English

5. AI a sgamiau

Er bod gan AI lawer o fanteision anhygoel, rydym yn gwybod bod risgiau hefyd. Un o'r risgiau hyn yw sgamiau.

Oherwydd y bydd AI yn gwneud yr hyn y mae bodau dynol yn ei raglennu i'w wneud, mae rhai troseddwyr yn defnyddio AI i dwyllo pobl i gael arian. Maen nhw'n gwneud hyn mewn gwahanol ffyrdd. Edrychwch ar y sgamiau hyn isod a chael cyngor ar sut i gadw eich hun yn ddiogel rhagddyn nhw.

Gall troseddwyr raglennu AI i anfon negeseuon at filoedd o bobl i gyd ar unwaith. Gall y negeseuon hyn gael eu hanfon at bobl fel e-byst, negeseuon testun neu negeseuon uniongyrchol mewn apiau neu blatfformau eraill.

Fel arfer, mae'n ymddangos bod y negeseuon hyn gan rywun rydych chi'n ei adnabod ar yr olwg gyntaf, fel ffrind, rhiant neu ofalwr. Neu efallai ei fod yn ymddangos fel petai’n dod gan un o sefydliadau’r llywodraeth neu rywle tebyg.

Gallai'r neges ofyn i chi agor atodiad, clicio ar ddolen neu ymateb, ond weithiau mae'r cais yn rhyfedd. Ac oni bai bod y person neu'r sefydliad sy'n ei anfon wedi'i hacio, bydd y neges yn dod o gyfeiriad e-bost, rhif neu broffil nad ydych chi'n ei adnabod.

Sut i wybod os yw'n sgam

Gwiriwch y ffynhonnell

Os nad yw'r e-bost, rhif neu broffil yn cyfateb i'r hyn rydych chi'n ei wybod am y person neu'r sefydliad, peidiwch ag agor unrhyw atodiadau, clicio ar unrhyw ddolenni nac ymateb.

Ystyriwch yr wybodaeth

Ydy’r neges yn rhyfedd mewn unrhyw ffordd? Gallai hyn gynnwys gwallau sillafu gan sefydliadau proffesiynol neu eiriau rhyfedd na fyddai eich ffrind byth yn eu defnyddio, er enghraifft. Efallai y bydd y neges yn gofyn am bethau rhyfedd fel cardiau rhodd neu’n cynnig gwobr o ryw fath. Os nad yw rhywbeth yn teimlo'n iawn, cymerwch amser i ymchwilio yn hytrach na gweithredu ar unwaith.

Cysylltwch â'r person neu'r sefydliad go iawn

Os nad ydych yn siŵr a yw'r ffynhonnell yn un go iawn, cysylltwch â'ch ffrind neu aelod o'ch teulu trwy ei e-bost, rhif neu broffil arferol. Gyda sefydliadau swyddogol, gallwch ddefnyddio peiriant chwilio i ddod o hyd i'w gwefan a'u gwybodaeth gyswllt. Gwiriwch a yw'r neges amheus wedi’i hanfon ganddyn nhw. Os nad yw wedi dod ganddyn nhw, anfonwch negeseuon e-bost ymlaen at report@phishing.gov.uk a negeseuon testun at 7726. Yna, dywedwch am y neges wrth y platfform a ddefnyddiwyd.

Mae'n bwysig cofio na fydd pob sgam negeseuon yn edrych yn ffug ar unwaith. Bydd rhai yn argyhoeddiadol iawn, felly gwiriwch yn ofalus bob amser cyn ymateb, a pheidiwch byth ag anfon gwybodaeth bersonol fel cyfrineiriau neu wybodaeth ariannol mewn negeseuon.

Mae ffugiadau sain dwfn yn bosibl drwy ddefnyddio AI. Dyma lle mae rhywun wedi cymryd sŵn llais person o rywle ar-lein fel fideos cyfryngau cymdeithasol ac wedi ei ddefnyddio i ddysgu offeryn AI sut mae'r person yn swnio. Yna gall yr AI gynhyrchu geiriau gan ddefnyddio llais y person hwnnw.

Unwaith y bydd troseddwyr wedi clonio llais person, gallan nhw ei ddefnyddio i ffonio eu hanwyliaid a'u twyllo i gael arian.

