Canllaw i’r teulu ar siarad am y cyfryngau cymdeithasol
Cyflwyniad
Rydym yn byw mewn byd sy’n mynd yn fwy a mwy cysylltiedig, ac mae hyn yn bennaf oherwydd y rhyngrwyd ac, yn fwyaf arbennig, y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn golygu unrhyw wefan neu ap (rhaglen) sy’n caniatáu i bobl gysylltu dros y rhyngrwyd a chreu a rhannu cynnwys (er enghraifft lluniau a fideos) gyda’i gilydd. Ac maen nhw’n hynod o boblogaidd. Mewn cyn lleied ag un munud, mae 1 miliwn o bobl yn mewngofnodi i Facebook, mae 4.5 miliwn o fideos yn cael eu gwylio ar YouTube, ac mae bron i hanner miliwn o bobl yn sgrolio drwy eu ffrwd Instagram (saesneg yn unig). Yn ychwanegol at hyn, mae platfformau ac apiau newydd, a rhai wedi’u diweddaru, yn cael eu cyflwyno o hyd.
Mae’r canllaw hwn yn edrych ar y manteision a’r risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, sut i siarad gyda’r plant a’r bobl ifanc yn eich teulu amdanyn nhw, a beth allwch chi ei wneud i’w helpu i’w defnyddio mewn ffordd gadarnhaol ac yn ddiogel.
Pa mor boblogaidd yw’r cyfryngau cymdeithasol ymhlith plant a phobl ifanc?
Mae platfformau cyfryngau cymdeithasol yn weledol iawn, yn greadigol ac yn cynnig cyfle i gysylltu ar unwaith. Does dim syndod bod cynifer o blant a phobl ifanc yn eu defnyddio. Mae gan 21 y cant o blant 8 i 11 oed, a 71 y cant o bobl ifanc 12 i 15 oed, broffil cyfryngau cymdeithasol.
Mae gemau ar-lein hefyd yn boblogaidd iawn ymhlith plant a phobl ifanc. Wrth i fwy a mwy ohonyn nhw (er enghraifft, Fortnite a Roblox) gynnig profiad cymdeithasol ar-lein y mae pobl ifanc yn ymgolli ynddo, maen nhw’n dechrau cael eu hystyried fel math newydd o gyfryngau cymdeithasol.
A oes cyfyngiadau oedran ar gyfer defnyddio cyfryngau cymdeithasol?
Oes. Er bod gan wahanol blatfformau oedrannau gwahanol yn eu telerau defnyddio (yn amrywio o 13 i 18), rhaid i bob un gydymffurfio â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (Saesneg yn unig). Yn y DU, dim ond plant 13 oed a throsodd all roi caniatâd i rywun brosesu eu data personol.
Eglurwch wrth eich plentyn nad yw’n anghyfreithlon iddo ef neu hi greu cyfrif cyfryngau cymdeithasol os yw dan 13, ond y bydd yn rhaid i’r ap y mae’n ei ddefnyddio ddileu unrhyw gyfrifon dan oed er mwyn sicrhau nad yw’n torri rheolau GDPR a Deddf Diogelu Data 2018. Mae defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel ac yn gyfrifol yn hollbwysig, beth bynnag eich oed.
Beth yw manteision cyfryngau cymdeithasol?
Yn ogystal â chynnig cyfle i blant a phobl ifanc gyfathrebu â ffrindiau a theulu, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn rhoi cyfle iddyn nhw:
- ryngweithio â phobl newydd i rannu’r un diben neu ddiddordeb (er enghraifft, dysgu math o ddawns ar TikTok)
- dod o hyd i wybodaeth/newyddion a dilyn datblygiadau ym mywydau pobl eraill
- archwilio diddordebau neu hobïau, yn ogystal â’u hunaniaeth
- mynegi eu hunain a’u safbwyntiau/barn
- ymwneud â gweithgareddau cymdeithasol cadarnhaol – digwyddiadau codi arian, protestiadau heddychlon, ac ati
- bod yn greadigol a datblygu eu cynnwys eu hunain i’w rannu gyda chynulleidfa.
Beth yw risgiau defnyddio cyfryngau cymdeithasol?
Os nad yw defnydd plentyn o’r cyfryngau cymdeithasol yn cael ei reoli’n dda, neu os nad oes cydbwysedd da, gall gael effaith negyddol ar ei iechyd a’i les. Ond gall hyd yn oed defnyddio cyfryngau cymdeithasol am ychydig achosi i blant a phobl ifanc deimlo eu bod yn colli rhywbeth. Cofiwch atgoffa eich plentyn nad yw beth bynnag mae’n ei weld ar y cyfryngau cymdeithasol yn adlewyrchu bywyd go iawn fel arfer.
