English

Mae YouTube yn cynnwys fideos a ffrydiau byw sy'n ymwneud â bron pob pwnc. Gall defnyddwyr:

  • wylio, creu a rhannu fideos
  • gadael hoffiadau a sylwadau ar fideos
  • sgwrsio yn ystod ffrydiau byw
  • tanysgrifio i sianeli

Er bod fersiwn bremiwm o YouTube ar gael am dâl, gellir gwylio'r holl fideos ar y platfform am ddim gyda hysbysebion.

Mae telerau gwasanaeth YouTube yn dweud y gallwch greu cyfrif os ydych dros 13 oed. Fodd bynnag, gellir gweld y rhan fwyaf o’r cynnwys ar y platfform heb gyfrif a gall pobl ifanc o bob oed greu cyfrif os oes ganddyn nhw ganiatâd eu rhiant neu ofalwr. 

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw fodd o wirio oedran i gadarnhau bod defnyddiwr yn 13 oed neu'n hŷn. Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl i blentyn o dan 13 oed greu cyfrif gan ddefnyddio pen-blwydd ffug.

Badges

Gall defnyddwyr ennill bathodynnau trwy:

  • ymuno ag aelodaeth sianel
  • ennill tanysgrifwyr
  • bod yn weithgar ar sianel

Rhywbeth cosmetig pur yw bathodynnau. Nid ydyn nhw’n newid sut y gellir defnyddio YouTube. 

Channel memberships

Gall defnyddwyr brynu aelodaeth fisol i sianel crëwr. Mae hyn yn gwneud cynnwys unigryw ar gael iddynt fel fideos, ffrydiau byw, postiadau cymunedol a sesiynau holi ac ateb. 

Community posts

Postiadau sy'n caniatáu i grewyr ryngweithio â gwylwyr mewn gwahanol ffyrdd. Gall hyn gynnwys polau, cwisiau, delweddau a fideos. Nid yw cyfrifon sydd dan oruchwyliaeth neu wedi'u gosod i statws 'Made for Kids' yn gallu cael at bolau cymunedol. 

Go Live Together

Estyniad i nodwedd Live, mae'r nodwedd hon yn caniatáu i 2 grëwr ffrydio'n fyw gyda'i gilydd heb orfod bod yn yr un lleoliad.

Modd ‘Incognito’

Trwy dapio eu llun proffil a dewis 'Turn on incognito' gall defnyddwyr chwilio a gweld beth bynnag y maen nhw’n dymuno heb iddo ymddangos yn eu hanes chwilio neu wylio. Mae popeth a wneir yn y modd hwn yn breifat, hyd yn oed pan fyddwch wedi mewngofnodi. Ni fydd y fideos y mae defnyddwyr yn eu gwylio yn effeithio ar eu hargymhellion yn y dyfodol ond gellid eu defnyddio hefyd i wylio fideos yn gyfrinachol. Mae'r nodwedd hon ar gael o fewn yr ap symudol yn unig, nid ar borwr gwe.

Supervised accounts

Cyfrifon yw’r rhain sydd wedi’u creu ar gyfer pobl ifanc. Maen nhw wedi'u cysylltu â Google Family Link, gan eich galluogi i reoli'r hyn y mae'ch plentyn yn ei wylio a'i wneud ar YouTube. 

YouTube Live

Gall defnyddwyr ddarlledu neu wylio ffrydiau byw gan ddefnyddio nodwedd 'YouTube Live'. Mae'n rhoi'r gallu i grewyr ryngweithio â'u cefnogwyr mewn amser real. Mae gan y ffrydiau sgwrs fyw, sy'n gadael i wylwyr adael sylwadau a rhyngweithio â'r crëwr a gwylwyr eraill. 

Nid yw ffrydiau byw yn cael eu golygu, ond maen nhw’n cael eu monitro yn yr un modd â'r holl gynnwys arall ar y platfform. 

Rhaid i ddefnyddwyr fod ag o leiaf 50 o danysgrifwyr i ffrydio’n fyw o ddyfais symudol, ond nid oes terfyn tanysgrifwyr ar gyfer ffrydio’n fyw o gyfrifiadur personol. I ffrydio’n fyw, rhaid i ddefnyddwyr hefyd fod yn 16 oed neu'n hŷn.

