English

Mewn theori, mae’n bosibl i unrhyw un fod yn ddylanwadwr. Fodd bynnag, gall gymryd llawer o amser, ymdrech, sgil, arian neu hyd yn oed lwc i ennill y niferoedd o ddilynwyr sydd eu hangen i wneud gyrfa lwyddiannus.


Beth bynnag fo’ch diddordebau neu eich hobïau, mae’n siŵr bod yna ddylanwadwr cyfatebol! Mae dylanwadwyr yn postio amrywiaeth eang o gynnwys, yn aml ar draws amrywiaeth o gyfryngau cymdeithasol. Felly, os ydych chi’n chwilio am gêm neu adolygiad cynnyrch, cyngor ar ffitrwydd neu ffasiwn, neu os ydych chi eisiau dysgu am syniadau newydd a diwylliannau amrywiol, mae’n hawdd dod o hyd i rywun sy’n gydnaws â’ch diddordebau.

Mae llawer o ddylanwadwyr hefyd yn defnyddio eu llwyfannau i hyrwyddo newid cymdeithasol drwy godi ymwybyddiaeth o faterion pwysig, neu drwy siarad am eu profiadau eu hunain, er enghraifft, fel bod yn rhan o’r gymuned LGBTQ+ neu fyw gydag anableddau. Mae gan ddylanwadwyr y pŵer i gyrraedd grwpiau mawr o bobl a’u helpu i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi.


Mae incwm dylanwadwr yn aml yn dod o gael ei dalu i hyrwyddo cynnyrch a brandiau ar-lein, felly mae’n bwysig bod yn feirniadol o’r cynnwys rydych chi’n ei weld, a gwerthuso’r cymhelliant neu’r bwriad y tu ôl i bob post.

Gofynnwch i chi eich hun:

  • ar gyfer pwy mae’r post wedi cael ei greu?
  • pwy maen nhw’n ceisio dylanwadu arnyn nhw?
  • a yw hwn yn hyrwyddo neu’n hysbysebu?
  • a yw’r farn yn gytbwys?

Mae cynnwys dylanwadwr wedi’i ddylunio i’ch denu i mewn a’ch cadw’n gaeth, fel eich bod chi eisiau parhau i ddilyn. I gyflawni hyn, gall timau cyfan o bobl ymwneud ag un dylanwadwr, o steilyddion a maethegwyr, i awduron cynnwys ac asiantau cyfryngau cymdeithasol. Efallai y bydd y delweddau terfynol rydych chi’n eu gweld yn cael eu golygu’n helaeth a hidlyddion wedi’u defnyddio, a byddan nhw wedi cael eu dewis yn ofalus i roi argraff benodol. Bydd pob post gan ddylanwadwr wedi cael ei ddewis i ddangos i chi pa rannau o’u bywydau y maen nhw am i chi eu gweld. Mae’n bwysig meddwl am eich lles digidol a dilyn dylanwadwyr sydd â chynnwys sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus ac wedi’ch cynnwys, yn hytrach na bod yn bryderus neu’n hunanymwybodol.

Gall dylanwadwyr hefyd bostio cynnwys a allai fod yn anghywir, yn gamarweiniol, yn hyrwyddo eu barn bersonol neu hyd yn oed fod yn beryglus neu’n eithafol. Mae cynnwys anghyfreithlon a sarhaus yn gallu peri gofid arbennig ac weithiau mae’n torri’r gyfraith.


Yn y DU, mae cyfreithiau llym ynghylch dylanwadwyr a hysbysebu. Rhaid i bob neges hyrwyddo gael ei marcio’n glir. Mewn gwirionedd, fodd bynnag, efallai mai dim ond gyda’r geiriau ‘#ad’, ‘#sponsored’ neu ‘#gifted’ rhywle yn y testun, felly gall fod yn anodd ei adnabod.

Yn y gorffennol, mae rhai dylanwadwyr wedi cael eu hunain mewn trafferth wrth hyrwyddo eu cynnyrch a’u brandiau eu hunain neu eraill ar-lein, ac mae eu postiadau camarweiniol neu heb labeli wedi cael eu dileu a’u cyfeirio at yr Asiantaeth Safonau Hysbysebu. 


Mae hyn wir yn dibynnu ar bwy rydych chi’n rhyngweithio â nhw. Nid yw’r enwogion uchaf eu proffil yn debygol o ymateb i’ch rhyngweithio’n bersonol. Fodd bynnag, mae rhai dylanwadwyr ar-lein yn cymryd amser i ymateb i negeseuon a sylwadau eu hunain.

Mae gan ddylanwadwyr llwyddiannus ddawn i wneud i ddilynwyr deimlo eich bod yn rhan wirioneddol o’u bywyd, ac efallai y byddwch chi hyd yn oed yn teimlo’n agos atyn nhw os ydyn nhw’n rhoi sylw i bobl ar eu sianeli ac yn sôn am gyfrifon dilynwyr newydd. 

Cofiwch bob amser, er mwyn bod yn llwyddiannus, bod ar ddylanwadwyr angen eu dilynwyr, ac os nad oes dim yn cael ei ‘werthu’ yn eu cynnwys, yna’r hyn maen nhw’n elwa ohono yw eich ymgysylltiad ar eu postiadau.


