cael ei annog drwy’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y Celfyddydau Mynegiannol, a thrwy hynny feithrin sgiliau hunanwerthuso a myfyrio. Mae’r gwaith gwerthuso sy’n rhan o’r broses greadigol yn galluogi dysgwyr i feithrin sgiliau myfyriol, cwestiynu a datrys problemau, yn ogystal â herio canfyddiadau a dod o hyd i ddatrysiadau. Bydd dysgwyr yn dangos gwydnwch wrth werthuso eu gwaith mewn ffordd feirniadol a disgwylir iddynt ymateb yn gadarnhaol i adborth beirniadol. Bydd dysgwyr yn meithrin sgiliau datrys problemau drwy arbrofi ag amrywiaeth o dechnegau celfyddydol ac artistig. Byddant yn mynd ati i fyfyrio ar eu dysgu a’u profiadau personol, yn defnyddio gwybodaeth bersonol, yn gofyn cwestiynau ac yn herio rhagdybiaethau.

Cynllunio a threfnu

Bydd dysgwyr yn cynllunio gwaith creadigol. Byddant yn rhoi prosesau myfyriol, beirniadol a chreadigol ar waith er mwyn gwneud synnwyr o syniadau a phrofiadau. Drwy’r Celfyddydau Mynegiannol, caiff dysgwyr eu hannog i gynllunio, pennu eu nodau eu hunain a rheoli adnoddau. Mae’r gallu i feddwl am syniadau, datblygu chwilfrydedd, archwilio a rhoi syniadau ar waith yn hanfodol i’r Celfyddydau Mynegiannol.

Creadigrwydd ac arloesi

Mae creadigrwydd ac arloesi yn hanfod i ddatganiad o’r hyn sy’n bwysig ‘Mae gwaith creadigol yn cyfuno gwybodaeth a sgiliau gan ddefnyddio’r synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg’. Disgwylir i ddysgwyr ddylanwadu ar eu creadigrwydd eu hunain a’i lywio, meithrin eu gwybodaeth greadigol a chyfuno adnoddau er mwyn gwella eu proses greadigol eu hunain.

Effeithiolrwydd personol

Bydd dysgwyr yn dod yn fentrus, yn flaengar ac yn wydn drwy reoli eu hunain a’u hadnoddau, a thrwy hynny wella eu sgiliau cyflogadwyedd. Byddant yn goddef methiant, gan ddatblygu gwydnwch a dathlu’r methiannau y byddant yn dysgu ohonynt. Drwy’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y Celfyddydau Mynegiannol, bydd dysgwyr yn meithrin hunanhyder, hunan-barch, annibyniaeth, sgiliau cyfathrebu, ac ymwybyddiaeth gymdeithasol a diwylliannol.

Gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith

Dysgu o wybodaeth am yrfaoedd a’r farchnad lafur

Mae’n hanfodol i ddysgwyr gael gafael ar wybodaeth o ansawdd uchel am yrfaoedd a’r farchnad lafur ac iddynt feddu ar ddealltwriaeth o’r hyn y mae hynny’n ei olygu iddynt hwy, er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus a chynaliadwy am eu gyrfa.

Yn ôl ffigurau a ryddhawyd ddiwedd 2017, mae’r sector creadigol yn y DU yn tyfu ddwywaith mor gyflym â’r economi genedlaethol. Mae un o bob unarddeg o swyddi yn y DU yn y diwydiannau creadigol. Mae’r sector wedi tyfu 20 y cant ers 2011 ac ar hyn o bryd, mae’n cynhyrchu £84.1 biliwn i economi’r DU. Yng Nghymru, mae 84,000 o bobl yn gweithio yn y sector creadigol ac fel y cyfryw, mae’r sector yn un o flaenoriaethau penodol Llywodraeth Cymru. Mae’r diwydiannau creadigol yng Nghymru yn cynnwys hysbysebu a marchnata; pensaernïaeth; crefftau; dylunio cynhyrchion, graffeg a ffasiwn; ffilm, teledu, fideo a radio; ffotograffiaeth; gwasanaethau TG, meddalwedd a chyfrifiadurol; cyhoeddi; amgueddfeydd, orielau a llyfrgelloedd; cerddoriaeth, y celfyddydau perfformio a’r celfyddydau gweledol.

