English

Mae bwlio ar-lein yn digwydd yn aml, ac yn wahanol i fwlio wyneb yn wyneb, does dim modd mynd adref a chau’r drws arno. Gall ddigwydd yn unrhyw le ar-lein, fel y cyfryngau cymdeithasol, sgwrs rhwng grwp neu wefannau gemau.

Gall bwlio ar-lein ddigwydd i unrhyw un, a gallai bwlis eich targedu am lawer o resymau, fel:

  • y ffordd rwyt ti’n edrych
  • dy rywioldeb
  • anabledd
  • cyflwr iechyd
  • diwylliant
  • crefydd
  • pa mor gyfoethog neu dlawd rwyt ti’n edrych

Gall fod llawer o resymau pam fydd rhywun yn dod yn fwli. Efallai ei fod yn ymddwyn fel y mae ac yn bwlio pobl eraill gan ei fod yn cael ei fwlio ei hun, neu efallai ei fod yn dioddef problemau iechyd meddwl, neu bethau arall yn digwydd yn ei fywyd personol. Weithiau, gall siarad gyda’r bwli a rhoi gwybod sut mae’r ymddygiad yn gwneud i ti deimlo helpu. Efallai nad yw’n sylweddoli beth mae’n ei wneud. Ond, bydd bwlis eraill yn gwneud hynny am eu bod yn mwynhau’r pwer a’r ffordd y maen nhw’n edrych i bobl eraill. Beth bynnag yw’r rheswm, nid yw’n iawn, ac nid dy fai di fydd e fyth os byddi di’n cael dy fwlio.


Gall bwlio ar-lein ddigwydd mewn sawl ffordd. Dyma rai enghreifftiau:

  • anfon negeseuon annymunol, sarhaus neu ddigywilydd
  • negeseuon treisgar
  • cyflwyno sylwadau cas
  • rhannu gwybodaeth ffug, niweidiol neu anwir amdanat ti
  • rhannu lluniau ohonot ti i wneud hwyl am dy ben
  • golygu lluniau ohonot ti
  • defnyddio iaith gas i ddechrau ffrae, neu beri gofid i rywun
  • hacio negeseuon e-bost neu gyfrifon cyfryngau cymdeithasol a defnyddio dy hunaniaeth i anfon neu bostio pethau
  • creu ffug gyfrifon i achosi trallod a chodi cywilydd
  • twyllo rhywun i mewn i ddweud cyfrinachau neu wybodaeth bersonol, a’i anfon ymlaen at rywun arall (gan gynnwys lluniau a fideos preifat)
  • anfon negeseuon sy’n bygwth niwed
  • aflonyddu
  • gadael rhywun allan o negeseuon grwp ar bwrpas, ac apiau ar-lein, safleoedd gemau ac ati
  • anfon negeseuon rhywiol neu roi pwysau ar rywun i gymryd rhan mewn trafodaethau rhywiol, neu rannu lluniau rhywiol. Gweler aflonyddu rhywiol ar-lein am ragor o wybodaeth.

Gall unrhyw un ddod yn darged bwlio ar-lein, ond mae rhai camau eraill y galli di eu cymryd i aros yn ddiogel ar-lein.

  • Os wyt ti’n defnyddio cyfrifiadur cyhoeddus (fel mewn ysgol, llyfrgell neu gaffi ar-lein), cofia allgofnodi o dy gyfrifon.
  • Defnyddia gyfrineiriau unigryw gyda chyfuniad o briflythrennau, llythrennau bychain, symbolau a rhifau – paid â chynnwys gwybodaeth sy’n hawdd ei dyfalu (fel pen-blwyddi).
  • Sicrha nad yw unrhyw un yn dy weld yn allgofnodi ac yn mewngofnodi i dy gyfrifon – os yw rhywun yn gweld, newidia dy gyfrinair cyn gynted ag sy’n bosibl.
  • Diffodda’r gosodiadau lleoliad a sicrha bod dy gyfrif yn breifat.
  • Paid â dial drwy bostio neu anfon rhywbeth yn ôl – does dim modd troi’r cloc yn ôl.

Os ydych chi’n cael eich bwlio ar-lein, mae’n bwysig cofio bod gennych chi’r hawl i beidio â chael eich bwlio, dim ots ble mae’n digwydd. Mae’n normal i ypsetio os ydych chi’n cael eich bwlio, a gall effeithio ar eich iechyd meddwl, eich hunan-barch, pa mor dda rydych chi’n ei wneud yn yr ysgol neu’r coleg a’ch perthynas ag eraill, yn ogystal â phethau eraill.

Os ydych chi’n ypset, mae’n bwysig peidio â dial (talu’r pwyth yn ôl) – y bwlis yw’r rhai sydd â’r broblem, nid chi. Dyma rai camau y gallwch chi eu cymryd os ydych chi’n cael eich bwlio ar-lein.