Er enghraifft, dychmygwch fod rhywun wedi clonio'ch llais. Yna maen nhw'n ffonio eich ewythr ac yn esgus bod yn chi. Mae'r llais yn dweud wrth eich ewythr eich bod mewn trafferth: rydych ar daith ysgol ac wedi gwahanu oddi wrth y grŵp ar y ffordd i'r maes awyr. Allwch chi ddim cysylltu â’ch athro na’ch rhieni ac rydych chi’n meddwl y gallai'r awyren fod wedi gadael. A fyddai’n bosib iddo anfon arian atoch am docyn newydd i fynd adref? Mae eich ewythr yn meddwl eich bod yn swnio'n ofnus ac mewn panig. Mae eisiau helpu ond mae ef wedi mynd i banig hefyd, felly efallai nad yw'n meddwl yn glir. Mae'r llais yn rhoi cyfarwyddiadau iddo ar gyfer ble i anfon yr arian ac mae'n gwneud hynny. Dim ond yn ddiweddarach y bydd yn dod i wybod eich bod chi'n ddiogel gartref, ond mae eisoes wedi anfon swm mawr o arian at y sgamiwr.

Mae troseddwyr sy'n defnyddio technoleg clonio llais i dwyllo pobl yn dibynnu ar y panig a'r emosiynau y gallai rhywun eu teimlo os yw anwyliaid mewn trafferth.

Sut i atal sgamiau clonio llais

Yn union fel sgamiau eraill, mae angen i chi bob amser feddwl yn feirniadol am y negeseuon rydych chi'n eu derbyn. Fodd bynnag, o ran sgamiau clonio llais, mae yna un neu ddau o bethau eraill i'w hystyried i gadw’n ddiogel.

Cadwch eich cynnwys yn breifat

Os ydych chi'n postio fideos neu'n rhannu nodiadau llais, gwnewch yn siŵr bod eich gosodiadau preifatrwydd yn gryf fel mai dim ond teulu a ffrindiau rydych chi'n eu hadnabod o leoedd all-lein, fel yr ysgol, sy'n gallu gwylio neu wrando. Er mwyn clonio'ch llais, mae angen ffynhonnell ar offeryn AI; os nad yw eich llais ar-lein, nid oes gan sgamwyr unrhyw beth i ddysgu ganddo.

Crëwch air cod

Mae'n syniad da i greu geiriau cod gyda'ch ffrindiau ac aelodau o'ch teulu. Gallwch ddefnyddio hwn ar gyfer unrhyw fath o sgam, ond mae'n arbennig o ddefnyddiol os oes angen i chi wirio ai’r person sy'n eich ffonio chi yw’r person hwnnw go iawn. Felly, dewiswch air (sy'n unigryw i bob person) y gallwch chi ei gofio'n hawdd – efallai hoff gymeriad gan y ddau ohonoch neu jôc fewnol. Os yw ffrind neu aelod o'r teulu yn eich ffonio mewn panig (neu eich bod 'chi' yn eu ffonio nhw), gofynnwch iddyn nhw beth yw’r gair cod. Mae'n debyg na fydd sgamiwr yn gwybod am beth rydych chi'n sôn.

Mae ‘sextortion’, neu blacmel rhywiol, yn gyfuniad o'r geiriau Saesneg 'sexual' ac 'extortion'. Dyma pan mae rhywun yn bygwth rhannu delweddau rhywiol neu noeth o berson gyda'u ffrindiau, teulu, ysgol neu gymuned oni bai bod y dioddefwr yn talu arian neu'n anfon delweddau noeth eraill.

Sut mae'n gweithio

Gallai troseddwyr ddefnyddio AI ar gyfer blacmel rhywiol trwy greu ffugiadau dwfn o’r dioddefwr. Gallan nhw wneud hyn trwy ddod o hyd i ddelweddau go iawn o'r dioddefwr ar draws cyfryngau cymdeithasol neu blatfformau tebyg. Nid oes angen i'r delweddau fod yn ddelweddau noeth. Yna maen nhw'n ychwanegu wyneb y dioddefwr at gorff person noeth – efallai’n gorff go iawn neu efallai’n gorff wedi'i gynhyrchu gan AI.

Os oes gan droseddwr lawer o sgil, yn defnyddio offeryn AI o ansawdd uchel neu fod ganddo lawer o ddelweddau ffynhonnell, gall y ffugiadau noethni dwfn hyn ymddangos yn realistig iawn.

Yna gallan nhw rannu'r delweddau gyda'r dioddefwr fel 'prawf' a mynnu arian neu ddelweddau noeth go iawn i'w cadw'n gyfrinachol. Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn eu harddegau yn y DU yn dweud y byddai'n waeth cael ffugiad noethni dwfn ohonyn nhw wedi eu creu a'u rhannu na delwedd noeth go iawn. Felly, efallai y bydd llawer o bobl yn teimlo pwysau i ildio i ofynion y troseddwyr er mwyn stopio pobl eraill rhag gweld y delweddau hynny.