YouTube Premium

Tanysgrifiad am dâl sy'n cynnig ystod o fuddion i ddefnyddwyr fel:

  • fideos a fideos YouTube heb hysbysebion 
  • y gallu i lawrlwytho fideos a cherddoriaeth i ddyfais 

YouTube Shopping

Mae hyn yn caniatáu i grewyr fideos gysylltu siop e-fasnach â'u sianel YouTube fel y gall gwylwyr ddod o hyd i gynhyrchion a'u prynu.

YouTube Shorts

Fideos ffurf fer sy’n debyg i'r rhai ar TikTok. Gall fideos fod hyd at 3 munud o hyd, ond mae llawer o dan funud.

Channel

Man lle gall defnyddwyr rannu'r cynnwys maen nhw wedi'i greu.

Comments 

Gall defnyddwyr wneud sylwadau ar fideos a rhyngweithio â defnyddwyr eraill yn yr adran sylwadau.

Likes a dislikes 

Gall defnyddwyr adael ‘like’ neu ‘dislike’ ar fideos i ddangos eu barn ar y cynnwys. Mae nifer yr ‘hoffiadau’ (likes) yn cael ei ddangos i'r cyhoedd, tra bod nifer yr arwyddion ‘ddim yn hoffi’ yn cael eu cuddio. Bydd hoffi fideo yn achosi i'r algorithm awgrymu rhagor o gynnwys tebyg.

Share 

Gellir rhannu fideos i'r cyfryngau cymdeithasol neu drwy ddolen y gellir ei gludo yn unrhyw le. 

Subscribe

Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr ddilyn sianel crëwr cynnwys a chael hysbysiadau pryd bynnag y bydd yn postio diweddariad. 

Tags

Geiriau allweddol y mae crewyr fideo yn eu hychwanegu at fideo i helpu gwylwyr i ddod o hyd i'w cynnwys.

Thumbnail

Delwedd sy'n rhoi syniad i ddefnyddwyr o gynnwys fideo, yn debyg i boster ar gyfer y fideo. 

YouTuber

Defnyddiwr sy'n creu ac yn uwchlwytho fideos ar YouTube.

Cyfleoedd addysgol

Mae gan YouTube fideos ar ystod eang o bynciau sy’n caniatáu i bobl ifanc ddysgu mwy am bron unrhyw bwnc. Mae llawer o'r rhain yn addysgiadol, gyda chrewyr yn rhannu eu gwybodaeth ar bynciau arbenigol. 

Cymunedau 

Gall defnyddwyr ddarganfod fideos sy'n gysylltiedig â'u hobïau neu ddiddordebau. Yn yr adran sylwadau, maen nhw’n gallu cysylltu a rhyngweithio ag eraill sy'n rhannu'r un brwdfrydedd. Gall tanysgrifio i sianeli hefyd adael i ddefnyddwyr weld postiadau cymunedol, gan roi cyfle iddyn nhw siarad â chrewyr a chymryd rhan mewn sgyrsiau a pholau gyda chefnogwyr eraill. 

Creadigrwydd

Mae YouTube yn cynnig allfa greadigol, gan adael i grewyr uwchlwytho bron unrhyw fath o fideo y maen nhw am ei rannu, gyda’r posibilrwydd o gyrraedd gwylwyr ledled y byd. Gall pobl ifanc sy'n defnyddio YouTube feithrin eu creadigrwydd trwy uwchlwytho fideos, neu drwy ddod o hyd i ysbrydoliaeth mewn cynnwys a wnaed gan eraill.

Yn ogystal â phlatfform ffrydio fideos cyffredinol YouTube, mae YouTube hefyd yn darparu platfform wedi'i gynllunio ar gyfer plant, YouTube Kids, a phlatfform sy'n arbenigo mewn ffrydio sain, YouTube Music.

YouTube Kids

Mae YouTube Kids yn fersiwn o YouTube sy'n cynnig dim ond cynnwys sy'n addas i blant dan 13 oed. Mae ar gael fel ap Android neu iOS a bydd angen i chi ei sefydlu gan ddefnyddio'ch cyfrif Google. 

