English

Canllaw ydyw i unrhyw un sy’n ymwneud â’r gwaith o gynhyrchu adnoddau sy’n ceisio cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru. Defnyddir y term ‘adnoddau’ yn y canllaw hwn i gyfeirio at ystod eang o ddeunyddiau ategol ar ddylunio’r cwricwlwm, dysgu ac addysgu.

Mae’n nodi 7 egwyddor allweddol sydd â’r nod o’ch helpu i gynhyrchu adnoddau addysg o ansawdd uchel sy’n berthnasol yng Nghymru. Caiff pob egwyddor ei chefnogi gan ganllawiau ar bethau i’w hystyried, yn ogystal â phethau i’w hosgoi wrth ddatblygu adnoddau.

Gydag amser, bydd fframwaith sicrhau ansawdd ar gyfer comisiynu, datblygu a chymeradwyo adnoddau addas at y diben yn cael eu sefydlu gan Adnodd.

Sefydlwyd Adnodd, sef cwmni adnoddau addysgol dwyieithog Cymru, er mwyn rhoi mynediad hawdd i ddysgwyr ac ymarferwyr i adnoddau o ansawdd uchel a dwyieithog a fydd yn cyfoethogi eu profiad o’r Cwricwlwm i Gymru. Er ei fod yn ei gam sefydlu o hyd, mae’r tîm yn Adnodd yn gweithio ar fod yn gwbl weithredol erbyn diwedd 2024.

Nod Adnodd yw cydweithio ag ymarferwyr ac ystod eang o randdeiliaid eraill, gan ddarparu goruchwyliaeth strategol o’r adnoddau dysgu ac addysgu sydd ar gael i gefnogi dysgwyr 3 i 19 oed, gan sicrhau bod yr adnoddau yn berthnasol, yn amserol ac ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd. Bydd Adnodd yn edrych ar hwyluso cydweithrediad ar draws partneriaid a sectorau er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r arian, arbenigedd, gwybodaeth a’r sgiliau sydd ar gael, ac i alluogi arloesedd. Rhan allweddol arall o rôl Adnodd fydd hyrwyddo ymwybyddiaeth a defnyddio adnoddau, gan gynyddu’r fantais a’r gwerth i ddysgwyr ac ymarferwyr.

Cwricwlwm a arweinir gan ddibenion yw’r Cwricwlwm i Gymru. Cwricwlwm yr ysgol neu’r lleoliad yw popeth mae dysgwyr yn ei brofi ar drywydd pedwar diben y cwricwlwm. Nid dim ond yr hyn a gaiff ei addysgu sy’n bwysig, ond sut a pham y caiff ei addysgu. Mae canllawiau’r fframwaith cenedlaethol statudol yn cynnwys gofynion y cwricwlwm, a gaiff eu nodi mewn deddfwriaeth, yn ogystal â chanllawiau ategol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r Cwricwlwm i Gymru, cysylltwch â  CwricwlwmiGymru@llyw.cymru.

Mae’r ardal dysgu broffesiynol ar Hwb wedi cael ei threfnu er mwyn helpu ymarferwyr i ddod o hyd i’r adnoddau cywir i ddiwallu eu hanghenion dysgu proffesiynol, beth bynnag yw’r anghenion hynny. Yn yr ardal, bydd ymarferwyr yn canfod ystod eang o hyfforddiant, dysgu hunangyfeiriedig, astudiaethau achos, canllawiau ac ymchwil ar bob agwedd ar ddysgu proffesiynol. Mae adnoddau dysgu proffesiynol yn cwmpasu 4 maes bras:

  • y cwricwlwm, addysgeg ac asesu
  • arweinyddiaeth a llywodraethu
  • lles, tegwch a chynhwysiant
  • datblygu fel person proffesiynol

Gall ymarferwyr hidlo’r adnoddau yn y categorïau hyn neu chwilio am adnoddau gan ddefnyddio allweddeiriau.