Wrth ystyried risgiau defnyddio cyfryngau cymdeithasol, meddyliwch am y pedwar prif faes hyn:
Cyswllt
- Rhyngweithio â dieithriaid ar-lein
Er bod apiau (a gemau) yn annog eu defnyddwyr i gysylltu â phobl newydd, mae’n bwysig bod eich plentyn yn ystyried cymhellion y rhai sydd eisiau bod yn ffrindiau neu sy’n gofyn am fanylion personol, lluniau, fideos ac ati.
- Bwlio ar-lein neu ‘seiberfwlio’
Mae hyn yn cynnwys ymddygiad bwriadol sy’n digwydd dro ar ôl tro gyda’r bwriad o aflonyddu ar rywun, a cham-drin rhywun yn emosiynol, gan gynnwys gadael sylwadau cas, ‘trolio’ (postio negeseuon yn fwriadol er mwyn peri tramgwydd neu godi gwrychyn rhywun), ffugio bod yn rhywun arall neu gau rhywun allan o grwpiau/sgyrsiau/gweithgareddau ar-lein. Cofiwch y gall plant a phobl ifanc gyflawni troseddau yn ogystal â bod yn ddioddefwyr.
- Ffrydio byw
Mae tystiolaeth gynyddol bod plant a phobl ifanc yn cael eu meithrin ar gyfer perthynas amhriodol ar-lein, yn cael eu rhoi dan bwysau ac yn cael eu gorfodi i gyflawni ymddygiad niweidiol iawn ar ffrydiau fideo byw – gweler ymchwil gan Internet Watch Foundation (Saesneg yn unig) a London Grid for Learning (Saesneg yn unig).
Cynnwys
- Cynnwys sy’n peri gofid
Mae hyn yn cynnwys gweld ymddygiad ar-lein annymunol (gan gynnwys ffrydio byw, nad yw’n rhybuddio gwylwyr ynglyn â’r cynnwys), storïau newyddion sy’n peri gofid, cam-drin anifeiliaid, iaith casineb, neu gynnwys sy’n disgrifio niwed neu drais (gan gynnwys hunan-niweidio). Gweler ymchwil SWGfL (Saesneg yn unig) am ragor o wybodaeth.
- Cynnwys amhriodol
Mae’n haws nag y byddech yn ei feddwl i blant a phobl ifanc gael mynediad at gynnwys anaddas i blant neu ddisgrifiadau o ryw/noethni, gamblo neu ymddygiadau eraill sy’n mynd yn groes i safonau cymunedol neu delerau gwasanaeth platfform.
- Cynnwys camarweiniol
Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth anghywir/camarweiniol, newyddion ffug, ideolegau eithafol sy’n cael eu cyflwyno fel ffeithiau, a defnyddwyr eraill sy’n portreadu eu bywydau fel pe baen nhw’n ‘berffaith’.
- Sgamiau
Mae hyn yn cynnwys deunydd wedi’i bostio gan ddefnyddwyr sy’n ceisio cael gafael ar wybodaeth bersonol, arian neu eiddo pobl eraill.
Ymddygiad
- Gwybodaeth bersonol
Meddyliwch pa wybodaeth bersonol mae eich plentyn yn ei rhannu ar-lein. Pwy sy’n gallu gweld yr wybodaeth (ydy’r cyfrif yn un cyhoeddus ynteu breifat)? Pa wybodaeth (gan gynnwys lleoliad) allai pobl ei darganfod am eich plentyn?
- Ôl-troed digidol ac enw da ar-lein
Pa argraff mae cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eich plentyn yn ei roi? Pwy arall allai fod yn edrych am eich plentyn ar-lein yn y dyfodol (er enghraifft, darpar gyflogwyr, swyddogion derbyn ar gyfer coleg/prifysgol, darpar bartner) a sut fydden nhw’n teimlo ynglyn â’r hyn maen nhw’n ei weld?
- Hunaniaeth
Gallai hunaniaeth ar-lein plentyn neu berson ifanc gael ei ddylanwadu gan ddefnyddwyr ar-lein eraill. A yw eich plentyn yn teimlo dan bwysau i gyflwyno’i hun mewn ffordd arbennig neu i rannu gwybodaeth benodol neu fathau penodol o luniau?
