English
Gwybodaeth

Ymwadiad

Mae Threads yn ap newydd sy’n newid yn gyflym. Oherwydd mynychder y newidiadau yn y gofod hwn, byddwch yn ymwybodol bod y canllaw hwn i’r ap Threads yn gywir ym mis Tachwedd 2024.

Mae Threads, a elwir hefyd yn ‘Threads, an Instagram app’, yn ap cyfryngau cymdeithasol microblogio a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2023 ac a ddatblygwyd gan Instagram a’i riant-gwmni Meta. Mae’r ap ar gael ar ddyfeisiau symudol Android ac iOS. Yn debyg i X (a elwir gynt yn ‘Twitter’), mae Threads yn hysbysebu ei hun fel cydran seiliedig ar destun i Instagram, er y gall defnyddwyr lanlwytho lluniau a fideos hefyd. Gall defnyddwyr hefyd gysoni cysylltiadau, y bobl y maent yn eu dilyn a’u dilynwyr o’u cyfrifon Instagram i Threads os byddant yn dewis gwneud hynny, er nad yw hyn yn hanfodol. Er y gall defnyddwyr chwilio am ddefnyddwyr eraill a’u dilyn, bydd eu ffrwd yn dangos cynnwys ar hap a chynnwys o gyfrifon y maent yn eu dilyn. Mae Threads yn ap sy’n tyfu’n gyflym, gyda thros 175 miliwn o ddefnyddwyr misol. Mae Threads am ddim i’w ddefnyddio ar hyn o bryd, ond mae angen cyfrif Instagram i ddefnyddio’r ap.

Yr oedran isaf i greu cyfrif Threads yw 13, er nad oes unrhyw ddull trylwyr o wirio oedran ac mae’n rhaid i ddefnyddwyr gael cyfrif er mwyn pori’r cynnwys.

Mae angen cyfrif Instagram ar ddefnyddwyr i gofrestru. Bydd unrhyw osodiadau cyfrif ar Instagram, gan gynnwys rheolaethau rhieni, yn cael eu mewnforio i Threads fel rhan o’r broses o greu cyfrif.

Bydd pob cyfrif a sefydlir gan ddefnyddwyr o dan 18 oed yn cael eu sefydlu gyda gosodiadau preifat yn ddiofyn. Dim ond os yw defnyddwyr wedi darparu eu dyddiad geni cywir, sy’n dangos eu bod o dan 18 oed,  y bydd yr opsiwn hwn yn cael ei gynnig. Mae pob cyfrif arall yn cael dewis i greu cyfrif preifat neu gyhoeddus pan fydd y cyfrif yn cael ei greu.

Mae Threads yn ap sy’n tyfu, ymhlith oedolion a phobl ifanc. Mae’n hysbysebu amgylchedd cyfryngau cymdeithasol mwy diogel, gyda mwy o gymedroli, o gymharu â safleoedd microblogio eraill megis X (a elwir gynt yn ‘Twitter’), sy’n rhy negyddol ym marn rhai defnyddwyr iau.

Mae apiau cyfryngau cymdeithasol yn boblogaidd ymhlith pobl ifanc, gan y gallant gysylltu â’u hoff enwogion, arweinwyr a dylanwadwyr a’u dilyn. Gall postiadau ar Threads amrywio o fod yn addysgiadol, megis straeon newyddion, i fod yn ddoniol ac yn ddychanol.  Mae’r ffrwd postiadau ar Threads yn cael ei rheoli gan algorithm sy’n cymysgu cynnwys gan ddefnyddwyr newydd a chyfrifon eraill mae’r defnyddiwr yn eu dilyn. Gall natur ar hap postiadau ar Threads ddal diddordeb pobl ifanc drwy ddarparu llif cyson o gynnwys. Mae pobl ifanc yn aml yn cael eu denu gan y ffaith y gall defnyddwyr eraill ‘hoffi’ eu cynnwys ac yn gweld dilynwyr fel math o ddilysiad a chymeradwyaeth.

Mae Threads wedi’i farchnata i ddechrau fel yr ap testun i gystadlu â X (a elwir gynt yn ‘Twitter’). Mae’r dirywiad yn y defnydd o X (a elwir gynt yn ‘Twitter’) oherwydd newidiadau mawr (megis codi ffi am y tic glas) wedi golygu bod llawer o ddefnyddwyr wedi troi at ddewisiadau eraill megis Threads fel platfform amgen i bostio a gweld cynnwys. Fodd bynnag, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol bod y cysylltiad agos rhwng Threads ac Instagram yn golygu bod llawer o gynnwys gweledol, megis lluniau a fideos.

