Dysgu ac addysgu
Yn cynnwys addysgeg, dysgu proffesiynol, cydweithio ac arloesi.
Trosolwg
Mae'n amlwg mai addysgu a dysgu da yw conglfaen ysgol effeithiol. Dylid eu hadolygu'n rheolaidd a dylid cynnig cyfleoedd i athrawon ystyried addysgeg, cael eu cefnogi drwy weithgarwch dysgu proffesiynol a datblygu dulliau arloesol o wella eu harferion.
Mae athro mewn rôl arwain ffurfiol yn atebol am addysgeg pobl eraill drwy greu a chynnal yr amodau i ddysgwyr wireddu'r pedwar diben a sicrhau'r deilliannau gorau iddynt o ran safonau, lles a chynnydd.
Ewch i wefan y Prosiect Addysgeg Cenedlaethol i gael rhagor o wybodaeth am addysgeg a chyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau proffesiynol.
Mae rhagor o wybodaeth am ddysgu ac addysgu i'w gweld yn yr adran Edrych ar Ddysgu ac Addysgu ar y wefan hon.
Mae'r cwestiynau trafod canlynol wedi'u trefnu yn y categorïau canlynol. Cliciwch ar y ddewislen bletiog isod i weld y cwestiynau trafod.
Addysgeg
-
I ba raddau y mae athrawon yn meithrin agweddau cadarnhaol at ddysgu a pha mor dda ydy dysgwyr yn ymateb?
I ba raddau y mae dysgwyr yn:
- datblygu mewn perthynas â'r egwyddorion cynnydd fel dysgwyr uchelgeisiol, galluog; dinasyddion egwyddorol a gwybodus; cyfranwyr mentrus a chreadigol; ac unigolion iach a hyderus?
- datblygu dyfnder ac ehangder eu gwybodaeth a sgiliau o fewn ac ar draws y meysydd dysgu?
- dyfnhau eu dealltwriaeth o'r syniadau a'r disgyblaethau o fewn y Meysydd?
- creu cysylltiadau a throsgwlyddo'r dysgu i gyd-destunau newydd?
- datblygu soffistigeidrwydd cynyddol yn eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol?
- deall a defnyddio'r Gymraeg?
- ymateb i ddisgwyliadau sy'n uchel ond o fewn eu cyrraedd gan athrawon?
- meithrin y sgiliau er mwyn myfyrio'n feirniadol ar eu gwaith eu hunain a dysgwyr eraill?
- adeiladu'n llwyddiannus ar yr hyn y maent wedi'i ddysgu wrth iddynt symud drwy'r ysgol neu o un ysgol i'r llall?
- meithrin perthnasau cadarnhaol gydag oedolion?
- Pa mor dda y mae athrawon yn dewis y dulliau addysgu mwyaf addas er mwyn helpu'r dysgwyr i wneud cynnydd?
Gallai'r dulliau hyn gynnwys addysgu uniongyrchol a rhai sy'n hyrwyddo sgiliau datrys problemau, sgiliau creadigol a sgiliau meddwl yn feirniadol.
Pecynnau cymorth ychwanegol:
360digi Cymru – dysgu digidol (angen mewngofnodi i Hwb)
360safe Cymru – cadernid digidol (angen mewngofnodi i Hwb)
-
Gallai'r dulliau hyn gynnwys addysgu uniongyrchol a rhai sy'n hyrwyddo sgiliau datrys problemau, sgiliau creadigol a sgiliau meddwl yn feirniadol.
I ba raddau ydy athrawon yn cipio cynnydd a lles dysgwyr?
I ba raddau y mae dysgwyr yn adeiladu'n llwyddiannus ar yr hyn y maent wedi'i ddysgu wrth iddynt symud drwy'r ysgol neu o un ysgol i'r llall?
I ba raddau y mae addysgu’n:
- galluogi'r dysgwyr i ddylanwadu ar yr hyn y maent yn ei ddysgu a sut?
- hyrwyddo agweddau cadarnhaol at ddysgu a disgwyliadau uchel ar gyfer pob dysgwr?
- paratoi'r dysgwyr ar gyfer pontio i gam nesaf eu haddysg/gyrfaoedd?
Dysgu proffesiynol, cydweithio ac arloesi
-
- I ba raddau y mae'r ysgol yn defnyddio gweithgarwch dysgu proffesiynol yn effeithiol i wella'r dysgu a'r cwricwlwm? Pa wahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i gynnydd a lles y dysgwyr?
- I ba raddau y mae'r ysgol yn sicrhau bod gweithgarwch dysgu proffesiynol yr athrawon yn helpu i wireddu pedwar diben y cwricwlwm ar gyfer y dysgwyr?
- I ba raddau y mae'r athrawon yn ymgymryd â gwaith ymchwil er mwyn helpu i wneud gwelliannau?
- I ba raddau y mae'r athrawon yn cyfrannu at ddysgu proffesiynol y staff yn yr ysgol a thu hwnt?
- I ba raddau y mae'r ysgol yn defnyddio arloesedd yn effeithiol i wella'r dysgu a'r cwricwlwm? Pa wahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i gynnydd a lles y dysgwyr?I ba raddau y mae'r ysgol yn cydweithio'n effeithiol er mwyn gwella'r addysgu a'r cwricwlwm? Pa wahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i gynnydd a lles y dysgwyr?
Cyfeiriwch at y tudalennau cynllunio eich cwricwlwm ar Hwb am fanylion pellach.