- Pwysau cymdeithasol
Mae awydd cryf ymhlith plant a phobl ifanc i gael cynulleidfa fawr yn hoffi eu cynnwys neu’n ei gadw fel ffefryn, er mwyn cael rhyw fath o gydnabyddiaeth a statws. Gall hysbysiadau mewn apiau roi pwysau diangen ar blant a phobl ifanc i ymateb i’w dilynwyr yn gyson.
- Gorddefnydd
Gall dyfeisiau personol olygu bod plant a phobl ifanc yn treulio llawer o amser yn edrych ar sgrin. Byddwch yn wyliadwrus o apiau cyfryngau cymdeithasol sy’n dileu ‘ciwiau stopio’ (hysbysiadau i symud ymlaen i rywbeth arall).
Yr ochr fasnachol
- Hysbysebu a chasglu data personol
Pa wybodaeth am eich plentyn mae platfformau cyfryngau cymdeithasol yn ei chasglu a’i gwerthu i drydydd partïon (er enghraifft hysbysebwyr)? Cofiwch fod gwasanaeth di-dâl yn golygu mai data eich plentyn yw’r ‘cynnyrch’.
- Gwario arian
Gallai cyfryngau cymdeithasol dylanwadol mae eich plentyn yn eu dilyn fod yn hyrwyddo eu cynnyrch eu hunain a chynnyrch cwmnïau eraill er mwyn cynyddu ymgysylltiad a gwerthiant. Mae apiau fel Twitch a TikTok, ar y llaw arall, yn caniatáu i ddefnyddwyr roi eitemau/arian digidol (sy’n cael eu prynu ag arian go iawn) yn rhodd i grëwr. Gall defnyddwyr hefyd deimlo bod pwysau arnyn nhw i brynu nodweddion ychwanegol o fewn terfynau amser ar rai platfformau er mwyn cadw eu henw da ar-lein.
Sut alla i alluogi fy mhlentyn i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd gadarnhaol?
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn debygol o chwarae rhan ganolog ym mywyd eich plentyn, heddiw ac yn y dyfodol. O ganlyniad, mae’n bwysig eich bod yn ei helpu i allu datblygu perthynas iach â’r cyfryngau cymdeithasol. Gallwch wneud hyn mewn llawer o wahanol ffyrdd:
- Hybu a chanmol ymddygiad cyfrifol
Anogwch eich plentyn i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd gadarnhaol ac i feddwl bob amser cyn postio rhywbeth – ydyn nhw wirioneddol eisiau i bob llun neu jôc/sylw gael ei roi ar lwyfan cyhoeddus? Sut allai hyn effeithio ar eu henw da yn y tymor hir? Gallech hefyd gadw llygad ar restr ffrindiau/dilynwyr eich plentyn er mwyn gwneud yn siwr ei fod ef neu hi yn cadw’n ddiogel.
- Datblygu gwytnwch
Siaradwch am y strategaethau amrywiol er mwyn delio â chynnwys negyddol ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r rhain yn cynnwys dysgu dweud ‘na’ wrth geisiadau dieisiau, deall sut i roi gwybod am gynnwys amhriodol, a gwybod ble i fynd er mwyn cael help a chefnogaeth (gweler isod am ragor o adnoddau a gwybodaeth).
- Siaradwch am gydbwysedd iach
Gallwch osod ffiniau iach drwy helpu eich plentyn (a’r teulu ehangach) i nodi beth a faint o gyfryngau cymdeithasol y dylen nhw fod yn eu defnyddio – mae templed cytundeb teulu Childnet (Saesneg yn unig) yn ddefnyddiol er mwyn eich helpu i wneud hyn.
A oes camau ymarferol eraill y galla i eu cymryd?
Oes. Gallwch hefyd ofyn i’ch plentyn ddefnyddio:
- gosodiadau preifatrwydd i reoli pwy sy’n cysylltu â’ch plentyn a faint o wybodaeth bersonol y mae’n ei datgelu ar ei gyfrifon. Mae’r ICO wedi cynhyrchu taflenni ffeithiau (Saesneg yn unig) preifatrwydd sy’n ymwneud ag apiau cyfryngau cymdeithasol poblogaidd
- offer gwasanaeth er mwyn rheoli eu profiad – mae hyn yn cynnwys blocio neu ddistewi cyswllt dieisiau, a rhoi gwybod am ddefnyddwyr/cynnwys sy’n torri safonau cymunedol
- cyfrineiriau cryf i atal hacio a gwneud yn siwr nad yw pobl eraill yn gallu ffugio mai chi ydyn nhw.
