English

Mae Snapchat yn ap cyfryngau cymdeithasol sy’n caniatáu i defnyddwyr anfon ffotograffau, fideos a negeseuon o’r enw ‘snaps’ sy’n cael eu dileu ar ôl i’r derbynnydd wedi edrych arnyn nhw.

Mae Snapchat wedi’i seilio’n fras ar rannu ffotograffau, ond gall defnyddwyr hefyd:

  • anfon fideos a negeseuon testun 
  • defnyddio hidlyddion ac effeithiau ar ffotograffau a fideos 
  • ychwanegu storïau sy’n para hyd at 24 awr, a’u rhannu gyda rhai o’u ffrindiau neu eu holl ffrindiau
  • gwneud galwadau a galwadau fideo â phobl eraill

Mae nodwedd y negeseuon sy’n diflannu wedi gwneud Snapchat yn boblogaidd gyda phobl ifanc, gan fod sgyrsiau’n teimlo’n fwy preifat ar yr ap. 

Rhaid i ddefnyddwyr fod yn 13 oed o leiaf i greu cyfrif Snapchat. Rhoddir cyfrifon ‘teen’ i ddefnyddwyr rhwng 13 ac 17 oed. Mae gosodiadau diogelwch a phreifatrwydd wedi’u galluogi’n awtomatig ar y cyfrifon hyn. Wrth i ddefnyddiwr fynd yn hŷn, mae’r cyfyngiadau yn dod yn llai, gyda phobl ifanc 16 ac 17 oed yn cael postio storïau cyhoeddus, sef nodwedd sydd wedi’i hanalluogi i ddefnyddwyr o dan 16 oed. 

Nid oes unrhyw wiriadau oedran gan Snapchat ac mae’n dibynnu’n llwyr ar onestrwydd y defnyddiwr am ei ddyddiad geni wrth greu cyfrif. Mae’n bwysig bod eich plentyn yn rhoi ei ddyddiad geni go iawn, neu bydd yn colli allan ar fuddion diogelwch y cyfrif ‘teen’.

Best Friends list

Mae’n dangos pa ffrindiau y mae defnyddiwr yn cysylltu â nhw fwyaf ar Snapchat. 

Bitmoji 

Rhithffurf (avatar) wedi’i phersonoli sy’n cael ei defnyddio fel llun proffil ac sy’n gallu cael ei hanfon fel emoji mewn sgyrsiau. 

Chat

Gall defnyddwyr anfon negeseuon testun mewn sgwrs, heb orfod tynnu ‘snap’.

Family Centre

Cyfres o reolyddion i rieni yn yr ap, sy’n caniatáu i chi fonitro gweithgarwch a gosod rheolyddion diogelwch ar Snapchat eich plentyn. 

Filter 

Effeithiau digidol sy’n cael eu hychwanegu at ffotograffau a fideos i newid sut maen nhw’n edrych.

Ghost Mode

Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr guddio’u lleoliad rhag defnyddwyr eraill, gan ddileu’r holl nodweddion lleoliad byw o’r ap. 

Lenses

Mae lensys yn defnyddio realiti estynedig i ychwanegu propiau a chefndiroedd at ‘snaps’.

Memories

Gall defnyddwyr arbed ‘snaps’ yna edrych arnyn nhw eto yn eu harchif atgofion.

My AI 

Sgwrsfot AI yn yr ap y gall defnyddwyr ryngweithio ag ef a gofyn cwestiynau iddo.

My eyes only

Adran lle gallwch arbed y ‘snaps’ rydych chi am eu cadw’n breifat. Mae angen cyfrinair i gael atyn nhw. 

Snap

Ffotograff neu neges fideo sy’n cael eu hanfon ar yr ap.

Snap Maps

Gall defnyddwyr rannu eu leoliad mewn amser reol, gyda’u lleoliad yn cael ei ddangos ar fap. Mae’r nodwedd hon yn cael ei hanalluogi yn ddiofyn. Ar ôl ei galluogi, gall defnyddwyr ddewis pwy i rannu eu lleoliad gyda nhw.

Snap Token 

Arian rhithwir, y gellir ei brynu gydag arian go iawn. Gellir ei ddefnyddio i brynu hidlyddion, ategolion i’ch Bitmoji, neu ei roi i grewyr. 

Snapchat + 

Gwasanaeth tanysgrifio y mae’n rhaid talu amdano sy’n cael ei gynnig gan Snapchat. Mae defnyddwyr sy’n tanysgrifio iddo yn gallu cael at themâu a hidlyddion arbennig ar yr ap yn ogystal â chael mynediad cynnar at nodweddion newydd. 

