English

Sefydliad nid-er-elw ac elusen gofrestredig yw’r Internet Watch Foundation (IWF) sy'n bodoli i ddileu deunyddiau cam-drin plant yn rhywiol o'r rhyngrwyd.

Yn 2021, Llywodraeth Cymru oedd y llywodraeth gyntaf i ddod yn aelod o'r IWF. Mae’r aelodaeth yn cadarnhau ein hymrwymiad i gadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein, yn cyfrannu at yr her gyson i ddileu deunyddiau sy’n ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol ar-lein yn fyd-eang, ac yn sicrhau bod gwasanaethau cymorth yr IWF yn parhau i gefnogi dioddefwyr.

Rydym hefyd wedi cydweithio â’r IWF i gefnogi eu hymgyrchoedd a sicrhau bod gwybodaeth ac adnoddau ar gael yn Gymraeg. Yn seiliedig ar ddata IWF 2020, nod ymgyrchoedd Gurls Out Loud a Home Truths yw grymuso merched a rhybuddio rhieni am y risgiau a achosir gan y rhai sy’n cam-drin yn rhywiol drwy feithrin perthynas amhriodol ar-lein.

Atal cam-drin plant yn rhywiol ar-lein - ein gwaith gyda'r IWF

 

Gwybodaeth bellach