Diben adnoddau yw helpu ymarferwyr i gynllunio’r cwricwlwm a chefnogi eu dulliau addysgegol sy’n gwella ansawdd y dysgu ac addysgu. O ran cynllunio’r cwricwlwm ac addysgeg, gall adnoddau helpu ysgolion a lleoliadau i wneud y canlynol:

  • sicrhau bod yr holl ddysgu yn bwrpasol ac yn cefnogi’r pedwar diben
  • sicrhau bod pob elfen o ddysgu yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen tuag at y pedwar diben
  • cefnogi dealltwriaeth o’r cynnydd y mae dysgwyr yn ei wneud

Yn y Cwricwlwm i Gymru, ysgolion yw cynllunwyr y cwricwlwm. Rôl adnoddau yw cefnogi’r broses hon, yn hytrach na rhoi cynhyrchion y gall ymarferwyr eu mabwysiadu. Mae gan ysgolion a lleoliadau yr hyblygrwydd i gynllunio adnoddau sy’n diwallu anghenion eu dysgwyr.

Dylech ystyried y 7 egwyddor canlynol wrth ddatblygu adnoddau newydd neu addasu rhai sy’n bodoli. Mae hyn yn bwysig iawn os hoffech sicrhau eu bod ar gael yn genedlaethol drwy Hwb.

1. Bod yn gyson ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru

Pedwar diben y cwricwlwm yw’r man cychwyn a’r dyhead ar gyfer pob dysgwr. Mae angen i chi fod yn glir sut y gall adnodd helpu dysgwyr i wneud y canlynol:

  • gwireddu’r pedwar diben
  • gwneud cynnydd yn eu dysgu ynghyd â’r continwwm 3 i 16 a nodwyd yn fframwaith y cwricwlwm

Mae angen eich cymorth ar ymarferwyr er mwyn deall sut mae eich adnodd yn helpu’r broses hon fel rhan o ddatblygu eu dysgu ac addysgu.

Beth i’w ystyried

  • Defnyddiwch y pedwar diben fel y man cychwyn a’r dyhead ar gyfer pob dysgwr. Ystyriwch a yw’r adnodd yn helpu dysgwyr i wireddu’r capasiti a’r rhagdueddiadau o fewn y pedwar diben.
  • Dylai eich adnodd gefnogi’r dysgwyr i symud ar hyd y continwwm 3 i 16 mewn perthynas â datganiadau penodol o’r hyn sy’n bwysig, drwy brofiadau, gwybodaeth a sgiliau.
  • Cefnogwch ymarferwyr drwy wneud cyfeiriadau perthnasol i agweddau mandadol ar y Cwricwlwm i Gymru.
  • Myfyriwch ar sgiliau trawsgwricwlaidd a themâu trawsbynciol.
  • Sicrhewch fod modd i’r ymarferydd asesu’r dysgu sy’n deillio o’ch adnodd.
  • Dylai adnoddau sydd wedi’u hanelu at ymarferwyr fodloni gofynion yr adran 'Ymlaen â’r daith' o ganllawiau’r cwricwlwm.

Beth y dylid ei osgoi

  • Cynrychioli’r pedwar diben fel amcanion dysgu penodol neu greu a datblygu cynnwys yn uniongyrchol o’r pedwar diben.
  • Cyfeiriadau arwynebol at y pedwar diben nad ydynt yn ychwanegu unrhyw werth.
  • Gweithgareddau ynysig nad ydynt yn gysylltiedig â dysgu blaenorol neu gamau nesaf y dysgwr. Peidio â rhoi ymdeimlad o sut mae’n symud datblygiad dysgwyr yn ei flaen i ddarparwyr.
  • Peidio ag ystyried y dysgu yn eich adnoddau yng nghyd-destun elfennau mandadol y cwricwlwm.
  • Datblygu deunyddiau sy’n canolbwyntio ar 1 dasg neu amcan dysgu neu’n annog ymarferwyr i ‘dicio’ eu bod wedi cwblhau fframwaith canllawiau’r cwricwlwm.
  • Ni ddylid gwahanu’r asesiad oddi wrth y dysgu ac addysgu.