  • Siaradwch gydag oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo (er enghraifft rhiant/gofalwr neu athro) a rhowch wybod iddo beth sy’n digwydd.
  • Dylech ymbellhau oddi wrth y bwli mewn bywyd go iawn ac ar-lein – eu rhwystro ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Cadwch unrhyw dystiolaeth, gan gynnwys dyddiadau, amseroedd a llefydd – cadwch sgrinluniau neu gopi o’r negeseuon.
  • Peidiwch â dial – er y gall ymddangos yn demtasiwn i ddial, gallai hyn beri i chi fynd i drwbl.
  • Rhowch wybod i’r llwyfan cyfryngau cymdeithasol am unrhyw negeseuon sy’n bwlio neu’n sarhau – edrychwch ar ddolenni i riportio isod.
  • Newidiwch eich gosodiadau preifatrwydd a chadw eich manylion yn breifat.
  • Gofalwch am eich iechyd meddwl – peidiwch â beio eich hun a rhowch gynnig ar hunanofal drwy wneud pethau eraill rydych chi’n eu mwynhau hefyd.

Mae adegau pan fydd bwlio’n dod yn drosedd, a dyma pryd y dylech roi gwybod i’r heddlu. Mae hyn yn cynnwys:

  • trais neu ymosodiad corfforol
  • ymosodiad rhywiol
  • lladrad
  • bwlio oherwydd hil, rhyw neu hunaniaeth rywiol, anabledd (trosedd casineb yw hyn) 
  • rhannu, neu fygwth rhannu, llun noeth ohonoch chi

Weithiau, gall fod yn anodd gwybod a yw rhywun yn cael ei fwlio, ond os ydych chi’n poeni am ffrind neu gyd-weithiwr, mae ffyrdd y gallwch chi helpu.

  • Gwrandewch a byddwch yno iddyn nhw os ydyn nhw eisiau sgwrsio.
  • Siaradwch gyda nhw’n rheolaidd a dywedwch wrthyn nhw eich bod chi yno iddyn nhw.
  • Helpwch nhw i roi gwybod am y bwlio – helpwch nhw i feddwl beth maen nhw eisiau ei ddweud.
  • Peidiwch â hoffi, rhannu na rhoi sylwadau ar bost sy’n bwlio – gall ei wneud yn fwy poblogaidd a gweladwy.
  • Helpwch i dynnu eu meddwl oddi ar bethau drwy chwarae gêm, gwylio ffilm neu chwarae chwaraeon.
  • Byddwch yn gadarnhaol ac yn garedig – gall helpu eraill i deimlo’n well.

Y peth pwysicaf yw codi llais. Peidiwch byth â bod ofn rhoi gwybod am rywbeth gan y gallai helpu eraill yn y tymor hir. Bydd yn llawer gwell ar ôl i chi roi gwybod oherwydd bod y pwysau oddi ar eich ysgwyddau.

Os ydych chi’n gweld rhywun arall yn bod yn gas (boed hynny wedi ei anelu atoch chi ai peidio) peidiwch â gwneud dim byd ond sefyll yno. Gwnewch giplun a rhowch wybod am y mater. Wrth riportio pethau ar-lein, gallwch fod yn ddienw ac yn gwbl ddiogel gan na fydd neb yn gwybod mai chi sydd yno.

Ceisiwch gyfathrebu â’r un sy’n cael ei fwlio i weld a yw’n iawn a gweld a yw eisiau help i wneud rhywbeth am y peth. Tynnwch lun a’i anfon at eich rhieni neu eich gofalwr. Weithiau mae’n haws dweud rhywbeth wrth eich rhiant dros neges destun na dweud wyneb yn wyneb.

Os wyt ti’n chwilio am gymorth neu wybodaeth, ond yn poeni am ddechrau sgwrs gydag oedolyn, dyma rai awgrymiadau.

  • Anti-Bullying Alliance – Cyngor os ydych chi’n cael eich bwlio
  • BullyingUK – i gael cyngor a chymorth ar ddelio â bwlio
  • Canllawiau apiau i deuluoedd- Casgliad o ganllawiau sy’n darparu gwybodaeth allweddol am yr apiau cyfryngau cymdeithasol a gemau mwyaf poblogaidd y mae plant a phobl ifanc yn eu defnyddio heddiw
  • Childline –  Llinell gymorth breifat a chyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc yn y DU lle gallwch chi siarad am unrhyw beth – ffoniwch 0800 1111
  • Meic – Llinell gymorth gyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc yng Nghymru gyda chynghorwyr i’ch helpu i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch – ffoniwch 080880 23456, anfonwch neges destun at 84001 neu sgwrsio ar-lein
  • Mind Cymru – Llinell gymorth a chyngor cyfrinachol am ddim i bobl sy'n profi problemau iechyd meddwl – ffoniwch 0300 123 3393
  • National Bullying Helpline – Llinell gymorth gwrth-fwlio i blant ac oedolion
  • Riportio Cynnwys Niweidiol – Canolfan adrodd genedlaethol sydd wedi’i dylunio i helpu unrhyw un i adrodd am gynnwys niweidiol ar-lein
  • YoungMinds – Cymorth Iechyd Meddwl i bobl ifanc

Ffilm Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel

Mae'r ffilm hon (Saesneg yn unig) gan ysgol gynradd Tregatwg yn cynnwys awgrymiadau da ar sut i ddelio â phobl negyddol ar-lein.