Cysylltu’r maes dysgu a phrofiad â gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith

Dylid annog dysgwyr i ymgymryd â gwaith ymchwil ac i ystyried y cysylltiadau rhwng y Celfyddydau Mynegiannol a’r llwybrau gyrfa sydd ar gael iddynt. Mae’r Celfyddydau Mynegiannol yn sicrhau bod dysgwyr yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i ddilyn gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol. Mae amrywiaeth helaeth o yrfaoedd ar gael yn yr amgylcheddau creadigol hyn, o yrfaoedd pensaernïol a dylunio, gyrfaoedd cymorth technegol, gyrfaoedd crefft traddodiadol a newydd, gyrfaoedd ym maes perfformiad a chynhyrchu, a gyrfaoedd rheoli. Ceir gyrfaoedd hefyd ym maes marchnata cynhyrchion creadigol, gwerthu, archif a churadu, ymchwil a datblygiad, ysgrifennu a chyfansoddi cerddoriaeth. Yn bwysicach, bydd y sgiliau trosglwyddadwy sydd wrth wraidd y Celfyddydau Mynegiannol yn cyfrannu at baratoi gweithlu’r dyfodol ar gyfer proffesiynau a swyddi nad ydynt eto’n bodoli, er mwyn diwallu anghenion diwydiannau creadigol newydd a rhai a ddaw i’r amlwg.

Mae’n bwysig pwysleisio bod y sgiliau a gaiff eu meithrin drwy’r Celfyddydau Mynegiannol yn gwbl drosglwyddadwy ac yn werthfawr iawn yn y farchnad gyflogaeth ehangach. Ceir tystiolaeth glir bod sgiliau yn y Celfyddydau Mynegiannol yn cyfrannu at angen yr economi ehangach am arweinyddiaeth, creadigrwydd ac arloesi, meddylfryd dylunio a gallu i gydweithio a gweithio fel tîm. Mae nodweddion eraill yn cynnwys agwedd at ymarfer cysyniadol sy’n seiliedig ar werthoedd ac ymdrechion moesegol i greu, gan fodloni terfynau amser, er mwyn cyflwyno gwaith ystyrlon ac, efallai yn anad dim, gallu cysefin i gynnal ymchwiliadau gwerthfawrogol er mwyn arwain a datblygu newid. Yn hyn o beth, mae’r Celfyddydau Mynegiannol yn gallu cyfrannu’n sylweddol ac yn uniongyrchol at sgiliau gweithlu deinamig a hyblyg a fydd yn hanfodol ar gyfer economi’r unfed ganrif ar hugain.

Mae cynnydd dysgwyr o ran gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith yn rhan o gontinwwm dysgu ar gyfer dysgwyr rhwng 3 ac 16 oed. Gallai llwyddiant i ddysgwr ysgol gynradd gynnwys:

  • chwarae rôl ar gyfer amrywiaeth o wahanol swyddi
  • y gred y gallant gyflawni unrhyw swydd – gan fynd i’r afael â stereoteipiau rhywedd
  • cyfathrebu â’r bobl yn eu cymuned am y gwahanol swyddi y maent yn eu gwneud a’r boddhad a all ddeillio ohonynt.

Drwy wneud cynnydd dysgu, gallai llwyddiant i ddysgwyr 16 oed gynnwys:

  • dangos a chymhwyso’r sgiliau a ddysgwyd mewn perthynas â’r byd gwaith
  • adnabod diddordebau, cryfderau a sgiliau er mwyn gwneud dewisiadau gwybodus ôl-16
  • deall ac arddangos y mathau o ymddygiad y mae cyflogwr yn dymuno eu gweld mewn cyflogai da
  • gwerthuso risg wrth ddatblygu syniad busnes ac ystyried gwahanol ffyrdd o sefydlu a chynnal menter.

Profiadau sy’n gysylltiedig â gwaith

Mae dysgwyr yn datblygu diddordebau, cryfderau, sgiliau a dyheadau drwy brofiadau yn yr ysgol a thu hwnt i’r ysgol. Mae amrywiaeth o bartneriaid ynghlwm â'r teithiau cyffrous hyn drwy gyd-ddylunio a chyd-gyflwyno, a chyda’i gilydd maent yn llywio penderfyniadau dysgwyr am eu dyfodol a’r llwybrau y byddant yn eu dilyn. Gall cyfleoedd megis ymweliadau, siaradwyr gwadd a gweithgareddau ymarferol, helpu i wella’r dysgu a’i roi mewn cyd-destun.