2. Meddu ar resymeg dysgu glir (pam, nid beth yn unig)

Mae’n hanfodol bod gan adnoddau nodau clir ar gyfer dysgu yn seiliedig ar anghenion a dyheadau dysgwyr. Yn eich canllaw i athrawon, dylai esboniadau o’r canlynol fod wrth wraidd eich adnodd:

  • y ddealltwriaeth fod yr adnodd yn edrych i ddatblygu a/neu ddyfnhau’r hyn y gellir ei drosglwyddo i gyd-destunau newydd ac anghyfarwydd
  • pa wybodaeth, sgiliau a phrofiadau sydd wedi’u cynnwys a sut y gallai dangosyddion cynnydd edrych ar gyfer y rhain
  • pam mae’r nodau dysgu yn bwysig a sut maent yn cyfrannu at ddiben cyffredinol y dysgu mewn agwedd benodol ar y Cwricwlwm i Gymru
  • sut mae’r adnodd yn cefnogi datblygiad dysgwyr

Beth i’w ystyried

  • Dylai eich adnodd ddatblygu profiadau, gwybodaeth a sgiliau’r dysgwyr er mwyn cefnogi eu cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir yn yr egwyddorion cynnydd.
  • Dylech ystyried (ac esbonio i’r ymarferwyr) sut y bydd eich adnoddau yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu dros amser drwy ganllaw ymarferwyr sy’n amlinellu diben yr adnodd, gydag awgrymiadau ar sut i’w ddefnyddio.
  • Datblygwch (dros amser) ystod ehangach o adnoddau sy’n cefnogi cynnydd dysgwyr ar draws y continwwm 3 i 16 er mwyn adlewyrchu anghenion dysgu, doniau, rhagdueddiadau a galluoedd gwahanol yn well.
  • Dylech ddarparu ymdeimlad clir ynghylch pam y mae’r adnodd yn bwysig a sut mae’n cyfrannu at ddysgu ehangach.

Beth y dylid ei osgoi

  • Adnoddau sy’n canolbwyntio ar weithgaredd neu dasg heb unrhyw wybodaeth neu sgiliau clir nac arwyddocaol sy’n gysylltiedig â datblygiad dysgwyr.
  • Nodau dysgu cymhleth a hir. Cadw pethau’n gryno.
  • Llunio adnoddau seiliedig ar weithgareddau untro wedi’u hanelu at grwpiau blwyddyn penodol, heb unrhyw gynlluniau i adeiladu o hynny.

3. Cefnogi ymarferwyr i ddylunio a datblygu dysgu

Ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau ar sut maent yn cynllunio neu’n trefnu dysgu i ddiwallu anghenion penodol eu dysgwyr. Mae hyn yn adlewyrchu’r egwyddor o sybsidiaredd sy’n parhau i lywio datblygiad y Cwricwlwm i Gymru.

Beth i’w ystyried

  • Dylai eich adnodd helpu ysgolion a lleoliadau i fod yn hyblyg wrth gynllunio’r cwricwlwm a chynllunio o fewn eu cyd-destun eu hunain.
  • Dylai eich adnoddau helpu ymarferwyr i ddeall a datblygu dysgu.
  • Adeiladwch ar adrannau cynllunio eich cwricwlwm o ganllawiau’r cwricwlwm drwy awgrymu pynciau, themâu, gweithgareddau posibl, dulliau a dysgu ar gyfer agwedd ar y cwricwlwm. Gallai hyn drafod pam y gallai’r rhain fod yn effeithiol a chynnwys gwybodaeth am yr hyn sydd heb weithio wrth dreialu’r adnodd gydag ymarferwyr a dysgwyr.

