Bwlio ar-lein
Canllawiau a gwybodaeth i helpu i ddeall a rheoli bwlio ar-lein.
- Rhan o
Trosolwg
Mae bwlio ar-lein yn fwlio drwy dechnoleg neu wasanaethau neu blatfformau ar-lein, er enghraifft:
- gemau cyfrifiadurol
- y cyfryngau cymdeithasol
- AI
- gwasanaethau
Gall bwlio ar-lein gynnwys:
- ymddygiad bygythiol
- camdriniaeth
- aflonyddu
- cywilyddio
- cau allan
- dynwared
- difrod maleisus
- rhannu delweddau neu fideos heb gydsyniad (gan gynnwys y rhai sy'n cael eu cynhyrchu gan AI)
- gorfodaeth
Un o'r gwahaniaethau mwyaf rhwng bwlio ar-lein a bwlio wyneb yn wyneb yw y gall bwlio ar-lein fod yn anodd dianc oddi wrtho. Mae bwlio ar-lein hefyd yn unigryw oherwydd:
- mae'n gallu cyrraedd cynulleidfa helaeth mewn ychydig eiliadau
- mae ganddo'r potensial i ddenu nifer mawr o bobl
- mae'n hawdd 'ailadrodd', gyda sylwadau niweidiol a delweddau yn cael eu rhannu nifer o weithiau
- mae ganddo'r potensial i effeithio ar rywun unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos
- mae'n gallu cynnig rhywfaint o anhysbysrwydd i'r tramgwyddwyr, sydd hefyd yn cynnig cyfleoedd i bobl ffugio bod yn rhywun arall
Gall bwlio ar-lein hefyd fod yn estyniad o fwlio wyneb yn wyneb. Gall technoleg fod yn llwybr arall i aflonyddu ar unigolyn neu grŵp. Gall hefyd fod yn ffordd o ddial ar gyfer rhywun sy'n cael ei fwlio wyneb yn wyneb. Mae bwlio ar-lein yn gallu cael ei wneud gan:
- unigolion neu grwpiau sy'n hysbys i'r sawl sy'n cael ei fwlio
- pobl nad yw'r sawl sy'n cael ei fwlio erioed wedi eu cyfarfod
Gwahaniaethu rhwng bwlio ac ymddygiadau eraill
Mae elfennau amlwg yn gysylltiedig â bwlio. Gall y rhain fod yn wahanol i ddadl, ymladd neu gweryl rhwng ffrindiau a gallan nhw gynnwys:
- bwriad i achosi niwed drwy niweidio neu fychanu
- ysu unigolyn arall neu godi ofn arno
- ymddygiad ymosodol uniongyrchol
- ailadrodd ymddygiad negyddol neu weithredoedd ymosodol
Gallan nhw hefyd gynnwys gweithredoedd anuniongyrchol fel:
- lledaenu sïon
- datgelu gwybodaeth breifat am rywun
- rhannu delweddau personol iawn neu 'ffugiad dwfn'
Hefyd, gall bwlio gynnwys canfyddiad o anghydbwysedd grym, yn aml oherwydd:
- oedran
- cryfder corfforol
- poblogrwydd
- gwydnwch seicolegol
Mae'r rhain hefyd yn berthnasol i ymddygiad sy'n aml yn cael ei labelu yn jôc neu gellwair. Os bydd dau ffrind sydd â chanfyddiad o rym cyfartal yn cellweirio â’i gilydd yn aml, nid ystyrir hynny’n fwlio. Fodd bynnag, os bydd un person yn bychanu neu fygwth rhywun arall sydd heb rym i atal hynny ac y bydd y weithred honno yn codi ofn arno, mae hynny'n gyfystyr â bwlio.