Mae cydweithredu a chyfleoedd i gysylltu ag unigolion a chyflogwyr, e.e. ymarferwyr celf, gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, cwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu, gweithwyr proffesiynol yn y cyfryngau digidol a’r cyfryngau darlledu, cerddorion a dawnswyr, yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu am waith, cyflogaeth a’r sgiliau a gaiff eu gwerthfawrogi yn y gweithle.

Gall dysgwyr ddefnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a feithriniwyd drwy gymryd rhan mewn profiadau sy’n gysylltiedig â gwaith i ddatblygu gweithgareddau menter llwyddiannus. Yn y Celfyddydau Mynegiannol, gall y rhain gynnig profiad dysgu dilys sy’n arwain at gynaliadwyedd i’r Celfyddydau Mynegiannol ac sy’n datblygu dysgwyr fel cyfranwyr creadigol a mentrus, gan greu cysylltiadau â’r byd gwaith.

Deall cyfleoedd ôl-16 ac addysg uwch

Mae’n hanfodol bod dysgwyr yn ymwybodol o’r holl gyfleoedd sydd ar gael iddynt ôl-16. Felly, yn ogystal â deall am gyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau, dylid rhoi gwybodaeth i ddysgwyr am ddarparwyr dysgu a chynnig y cyfle iddynt ymgysylltu ag amrywiaeth o ddarparwyr o’r fath. Dylai’r cyfleoedd ymgysylltu gynnwys mynychu ffeiriau gyrfaoedd a sgiliau, sgyrsiau gan ddarparwyr addysg bellach ac uwch ac ymweliadau gan y darparwyr hynny, yn ogystal â chyflwyniadau gan fyfyrwyr mewn addysg bellach neu uwch. Dylid hefyd gyfeirio dysgwyr at adnoddau ymchwil ar-lein sy’n cynnig gwybodaeth am gyrsiau a chynnydd, er mwyn eu helpu i ddeall yr amrywiaeth o gyfleoedd dysgu sydd ar gael, ac i helpu i godi eu dyheadau a chynnig sail iddynt allu gwneud penderfyniadau gwybodus.

Addysg cydberthynas a rhywioldeb

Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn gyfunol, yn holistaidd ac yn barhaus drwy gydol taith dysgwyr drwy addysg a thu hwnt. Mae’r Celfyddydau Mynegiannol yn hyrwyddo dealltwriaeth o hawliau, gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a hawliau dynol cyffredinol. Drwy archwilio, creu ac ymateb i amrywiol ddarnau o waith creadigol, eir i’r afael â materion heriol, a chaiff dysgwyr eu grymuso i wneud penderfyniadau gwybodus ac i gyfathrebu’n effeithiol.

Cydberthnasau

Bydd dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth o gydberthnasau drwy ddrama, cerddoriaeth, chwarae rôl, dawns a ffilm, ac yn ystyried y cydberthnasau a gaiff eu portreadu yn y celfyddydau gweledol yn ogystal â’r cydberthnasau rhwng y crëwr a’r gynulleidfa.

Gwerthoedd, hawliau, diwylliant a rhywioldeb

Mae’r Celfyddydau Mynegiannol yn cynnig profiadau dysgu cyfoethog ac amrywiol sy’n galluogi dysgwyr i archwilio eu diwylliant eu hunain a diwylliannau eraill. Caiff gwybodaeth a dealltwriaeth eu datblygu ymhellach drwy greu ac ymateb i waith creadigol o wahanol ddiwylliannau.

Deall rhywedd

Bydd dysgwyr yn adolygu ac yn myfyrio ar y ffordd y mae’r crëwyr yn portreadu rhywedd mewn gwaith creadigol a’r ffordd y mae hyn wedi newid dros amser.