Beth y dylid ei osgoi

  • Creu cwricwlwm manwl, cynllun gwaith, cynlluniau gwersi rhagnodol neu fodiwlau a gynlluniwyd i’w defnyddio oddi ar y silff.
  • Amseru gweithgareddau neu drefnu’r defnydd o ddeunyddiau yn yr ystafell ddosbarth.
  • Canllawiau athrawon wedi’u pwysoli tuag at gyflawni gweithgareddau neu dasgau, ar draul opsiynau i ddatblygu dysgu a osodwyd yn fframwaith y cwricwlwm.
  • Canllawiau athrawon rhagnodol sy’n dweud wrth athrawon sut i addysgu gan ddefnyddio’r adnoddau.

4. Cefnogi dulliau priodol o ymdrin â dysgu ac addysgu sy’n cael eu llywio gan ymchwil yn unol â’r Cwricwlwm i Gymru

Dylai adnoddau helpu ymarferwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut y dylent ddefnyddio deunyddiau wrth addysgu. Os oes ymchwil sy’n awgrymu bod dulliau penodol o addysgu yn fwy effeithiol, dylai eich adnodd bwysleisio’r rheini er mwyn helpu ymarferwyr yn eu dulliau dysgu ac addysgu. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn gydlynol gyda chwricwlwm a arweinir gan ddibenion. Mae hyn hefyd yn bwysig i gefnogi dealltwriaeth yr ymarferwyr o effaith bosibl nod dysgu.

Beth i’w ystyried

  • Sut y gallai rhagor o ddarllen, meddwl a thystiolaeth helpu i gefnogi’r defnydd o’ch adnodd.
  • Ystyriwch a ellir adlewyrchu’r 12 egwyddor addysgegol i gefnogi ysgolion a lleoliadau i ddefnyddio eich adnodd, eu helfennau allweddol a’u heffeithiau tebygol, a sut a pham y caiff y cysyniad neu’r pwnc ei addysgu.
  • Defnyddiwch enghreifftiau darluniadol ac enghreifftiau o ymarfer i ysgogi meddwl ac ymgysylltu beirniadol.

Beth y dylid ei osgoi

  • Bod yn rhy benodol ynghylch sut y mae’n rhaid i wers gael ei haddysgu.
  • Rhoi cyngor nad yw’n gysylltiedig ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru.

5. Cynnwys proses datblygu ar y cyd

Mae datblygu ar y cyd yn dwyn arbenigedd datblygwyr, arbenigwyr a defnyddwyr ynghyd i greu adnoddau o ansawdd uwch. Y ffordd orau o wneud hyn yw ymgysylltu â’r canlynol:

  • ymarferwyr presennol sy’n gweithio gyda’r Cwricwlwm i Gymru
  • rhanddeiliaid ac arbenigwyr cysylltiedig â phynciau ehangach
  • sefydliadau cymunedol
  • dysgwyr

Beth i’w ystyried

  • Datblygwch eich adnodd ar y cyd ag ymarferwyr sydd wrthi’n gweithio gyda’r Cwricwlwm i Gymru.
  • Cydweithredwch ag ystod o ymarferwyr o ddechrau’r broses ddatblygu i sicrhau bod eich adnoddau yn diwallu anghenion y defnyddiwr, ac yn cynnwys lefel briodol o drylwyredd ac awgrymiadau i’w datblygu ymhellach.

Beth y dylid ei osgoi

  • Datblygu adnoddau heb fewnbwn uniongyrchol yr ymarferydd, a fyddai hefyd yn atal rhag profi drafftiau mewn lleoliadau dysgu cyn cyhoeddi’r fersiwn derfynol.
  • Dangos gweithgareddau neu dasgau nad ydynt yn ddigon heriol neu ymestynnol.

