Cynnwys amhriodol, anghyfreithlon neu sy'n tramgwyddo
Canllawiau a gwybodaeth i helpu i ddeall cynnwys amhriodol neu sy'n tramgwyddo ar-lein, gan gynnwys cymorth a chefnogaeth.
- Rhan o
Trosolwg
Mae cynnwys amhriodol neu sy'n tramgwyddo yn gyffredin ar draws y rhyngrwyd. Gall ymddangos yn annisgwyl yn ystod gweithgarwch ar-lein bob dydd. Gall fod ar ffurf:
- iaith wael neu amhriodol
- delweddau graffig neu sy'n peri gofid
- cynnwys rhywiol
- cynnwys treisgar
Dyma rai enghreifftiau posibl o gynnwys a chyfathrebu anghyfreithlon:
- delweddau o gam-drin neu ecsbloetio
- cyfathrebu'n rhywiol gyda phlentyn
- deunydd sy'n hyrwyddo terfysgaeth neu eithafiaeth
- negeseuon llafar neu fathau eraill o gyfryngau sy'n annog trais, gwahaniaethu neu gasineb
- aflonyddu (ymddwyn yn gyson mewn ffordd y bwriedir iddi achosi trallod neu fraw, megis galw enwau, bygwth, stelcian neu aflonyddu rhywiol)
- twyll a sgamiau ar-lein
- creu neu werthu nwyddau anghyfreithlon a ffug
- ffrydio neu lawrlwytho cynnwys yn anghyfreithlon
Yn sgil technolegau fel AI cynhyrchiol, gall cynhyrchu a rhannu'r mathau hyn o gynnwys ddigwydd yn gyflymach.
Mae Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 yn gosod dyletswyddau cyfreithiol newydd ar lwyfannau ar-lein i amddiffyn defnyddwyr, yn enwedig plant. Ers 25 Gorffennaf 2025, mae dyletswydd gyfreithiol ar lwyfannau i amddiffyn plant ar-lein. Bellach, mae'n ofynnol i lwyfannau ddefnyddio technoleg gwirio oedran hynod effeithiol i atal pobl dan 18 oed rhag cael mynediad at:
- bornograffi
- cynnwys sy'n annog hunan-niweidio neu hunanladdiad
- cynnwys ynghylch anhwylderau bwyta
Rhaid i lwyfannau hefyd atal plant rhag cael mynediad at unrhyw gynnwys arall niweidiol ac amhriodol i'w hoedran fel:
- bwlio
- cynnwys sy'n cyfleu casineb
- cynnwys sy'n annog styntiau peryglus neu lyncu sylweddau peryglus
Rhaid i lwyfannau hefyd ddarparu ffyrdd clir a hygyrch i rieni a phlant o roi gwybod am broblemau ar-lein pan fyddan nhw’n codi.
Rhoi gwybod am gynnwys anghyfreithlon neu sy'n tramgwyddo
Gellir defnyddio gwefan Report Harmful Content i roi gwybod am gynnwys sy'n tramgwyddo neu'n peri gofid fel:
- cam-drin neu fygwth ar-lein
- cynnwys sy'n ymwneud â hunan-niweidio neu hunanladdiad
- ymgais i gyfathrebu'n rhywiol nas dymunir
Gellir rhoi gwybod am ddelweddau neu fideos amhriodol neu rywiol o rywun sydd, yn eich barn chi, o dan 18 oed, i'r Internet Watch Foundation.
Gweler ein tudalen gymorth a chefnogaeth am ragor o wybodaeth am sut i:
- roi gwybod am gynnwys niweidiol ar-lein
- cael mynediad at linellau cymorth a gwasanaethau cyfrinachol am ddim
Cymorth i bobl ifanc
-
Cyngor i blant a phobl ifanc: problemau a phryderon ar-lein
Yn egluro rhai risgiau i fod yn ymwybodol ohonyn nhw a lle i fynd am help.
Cymorth i ysgolion
Gall gweld cynnwys amhriodol gael effaith negyddol a hirdymor ar blentyn neu berson ifanc. Er mwyn eu helpu i lywio'u ffordd drwy'r byd digidol yn ddiogel ac yn gyfrifol, mae'n bwysig eu harfogi â'r elfennau canlynol angenrheidiol:
- sgiliau
- ymddygiadau
- ymwybyddiaeth
-
Adnoddau dysgu ac addysgu
Adnoddau i gefnogi gwersi dosbarth am ddiogelwch ar-lein.
