Ffrydio byw
-
- Rhan o:
- Gwersi byw
Beth yw ffrydio byw?
Mae ffrydio byw (a elwir weithiau'n ffrwd fyw neu weminarau) yn golygu darlledu ffrwd fyw o gynnwys gweledol a sain dros y rhyngrwyd mewn amser real. Gellir gwylio ffrydiau byw yn fyw neu gellir eu recordio a'u darparu yn ddiweddarach.
Mae ffrydio byw wedi dod yn ddull poblogaidd o rannu cynnwys a chysylltu â chynulleidfa.
Ffrydio byw drwy Hwb
Drwy Hwb, gall ymarferwyr ffrydio'n fyw gan ddefnyddio Microsoft Teams Live Events.
Defnyddio ffrydio byw i gyflwyno gwersi
Gall ffrydio byw fod yn adnodd effeithiol i ymarferwyr gyflwyno dysgu o bell. Mae ffrydio byw yn eich galluogi i:
- gyflwyno gwersi i'ch dosbarth a'ch dysgwyr
- cyflwyno darlithoedd neu wasanaethau ar raddfa fawr
- cyflwyno gweminarau
Manteision gwersi ffrydio byw
Mae ffrydio byw yn cynnig llawer o fanteision i ddysgu cyfunol. Mae manteision gwersi ffrydio byw yn cynnwys:
- Mae'n darparu ffrwd un ffordd sy'n sicrhau mai dim ond cynnwys rydych chi'n ei ddewis sy'n cael ei gyflwyno
- Gall dysgwyr weld y ffrwd fyw, ond ni ellir eu gweld na'u clywed nhw
- Mae gan athrawon reolaeth lawn dros ryngweithio yn y wers gyda sgwrs a gymedrolir yn bosibl os dymunir (sianel holi ac ateb)
- Gall rhieni a gofalwyr gefnogi dysgwyr gyda gwersi ffrydio byw heb gymryd rhan yn uniongyrchol
- Pan gânt eu recordio, mae gwersi ffrydio byw yn cynnig hyblygrwydd i ddysgwyr, gan eu galluogi i wylio gwersi ar adegau cyfleus neu i edrych yn ôl dros wersi i gael eglurhad neu i gadarnhau dysgu
Pwyntiau i'w cofio
- Bydd popeth ar eich sgrin yn cael ei weld gan bawb.
- Rydych chi'n 'fyw', ystyriwch yn ofalus yr hyn y gellir ei weld a'i glywed yn eich amgylchedd.
- Os yn bosibl, dylai ymarferwyr a dysgwyr ddefnyddio gosodiadau pylu cefndir yn Microsoft Teams.
- Drwy ffrydio'n fyw, rydych chi'n ymrwymo i gyflwyno gwers ar ddyddiad/amser penodol.
- Cadwch ddiddordeb y dysgwyr gydag amrywiaeth o gynnwys a deunydd.
- Cofiwch edrych ar y camera – nid ar y monitor.