Trais ac aros yn ddiogel

Drwy archwilio gwaith creadigol sy’n seiliedig ar wrthdaro a newidiadau mewn cymdeithas, mae dysgwyr yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o’r byd. Drwy ffilm a’r cyfryngau digidol, disgwylir i ddysgwyr ddysgu am effeithiau cadarnhaol a niweidiol delweddau digidol, a’r modd y maent yn eu portreadu eu hunain ar-lein.

Sgiliau ar gyfer iechyd a lles

Bydd dysgwyr yn profi gwahaniaethau o ran rolau’r rhywiau a chydberthnasau drwy ffilm a drama. Disgwylir iddynt wynebu materion rhywioldeb a ffiniau mwy cymhleth drwy ddrama mewn arddulliau megis theatr fforwm. Byddant yn archwilio effaith y cyfryngau digidol a sut mae’r cyfryngau yn portreadu cydberthnasau.

Y corff dynol a’i ddatblygiad

Ym mhob rhan o’r Celfyddydau Mynegiannol, bydd dysgwyr yn archwilio teimladau am y corff a hunanddelwedd a sut mae diwydiant y Celfyddydau Mynegiannol yn dylanwadu arnynt. Drwy adnabod materion allweddol, gall dysgwyr ddefnyddio ffilm, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, dawns a drama i archwilio materion mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Cyfoethogi a phrofiadau

Mae cyswllt annatod rhwng cwricwlwm y Celfyddydau Mynegiannol a chyfoethogi a phrofiadau. Caiff llais y dysgwr ei ystyried a chaiff dysgwyr eu grymuso i gymryd perchenogaeth dros eu dysgu drwy helpu i gynllunio natur eu profiadau.

Mae dysgu yn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan iddi yn cynnig cyfoeth o ddeunyddiau a phrofiadau sy’n ysgogi gwaith creadigol. Bydd dysgwyr yn ymgymryd â phrofiadau dysgu sy’n eu tywys allan o’u hystafelloedd dosbarth i leoliadau celfyddydol, megis amgueddfeydd, theatrau, stiwdios ffilm ac orielau.

Gall rhaglenni celfyddydau cymunedol a chwmnïau celfyddydau lleol ddarparu profiadau sy’n cynnig profiadau creadigol gwerthfawr a bywiog i ddysgwyr sy’n cysylltu pob un o’r meysydd dysgu a phrofiad.

Mae fframwaith y cwricwlwm a amlinellir ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol yn cefnogi ac yn annog cyfuniad o’r dulliau cyflwyno canlynol.

Dull rhyngddisgyblaethol

Mae’r dull rhyngddisgyblaethol o ymdrin â’r celfyddydau yn golygu bod y dysgu yn canolbwyntio ar un ddisgyblaeth ar y tro gyda phob maes yn cael ei gysylltu gan y broses greadigol, y thema neu’r cyd-destun. Drwy gysylltu’r broses greadigol ar draws y disgyblaethau, mae’r dysgwyr yn cysylltu eu sgiliau ac ar yr un pryd yn cael eu harwain at lefel ddyfnach o wybodaeth a dealltwriaeth am ddisgyblaeth benodol.

Dull integredig

Mae cwricwlwm integredig ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol yn gweld cyfuniad o gelf, cerddoriaeth, dawns, drama, ffilm a’r cyfryngau digidol yn cael ei addysgu o fewn yr un wers ac nid fel gwersi ar wahân. Mae cyfuno’r disgyblaethau yn annog dysgwyr i wneud cysylltiadau ac uno cysyniadau, ac mae’n eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau perthnasol ac ystyrlon y gellir eu cysylltu â chyd-destunau cyfoethog, dilys. Gall yr holl ddisgyblaethau gael eu haddysgu mewn un wers gan un person gyda thema gysylltiol yn galluogi’r dysgwyr i drosglwyddo sgiliau a chydweithio mewn cyd-destunau ddilys. Mae hyn yn adlewyrchu byd gwaith y diwydiannau creadigol a diwylliannol.

Ym mhob model cyflwyno dylai fod cyfleoedd ar gyfer dysgu annibynnol er mwyn galluogi’r dysgwyr i ddatblygu’n ddysgwyr hunangyfeiriedig gyda mwy o ymreolaeth dros eu dysgu.

  • Cyhoeddwyd gyntaf 30 Ebrill 2019
  • Diweddarwyd diwethaf 30 Ebrill 2019