Cymorth i deuluoedd
Cefnogi eich plentyn
Os yw'ch plentyn wedi gweld neu rannu cynnwys anghyfreithlon neu sy'n tramgwyddo, efallai y bydd y peth wedi'u llethu, neu byddan nhw’n teimlo embaras neu'n ansicr sut i siarad amdano. Efallai y bydd rhai plant yn poeni am gael eu beirniadu neu am golli mynediad at eu dyfais. Efallai na fydd eraill yn deall pam ei fod yn broblem. Mae'n bwysig cynnig arweiniad cefnogol heb wylltio.
Fel rhiant neu ofalwr, efallai y byddwch yn teimlo cymysgedd o emosiynau am yr hyn sydd wedi digwydd. Wrth siarad â'ch plentyn:
- dewiswch y foment iawn i siarad â'ch plentyn am yr hyn y maen nhw wedi'i weld a sut y gwnaeth iddyn nhw deimlo
- peidiwch â gwylltio na beirniadu. Bydd hyn yn eu hannog i fod yn fwy agored
- sicrhewch eich plentyn eich bod yn eu cefnogi
- ceisiwch ddarganfod ai dod ar draws y cynnwys yn ddamweiniol wnaethon nhw (gan eu sicrhau nad eu bai nhw yw hynny) neu ai mynd i chwilio amdano wnaethon nhw (ceisiwch gael gwybod beth oedd yr ysgogiad iddyn nhw chwilio amdano neu ei greu)
- siaradwch am sut i roi gwybod am y cynnwys a'r hyn y gallan nhw ei wneud i leihau'r posibilrwydd y bydd yn digwydd eto
Os yw'ch plentyn yn gyndyn i siarad, efallai y byddwch am awgrymu sefydliadau fel Childline neu Meic. Mae ganddyn nhw gynghorwyr hyfforddedig y gall eich plentyn siarad â nhw am yr hyn y maen nhw’n ei deimlo.
Canllawiau ynghylch apiau
-
Canllawiau ynghylch apiau i deuluoedd
Canllawiau ynghylch apiau poblogaidd y gall plant a phobl ifanc fod yn eu defnyddio.
Barn yr arbenigwyr
-
Adolygiad o gynnwys niweidiol ar-lein
Yn sôn am yr effaith niweidiol y gall rhai personoliaethau neu ddylanwadwyr ar-lein ei chael, a sut i gefnogi rhywun sydd wedi dod ar draws cynnwys o'r fath.
-
Goblygiadau deallusrwydd artiffisial i blant a phobl ifanc
Yn trafod rhai o'r pryderon ynghylch AI a sut i helpu pobl ifanc i'w ddefnyddio mewn ffordd gyfrifol ac egwyddorol.
-
Pobl ifanc yn dweud wrthym am y byd ar-lein y maen nhw'n byw ynddo
Yn rhannu canfyddiadau blynyddol Cybersurvey sy'n dangos bod nifer sylweddol o bobl ifanc yn gweld cynnwys niweidiol yn gyson heb chwilio amdano.
-
Canllawiau i rieni a gofalwyr ar y cyfryngau cymdeithasol a gemau cyfrifiadurol
Yn amlinellu'r dirwedd bresennol o ran y cyfryngau cymdeithasol ac yn rhoi cyngor ar helpu pobl ifanc i reoli risgiau cyfryngau cymdeithasol a gemau cyfrifiadurol ar-lein.
-
Rheoli'ch ôl troed digidol a'ch enw da
Yn edrych ar sut i reoli eich ôl troed digidol a'ch enw da er budd eich cyflogaeth yn y dyfodol.
-
Riportio Cynnwys Niweidiol
Gwybodaeth am y ganolfan ar gyfer Rhoi Gwybod am Gynnwys Niweidiol, a'i rôl o ran darparu cyngor am bob math o niwed ar-lein.
Help a chefnogaeth
-
Help a chefnogaeth
Sut i roi gwybod am gynnwys ar-lein niweidiol a chael mynediad at linellau cymorth a gwasanaethau am ddim a chyfrinachol.