6. Cynllunio a datblygu adnoddau cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg

Rhaid datblygu eich adnodd yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rhaid i’r ddwy iaith fod o’r un ansawdd, rhaid defnyddio’r derminoleg gywir a rhaid iddynt fod ar gael ar yr un pryd. Mae hyn yn cynnwys fideos, clipiau sain a phob elfen arall o’r deunydd. Er mwyn cyrraedd Safonau’r Gymraeg, ni allwn gyhoeddi deunyddiau sy’n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Beth i’w ystyried

  • Dylai argaeledd adnoddau, adlewyrchu anghenion ysgolion a lleoliadau ym mhob categori iaith, er mwyn sicrhau y ceir mynediad amserol i adnoddau amrywiol o ansawdd uchel.
  • Defnyddiwch derminoleg Gymraeg a Saesneg sy’n cysylltu’n glir â chanllawiau fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.
  • Dylech ddatrys unrhyw broblemau posibl o’r dechrau er mwyn sicrhau y gall Hwb dderbyn a chyhoeddi eich deunyddiau.

Beth y dylid ei osgoi

  • Peidio â chynllunio o’r dechrau ar gyfer gofyniad sylfaenol eich gwaith datblygu adnoddau.
  • Comisiynu cyfieithiadau ar ddiwedd gwaith datblygu adnoddau heb gyfeirio at y derminoleg gywir sydd ar gael ar Hwb a BydTermCymru.

Gall cynhyrchu deunyddiau cwbl ddwyieithog gyflwyno rhai heriau, fel cynhyrchu fideos. Os bydd angen, gofynnwch i Safonau Standards yn Safonau.Standards@llyw.cymru am gyngor. Bydd deialog cynnar gyda Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau cynnyrch terfynol gwell yn y ddwy iaith.

7. Bod yn hygyrch i bob dysgwr ac ymarferydd

Rhaid i’ch adnodd ddilyn gofynion a chanllawiau ar hygyrchedd. Darllenwch ein canllaw creu dogfennau hygyrch i gael rhagor o wybodaeth.

Beth i’w ystyried

Beth y dylid ei osgoi

  • Cyflwyno adnoddau i’w cyhoeddi ar Hwb heb wiriadau hygyrchedd.

Yn ogystal â chysoni â’r 7 egwyddor a nodwyd uchod, rhaid i’r holl adnoddau ar Hwb hefyd fodloni’r meini prawf canlynol.

Am ddim i’w defnyddio a chael gafael arnynt

Dylai’r holl adnoddau fod am ddim i’w defnyddio a chael gafael arnynt ac ni ddylai fod angen manylion mewngofnodi. Lle y bo’n bosibl, ceisiwch osgoi cysylltu â gwefannau o fewn eich adnodd sy’n gofyn am fanylion mewngofnodi ychwanegol neu fanylion eraill. Yr eithriad yw cysylltu ag adnoddau sydd y tu cefn i dudalen mewngofnodi Hwb.

Anfasnachol

Rhaid i’r holl adnoddau fod o natur anfasnachol ac ni allant hyrwyddo unrhyw wasanaeth neu sefydliad lle y mae unrhyw weithgarwch masnachol. Ni ddylai defnyddiwr orfod prynu ap na meddalwedd i fynd at yr adnodd.

Hygyrch

Rhaid i’r holl adnoddau a gyhoeddir ar Hwb fod yn hygyrch. Darllenwch ein canllaw ar greu dogfennau hygyrch i gael rhagor o wybodaeth.

Darllenwch fwy am greu fideos hygyrch ar Hwb.

Hawlfraint ar gyfer testun

Lle y bo’n bosibl, dylech greu a defnyddio eich testun eich hun mewn adnodd ar gyfer Hwb. Yr unig ddefnydd a ganiateir o destun gwreiddiol mewn adnodd yw at ddibenion dyfynnu. Mae angen cyfeiriad priodol i gyd-fynd â hwn a rhaid ei gyfyngu i’r hyn sy’n angenrheidiol at ddiben egluro’r pwynt a wneir. Ni ddylech sganio gwerslyfrau, papurau newydd, cylchgronau nac unrhyw ddeunydd arall a argraffwyd na’u defnyddio mewn adnodd ar gyfer Hwb, dim hyd yn oed detholiadau bach o’r cyhoeddiadau hynny. Mae copïo’r testun â llaw neu deipio’r testun yn dal i fod yn achos o dor-hawlfraint.