Atal a mynd i'r afael â blacmel rhywiol

Cofiwch, p'un a yw'r ddelwedd ohonoch yn real neu'n ffugiad dwfn, yr unig berson sydd ar fai yw'r troseddwr sy'n ceisio eich gorfodi drwy dwyll. Mae'n anghyfreithlon i:

  • greu ffugiadau noethni dwfn o blant a phobl ifanc
  • rhannu unrhyw fath o ddelwedd noeth o blant a phobl ifanc gydag unrhyw un
  • ceisio gorfodi rhywbeth gan rywun dan unrhyw fath o fygythiad yn y Deyrnas Unedig

Os bydd rhywun yn bygwth rhannu delweddau noeth ohonoch oni bai eich bod yn bodloni eu gofynion, rhowch wybod i'r heddlu (Saesneg yn unig) a dywedwch wrth oedolyn y gallwch ymddiried ynddyn nhw, fel rhiant, gofalwr, athro neu athrawes.

Pethau y gallwch chi eu gwneud i'w gwneud hi'n anoddach i droseddwyr eich targedu

  • Gwnewch unrhyw broffil ar-lein yn breifat fel mai dim ond ffrindiau agos a theulu sy'n gallu gweld eich fideos a'ch lluniau.
  • Yng ngosodiadau’r ap, adolygwch pwy sy’n gallu cysylltu â chi. Gallwch osod eich cyfrifon fel mai dim ond ffrindiau all anfon neges atoch yn breifat a’i fod yn ofynnol i unrhyw gysylltiadau newydd fynd trwy broses gymeradwyo.
  • Gadewch i ffrindiau agos a theulu yn unig gysylltu â chi yn breifat. Dylai unrhyw gyfathrebu â dieithriaid fod mewn mannau cyhoeddus yn hytrach na negeseuon uniongyrchol i leihau’r risg i chi.
  • Os ydych chi'n trafod pethau’n gyhoeddus, rhannwch wybodaeth gyhoeddus yn unig. Peidiwch â defnyddio enwau neu leoliadau go iawn a pheidiwch byth â gwahodd rhywun i'ch ychwanegu chi ar blatfform gwahanol.
  • Byddwch yn onest am eich oedran. Os ydych chi'n rhy ifanc i ddefnyddio platfform, peidiwch â dweud celwydd am eich oedran. Mae'r terfynau hynny yno i'ch diogelu. Mae platfformau sydd â chyfyngiadau oedran yn rhoi preifatrwydd a diogelwch arbennig i bobl o wahanol oedrannau. Os ydych chi'n dweud celwydd am eich oedran, ni fyddwch yn cael y diogelwch sy'n addas i chi.

Beth i'w wneud os bydd rhywun yn ceisio eich blacmelio’n rhywiol

  1. Stopiwch ymateb iddyn nhw.
  2. Dywedwch wrth oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo a dangoswch y negeseuon iddyn nhw.
  3. Gyda'ch gilydd, tynnwch sgrin-lun ac arbedwch y negeseuon fel tystiolaeth.
  4. Blociwch y defnyddiwr a hysbysu’r platfform amdanyn nhw.
  5. Rhowch wybod i’r heddlu amdanyn nhw ar wefan y CEOP (Canolfan Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein) (Saesneg yn unig) neu, os oes perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.
  6. Defnyddiwch yr offeryn Report Remove i gael unrhyw ddelweddau rhywiol (boed yn go iawn neu’n ffugiad dwfn) ohonoch wedi'u tynnu oddi ar y rhyngrwyd.
  7. Siaradwch am sut rydych chi'n teimlo. Efallai y bydd rhai pobl yn teimlo'n bryderus iawn, yn teimlo embaras neu gywilydd er nad nhw sydd ar fai. Mae'n niweidiol i'ch iechyd meddwl i gadw'ch teimladau i chi’ch hun, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn:
  • siarad ag oedolyn y gallwch ymddiried ynddyn nhw fel rhiant, gofalwr, athro neu athrawes
  • siarad â chwnselydd llinell gymorth fel y rhai ar Meic neu Childline. Gallwch eu ffonio ar eich ffôn neu anfon negeseuon atyn nhw os yw hynny'n fwy cyfforddus
  • siarad â phobl eraill o’r un oedran â chi ar fyrddau negeseuon diogel fel y rhai ar Childline neu Ditch the Label
  • siarad â therapydd trwyddedig drwy'r Gwasanaeth Iechyd y mae eich rhieni neu ofalwyr wedi eich helpu i ddod o hyd iddyn nhw

Bydd troseddwyr yn ceisio gwneud i chi deimlo'n wan a theimlo embaras fel nad ydych chi'n dweud wrth rywun arall amdanyn nhw nac yn estyn allan am gymorth. Ond mae'r hyn maen nhw'n ei wneud yn anghyfreithlon a ddim yn iawn. Os ydyn nhw'n ei wneud i chi, efallai eu bod nhw wedi gwneud yr un peth i rywun arall, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cymryd camau i amddiffyn eich hun ac eraill.

  • Blaenorol

    Sgwrsfotiaid yn y byd ar-lein

  • Nesaf

    Bod yn foesegol gydag AI