English


I gyflwyno ap i ddyfais neu ddefnyddiwr, rhaid ei neilltuo i grŵp Intune sy’n eu cynnwys. Mae sawl opsiwn neilltuo ar gyfer ap:

  • Gofynnol/Required
    Mae’r ap yn cael ei osod yn awtomatig ar y ddyfais (ar gyfer unrhyw ddefnyddiwr) os caiff ei gyflwyno i grŵp dyfeisiau, neu bryd bynnag y mae defnyddiwr yn mewngofnodi (ar unrhyw ddyfais gydnaws) os caiff ei gyflwyno i grŵp defnyddwyr.
  • Ar gael/Available
    Dim ond i grwpiau defnyddwyr, sy’n sicrhau bod yr ap ar gael i’w osod ar ffurf hunanwasanaeth ym Mhorth y Cwmni. Nid yw hyn yn berthnasol i ddefnyddwyr ar iPads a rennir.
  • Dadosod/Uninstall
    Gellir ei neilltuo i ddyfais neu grŵp defnyddiwr i ddadosod yr ap.

Wrth ddefnyddio neilltuad grŵp defnyddwyr, mae’r ap wedi’i osod i’r ddyfais ac ar gael i’w ddefnyddio gan bob defnyddiwr ar y ddyfais honno, oni bai bod yr ap yn cefnogi gosod yng nghyd-destun defnyddiwr (fel Google Chrome).

Gwybodaeth

Nid yw dileu grŵp o’r maes ‘Required’ yn Intune yn arwain at ddadosod yr ap, ond mae’n atal defnyddwyr neu ddyfeisiau yn y dyfodol yn y grŵp hwnnw rhag derbyn yr ap.  Rhaid i chi ychwanegu’r grŵp yn benodol at y neilltuad ‘Uninstall’.


Er bodd modd cyflwyno apiau trwy’r porth Intune, rydym yn argymell defnyddio Intune for Education, yn enwedig wrth neilltuo apiau VPP a/neu apiau lluosog i grŵp dyfeisiau.

Dyma’r dull a argymhellir wrth ddirprwyo cyflwyno apiau i dechnegwyr ysgol.

  1. Porwch i https://intuneeducation.portal.azure.com
  2. Cliciwch ar Groups, a chwilio am y grŵp dan sylw os oes angen.
  3. Dewiswch y grŵp targed.
  4. Cliciwch ar Windows apps neu iOS apps – bydd hyn yn dangos yr apiau sydd wedi’u neilltuo i’r grŵp ar hyn o bryd a’r math o neilltuad.
  5. Cliciwch ar Edit a dewiswch yr apiau rydych chi am eu gosod.
  6. Cliciwch ar

  1. Porwch i borth Intune.
  2. Cliciwch ar Apps -> All apps -> Add.
  3. Dewiswch Windows 10 and later neu MacOS o dan bennawd Microsoft 365 apps yn y gwymplen.
  4. Golygwch y maes Suite Name i enwi’r pecyn yn briodol - dylech ddechrau gyda rhif yr ysgol er mwyn adnabod yn hawdd.
  5. Ar gyfer dyfeisiau Windows, yn y cam Configuration app suite dewiswch Enter XML data o’r gwymplen.
  6. Parhewch gyda’r dewin.

Gellir cynhyrchu'r data XML yn hawdd gan ddefnyddio'r Office Customisation Tool.

  1. Ewch i https://config.office.com.
  2. Cliciwch ar Create a new configuration (neu mewnforiwch un sy’n bodoli’n barod i’w olygu).
  3. Dewiswch yr opsiynau cyflwyno a ddymunir, gan ddefnyddio’r argymhellion hyn:
    1. Products > Office Suites = Microsoft 365 Apps for Enterprise.
    2. Apiau = toglwch fel y dymunir i gynnwys/eithrio apiau.
    3. Language > Primary language = Match Operating System.
    4. Language > Additional languages = Welsh (Partial), os dymunir.
    5. Language > Additional proofing tools = Welsh, os dymunir.
    6. Licensing and activation > Automatically accept the EULA = On.
    7. Licensing and activation > Product activation = Device based.
  4. Allforiwch y ffeil XML, gan gwblhau’r awgrymiadau ychwanegol.
  5. Agorwch y ffeil XML a chopïo a gludo’r cynnwys i ffenestri Intune.
  6. Cliciwch ar Validate XML i gadarnhau, yna Next.
Rhybudd

Nid yw actifadu seiliedig ar ddyfais ar gael ar gyfer MacOS. Mae angen actifadu gan ddefnyddiwr i wneud hyn ac mae’n defnyddio un o’u prosesau actifadu a ganiateir. Ystyriwch ddefnyddio Office LTSC for Mac 2021 gyda’r Volume License Serializer yn lle.
Overview of the Volume License (VL) Serializer | Microsoft Learn