Gallwch addasu profiad YouTube Kids eich plentyn ymhellach trwy gyfyngu ar gynnwys i gyd-fynd â grŵp oedran eich plentyn. Mae grwpiau oedran yn dechrau yn 4 oed. 

Mae amrywiaeth o reolyddion rhieni ar YouTube Kids, gan gynnwys terfynau amser sgrin a gallu dewis pa fideos y gall eich plentyn eu gwylio. 

Nid oes unrhyw nodweddion cymdeithasol fel adrannau sylwadau neu YouTube Live.

YouTube Music

Mae YouTube Music yn blatfform ffrydio sain sy'n caniatáu i ddefnyddwyr wrando ar gerddoriaeth a phodlediadau. Gellir lawrlwytho'r app a'i ddefnyddio am ddim, ond mae fersiwn bremiwm hefyd ar gael am dâl sy'n caniatáu i ddefnyddwyr lawrlwytho cerddoriaeth a gwrando heb hysbysebion. 

Nid yw YouTube Music yn addas i blant dan 13 oed, gan y gallai llawer ohono gynnwys iaith a themâu aeddfed. Ar gyfer pobl ifanc 13 oed a hŷn, gallwch reoli eu gwrando trwy gyfrif dan oruchwyliaeth (‘supervised account’), sy'n eich galluogi i osod cyfyngiadau cynnwys a gweld gweithgaredd eich plentyn. Gellir actifadu modd cyfyngedig hefyd i hidlo cynnwys aeddfed allan. Fodd bynnag, mae'r gosodiad hwn yn cael ei reoli gan y defnyddiwr, ac felly gallai'ch plentyn ei ddiffodd ar unrhyw adeg.

Cynnwys amhriodol

Caiff cannoedd o oriau o fideos eu lanlwytho i YouTube bob munud, ac mae'n anochel y bydd rhywfaint o'r cynnwys hwn yn cynnwys iaith anweddus, themâu rhywiol neu gamwybodaeth. Gellir dod o hyd i'r cynnwys hwn hefyd mewn adrannau sylwadau.

Gan ddibynnu ar y math o gynnwys, bydd YouTube naill ai'n tynnu'r fideo o'r platfform neu'n ei roi y tu ôl i mecanwaith gwirio oedran fel na all defnyddwyr o dan 18 oed ei gyrchu. Fodd bynnag, gall rhywfaint o gynnwys amhriodol lithro trwy'r hidlyddion a chael ei weld gan bobl ifanc.

Mae nifer o gamau y gallwch chi a'ch plentyn eu cymryd i leihau'r risg hon.

Sefydlu cyfrif dan oruchwyliaeth (‘supervised account’)

Mae sefydlu cyfrif dan oruchwyliaeth i’ch plentyn yn caniatáu ichi osod cyfyngiadau cynnwys ar ei gyfrif, sy'n golygu mai dim ond fideos sy'n addas i'w oedran y gall wylio. Gallwch hefyd analluogi'r adran sylwadau, modd incognito a nodweddion eraill.

Defnyddio YouTube Kids

Os nad yw'ch plentyn yn barod eto ar gyfer platfform llawn YouTube, gallwch sefydlu cyfrif YouTube Kids iddo. 

Riportio cynnwys a chrewyr

Os yw'ch plentyn yn gweld cynnwys sy'n torri rheolau YouTube neu sydd heb ei amlygu’n gywir yn gynnwys i oedolion, dylai ei gofnodi’n syth fel na fydd neb arall yn gweld y cynnwys hwn yn ddamweiniol.

Meithrin meddwl beirniadol

Grymuswch eich plentyn i fagu ei sgiliau meddwl beirniadol, fel y gall adnabod camwybodaeth mewn fideos. Dywedwch wrtho am wirio ffeithiau unrhyw beth mae'n ei weld gan ddefnyddio ffynonellau eraill. Rhaid i grewyr labelu cynnwys sy'n defnyddio AI, ond dylai plant ddysgu sut i’w adnabod o hyd. 