Gyda defnyddwyr yn gallu postio hyd at ugain llun mewn un postiad, byddai’n ymddangos bod llawer o ddefnyddwyr yn postio’r un cynnwys ar Instagram a Threads, er bod Threads yn cael ei hysbysebu fel ap testun.

Dylai rhieni a gofalwyr fod yn ymwybodol, gan fod rhai defnyddwyr yn postio’r un delweddau ag ar Instagram, y gall y delweddau fod wedi’u golygu’n helaeth a defnyddio effeithiau a hidlyddion. Dylid nodi nad oes gan Threads swyddogaeth camera neu hidlo yn uniongyrchol ar yr ap ond ei fod yn caniatáu i ddefnyddwyr bostio lluniau a gynhyrchir ar apiau eraill. Gall gor-amlygiad i gynnwys sydd wedi’i olygu’n helaeth arwain at ddelwedd corff negyddol a hunan-barch isel. Mae rhai defnyddwyr Threads yn postio delweddau ohonyn nhw’u hunain ar yr ap ac yn gofyn am ddilysiad allanol, megis gofyn cwestiynau fel "rate my body”.

Gall sylwadau negyddol ar bostiadau fel y rhain hefyd arwain at ddelwedd corff negyddol a hunan-barch isel. Fel gydag apiau rhannu delweddau poblogaidd eraill, siaradwch â’ch plentyn am faint o’r lluniau a welant ar y platfform fydd wedi’u golygu, sy’n golygu nad ydynt yn adlewyrchiad cywir ohonyn nhw na’u bywydau.

Ar hyn o bryd, mae Threads yn dewis cynnwys ar hap yn ddiofyn drwy ddefnyddio algorithmau, sydd ddim yn cynnig llawer o ffyrdd i’r defnyddiwr reoli’r cynnwys y mae’n ei weld. Er y gall y ffrwd hon ddangos cynnwys gan unigolion neu grwpiau mae’r defnyddiwr yn eu dilyn, bydd hefyd yn dangos postiadau poblogaidd ar hap. Mae hyn hefyd yn annog rhai defnyddwyr i geisio gwneud edafedd cyffrous y bydd nifer fawr o bobol yn eu ‘hoffi’, i ymddangos wedyn ar y dudalen gweithgarwch.

Gall defnyddwyr geisio rheoli cynnwys ffrwd drwy guddio geiriau, ymadroddion neu emojis penodol sy’n gwneud iddynt deimlo’n anghyfforddus neu’n peri gofid iddynt. Gall hyn helpu i hidlo cynnwys gofidus a dryslyd ymlaen llaw, neu gynnwys a all arwain at ddelwedd corff negyddol. Am fwy o wybodaeth am sut i wneud hyn, ewch i’r adran ‘Rheoli rhyngweithio a chynnwys’ yn y canllaw hwn.  Atgoffwch eich plentyn i siarad â chi os yw’n gweld unrhyw gynnwys ar Threads sy’n ei ddrysu neu’n peri gofid iddo.

Mae defnyddwyr yn gallu cyrchu cynnwys a rennir gan gyfrifon maen nhw’n eu dilyn trwy newid i'r ffrwd 'dilyn'. Gellir gwneud hyn trwy ddewis yr eicon Threads ar frig y sgrin a dewis ‘Following’. Gall hyn helpu i leihau’r posibilrwydd y bydd eich plentyn yn dod ar draws cynnwys annifyr neu ddryslyd wedi’i bostio gan ddefnyddwyr anhysbys. Fodd bynnag, rhaid cydnabod y byddai angen gwneud hyn bob tro y bydd yn agor Threads, ac y gallai pobl ifanc weld cynnwys anaddas gan ddefnyddwyr maen nhw’n eu dilyn ac yn ymddiried ynddynt.

Mae gwasanaeth testun Threads wedi’i wneud yn darged ar gyfer cyfrifon bot trydydd parti, sy’n lansio ‘ymosodiadau sbam’ yn erbyn defnyddwyr eraill. Mae hyn wedi arwain at greu terfyn cyfradd, tebyg i X (a elwir gynt yn ‘Twitter’), a all effeithio ar nifer y postiadau y gall defnyddiwr eu gweld ar yr ap. Cynghorir defnyddwyr Threads y mae ymosodiadau sbam wedi effeithio arnynt i’w riportio i’r platfform. Am wybodaeth ar sut i riportio, ewch i’r adran ‘Riportio a blocio’ yn y canllaw hwn.