Adnabod arwyddion bwlio ar-lein
Gall bwlio ar-lein gael effaith andwyol a pharhaol ar y person sy'n cael ei fwlio. Gall:
- effeithio ar eu hiechyd meddwl, eu lles a'u hunanhyder
- achosi unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol
Gall targed bwlio ymddwyn fel a ganlyn:
- troi'n swil
- ymddangos dan straen
- dod yn bryderus
- bod yn amharod i fynd i'r ysgol neu glybiau chwaraeon a chymdeithasol arferol
- cadw draw oddi wrth gyfoedion
- ymddangos yn bell ei feddwl
- peidio gwneud cystal yn yr ysgol neu'r coleg
- osgoi defnyddio technoleg
- colli hyder
Gall troseddwr ymddwyn fel a ganlyn:
- cau sgriniau pan fydd rhywun arall yn dod i mewn i'r ystafell
- defnyddio technoleg yn gyson
- ymddangos yn bryderus iawn os na all gael gafael ar dechnoleg
- osgoi siarad am yr hyn maen nhw'n ei wneud
- defnyddio mwy nag un cyfrif neu gyfrif ffug
Ble i gael help
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn cael trafferth gyda bwlio, mae gwybodaeth yn yr adrannau a ganlyn ynghylch beth i'w wneud a ble i gael help.
Cymorth i bobl ifanc
-
Problemau a phryderon ar-lein: bwlio ar-lein
Yn egluro beth i'w wneud os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn profi bwlio.
-
Hawliau, parch, cydraddoldeb: canllaw i bobl ifanc
Canllawiau i'ch helpu i fynd i'r afael â bwlio.
-
Bwlio: canllaw i blant
Yn egluro beth yw bwlio, sut i fynd i'r afael ag ef a ble i gael help.
-
Anti-bullying alliance (Saesneg yn unig)
Gwybodaeth am fwlio, gan gynnwys beth i'w wneud os ydych chi'n cael eich bwlio.
Cymorth i ysgolion
-
Adnoddau dysgu ac addysgu
Adnoddau i gefnogi gwersi yn yr ystafell ddosbarth am ddiogelwch ar-lein.
-
Hawliau, parch, cydraddoldeb: canllawiau ar gyfer ysgolion
Canllawiau i helpu ysgolion i fynd i'r afael â bwlio.
Cymorth i deuluoedd
-
Anti-bullying alliance (Saesneg yn unig)
Gwybodaeth i rieni a gofalwyr am fwlio.
-
Canllawiau ynghylch apiau i deuluoedd
Canllawiau ynghylch apiau poblogaidd y gall plant a phobl ifanc fod yn eu defnyddio.
Barn yr arbenigwyr
-
Cymhlethdodau bod yn ddinesydd digidol
Yn trafod cymhlethdodau tyfu i fyny mewn gofod lle mae technoleg ddigidol yn hollbresennol i blant a phobl ifanc.
-
Rheoli'ch ôl troed digidol a'ch enw da
Yn edrych ar sut i reoli eich ôl troed digidol a'ch enw da er budd eich cyflogaeth yn y dyfodol.
-
Riportio Cynnwys Niweidiol
Gwybodaeth am y ganolfan ar gyfer Rhoi Gwybod am Gynnwys Niweidiol, a'i rôl o ran darparu cyngor am bob math o niwed ar-lein.
-
Canllawiau i rieni a gofalwyr ar y cyfryngau cymdeithasol a gemau cyfrifiadurol
Yn darparu cyngor ar helpu pobl ifanc i reoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r cyfryngau cymdeithasol a chwarae gemau cyfrifiadurol.
-
Goblygiadau deallusrwydd artiffisial i blant a phobl ifanc
Yn trafod rhai o'r pryderon ynghylch AI a sut i helpu pobl ifanc i'w ddefnyddio mewn ffordd gyfrifol ac egwyddorol.
Help a chefnogaeth
-
Help a chefnogaeth
Sut i roi gwybod am gynnwys ar-lein niweidiol a chael mynediad at linellau cymorth a gwasanaethau cyfrinachol am ddim.