Rheoli tanysgrifiadau

Trwy danysgrifio i sianeli crewyr dibynadwy yn unig, gall eich plentyn leihau'r risg y bydd yr algorithm yn awgrymu fideo amhriodol iddo. Adolygwch y sianeli mae'n eu dilyn a thrafodwch gyda’ch plentyn y math o gynnwys sy'n briodol iddo.

Cyswllt gan ddieithriaid

Nid oes gan YouTube nodwedd negeseua uniongyrchol. Fodd bynnag, mae dieithriaid yn dal i allu cysylltu â'ch plentyn trwy ymateb iddo yn yr adran sylwadau neu negeseuon mewn sgwrs YouTube Live. Trwy ddefnyddio'r sianeli cyfathrebu hyn, gallai defnyddiwr berswadio'ch plentyn i gysylltu ag ef ar blatfform arall sydd â nodwedd negeseuon preifat. 

Mae yna gamau y gallwch eu cymryd i leihau'r siawns y bydd hyn yn digwydd. 

Cyfyngu ar sylwadau

Trwy droi 'modd cyfyngedig' ymlaen ar gyfrif eich plentyn, gallwch analluogi'r adran sylwadau ar gyfer eich plentyn. Mae hyn yn atal unrhyw ddieithriaid rhag cysylltu ag ef.

Annog eich plentyn i rannu ei brofiadau gyda chi

Rhowch wybod i'ch plentyn y dylai ddweud wrthych os oes unrhyw un yn gofyn cwestiynau personol iddo neu’n anfon neges ato ar blatfform gwahanol.

Riportio a blocio

Dysgwch eich plentyn i riportio a blocio unrhyw ddefnyddwyr sy'n gwneud iddo deimlo'n anghyfforddus.

Hysbysu awdurdodau

Os ydych chi'n credu bod rhywun yn anfon neges at eich plentyn mewn ymgais i fagu perthynas amhriodol, rhowch wybod amdano i'r heddlu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd sgrinluniau fel tystiolaeth i gefnogi'chadroddiad.

Bwlio a diffyg hunan-barch

Gall platfformau ar-lein fel YouTube wneud i bobl ymddwyn â llai o empathi, gan nad ydyn nhw wyneb yn wyneb â'r bobl maen nhw'n rhyngweithio â nhw. Gall hefyd eu gwneud yn fwy di-ofn o ran yr hyn maen nhw'n ei ddweud gan eu bod yn gallu bod yn ddienw ac yn debygol o osgoi canlyniadau. Gall hyn arwain at ymddygiad bwlio a gall gael effaith negyddol ar eich plentyn a'i hunan-barch waeth a yw'n ddioddefwr, yn gyflawnwr neu’n dyst.

Mae yna gamau y gallwch eu cymryd i leihau'r siawns y bydd eich plentyn yn destun ymddygiad negyddol ar YouTube ac i'w helpu i osgoi effeithiau negyddol defnyddio'r platfform.

Annog riportio a blocio

Rhowch wybod i'ch plentyn na ddylai ymateb i sylwadau negyddol. Yn hytrach, dylai riportio a blocio cyfrifon sy'n cymryd rhan yn yr ymddygiad hwn.

Cyfyngu ar sylwadau

Os yw'ch plentyn yn creu ei gynnwys ei hun, efallai y bydd yn cael sylwadau negyddol ar ei fideos, a allai gael effaith negyddol ar ei hunan-barch. Anogwch eich plentyn i ddiffodd yr adran sylwadau ar ei fideos er mwyn osgoi hyn.

Bydd actifadu 'modd cyfyngedig' ar gyfrif eich plentyn yn cuddio pob adran sylwadau, gan ei atal rhag gweld neu gymryd rhan mewn ymddygiad negyddol.

Siarad am ei fywyd ar-lein

Bydd cael sgyrsiau rheolaidd gyda'ch plentyn am ei fywyd ar-lein yn eich helpu i ddeall sut brofiad mae’n ei gael ar y platfform ac yn ei gwneud hi'n haws i chi ei gefnogi os yw'n gweld unrhyw beth sy'n ei gynhyrfu.