Snapstreak

Mae Snapstreak yn dangos ar sawl diwrnod yn olynol y mae 2 ddefnyddiwr wedi anfon negeseuon at ei gilydd. Mae ‘streak’ yn dechrau ar ôl 3 diwrnod o anfon o leiaf un neges y dydd.

Spotlight

Porthiant ar yr ap sy’n amlygu fideos a ffotograffau poblogaidd o broffiliau cyhoeddus.

Story

‘Snaps’ sy’n cael eu rhannu’n gyhoeddus gyda ffrindiau, sy’n diflannu ymhen 24 awr.

Cadw mewn cysylltiad 

Mae Snapchat yn ffordd i bobl ifanc gadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau. 

Creadigrwydd

Gall defnyddwyr fynegi eu hunain ar Snapchat a chreu ‘snaps’ hwyliog a chreadigol gan ddefnyddio’r amrywiaeth o nodweddion dylunio ar yr ap, gan gynnwys:

  • offer lluniadu ac addasu
  • hidlyddion 
  • sticeri

Nodweddion diogelwch 

Mae canolfan deuluol ‘Family Centre’ Snapchat yn caniatáu i chi fonitro gweithgarwch eich plentyn a gosod rheolyddion diogelwch ar eu Snapchat. Yn ogystal, bydd rheolyddion diogelwch yn cael eu ychwanegu’n awtomatig at bob cyfrif sy’n perthyn i ddefnyddwyr o dan 18 oed. Er na fydd rhai pobl ifanc yn mwynhau bod eu rhieni’n gosod rheolyddion ar eu Snapchat, bydd hyn yn eu cadw’n ddiogel ac, yn y pen draw, yn gwella eu profiad ar Snapchat.

Cysylltiad â defnyddwyr eraill 

Nid yw sgyrsiau preifat yn cael eu cymedroli ar Snapchat, gan olygu y gallai defnyddwyr anfon negeseuon sarhaus neu gynnwys amhriodol mewn sgyrsiau un i un a sgyrsiau grŵp. 

Os bydd eich plentyn yn teipio oedran uwchlaw 17 oed wrth sefydlu ei gyfrif, gall gael negeseuon gan bobl sydd heb gael eu cadw fel cyswllt ganddo ar Snapchat, gan cynyddu’r risg y bydd yn cael negeseuon amhriodol. 

Mae pethau y gallwch chi eu gwneud i fynd i’r afael â chyswllt amhriodol gan bobl ddieithr. 

Adolygu gosodiadau preifatrwydd 

Yn y gosodiadau preifatrwydd, gallwch osod mai dim ond ffrindiau Snapchat all anfon negeseuon i’r cyfrif, gan leihau’r risg y bydd pobl ddieithr yn rhannu negeseuon amhriodol. Er, gallai ffrindiau Snapchat anfon y cynnwys hwn o hyd. 

Defnyddio’r ‘Family Centre’

Os ydych chi wedi cysylltu eich cyfrif Snapchat â chyfrif eich plentyn gan ddefnyddio ‘Family Centre’, gallwch weld gyda phwy mae eich plentyn yn ffrindiau ac at bwy mae wedi anfon negeseuon dros y 7 diwrnod diwethaf. Ni fyddwch yn gallu gweld cynnwys y negeseuon, ond os bydd eich plentyn yn dweud wrthoch ei fod wedi cael negeseuon sy’n gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus, byddwch yn gallu gweld pwy anfonodd y negeseuon a thrafod eu riportio, gyda’ch gilydd.

Casglu tystiolaeth 

Mae nodweddion negeseuon diflanedig Snapchat yn gallu ei gwneud hi’n anodd casglu tystiolaeth o fwlio, meithrin perthynas amhriodol neu gynnwys amhriodol. Os bydd eich plentyn yn cael unrhyw beth y byddai’n dymuno’i riportio yn y dyfodol, anogwch eich plentyn i wneud sgrinlun cyn iddo ddiflannu.

Riportio a blocio 

Edrychwch ar y nodweddion riportio a blocio ar Snapchat gyda’ch plentyn, fel y gall riportio a blocio unrhyw un sy’n anfon cynnwys amhriodol ato. Bydd hyn yn atal cyswllt pellach ac yn ei gwneud hi’n llai tebygol i’r anfonwr anfon y negeseuon hyn at bobl eraill yn y dyfodol.

Cynnal sgwrs 

Bydd siarad yn rheolaidd am fywyd ar-lein eich plentyn, fel y byddech yn siarad am ei fywyd all-lein, yn golygu eich bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n mynd yn ei flaen, ac mae’n fwy tebygol y bydd eich plentyn yn dweud wrthoch am unrhyw gynnwys amhriodol y mae’n ei gael. Esboniwch wrtho na ddylai fyth ychwanegu rhywun fel ffrind os nad yw’n ei adnabod go iawn. 

Cysylltu â’r awdurdodau 

Os ydych chi’n amau bod rhywun yn anfon negeseuon at eich plentyn yn y gobaith o feithrin perthynas amhriodol â nhw neu achosi niwed, rhowch wybod i’r awdurdodau. Casglwch dystiolaeth cyn i chi wneud hyn.

Gor-rannu 

Mae nodwedd negeseuon diflanedig Snapchat yn gallu annog pobl ifanc i or-rannu mwy nag y bydden nhw’n ei wneud ar blatfformau eraill y cyfryngau cymdeithasol. Mae gwybod y bydd y neges yn cael ei dileu yn syth ar ôl i rywun ei gweld yn gallu ei annog i anfon negeseuon mwy mentrus nag y byddai’n ei wneud fel arfer. Fodd bynnag, mae’n bosibl gwneud sgrinlun o’r negeseuon hyn a’u cadw am byth, gan ddadwneud y nodwedd negeseuon diflanedig.

Ystyriwch y camau canlynol i atal gor-rannu.

Addasu gosodiadau preifatrwydd 

Bydd troi’r ‘Ghost Mode’ yn y gosodiadau preifatrwydd ymlaen yn atal pobl eraill rhag gweld lleoliad byw eich plentyn. Yn y gosodiadau hyn, gallwch hefyd newid pwy all weld stori eich plentyn a phwy all gysylltu â’ch plentyn, gan sicrhau mai dim ond ffrindiau sy’n gweld eu cynnwys. 

Siarad am rannu’n ddiogel 

Esboniwch wrth eich plentyn na ddylai rannu gwybodaeth neu ddelweddau personol gydag unrhyw un nad yw’n ei adnabod nac yn ymddiried ynddo mewn bywyd go iawn. Pwysleisiwch, er bod negeseuon Snapchat yn diflannu, bod pobl o hyd yn gallu gwneud sgrinluniau o’r negeseuon a’u rhannu gydag eraill. Bydd trafod ei fywyd digidol yn rheolaidd yn eich helpu i ddysgu p’un a yw wedi gor-rannu. 

Defnydd gormodol 

Gall fod yn anodd i bobl ifanc reoli’u defnydd o Snapchat. Mae gan yr ap nifer o nodweddion sydd wedi’u creu i annog defnyddwyr i agor yr ap yn rheolaidd, fel ‘Snapstreaks’. Mae ‘Snapstreaks’ yn gwobrwyo defnyddwyr am anfon negeseuon dyddiol ac maen nhw’n diflannu os bydd defnyddiwr yn colli un diwrnod.

Mae nifer o bethau gallwch chi eu gwneud i ostwng y risg o ddefnydd gormodol.

Gosod cyfyngiadau amser 

Yng ngosodiadau’r ddyfais ar ffonau Android ac iPhone, gallwch osod cyfyngiadau amser ar ba mor hi mae eich plentyn yn defnyddio ap bob dydd. Bydd gosod cyfyngiadau amser ar Snapchat yn atal eich plentyn rhag treulio amser gormodol ar y platfform. 

Diffodd hysbysiadau

Bydd diffodd hysbysiadau Snapchat yn golygu nad yw eich plentyn yn cael hysbysiad am bob neges a stori newydd, gan leihau’r posibilrwydd y bydd gweithgareddau eraill ar yr ap yn tynnu’i sylw.

Gosod ffiniau

Bydd cytuno â’ch plentyn na ddylai ddefnyddio Snapchat ar adegau penodol o’r dydd yn lleihau faint o amser mae’n ei dreulio ar yr ap ac yn creu cyfnodau rhydd rhag y cyfryngau cymdeithasol.

Cael sgyrsiau am bwysau cymdeithasol

Gall pobl ifanc deimlo bod angen iddyn nhw ymateb i’w ffrindiau ar unwaith a bod rhaid gynnal Snapstreaks trwy ddefnyddio’r ap bob dydd. Anogwch eich plentyn i gwestiynu pwysigrwydd Snapstreaks ac esbonio wrtho y bydd ffrindiau go iawn yn deall os nad yw’n ateb negeseuon ar unwaith.

Trwy addasu’r gosodiadau preifatrwydd ar ei gyfrif Snapchat a defnyddio ‘Family Centre’ Snapchat, gallwch wneud profiad eich plentyn ar yr ap yn brofiad mwy diogel. 

Sefydlu ‘Family Centre’ 

Mae sefydlu ‘Family Centre’ yn rhoi’r gallu i chi fonitro gweithgarwch eich plentyn ar yr ap a gosod rheolyddion, fel cyfyngu ar gynnwys ac analluogi AI – deallusrwydd artiffisial.

I wneud hyn:

  • lawrlwythwch Snapchat a chreu cyfrif neu mewngofnodwch i’ch cyfrif
  • dewiswch ‘Add Friends’ a chwilio am enw defnyddiwr eich plentyn i’w ychwanegu
  • dewiswch eicon y gêr yn y cornel de ar ochr uchaf y sgrin i fynd at ‘Settings’
  • o dan ‘Privacy Control’, dewiswch ‘Family Centre’, dewis enw’ch plentyn a dewis ‘Send invitation’
  • gofynnwch i’ch plentyn eich ychwanegu fel ffrind ar ei ddyfais a derbyniwch y gwahoddiad
  • gallwch nawr fynd at y ‘Family Centre’ ar eich dyfais a dechrau rheoli profiad eich plentyn ar Snapchat

Addasu pwy all gysylltu â’ch plentyn a gweld ei storïau 

Gallwch newid gosodiadau preifatrwydd eich plentyn fel mai dim ond ffrindiau sy’n gallu anfon negeseuon a gweld eu storïau ar Snapchat. Mae hyn yn lleihau’r risg y bydd pobl ddieithr yn ceisio cysylltu ag ef drwy’r ap.

Rheoli pwy all anfon negeseuon 

  • ar ddyfais eich plentyn, ewch i’w proffil a dewis eicon y gêr yn y cornel de ar ochr uchaf y sgrin i agor ‘Settings’.
  • Sgroliwch i ‘Privacy Control’ a dewiswch ‘Contact Me’.
  • Dewiswch ‘Friends’.

Rheoli pwy all weld storïau 

  • Ewch i ‘Settings’ ar ddyfais eich plentyn.
  • O dan ‘Privacy Control’, dewiswch ‘View My Story’.
  • Dewiswch ‘Friends Only’.

Gallwch hefyd flocio cysylltiadau unigol trwy ddewis ‘Custom’.

Adolygu offer blocio a riportio 

Os bydd eich plentyn yn cael cyswllt dieisiau, gall flocio a riportio’r defnyddiwr i atal cysylltiad pellach. Gall eich plentyn riportio a blocio cyfrifon ei hun, neu gallwch eu riportio’n gyfrinachol trwy’r ‘Family Centre’. 

Riportio neu flocio trwy gyfrif y plentyn 

  • Ewch i broffil y defnyddiwr rydych chi am ei flocio.
  • Dewiswch y 3 smotyn llorweddol yn y cornel de ar ran uchaf y sgrin a dewis ‘Manage Friendship’.
  • Dewiswch ‘Report’ i riportio’r defnyddiwr am dorri canllawiau cymunedol neu ‘Block’ i atal cyswllt pellach gan y defnyddiwr hwn.

Ripirtio trwy’r ‘Family Centre’

  • Ar eich dyfais, ewch i ‘Settings’ yna i ‘Family Centre’.
  • Chwiliwch am y proffil rydych chi am ei riportio trwy edrych ar sgyrsiau diweddar neu trwy ddewis ‘View Friends’.
  • Dewiswch eicon y faner wrth ymyl y proffil rydych chi am ei riportio i ddechrau’r broses riportio.

Diffodd lleoliad 

Gallwch guddio lleoliad eich plentyn o’r ‘Snap Map’ trwy droi’r ‘Ghost Mode’ ymlaen. Mae hyn yn amddiffyn preifatrwydd a diogelwch eich plentyn, ond yn caniatáu iddo ddal ati i ddefnyddio gweddill cynnig Snapchat. 

I wneud hyn:

  • ar hafan dudalen ap Snapchat eich plentyn, dewiswch ‘pin y lleoliad’ yn y cornel chwith ar y gwaelod
  • dewiswch eicon y gêr yn y gornel dde ar frig y sgrin
  • trowch y togl i ‘Ghost Mode’ i guddio lleoliad eich plentyn ar y map (neu, gallwch guddio lleoliad rhag pobl benodol gan ddefnyddio opsiynau ‘My Friends’, ‘Except’ ac ‘Only These Friends’)