English

3. Egwyddorion cynnydd

Cwricwlwm

Mandadol

Effeithiolrwydd cynyddol fel dysgwr

Dangosir cynnydd wrth symud oddi wrth wneud rhywbeth gyda chymorth tuag at ymreolaeth a soffistigeiddrwydd. Mae cynnydd yn debygol o ddeillio o ddefnyddio ac ailddefnyddio sgiliau hysbys yn raddol, ond gallai, o bryd i'w gilydd, fod yn naid ansoddol fawr.

Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, maen nhw’n gwneud mwy o waith gwerthuso ac yn creu gwaith creadigol mwyfwy soffistigedig yn annibynnol a thrwy gydweithio rhagor ag eraill. Maent yn magu mwy o hyder drwy gael cyfleoedd i archwilio, profi a dehongli, gan greu ac ymateb drwy ddisgyblaethau'r celfyddydau mynegiannol mewn amgylchedd diogel. Mae'r ffordd y maent yn gwerthuso eu gwaith eu hunain a gwaith eraill yn adlewyrchu dealltwriaeth gynyddol o brosesu a llunio adborth, gan ei dderbyn mewn modd cadarnhaol a dyfalbarhau wrth weithredu arno.

Ehangder a dyfnder cynyddol mewn gwybodaeth

Mae dysgwyr yn dangos cynnydd ym Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol (Maes) drwy archwilio, profi a chreu ystyr cynyddol gymhleth. Mae cysylltu dysgu newydd â gwybodaeth bresennol yn datblygu soffistigeiddrwydd cynyddol o ran dealltwriaeth gysyniadol. At hynny, mae dysgwyr yn dysgu ac yn mireinio gwahanol fathau o wybodaeth a sgiliau, gan gynnwys y technegau, y prosesau a'r sgiliau sydd eu hangen i greu a dehongli ym mhob maes o'r celfyddydau. Yn ogystal, mae’r sgiliau cyfannol o greadigrwydd; synthesis; meddwl beirniadol; a dealltwriaeth o gyd-destunau diwylliannol yn hanfodol i'r Maes hwn.

Dyfnhau'r ddealltwriaeth o'r syniadau a'r disgyblaethau yn y meysydd dysgu a phrofiad

Caiff cynnydd ei ddangos drwy barhau i feithrin y wybodaeth, y sgiliau a'r galluoedd sydd eu hangen i werthfawrogi, creu, archwilio, ymateb a myfyrio mewn disgyblaethau penodol ac mewn cyfuniadau o ddisgyblaethau. Yn ystod y camau cynnar, caiff dysgu ei nodweddu gan chwilfrydedd cynyddol i fod yn greadigol ac yn arloesol drwy ddefnyddio ystod o adnoddau a deunyddiau i archwilio mewn meysydd amrywiol. Mae cyfuno disgyblaethau'n digwydd yn bwrpasol ond hefyd yn organig. Wrth i'r dysgu fynd rhagddo, mae dysgwyr yn dod yn gynyddol ymwybodol o ddisgyblaethau'r celfyddydau mynegiannol a'u nodweddion allweddol, gan gynnwys (ond heb eu cyfyngu i’r canlynol) celf, cerddoriaeth, dawns, drama, a ffilm a'r cyfryngau digidol. Mae dysgwyr yn nodi cysylltiadau yn y broses greadigol ar draws y disgyblaethau er mwyn archwilio, creu, dehongli ac ymateb.

Mireinio sgiliau a soffistigeiddrwydd cynyddol wrth eu defnyddio a'u cymhwyso

Bydd lefelau rheolaeth, cywirdeb a rhuglder wrth ddefnyddio ystod o sgiliau’r celfyddydau yn cynyddu wrth i ddysgwyr ddatblygu.  Er enghraifft, o ran dysgu yn y cyfnod cynnar, gallai hyn gael ei nodweddu gan ddefnyddio symudiadau corff syml i greu dawns a bod yn ymwybodol o agweddau sylfaenol megis cyflymder, cyfeiriad a lefelau wrth werthuso eich gwaith eich hun a gwaith eraill. Yn ystod cam mwy ymestynnol o gynnydd, gallai dysgwyr greu a gwerthuso llwyddiant rhyngweithio ymysg gwahanol agweddau ar symud mewn dawns gymhleth wedi'i choreograffu. Wrth iddyn nhw wneud cynnydd, mae dysgwyr yn datblygu'n barhaus o ran dyfnder ac yn defnyddio soffistigeiddrwydd cynyddol i fireinio'r sgiliau celfyddydol hyn mewn gwahanol ddisgyblaethau a/neu weithgarwch rhyngddisgyblaethol.

Creu cysylltiadau a throsglwyddo'r dysgu i gyd-destunau newydd

Mae dysgwyr yn gwerthfawrogi fwyfwy y posibilrwydd o gyfuno disgyblaethau yn y Maes er mwyn gwerthfawrogi a chyflawni deilliannau creadigol. Caiff cynnydd ei nodweddu hefyd gan ddefnydd mwy soffistigedig o sgiliau perthnasol mewn disgyblaethau unigol a'r gallu cynyddol i drosglwyddo gwybodaeth a sgiliau presennol i gyd-destunau newydd yn y Maes hwn ac ar draws Meysydd eraill.

  • Blaenorol

    Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig

  • Nesaf

    Disgrifiadau dysgu