English

Er bod gan y rhan fwyaf o bobl sy'n defnyddio'r rhyngrwyd fwriadau da, mewn rhai achosion, mae plant yn cael eu paratoi am berthynas amhriodol, eu twyllo neu eu gorfodi i gynhyrchu a rhannu delwedd neu fideo rhywiol ohonyn nhw eu hunain. Yn 2020, nododd yr Internet Watch Foundation (IWF) - elusen yn y DU sy'n canfod delweddau a fideos o gam-drin plant yn rhywiol ar y rhyngrwyd ac yn eu dileu nhw -  fod cynnydd dramatig o 77% yn y categori hwn o ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol.

O ganlyniad, lansiodd yr IWF ymgyrch atal cam-drin rhywiol ar-lein ym mis Ebrill 2021, a'r brif neges i rieni a gofalwyr oedd nad yw'r ffordd hon o gam-drin yn digwydd yng nghornelau tywyll, cudd y we, ond yng ngolwg pawb, ar blatfformau ac apiau a ddefnyddir gan blant a phobl ifanc a'u rhieni a'u gofalwyr. Mae'r ymgyrch yn cynnwys y ffilm isod, wedi'i hanelu at rieni a gofalwyr, sy'n tynnu sylw at y ffaith y gall plant a phobl ifanc sydd â mynediad digyfyngiad i ddyfeisiau ddod i gysylltiad â rhywun sydd am feithrin perthynas amhriodol ar-lein, hyd yn oed pan fyddan nhw mewn amgylcheddau yr ystyrir eu bod yn ddiogel.

Nod yr ymgyrch yw cymell rhieni a gofalwyr i siarad â'u plentyn/plant am eu bywydau ar-lein, gan gytuno ar ffiniau a gosod rheolaethau rhieni, er mwyn atal y cam-drin rhag digwydd.  

Mae gan ymarferwyr rôl bwysig hefyd o ran addysgu plant am beth yw perthynas iach a llawn parch i'w helpu i ddeall pwy i ymddiried ynddo ar-lein a'u grymuso i osgoi neu ymdrin â chyswllt amhriodol yn ddiogel.

Sut gall hyn ddigwydd yng ngolwg pawb

Mae'n gyffredin cael ceisiadau i fod yn ffrind neu ddilynwr ar-lein gan bobl nad ydych chi’n eu hadnabod, a gall derbyn y rhain fod yn ffordd o ddilysu a chadarnhau eu poblogrwydd i lawer o blant a phobl ifanc. Bydd y rhai sy'n meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn ceisio manteisio ar hynny drwy gysylltu â phlant neu bobl ifanc a'u gorfodi a'u dylanwadu i rannu lluniau neu fideos rhywiol ohonyn nhw eu hunain. Gall y tactegau y maen nhw’n eu defnyddio amrywio. Gallan nhw geisio ffurfio perthynas drwy roi sylw a chanmoliaeth neu anrhegion, neu drwy roi mwy o bwysau uniongyrchol, fel blacmeilio neu herio eu dioddefwyr i ymddwyn yn rhywiol. Efallai na fydd y plentyn neu'r person ifanc yn deall yn iawn yr hyn y gofynnir iddyn nhw ei wneud, neu efallai y bydd yn anodd iddyn nhw gredu eu bod mewn perthynas â'r person, yn enwedig os yw'r camdriniwr yn meithrin y berthynas a'r ymddiriedaeth dros gyfnod o amser.

Beth yw'r arwyddion sy’n dangos y gallai plentyn neu berson ifanc fod mewn perygl

Cadwch olwg am newidiadau yn ymddygiad y plentyn a allai ddangos nad yw rhywbeth yn hollol iawn. Os yw plentyn yn cael ei feithrin i gael perthynas amhriodol ar-lein, efallai y byddan nhw’n dechrau treulio mwy o amser ar-lein – yn tecstio, yn chwarae gemau cyfrifiadurol neu'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol – a llai o amser gyda'u ffrindiau. Gallen nhw hefyd fynd i'w cragen, bod yn emosiynol gyfnewidiol ac yn gyfrinachol am eu hymddygiad a'u heiddo.

Beth allwch chi ei wneud

Mae'n bwysig cofio, os yw plentyn neu berson ifanc yn cael ei feithrin i gael perthynas amhriodol ar-lein, nad eu bai nhw yw hynny byth. Y peth gorau y gallwch chi ei wneud i amddiffyn plant neu bobl ifanc rhag cael eu meithrin i gael perthynas amhriodol ar-lein yw gwneud iddyn nhw deimlo'n ddiogel a'u cefnogi a rhoi gwybod iddyn nhw na fyddan nhw’n mynd i drafferth drwy ofyn am help.

Mae’r rhestr wirio ‘Siarad’ yn rhoi cyngor defnyddiol ar sut i fynd ati i drafod y pwnc a sicrhau eich bod yn dal ati i gyfathrebu’n agored. Mae hyn yn cynnwys awgrymiadau ar sut i ymdrin â chwestiynau anodd, ac enghreifftiau o reolau teuluol a all helpu i gadw profiad ar-lein pawb yn gadarnhaol ac yn ddiogel. Gallwch hefyd ddysgu mwy am sy’n rhan o dudalennau Cadw'n ddiogel ar-lein Hwb, a all eich helpu i ddeall y nodweddion, y risgiau posibl a'r gosodiadau preifatrwydd.

Bydd rhai plant a phobl ifanc yn ei chael hi'n haws siarad ag oedolyn nad yw'n rhiant neu'n ofalwr iddyn nhw. Gallwch chi awgrymu rhywun arall y gallen nhw siarad ag e neu hi, fel aelod agos arall o'r teulu, oedolyn dibynadwy neu athro/athrawes. Rhowch wybod iddyn nhw y gallan nhw gysylltu â’r CEOP os oes rhywbeth wedi digwydd ar-lein sydd wedi gwneud iddyn nhw deimlo'n anghyfforddus, yn anniogel neu'n bryderus. Mae’r CEOP yn rhan o'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a gall unrhyw un ei ddefnyddio i lunio adroddiad am gam-drin neu gyfathrebu rhywiol ar-lein.

Barn yr Arbenigwyr – Susie Hargreaves OBE, Prif Weithredwr Sefydliad Gwylio'r Rhyngrwyd (IWF)

Darllenwch yr erthygl hon i gael gwybod mwy gan Susie am rôl Sefydliad Gwylio'r Rhyngrwyd o ran gwneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel i blant ledled y byd a'r ymchwil y tu ôl i'w hymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth.

Sut i adrodd amdani

Os ydych chi'n poeni bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei feithrin i gael perthynas amhriodol ar-lein neu ei ecsbloetio'n rhywiol, cysylltwch â'r heddlu ar unwaith. Ffoniwch 101 ar gyfer achosion nad ydyn nhw’n rhai brys neu 999 os ydych chi’n pryderu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl uniongyrchol. Gallwch chi roi gwybod i'r NSPCC a'r CEOP hefyd am bryderon ynghylch perthynas amhriodol ar-lein a cham-drin rhywiol. Dylech chi roi gwybod i'r Internet Watch Foundation am unrhyw ddelweddau o gam-drin plant yr ydych chi’n eu gweld ar wefannau.

Sut i dynnu delweddau neu fideos rhywiol oddi ar y rhyngrwyd

Os oes delwedd neu fideo rhywiol o blentyn neu berson ifanc o dan 18 oed y maen nhw am dynnu oddi ar y rhyngrwyd, gallan nhw ddefnyddio ‘Report Remove’ Childline ac IWF www.childline.org.uk/remove i gael gwybod a yw hynny'n bosibl.