English

Trosolwg

Mae hidlo cynnwys y we a diogelu ar-lein yn effeithiol yn hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch a lles dysgwyr a staff wrth iddynt weithio ar-lein, neu gael mynediad at ddeunyddiau ar-lein. Wrth i ysgolion fynd ati i ddefnyddio mwy o addysgeg ddigidol a harneisio potensial technoleg ddigidol, mae'n bwysicach nag erioed bod ysgolion yn diogelu eu dysgwyr a'u staff rhag cynnwys amhriodol a niweidiol.

Fel rhan o'r canllawiau statudol Cadw dysgwyr yn ddiogel, mae gan ysgolion gyfrifoldeb statudol i greu amgylchedd ar-lein diogel, sy'n cynnwys gweithredu systemau priodol o hidlo cynnwys y we a diogelu ar-lein i amddiffyn dysgwyr rhag cynnwys niweidiol ar-lein. Mae'n hanfodol bod unrhyw ddatrysiad technegol i hidlo a diogelu ar y we yn cael ei ategu gan oruchwyliaeth effeithiol mewn lleoliadau addysg.

Bydd gweithredu'r safonau canlynol yn effeithiol yn galluogi ysgolion i ddiffinio a rheoli'r cynnwys ar-lein y gall dysgwyr a staff fynd ato, yn ogystal â monitro'r hyn y mae dysgwyr a staff yn ei weld a’i ddefnyddio ar-lein. Mae'n hanfodol bod polisïau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd i adlewyrchu newidiadau yn y byd ar-lein, gan sicrhau yr un pryd bod y mynediad sydd ei angen ar ysgolion i ddarparu addysgeg ddigidol yn effeithiol yn cael ei gydbwyso’n ddigonol gyda chadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein.