Meithrin perthynas amhriodol ar-lein
Adnoddau, canllawiau a gwybodaeth ar gyfer ymarferwyr addysg, dysgwyr a theuluoedd ar feithrin perthynas amhriodol ar-lein.
- Rhan o
Trosolwg
Mae meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn broses lle mae rhywun yn dod yn ffrind i berson arall ar-lein ac yn meithrin eu hymddiriedaeth gyda'r bwriad o:
- fanipiwleiddio
- ecsbloetio
- achosi niwed
Mae pobl sy'n meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn aml yn targedu pobl a allai fod:
- yn teimlo'n unig
- yn teimlo'n ynysig
- yn cael trafferth gyda hunan-barch neu gynnal perthynas
Gallai'r person sy'n gwneud hyn fod yn rhywun y mae'r dioddefwr yn ei adnabod neu'n ddieithryn llwyr.
Yr hyn y dylech chi ei wneud os ydych yn amau bod rhywun yn meithrin perthynas amhriodol
Os ydych chi’n pryderu bod rhywun yn meithrin perthynas amhriodol â phlentyn ar-lein neu’n cam-fanteisio’n rhywiol arno, cysylltwch â’r heddlu neu’r NSPCC yn syth. Gellir cyflwyno pryderon am feithrin perthynas amhriodol ar-lein a cham-drin rhywiol i’r CEOP hefyd (Saesneg yn unig).
Sut mae meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn digwydd
Mae'r sawl sy'n ceisio meithrin perthynas amhriodol yn aml yn cysylltu â llawer o bobl ar unwaith, gan obeithio y bydd rhai yn ymateb.
Bydd y sawl sy'n ceisio meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn aml yn:
- defnyddio sawl llwyfan i gychwyn y cysylltiad
- mynnu bod sgyrsiau'n cael eu cadw'n gyfrinachol
- ceisio darganfod mwy, megis a yw eu targed ar ei ben ei hun
- anfon negeseuon rhywiol, a allai fod yn gynnil i ddechrau, fel canmol sut mae'r person yn edrych
- gofyn am wybodaeth bersonol fel manylion am leoliad eu targed, ei ysgol neu goleg
- defnyddio blacmel er mwyn rheoli
Os yw'r targed wedi anfon delweddau, efallai y bydd y sawl sy'n meithrin perthynas amhriodol yn bygwth eu rhannu'n gyhoeddus oni bai bod mwy o ddelweddau yn cael eu hanfon. Pan fydd y bygwth hwn yn cynnwys galwadau am arian, fe'i gelwir yn flacmel rhywiol.
Efallai y bydd y sawl sy'n meithrin perthynas amhriodol yn ceisio argyhoeddi pobl ifanc eu bod yn cyfathrebu â rhywun yr un oed â nhw trwy ddefnyddio adnoddau deallusrwydd artiffisial i greu'r canlynol yn realistig:
- proffil
- delweddau
- sgwrs
Efallai y bydd y sawl sy'n meithrin perthynas amhriodol hefyd yn defnyddio technoleg deallusrwydd artiffisial i greu delweddau ffug (gan gynnwys lluniau noeth) i dwyllo, manipiwleiddio neu orfodi dioddefwyr.
Arwyddion bod rhywun yn meithrin perthynas amhriodol â pherson ifanc
Nid yw bob amser yn amlwg bod rhywun yn meithrin perthynas amhriodol â pherson ifanc. Fodd bynnag, efallai y bydd ambell arwydd sy'n awgrymu nad yw popeth yn iawn. Efallai y byddan nhw, er enghraifft:
- yn cadw'u hunain atyn nhw'u hunain, yn ymddangos yn anhapus ac yn cadw cyfrinachau
- yn treulio mwy o amser yn siarad ar y rhyngrwyd, gan gadw eu gweithgareddau ar-lein yn breifat
- yn stopio gwneud pethau maen nhw fel arfer yn eu mwynhau, fel cwrdd yn gymdeithasol â ffrindiau
- bydd ganddyn nhw eitemau newydd, fel dillad neu ffôn symudol, heb ddweud o ble maen nhw'n dod neu'n rhoi esboniad credadwy.
Y chi sydd yn y sefyllfa orau i wybod a yw person ifanc rydych chi'n ei adnabod yn ymddwyn yn wahanol. Gwrandewch ar eich greddf a gweithredwch ar eich pryderon.
Efallai na fydd plant a phobl ifanc yn teimlo y gallan nhw ofyn am help oherwydd:
- nad ydyn nhw’n ymwybodol eu bod mewn perthynas amhriodol
- maen nhw'n credu eu bod mewn perthynas ofalgar ac yn poeni am ei pheryglu
- efallai eu bod yn ofni beth fydd y person sy'n meithrin perthynas amhriodol yn ei wneud os ydyn nhw'n dweud wrth rywun
- dydyn nhw ddim eisiau gweld y person sy'n meithrin perthynas amhriodol mewn trafferth
- maen nhw'n teimlo eu bod nhw ar fai
- maen nhw'n teimlo embaras
Helpu pobl ifanc i gadw'n ddiogel
Mae'n bwysig bod plant a phobl ifanc yn gallu adnabod arwyddion perthynas amhriodol a cham-drin a theimlo'n hyderus yn dweud wrth rywun. Gallwch eu cefnogi drwy:
- eu haddysgu nhw am berthnasoedd iach
- cael sgyrsiau am breifatrwydd a pham y dylen nhw fod yn ofalus gyda'u gwybodaeth bersonol
- dangos iddyn nhw sut i ddefnyddio gosodiadau preifatrwydd i reoli pwy all weld eu cynnwys
- esbonio pam na ddylen nhw dderbyn cais ffrind gan ddieithriaid neu siarad â dieithriaid mewn sgyrsiau preifat
- dysgu iddyn nhw fod yn wyliadwrus o organmol, rhoddion a chynigion sy'n ymddangos yn 'rhy dda i fod yn wir'
- eu helpu i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gadw'n ddiogel ar-lein
- eu hannog i ddod i wybod am bobl ddibynadwy a lleoedd diogel y gallan nhw fynd iddyn nhw am gymorth
- eu hannog i roi gwybod am ymddygiad amheus
Cymorth i bobl ifanc
-
Cyngor i blant a phobl ifanc: problemau a phryderon ar-lein
Yn cynnwys risgiau ar-lein i fod yn ymwybodol ohonyn nhw a ble i fynd am help.
-
Ymgyrch Gurls Out Loud
Cyngor i blant a phobl ifanc ar sut i ymdrin â chysylltiadau amhriodol ar-lein yn ddiogel.
Cymorth i ysgolion
-
Adnoddau dysgu ac addysgu
Adnoddau i gefnogi gweithgareddau dysgu am feithrin perthynas amhriodol ar-lein.
-
Cadw dysgwyr yn ddiogel
Canllawiau i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ar drefniadau ar gyfer diogelu plant.
-
Canllawiau Ymarfer Cymru Gyfan: diogelu plant rhag cam-drin ar-lein
Yn darparu gwybodaeth am ymatebion diogelu i blant sydd mewn perygl o gam-drin ar-lein neu sy'n cael eu cam-drin ar-lein.
Cymorth i deuluoedd
-
Canllawiau ynghylch apiau
Canllawiau ynghylch apiau poblogaidd y gall plant a phobl ifanc fod yn eu defnyddio.
-
Ymgyrch Home Truths
Gwybodaeth i rieni a gofalwyr i gefnogi sgyrsiau gyda phlant am feithrin perthynas amhriodol ar-lein.
Barn yr arbenigwyr
-
Meithrin perthynas amhriodol ar-lein: gofalu nad yw drws eich cartref ar agor i gamdrinwyr rhywiol plant
Mae'r adnodd hwn yn trafod rôl yr Internet Watch Foundation (IWF) wrth iddyn nhw a'u hymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth wneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel i blant ledled y byd.
-
Meithrin perthynas amhriodol ar-lein gyda phlant i bwrpas rhyw: cam-drin a manteisio drwy gyfathrebu
Mae'r adnodd hwn yn trafod y tactegau manipiwleiddio a ddefnyddir er mwyn cyfathrebu i feithrin perthynas amhriodol ar-lein gyda phlant i bwrpas rhyw a'r gwaith sy'n cael ei wneud i ddiogelu plant ar-lein, sy'n cynnwys prosiect Dragon-S.
Help a chefnogaeth
-
Help a chefnogaeth
Sut i roi gwybod am gynnwys ar-lein niweidiol a chael mynediad at linellau cymorth a gwasanaethau am ddim a chyfrinachol.