I greu cyfrif Threads, mae angen i ddefnyddwyr ei gysylltu â chyfrif Instagram sy’n bodoli eisoes. Fel rhan o’r broses sefydlu, gall defnyddwyr ddewis cysylltu â’u cysylltiadau Instagram os ydyn nhw hefyd ar Threads. Mae hyn yn golygu y gellir poblogi cyfrif newydd yn awtomatig gyda dilynwyr, neu drwy ddod o hyd i ddefnyddwyr eraill i gysylltu â nhw yn organig.

Ar gyfer defnyddwyr o dan 18 oed, dylai’r cyfrif Threads gael ei sefydlu gyda gosodiadau preifat yn ddiofyn, fel gydag Instagram. Mae hyn yn golygu mai dim ond pobl y maent yn gysylltiedig â nhw sy'n gallu gweld eu negeseuon, a rhaid i ddefnyddwyr ofyn am eu dilyn ar yr ap. Bydd holl osodiadau cyfrif yn cael eu hetifeddu o gyfrif Instagram defnyddiwr. Argymhellir bod rhieni a gofalwyr yn gwirio gosodiadau’r cyfrif Threads a’r cyfrif Instagram i sicrhau eu bod yn gywir. 

Ar hyn o bryd, nid yw Threads yn caniatáu sgyrsiau neu negeseuon preifat rhwng defnyddwyr. Fodd bynnag, os yw defnyddiwr yn postio cynnwys o gyfrif cyhoeddus, gall pob defnyddiwr Threads arall wneud sylwadau arno. Gall hyn wneud defnyddwyr yn agored i sylwadau negyddol neu niweidiol. Gall defnyddwyr addasu pwy all wneud sylwadau ar eu postiadau, megis eu cyfyngu i bobl y maent yn eu dilyn neu bobl y maent yn sôn amdanynt yn uniongyrchol yn eu postiadau; gallai hyn helpu i atal amlygiad i sylwadau negyddol neu fwlio ar-lein. Siaradwch â’ch plentyn am bwy maen nhw’n cysylltu â nhw ar yr ap a cheisiwch argymell ei fod yn postio o gyfrif preifat i helpu i’w amddiffyn rhag sylwadau diangen neu niweidiol.

Oherwydd ansefydlogrwydd X (a elwir gynt yn ‘Twitter’) ar hyn o bryd, mae’n bosib y bydd llawer o gyn-ddefnyddwyr X yn symud i Threads fel eu platfform o ddewis ar gyfer rhannu eu barn a’u safbwyntiau â chynulleidfa ehangach. Siaradwch â’ch plentyn am y math o bobl y mae’n dewis eu dilyn ar y platfform a’i annog i feddwl yn feirniadol am yr edafedd y mae’n eu darllen. Atgoffwch eich plentyn i siarad â chi os yw’n darllen neu’n gweld rhywbeth sy’n peri gofid iddo neu os nad yw’n ei ddeall. 

Ar hyn o bryd, mae Threads yn defnyddio’r un canllawiau cymunedol ag Instagram. Fel llawer o blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill, gall fod achosion o fwlio a throlio ar-lein. Anogwch eich plentyn i feddwl yn ofalus am y cynnwys y mae’n dewis ei rannu ar Threads, gan ei atgoffa y gall unrhyw beth y mae’n ei bostio gael ei gipio’n rhwydd fel sgrinlun a’i rannu’n eang. Gofalwch fod eich plentyn yn gwybod y gall fod yn anodd cadw perchnogaeth ar unrhyw gynnwys ar ôl iddo gael ei rannu ar-lein.

Mae Threads yn rhan o’r ‘fediverse’, sy’n cynrychioli rhwydwaith o blatfformau cyfryngau cymdeithasol cysylltiedig. Mae hyn yn golygu y gall defnyddwyr ddewis caniatáu i’w negeseuon a’u hailbostiadau gael eu gweld gan ddefnyddwyr platfformau eraill ac y gallant ryngweithio â nhw. Efallai y bydd defnyddwyr sydd am ennyn mwy o ddiddordeb yn eu cynnwys yn cael eu temtio i droi'r nodwedd hon ymlaen i gyrraedd cynulleidfa ehangach o ddefnyddwyr.