Wrth bostio ar-lein, mae gennych chi 2 opsiwn: cyhoeddus neu breifat. Bydd cyfrif cyhoeddus yn caniatáu i gynifer o bobl â phosibl ymgysylltu â’ch cynnwys. Os mai dyna yw eich nod, mae’n bwysig cyfyngu ar faint o wybodaeth bersonol rydych chi’n ei rhannu, yn enwedig o ran eich lleoliad chi, ac aelodau eich teulu.

Mae modd datgelu gwybodaeth bersonol mewn sawl ffordd, er enghraifft yn yr eitemau cefndir sy’n weladwy mewn llun camera, felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried hyn cyn llwytho i fyny.

Mae cyfrif preifat yn cadw eich postiadau yn llai hygyrch. Fodd bynnag, mae modd eu rhannu ymhellach gan unrhyw un sy’n cael eu gweld. Mae’n fwy diogel dim ond derbyn ceisiadau i fod yn ffrind neu ddilynwr gan bobl rydych chi’n eu hadnabod, ac os ydych chi’n dod ar draws unrhyw agwedd negyddol, defnyddiwch yr offer blocio ac adrodd a gofynnwch am gyngor gan rywun rydych chi’n ymddiried ynddo.

Gall hefyd fod yn ddefnyddiol meddwl am eich enw da ar-lein a’ch ôl troed digidol, er mwyn sicrhau nad yw’r pethau rydych chi’n eu postio yn achosi problemau i chi yn y dyfodol.


Os ydych chi’n teimlo bod y cynnwys rydych chi’n ei weld ar-lein yn effeithio ar eich lles digidol, eich hwyliau neu eich hunan-barch, mae’n bwysig cymryd seibiant, ailasesu’r cynnwys rydych chi’n ymgysylltu ag ef, a siarad â rhywun am sut rydych chi’n teimlo.

Gallwch dewi neu ddad-ddilyn y cyfrifon sy’n effeithio ar eich lles, a dewis dilyn a rhannu cyfrifon sy’n gwneud i chi deimlo’n dda, a’r rheini sy’n ceisio lledaenu negeseuon cadarnhaol ar-lein.


  • Os ydych chi’n poeni am yr hyn mae ffrind yn ei weld ar-lein a sut mae’n ymddangos bod hyn yn effeithio arnyn nhw, rhowch wybod iddyn nhw sut rydych chi’n teimlo. Ceisiwch egluro beth sy’n eich poeni drwy gadw at y ffeithiau ac osgoi beio neu farnu. Efallai na fydd eich ffrind yn sylweddoli goblygiadau’r hyn y mae’n ei ddweud, neu’r effaith y mae’n ei chael ar eraill hefyd.
  • Bydd ffrindiau’n aml yn anghytuno, a gall hyn roi cyfle i weld neu glywed pethau o safbwynt gwahanol.
  • Byddwch yn onest os nad ydych yn deall safbwynt eich ffrind, a gadewch iddyn nhw esbonio.
  • Os yw eich ffrind yn rhannu cynnwys ar-lein neu’n lleisio barn sy’n peri gofid i chi, golygwch eich gosodiadau fel nad ydych chi’n gweld eu postiadau yn ddyddiol a cheisiwch ganolbwyntio ar y pethau rydych chi’n eu gwneud yn gyffredin.
  • Os yw’r cynnwys sy’n cael ei rannu o bosibl yn amhriodol neu’n sarhaus ac y gallai dorri canllawiau cymuned y wefan, neu hyd yn oed y gyfraith, yna mae angen adrodd am hyn.
  • Gall trafodaeth iach mewn cyfeillgarwch fod yn rhywbeth cadarnhaol, ond gall cyfeillgarwch newid wrth i chi fynd yn hŷn, ac mae hynny’n iawn hefyd.

Os ydych chi’n chwilio am help neu wybodaeth, ond eich bod yn poeni am ddechrau sgwrs gydag oedolyn, dyma rai awgrymiadau.

  • Beat (Saesneg yn unig) - gwybodaeth a chefnogaeth ar gyfer yr anhwylderau bwyta
  • Childline (Saesneg yn unig) - llinell gymorth breifat a chyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc yn y DU lle gallwch chi siarad am unrhyw beth – ffoniwch 0800 1111
  • Meic - llinell gymorth gyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc yng Nghymru gyda chynghorwyr i’ch helpu i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch
  • Mind Cymru - llinell gymorth a chyngor cyfrinachol am ddim i bobl sy'n profi problemau iechyd meddwl – ffoniwch 0300 123 3393
  • The Mix (Saesneg yn unig) - llinell gymorth gyfrinachol am ddim i bobl ifanc rhwng 13 a 25 oed – ffoniwch 0808 808 4994 neu sgwrsio ar-lein
  • Riportio Cynnwys Niweidiol - canolfan adrodd genedlaethol sydd wedi’i dylunio i helpu unrhyw un i adrodd am gynnwys niweidiol ar-lein
  • YoungMinds (Saesneg yn unig) - cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc