English

2. Ffugiadau dwfn a chamwybodaeth gan ddefnyddio AI

Mae ffugiad dwfn yn defnyddio AI i newid fideos, delweddau neu sain pobl go iawn i wneud iddyn nhw ymddangos fel eu bod yn gwneud neu'n dweud rhywbeth nad ydyn nhw ddim.

Yn aml, mae'r bobl (neu'r gwrthrych) dan sylw yn ffigurau cyhoeddus fel enwogion neu wleidyddion. Ond weithiau, gallai ffugiad dwfn gynnwys person arferol fel rhywun o'r ysgol. Gall fod yn wirioneddol frawychus gweld ffugiad dwfn ohonoch chi'ch hun ar-lein.

Dim ond os yw bod dynol wedi rhannu lluniau go iawn o'r person gyda'r AI y mae ffugiadau dwfn yn gallu cael eu creu. O ran ffigurau cyhoeddus, mae yna lawer o luniau a fideos ar-lein y gall rhywun eu defnyddio. O ran pobl eraill, efallai y bydd rhywun yn cael delweddau a fideos o'r cyfryngau cymdeithasol i greu ffugiadau dwfn.

Bydd pobl yn creu ffugiadau dwfn am wahanol resymau. Er y gallai rhai rhesymau fod yn ddiniwed, gallai eraill fod yn negyddol iawn. Y naill ffordd neu'r llall, mae'r ffugiad dwfn yn dwyn rheolaeth oddi ar y person dros y ffordd mae’n cyflwyno ei hun.

Am hwyl

Mae rhai pobl yn hoffi chwarae gydag offer AI i weld beth y gallan nhw ei greu. Fodd bynnag, dylen nhw ddefnyddio llun o’u hunain i wneud hyn yn hytrach na llun rhywun arall, yn enwedig os na allan nhw gael caniatâd i ddefnyddio delwedd y person dan sylw.

I fwlio

Efallai y bydd rhai pobl yn creu ffugiadau dwfn i fwlio rhywun. I wneud hyn, efallai y byddan nhw'n creu ffugiad dwfn lle mae'r person dan sylw yn gwneud neu'n dweud rhywbeth sy’n achosi embaras. Yna mae'r bwli yn rhannu'r ffugiad dwfn gydag eraill (efallai o gwmpas yr ysgol neu ar-lein) fel pe bai'n un go iawn i dargedu'r dioddefwr.

I gamarwain

Efallai y bydd rhai pobl yn creu ffugiadau dwfn fel bod y bobl maen nhw'n eu rhannu â nhw yn credu rhywbeth nad yw’n wir. Gelwir hyn yn dwyllwybodaeth.

Er enghraifft, efallai y byddan nhw'n gwneud iddi ymddangos fel bod gwleidydd yn dweud rhywbeth ysgytwol neu atgas i geisio cael pobl i ddrwgdybio'r gwleidydd hwnnw. Os bydd llawer o bobl yn dechrau rhannu hyn ar-lein fel rhywbeth sy'n wir (camwybodaeth), gall gael effaith enfawr ar gredoau pobl a gallai wneud iddyn nhw ystyried pleidleisio dros rywun arall.

I achosi dicter neu ofn

Efallai y bydd rhai pobl yn meddwl ei fod yn ddoniol i godi ofn ar bobl neu eu gwneud yn ddig. Felly, maen nhw'n creu ffugiad dwfn sy'n dangos rhywun yn gwneud neu'n dweud rhywbeth o'i le. Troliau yw’r enw am bobl sy'n gwneud eraill yn ddig neu'n codi ofn arnyn nhw ar-lein am hwyl.

Gorfodi drwy fygwth

Mae hyn, sef extortion yn Saesneg, yn golygu bygwth rhywun oni bai bod rhywbeth yn cael ei wneud. Fel arfer, mae'r 'rhywbeth' hwnnw'n golygu talu swm penodol o arian.

Os yw rhywun yn ceisio bygwth rhywun arall, efallai y byddan nhw'n creu ffugiad dwfn o'r person hwnnw mewn sefyllfa annifyr neu waradwyddus a bygwth ei ryddhau oni bai ei fod yn cael yr hyn y mae ei eisiau.

Math cyffredin o ffugiad dwfn a ddefnyddir i fygwth rhywun yw ffugiad noethni dwfn. Dyma lle mae’r person yn ymddangos yn noeth neu'n rhannol noeth pan nad oedden nhw’n noeth o gwbl mewn gwirionedd.

I dwyllo rhywun

Mae clonio llais yn fath o ffugiad dwfn sy'n defnyddio llais person. Mae’n cael ei ddefnyddio mewn rhai sgamiau i dwyllo pobl i dalu arian iddyn nhw.

Er enghraifft, efallai y bydd mam yn cael galwad gan ei phlentyn sydd mewn trafferth ac angen arian ar unwaith. Mae'r fam yn mynd i banig ac yn anfon yr arian i helpu ei phlentyn. Ond yr hyn nad yw'n gwybod yw mai sgamiwr yw ei 'phlentyn' mewn gwirionedd sy’n defnyddio ffugiad sain dwfn i'w thwyllo.

Mae sgamwyr fel hyn yn manteisio ar y panig y gallai rhywun ei deimlo o glywed bod aelod o'r teulu neu ffrind mewn trafferth.

Gydag AI yn mynd yn well am greu ffugiadau dwfn realistig, mae'n anodd gweld y gwahaniaeth rhwng fideos a delweddau go iawn a rhai ffug.

Mae rhai arwyddion cyffredin i gadw llygad amdanyn nhw i weld a yw rhywbeth yn ffugiad dwfn, gan gynnwys:

  • nid yw'r llais yn swnio'n iawn, er enghraifft mae'n swnio'n robotig neu ddim yn hollol debyg i sut mae'r person yn swnio fel arfer
  • mae'n ymddangos bod rhannau o'r fideo yn symud mewn ffordd ryfedd, er enghraifft nid yw ceg y person bob amser yn cyd-fynd â'r hyn y mae ei lais yn ei ddweud
  • mae dwylo, wyneb neu rannau eraill o'r corff yn edrych yn annaturiol

Er y gall y pethau hyn eich helpu i sylwi ar rai ffugiadau dwfn, ni fydd gan bob ffugiad dwfn yr arwyddion hyn, felly mae'n bwysicach gwirio ffeithiau a meddwl yn feirniadol.

Hyd yn oed os yw fideo neu ddelwedd yn edrych yn real, ddylech chi ddim ei rannu heb ei wirio yn gyntaf. Os gwnewch hynny, mae’n bosib eich bod yn lledaenu camwybodaeth a allai achosi ofn neu ddicter. Hefyd, gall y ffugiadau dwfn hynny sy'n lledaenu celwyddau niweidiol ddifetha enw da’r person dan sylw ynghyd ag ymddiriedaeth pobl ynddyn nhw.

Chwiliwch am y stori ar wefan sy’n gwirio ffeithiau

Mae gwefannau fel FullFact.org neu Snopes.com yn edrych dros straeon poblogaidd ar y rhyngrwyd ac yn dweud wrthych a ydyn nhw'n wir neu'n ffug.

Darganfyddwch beth mae pobl eraill yn ei feddwl

Allwch chi ddod o hyd i'r stori yn rhywle arall? Os ydych chi'n gweld fideo ar wefan lle gall pobl wneud sylwadau, edrychwch ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud. A yw rhai pobl yn dweud ei fod yn ffug? Os byddwch yn gwneud hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ffynonellau eraill hefyd.

Rhowch gynnig ar wneud chwiliad delwedd ar Google

  1. Ewch i Google.co.uk.
  2. Yn y bar chwilio, edrychwch am yr eicon wrth ymyl y meicroffon sy'n edrych fel camera. Cliciwch ar eicon y camera.
  3. Os yw’r ddelwedd wedi'i chadw ar eich cyfrifiadur neu ddyfais, uwchlwythwch hi yma. Os oes gennych URL y ddelwedd uniongyrchol (dylai orffen .JPG, .PNG neu rywbeth tebyg), gallwch ei gludo yn lle hynny. Unwaith y byddwch chi’n ychwanegu'r ddelwedd, fe welwch ganlyniadau delweddau tebyg.
  4. Uwchben eich delwedd, cliciwch ar 'Find image source'. Yna fe welwch wahanol wefannau sydd â'r un ddelwedd.
  5. Nawr, mae’n bryd i feddwl yn feirniadol. A yw'r gwefannau hyn yn ddibynadwy? A yw'r gwefannau'n cefnogi'r stori a welsoch neu’n dweud ei bod hi’n ffug?

Os ydych chi wedi ceisio gwirio'r fideos neu'r delweddau rydych chi'n eu gweld ond yn dal i deimlo’n ddryslyd, mae hynny'n iawn. Siaradwch ag oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw fel rhiant, gofalwr, athro, athrawes neu nain neu daid i weld a allwch chi ddatrys y peth gyda'ch gilydd.