Gorwario

Mae gan rai crewyr YouTube Shops a byddan nhw’n hyrwyddo ac yn siarad am y cynhyrchion sydd ganddyn nhw ar gael yn ystod eu fideos. Caiff eraill eu talu i hysbysebu brandiau a byddan nhw’n tynnu sylw at gynhyrchion neu’n cynnwys codau disgownt yn eu fideos. Efallai y bydd pobl ifanc yn teimlo pwysau i brynu'r cynhyrchion hyn, a gall hyn arwain at wario mwy nag maen nhwn gallu ei fforddio. 

Mae yna gamau y gallwch eu cymryd i atal eich plentyn rhag gorwario.

Siarad am wariant

Siaradwch â'ch plentyn am werth arian trwy gymharu pris nwyddau YouTuber â phethau eraill y gallai eu prynu. Yna gallech siarad am y gost hon mewn perthynas â'i arian poced neu lwfans.

Cytunwch ynghylch y ffordd y mae’ch plentyn yn gwario arian. Er enghraifft, yr angen am ofyn cyn prynu rhywbeth ar-lein neu osod terfynau gwariant misol. 

Analluogi prynu pethau yn yr ap

Defnyddiwch y gosodiadau ar ddyfais symudol eich plentyn i analluogi prynu pethau yn yr ap ar gyfer YouTube, gan atal eich plentyn rhag gwario arian ar yr ap. Ar gyfer iPhone, gellir gwneud hyn yn rhan ‘iTunes & App Store Purchases’ y gosodiadau. Ar gyfer Android, gallwch ddefnyddio ‘Google Family Link’ i osod rheolyddion ar wario yn yr ap.

Gormod o amser sgrin

Mae YouTube yn cynnig cynnwys diddiwedd am ddim i bobl ifanc ei fwynhau. Felly, efallai y byddan nhw’n ei chael hi'n anodd rheoli eu hamser sgrin. 

Cynyddir y risg hon gan nodwedd ‘autoplay’ YouTube, sy'n chwarae fideo newydd yn awtomatig ar ôl i un orffen. O ganlyniad, gall pobl ifanc dreulio oriau yn gwylio heb ddewis fideos newydd. 

Mae yna ffyrdd y gallwch helpu i reoli amser sgrin eich plentyn.

Gosod rheolyddion amser sgrin

Os oes gan eich plentyn gyfrif dan oruchwyliaeth neu gyfrif plentyn, gallwch osod terfynau amser sgrin i reoli pa mor hir y gall wylio fideos bob dydd. 

Bydd yr ap yn cau pan gyrhaeddir y terfyn amser hwn. Gellir gosod terfynau amser sgrin hefyd trwy osodiadau dyfais eich plentyn, gan gyfyngu ar ba mor hir y gall ddefnyddio ap YouTube. 

Diffodd y modd chwarae awtomatig

Diffoddwch y modd chwarae awtomatig yng ngosodiadau YouTube i helpu i atal eich plentyn rhag gwylio un fideo ar ôl y llall. 

Annog meddwl beirniadol

Anogwch eich plentyn i ystyried y ffordd y mae’n teimlo wrth wylio fideos a beth mae'n ei gael ganddynt. Gall hyn ei helpu i ddod yn fwy ymwybodol o'i ddefnydd o YouTube. 

Rheoli amser sgrin

Anogwch eich plentyn i gymryd seibiannau wrth ddefnyddio YouTube.

Os ydych chi'n poeni am eich plentyn yn defnyddio YouTube, mae yna ystod o osodiadau all wneud ei brofiad ar y platfform yn fwy diogel.

Sefydlu cyfrifon dan oruchwyliaeth

Os yw'ch plentyn am ddefnyddio YouTube, gall sefydlu cyfrif dan oruchwyliaeth (‘supervised account’) iddo helpu i'w gadw'n fwy diogel. Mae cyfrif dan oruchwyliaeth yn gadael ichi ddewis pa fath o fideos y mae eich plentyn yn eu gweld, rhwystro sianeli ar ei ran ac analluogi'r nodwedd chwarae awtomatig.

Sut i'w sefydlu

  • Mewngofnodwch i YouTube a dewiswch y llun proffil. 
  • Dewiswch 'Settings'. 
  • Ewch i 'Family Centre' a dewiswch 'Manage kids' profiles and features for teens'. 
  • Dewiswch ‘Invite a teen’. 
  • Dewiswch ‘Create invite’ a rhannwch y ddolen gwahoddiad gyda'ch plentyn neu gofynnwch iddo sganio'r cod QR ar ddyfais symudol.

Galluogi neu addasu gosodiadau cynnwys ar gyfer eich plentyn

  • O'r proffil ar eich cyfrif rhiant cysylltiedig, dewiswch eicon y gêr a dewis ‘Parent settings’. 
  • Dewiswch am ba gyfrif yr hoffech addasu gosodiadau cynnwys. 
  • O dan ‘YouTube settings’, dewiswch ‘Edit’ wrth ymyl ‘Content settings’. 
  • Dewiswch ba opsiwn cynnwys yr hoffech i'ch plentyn ei gael: 
    • Mae 'Explore' yn dangos cynnwys o gategori 9+ a dim ffrydiau byw
    • Mae 'Explore more’ yn dangos cynnwys o gategori 13+ ac mae’n cynnwys ffrydiau byw
    • Mae 'Most of YouTube' yn dangos bron yr holl gynnwys ar YouTube ac eithrio fideos 18+ neu fideos eraill yr ystyrir nad ydyn nhw’n briodol

Archwilio nodweddion riportio a blocio

Gall archwilio'r nodweddion riportio a blocio ar YouTube gyda'ch plentyn ei helpu i ddysgu sut a phryd i ddefnyddio'r offer hyn. 

Riportio fideo

O dan y fideo rydych chi am eiriportio, dewiswch yr eicon 3-dot a dewiswch ‘Report', gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin i orffen.

Riportio sylw

Ewch i’r sylw yr hoffech ei riportio, dewiswch yr eicon 3-dot a dewiswch ‘Report', gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin i orffen.

Gosodiadau amser sgrin

Yng ngosodiadau cyfrif YouTube eich plentyn, gallwch osod negeseuon atgoffa i gymryd seibiannau a rheoli ei amser sgrin. 

Cael negeseuon atgoffa i gymryd seibiant

  • Mewngofnodwch i gyfrif YouTube eich plentyn.
  • Ewch i'w dudalen proffil a chliciwch ar eicon y gêr.
  • O dan 'Account', dewiswch 'General'.
  • Trowch dogl ‘Remind me to take a break’ ymlaen.
  • Dewiswch ba mor aml yr hoffech i'ch plentyn gael negeseuon i’w atgoffa i gael seibiant.

Galluogi negeseuon atgoffa am amser gwely

  • O dan osodiadau cyfrif YouTube eich plentyn, dewiswch ‘General’.
  • Trowch y togl ‘Remind me when it’s bedtime’ ymlaen.
  • Dewiswch pryd yr hoffech i amser gwely ddechrau a phryd mae'n dod i ben.

Galluogi modd cyfyngedig

Mae'r modd cyfyngedig (‘restricted mode’) yn cuddio fideos a allai fod yn aeddfed. Er nad yw hyn bob amser yn gwbl effeithiol a gall eich plentyn ddiffodd y togl, mae'n ei gwneud hi'n llai tebygol y bydd yn gweld cynnwys amhriodol. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n esbonio iddo pam mae’n dda ei gadw wedi'i alluogi. 

To enable restricted mode:

  • cliciwch eicon y gêr ar broffil eich plentyn pan fyddwch wedi mewngofnodi i'w gyfrif
  • o dan is-bennawd ‘Account’, dewiswch 'General'
  • trowch y togl 'Restricted Mode’ ymlaen

Analluogi gwariant yn yr ap

Analluogi gwariant yn yr ap ar iPhone

  • Ewch i 'Settings'.
  • Dewiswch ‘iTunes & App Store Purchases’.
  • Dewiswch 'In-app Purchases’.
  • Dewiswch 'Don’t Allow'.

Analluogi gwariant yn yr ap ar Android

  • Agorwch 'Google Play Store'.
  • Dewiswch broffil ac ewch i 'Settings'.
  • Dewiswch 'Authentication'.
  • Dewiswch ‘For all purchases through Google Play on this device’.