Fodd bynnag, mae Threads yn rhybuddio bod eu gallu i ddileu cynnwys defnyddwyr o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill yn gyfyngedig os yw defnyddwyr yn penderfynu rhannu eu cynnwys ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill i ddechrau, cyn rhoi'r gorau i rannu yn ddiweddarach. Er bod yr opsiwn hwn wedi'i ddiffodd yn ddiofyn, dylech wirio hyn. Mae rhagor o ganllawiau ar sut i wneud hyn yn adran ‘Rheoli rhyngweithio a chynnwys’ y canllaw hwn. Os yw’ch plentyn yn mynegi diddordeb mewn rhannu ei gynnwys yn y ‘fediverse’, gwnewch yn siŵr ei fod yn deall y gallai platfformau eraill gael eu cymedroli i lai o raddau, a bod perygl y bydd yn colli rheolaeth ar ei gynnwys.

Mae Meta wedi dweud nad oes unrhyw hysbysebion nad ydynt gan ddylanwadwyr ar Threads ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu na fydd defnyddwyr yn gweld hysbysebion penodol ar y platfform. Fodd bynnag, yn yr un modd ag Instagram, gall dylanwadwyr a phob defnyddiwr arall ddefnyddio Threads i hysbysebu cynhyrchion neu wasanaethau penodol. Yn wahanol i Instagram, ar hyn o bryd nid yw’n ofynnol i ddefnyddwyr ddefnyddio’r hashnod ‘#ads’ i wahaniaethu pan fydd cynnwys sy’n cael ei bostio yn hysbyseb y telir amdano.

Gall hyn fod yn ddryslyd i rai defnyddwyr, gan efallai na fyddant yn gallu gwahaniaethu’n rhwydd rhwng cynnwys hyrwyddo a chynnwys dilys. Siaradwch â’ch plentyn am rôl dylanwadwyr a’i atgoffa bod dylanwadwyr wedi cael eu talu i hyrwyddo rhai cynhyrchion. Argymhellir y dylai rhieni a gofalwyr wirio’n rheolaidd bolisi Meta ynghylch hysbysebion, gan y gallai’r polisi dim hysbysebu newid wrth i’r ap ddatblygu.

Mae dyluniad Threads yn golygu bod defnyddwyr yn agored i sgrolio diddiwedd o ran cynnwys. Mae hyn yn golygu y bydd yr adran gweithgarwch yn parhau i ddarparu cynnwys diddiwedd i ddefnyddwyr ei weld, a all arwain at rai defnyddwyr yn treulio oriau ar y platfform yn sgrolio drwy gynnwys. Siaradwch â’ch plentyn am sut mae platfformau wedi’u dylunio i ddal diddordeb defnyddwyr am gyfnodau hir a’i annog i gymryd seibiannau o’r ap yn aml. Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i ddefnyddio’r ddewislen gosodiadau i helpu i reoli amser yn yr adran ‘Rheoli amser a phryniannau’ yn y canllaw hwn.

Fel llawer o apiau cyfryngau cymdeithasol eraill, mae Threads yn dangos nifer y bobl sydd wedi ‘hoffi’ postiad a’r sylwadau arno yn ddiofyn. Gwyddom fod pobl ifanc yn gweld nifer y bobl sydd wedi ‘hoffi’ postiad a sylwadau ar bostiad fel math o ddilysiad, a gallant ddatblygu emosiynau negyddol os nad ydynt yn teimlo bod eu cynnwys yn denu digon o ddiddordeb. Siaradwch â’ch plentyn i sicrhau ei fod yn gwybod nad yw nifer y bobl sy’n ‘hoffi’ postiad yn arwydd o’i werth fel person. Siaradwch â’ch plentyn am fanteision analluogi’r nodwedd hon ar gyfer eu cyfrifon nhw.

Mae Threads yn casglu swm uchel iawn o ddata personol ar ddefnyddwyr, gan gynnwys lleoliad ffisegol, manylion personol megis enw, rhif ffôn, credoau gwleidyddol a chrefyddol, a llawer o bethau eraill am y defnyddiwr. Siaradwch â’ch plentyn am sut mae cwmnïau technoleg mawr yn gwneud arian o ddata defnyddwyr a helpwch ef i ystyried a yw’n gyffyrddus bod Meta yn casglu’r math hwn o wybodaeth ganddo. Gall hyn ei helpu i benderfynu a yw am greu cyfrif Threads ai peidio. 

Mae Threads yn cynnal canolfan gymorth fach ar brif dudalen Instagram. Gan mai Instagram yw rhiant-ap Threads, mae canllaw Instagram i rieni yn cynnwys gwybodaeth a manylion perthnasol pellach i ddefnyddwyr Threads.

Oherwydd cysylltiad agos Threads ag Instagram, rhaid ffurfweddu sawl gosodiad fel cuddio’r elfen ‘hoffi’ neu osod cyfrinair newydd, ar Instragram yn hytrach na Threads.