Hawlfraint ar gyfer delweddau

Caiff ffotograffau a lluniau, gan gynnwys y rhai sydd i’w canfod ar beiriannau chwilio fel Google Images a Bing Images, eu diogelu gan hawlfraint ac ni ellir eu defnyddio heb ganiatâd y perchennog.

Mae rhai gwefannau, fel Wikimedia Commons (Saesneg yn unig), yn lletya delweddau i’w hailddefnyddio o dan drwyddedau Creative Commons. Mae rhai yn gyhoeddus (‘public domain’) sydd am ddim i’w defnyddio, ond byddwch yn ymwybodol bod rhai ohonynt yn ddarostyngedig i drwyddedau ‘priodoli’ (‘attribution’) sy’n gofyn i chi enwi perchennog yr hawlfraint.

Defnyddiwch safleoedd fel Pixabay (Saesneg yn unig), Pexels (Saesneg yn unig) ac Unsplash (Saesneg yn unig) y mae nifer o ddelweddau heb hawlfraint a rhydd rhag priodoli ar gael i’w lawrlwytho arnynt. Chwiliwch am ffotograffau ar Flickr (Saesneg yn unig) o dan yr hidlydd ‘Dim cyfyngiadau hawlfraint hysbys’ (‘No known copyright restrictions’).

Hawlfraint ar gyfer sain a fideo

Caiff clipiau sain a fideo eu diogelu gan hawlfraint ac, yn hynny o beth, ni ddylid eu defnyddio mewn adnodd oni eich bod wedi eu creu nhw eich hun neu eich bod wedi cael caniatâd pendant y creawdwr. Nid yw prynu CD, DVD, Blu-ray neu ffeil ddigidol yn rhoi’r hawl i chi ddefnyddio’r cynnwys heb gyfyngiad. Dim ond prynu’r cyfrwng ffisegol a’r hawl i wrando ar y gerddoriaeth neu wylio’r ffilm at ddefnydd personol ydych chi. Yn yr un modd â delweddau, nid yw’r ffaith bod clip eisoes ar-lein yn golygu ei fod yn gyhoeddus ac felly am ddim i’w defnyddio.

Yn lle ymgorffori fideo ar-lein yn eich adnodd, crëwch ddolen i’r clip ar YouTube. Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio clipiau sain fel effeithiau sain rydych chi wedi’u ‘prynu’ ar-lein oherwydd gall telerau’r drwydded fod yn gyfyngedig i ddefnydd personol yn unig.

I gael rhagor o wybodaeth am hawlfraint, cyfeiriwch at yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (Saesneg yn unig) neu’r Swyddfa Eiddo Deallusol (Saesneg yn unig).

Diogel

Os na chaiff yr adnodd ei letya ar Hwb, rhaid i’r wefan fod yn HTTPS diogel (Saesneg yn unig).

Lletya neu gyfeirio

Gallwn letya adnoddau ar Hwb neu gallwn gyfeirio drwy greu dolen i dudalen gwe neu ffeil ar-lein o’r cerdyn adnoddau.

Dylid ond lletya adnoddau mewn un man ar unrhyw adeg. Os yw’r adnoddau eisoes yn cael eu lletya ar eich gwefan, byddai’n well gennym ddarparu dolenni yn uniongyrchol iddynt o Hwb, fel i BBC Bitesize. Un eithriad fyddai petai’r deunyddiau’n cael eu lletya y tu ôl i dudalen mewngofnodi ond hoffech iddynt fod ar gael yn gyhoeddus ar Hwb.

Os nad yw eich adnoddau eisoes yn cael eu lletya unrhyw le, gallwn ni eu lletya ar Hwb. Os dewiswch yr opsiwn hwn, bydd angen i chi sicrhau bod unrhyw ddolenni i’r adnoddau ar eich gwefan yn cyfeirio defnyddwyr i’r man y maent yn cael eu lletya ar Hwb. Mae Meic Cymru wedi defnyddio’r dull hwn. Dylid ystyried hyn hefyd os oes problemau gyda gwefan bresennol fel oes gyfyngedig, dibyniaeth ar gyllid neu ddiffyg diweddariadau.

Adnoddau a grëwyd gan sefydliadau allanol

Bydd angen i chi gael prosesau sicrhau ansawdd ar waith cyn anfon y deunyddiau i Hwb.

Mae’n bosibl y bydd aelod o dîm cynnwys digidol Hwb yn gofyn y cwestiynau canlynol i chi pan ddaw hi i adolygu’r dogfennau.

  • Pwy ysgrifennodd y cynnwys? A yw’n arbenigwr pwnc?
  • Oes mwy nag un unigolyn wedi gwirio’r ffeithiau yn y cynnwys?
  • Oes rhywun ar wahân i’r awdur wedi golygu copi o’r cynnwys?
  • Sut y cafodd y fersiwn Gymraeg ei chreu? A gafodd ei chyfieithu’n broffesiynol?
  • Pryd cafodd yr adnodd ei ysgrifennu a’i greu?
  • Ydy’r arddull mewnol cywir wedi’i ddefnyddio wrth ysgrifennu’r deunyddiau? Ar gyfer deunyddiau a gynhyrchir i Lywodraeth Cymru, cyfeiriwch at arddulliadur.
  • Ydy pob delwedd, fideo, cerddoriaeth ac unrhyw ddeunydd arall â hawlfraint wedi cael eu clirio i’w cynnwys? Ar gyfer adnoddau a grëwyd ar gyfer Llywodraeth Cymru neu ganddi, ydy’r ffurflen caniatâd i ddefnyddio delwedd unigolyn wedi’i chwblhau?
  • Ydy’r deunyddiau’n ystyried materion cynrychiolaeth (fel enghreifftiau Cymraeg a Saesneg o waith dysgwyr, cymysgedd o rywiau, lleiafrifoedd ethnig) ac unrhyw ystyriaethau o ran hygyrchedd?

Adnoddau a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru drwy drydydd partïon

Os ydy’r adnoddau wedi’u comisiynu, bydd tîm cynnwys digidol Hwb yn rhan o’r broses ddatblygu ar ôl i’r contract gael ei ddyfarnu. Bydd y tîm y rhoi cyngor ar y canlynol:

  • sut i wella fformat, strwythur, cynllun ac iaith i’w wneud mor syml â phosibl i ddefnyddwyr
  • cymhwyso’r arddull mewnol cywir wrth ysgrifennu’r deunyddiau
  • cyfieithwyr cymeradwy y gellir eu comisiynu i gyflenwi fersiynau Cymraeg
  • deunyddiau a gomisiynwyd i’w cynnwys yn yr adnoddau, er enghraifft delweddau, fideos neu gerddoriaeth, a’r caniatadau cywir i’w defnyddio y mae’n rhaid eu cael gan unrhyw gyfranogwyr (gan ddefnyddio ffurflen caniatâd i ddefnyddio delwedd unigolyn Llywodraeth Cymru)
  • y defnydd o ddeunyddiau hawlfraint sydd ar gael yn yr adnoddau a’r caniatadau cywir y mae’n rhaid eu cael gan ddeiliaid hawlfraint i’w cynnwys
  • materion cynrychiolaeth (fel enghreifftiau Cymraeg a Saesneg o waith dysgwyr) ac unrhyw ystyriaethau hygyrchedd

Hyrwyddo a gwerthuso eich adnoddau

Dylech hyrwyddo’ch adnodd a rhoi gwybod i ymarferwyr sut i ddod o hyd iddo.

Gwerthuswch ac adolygwch eich adnodd dros amser (awgrymir o leiaf bob blwyddyn) i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i’r diben.

Os bydd eich adnoddau yn cydymffurfio â’n meini prawf, cwblhewch ein ffurflen lanlwytho adnoddau Hwb.

Os hoffech drafod eich adnoddau cyn i chi gyflwyno’r ffurflen, cysylltwch â cynnwysaddysg@llyw.cymru.