English
  • pennu gweledigaeth (arweinyddiaeth ym maes dysgu a rheoli newid)
  • dylunio, cynllunio a threialu (dylunio profiadau dysgu a'u rhoi ar waith)
  • gweithredu a gwerthuso (dysgu o'r system ehangach a gwaith ymholi pellach) (ar gael cyn bo hir)
  • I ba raddau y mae'r ysgol yn gwneud y canlynol yn effeithiol:

    • datblygu gweledigaeth glir ar gyfer y gwahaniaeth y bydd y cwricwlwm yn ei wneud i'w dysgwyr a'u cynnydd?
    • pennu gweledigaeth ar gyfer ei chwricwlwm? (Sut beth ydyw? Gofynion/cyd-destun dilys)
    • datblygu gweledigaeth ar gyfer yr addysgeg a ddefnyddir i gyflwyno ei chwricwlwm? (Sut y byddwn yn ei addysgu? Egwyddorion addysgegol)
    • datblygu gweledigaeth ar gyfer caffael/datblygu/trefnu/defnyddio adnoddau i gyflwyno ei chwricwlwm? (Beth sydd ei angen arnom i'w addysgu?)
    • sefydlu'r diwylliant a'r amodau cywir ar gyfer newid?
    • adnabod rhwystrau rhag newid, mynd i'r afael â nhw a'u goresgyn?
    • hyrwyddo arloesedd i gefnogi newid?
    • defnyddio cyfraniadau'r gymuned a phartneriaid eraill (e.e. ysgolion) i ddatblygu ei gweledigaeth ar gyfer dysgu, addysgu a'r cwricwlwm?
    • nodi a chynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol er mwyn helpu i wireddu ei gweledigaeth?
  • I ba raddau y mae'r ffordd rydym yn cynllunio ac yn cyflwyno'r cwricwlwm yn gwneud y canlynol:

    • helpu'r dysgwyr i wireddu'r pedwar diben trw'r egwyddorion cynnydd. Pa mor dda ydy'r dysgwyr yn datblygu'r sgiliau hanfodol sy'n sail iddynt?
    • cynnig profiadau dysgu eang a chytbwys?
    • ennyn diddordeb y dysgwyr a diwallu eu hanghenion o ran eu hoedran, eu gallu, eu doniau a'u diddordebau?
    • meithrin agweddau cadarnhaol at ddysgu a lles?
    • galluogi pob dysgwr i wneud cynnydd priodol ar hyd y continwwm dysgu mewn perthynas â'r egwyddorion cynnydd?
    • gwneud cysylltiadau a throsglwyddo eu dysgu rhwng gwahanol feysydd dysgu a phrofiad?
    • cynnwys cyfleoedd i gymhwyso sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol?
    • helpu i ddatblygu sgiliau arbenigol a gwybodaeth bynciol benodol?
    • cynnwys dulliau cipio cynnydd dysgwyr?
    • defnyddio llais y dysgwr ac ymateb i anghenion, profiadau a mewnbwn y dysgwyr?
    • helpu i ddatblygu ymdeimlad y dysgwyr o hunaniaeth yn eu hardal leol, yng Nghymru ac yn y byd?
    • sicrhau tegwch a hygyrchedd i bawb?

    I ba raddau y mae'r ysgol yn gwneud y canlynol yn effeithiol:

    • defnyddio tystiolaeth o lygad y ffynnon i nodi cryfderau, rhwystrau rhag newid a meysydd i'w datblygu ymhellach a ddaw i'r amlwg mewn perthynas â'i chwricwlwm?
    • defnyddio tystiolaeth o lygad y ffynnon i nodi cryfderau, rhwystrau rhag newid a meysydd i'w datblygu ymhellach a ddaw i'r amlwg mewn perthynas ag addysgeg er mwyn helpu i gyflwyno'r cwricwlwm?
    • defnyddio tystiolaeth o lygad y ffynnon i nodi cryfderau, rhwystrau rhag newid a meysydd i'w datblygu ymhellach a ddaw i'r amlwg mewn perthynas â chynnydd y dysgwyr?
    • defnyddio tystiolaeth o lygad y ffynnon i lywio newidiadau i'r cwricwlwm, yr addysgu a'r dysgu?
    • helpu i wella'r cwricwlwm, yr addysgu a'r dysgu drwy ddysgu proffesiynol, cydweithio ac arloesi?

Mae'r adnoddau canlynol, a luniwyd fel rhan o'r daith dysgu proffesiynol, yn cynnig astudiaethau achos enghreifftiol o ysgolion sydd wedi rheoli newid fel rhan o'r gwaith o ddatblygu dulliau gweithredu ar gyfer y cwricwlwm newydd.