Sut alla i ddechrau trafodaeth gyda fy mhlentyn am ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol?
Mae bob amser yn syniad da i chi ddechrau sgwrs drwy ddangos diddordeb go iawn. Gallech ddechrau drwy ofyn i’ch plentyn ddangos i chi sut mae ap (er enghraifft, TikTok) yn gweithio. Gallech ddefnyddio’r adnoddau hyn gan Safer Internet (Saesneg yn unig) i drafod rhyngweithio ar-lein a sut i gadw’n ddiogel. Efallai hefyd y byddech yn hoffi:
- defnyddio stori am y cyfryngau cymdeithasol rydych wedi’i chlywed ar y newyddion yn ddiweddar fel cam cyntaf, gan ofyn i’ch plentyn beth mae ef/hi yn ei feddwl, beth fyddai ef/hi wedi ei wneud yn yr un sefyllfa, a pha gyngor y byddai’n ei roi i’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio
- siarad ynglyn â sut y mae gwahanol gynnwys ar gyfryngau cymdeithasol yn gwneud i’ch plentyn deimlo. Er enghraifft, beth sy’n gwneud eich plentyn yn hapus neu’n gwneud iddo chwerthin dros y lle? Beth sy’n siomi, yn dychryn neu hyd yn oed yn codi pwys ar eich plentyn? Mae’n bwysig eich bod yn rhoi cyfle i’ch plentyn fynegi ei farn, beth bynnag yw’r farn honno.
Oes yna rywbeth arall y mae angen i mi ei wybod wrth siarad gyda fy mhlentyn?
Yn gyntaf, mae sgwrsio’n rheolaidd yn hollbwysig. Mae defnydd eich plentyn o’r cyfryngau cymdeithasol yn debygol o newid dros gyfnod, felly mae’n bwysig siarad am y pwnc yn rheolaidd. Mae hefyd yn bwysig:
- bod yn rhagweithiol – cymryd amser i drafod risgiau posibl a strategaethau cadarnhaol cyn i rywbeth ddigwydd
- peidio â barnu – bydd defnydd eich plentyn o’r cyfryngau cymdeithasol yn wahanol i’ch defnydd chi – ond dydy hyn ddim yn golygu bod ei ddefnydd ef yn ‘anghywir’, dim ond ei fod yn wahanol
- bod yn agored ac yn gefnogol – helpwch eich plentyn i wybod y gall bob amser ddod atoch chi i rannu ei brofiadau, cwestiynau neu bryderon ynglyn â’r cyfryngau cymdeithasol.
I gael rhagor o adnoddau a gwybodaeth am ddefnydd cadarnhaol a diogel o’r cyfryngau cymdeithasol ewch i:
Hwb – Cadw’n Ddiogel Ar-lein, Cadw’n ddiogel ar rwydweithiau cymdeithasol – cyngor i rieni a gofalwyr, Cadw’n ddiogel ar rwydweithiau cymdeithasol – cyngor i rieni a gofalwyr a Rhestrau gwirio rhwydweithiau cymdeithasol (er enghraifft, Facebook, Twitter, Instagram, Snapchat, Roblox)
Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU – Safety tools on social networks (Saesneg yn unig)
NSPCC – NetAware (Saesneg yn unig)
Help a chefnogaeth:
Meic – Gwasanaeth llinell gymorth dwyieithog cyfrinachol, dienw a di-dâl sydd ar gael i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.
Childline (Saesneg yn unig) – Gwasanaeth cyfrinachol, preifat a di-dâl sydd ar gael i unrhyw un dan 19 oed yn y DU. Beth bynnag sy’n poeni’r plentyn neu’r person ifanc, maen nhw yno i wrando.
NSPCC (Saesneg yn unig) – Mae’r NSPCC yn elusen genedlaethol sy’n gweithio er mwyn amddiffyn plant ac atal camdriniaeth, ac mae’n cynnig llinell gymorth bwrpasol â chwnselwyr proffesiynol.
CEOP (Saesneg yn unig) – Ar wefan y Ganolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein gallwch adrodd unrhyw bryderon am gam-drin rhywiol ar-lein yn ddiogel.
Riportio Cynnwys Niweidiol – Canolfan adrodd genedlaethol sydd wedi’i chynllunio er mwyn helpu pawb i roi gwybod am gynnwys niweidiol maen nhw’n ei weld ar-lein.
Action Fraud (Saesneg yn unig) – Canolfan twyll a seiberdroseddau’r DU. Dyma’r lle i fynd os ydych yn ddioddefwr sgam, twyll neu seiberdrosedd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.