English

Mae’r wybodaeth hon yn BETA ac eto i’w chwblhau’n derfynol. Bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Ymrwymiadau Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygu’r Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol yn rheolaidd. Bydd adolygiadau mynych yn sicrhau bod amcanion a gweithgareddau’r Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol a rhaglen Hwb yn cyd-fynd â’r gofynion datblygu digidol parhaus mewn ysgolion. Yn benodol, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i:

  • sicrhau cynnal a chadw parhaus ar y Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol ac adnewyddu cynnwys cysylltiedig
  • datblygu adnoddau parhaus i gefnogi ysgolion gyda’r gorchwyl o weithredu’r Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol
  • hyrwyddo datblygiadau parhaus a rhoi gwybod amdanynt
  • gweithio gyda chonsortia rhanbarthol i sicrhau cefnogaeth barhaus i’r rhaglen
  • parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid ac adolygu effaith y Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol yn rheolaidd

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymrwymo i gefnogi awdurdodau lleol yn unigol ac ar y cyd yn unol ag amcanion strategol rhaglen Hwb. Yn benodol, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i:

  • ddatblygu a gweithredu dull strategol a chynaliadwy o ymgorffori gwasanaethau digidol ym mhob ysgol a gynhelir yng Nghymru
  • sicrhau bod seilwaith cenedlaethol addas ar waith i gefnogi anghenion ysgolion yn gyson wrth gyrchu a defnyddio gwasanaethau digidol
  • cefnogi trawsnewid addysg yn ddigidol drwy ddarparu gwasanaethau digidol dwyieithog
  • parhau i gefnogi ysgolion i ddiogelu dysgwyr yng Nghymru
  • cefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion i wella gallu a sgiliau digidol

Ymrwymiadau’r consortia rhanbarthol

Mae gan y consortia rhanbarthol rôl allweddol wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau llwyddiant y Daith Ddysgu Proffesiynol Ddigidol. Yn benodol, mae’r consortia rhanbarthol yn ymrwymo i:

  • ddarparu rhaglenni dysgu a chymorth proffesiynol sy’n ymwneud â dysgu digidol mewn ysgolion
  • curadu, datblygu a rhannu adnoddau enghreifftiol ac arferion gorau ar arweinyddiaeth ddigidol, dysgu digidol a gweithredu cymhwsyedd digidol
  • hwyluso cydweithio a rhwydweithio rhwng ysgolion i rannu arferion gorau

Ymrwymiadau awdurdod lleol

Mae’r awdurdod lleol wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru yn unol â’r cyfrifoldebau am raglen newid technoleg addysg yn lleol. Yn benodol, mae’r awdurdod lleol yn ymrwymo i:

  • weithredu fel Partner Cyflawni Digidol Strategol ar gyfer pob ysgol a gynhelir yn eu hardal;
  • darparu arweinydd enwebedig a thîm/swyddogaeth ymroddedig i symleiddio modelau cymorth technoleg addysg ysgolion a darparu swyddogaeth cwsmeriaid deallus ganolog i gynorthwyo penaethiaid i ddeall a gweithredu eu gofynion TGCh
  • hyrwyddo rhaglen Hwb a sicrhau bod y deilliannau allweddol yn cael eu cefnogi o fewn yr awdurdod lleol ac ar draws ysgolion a gynhelir
  • darparu cyfrifoldeb rheoli am ddarparu gwasanaethau a mentrau Hwb fel yr amlinellir yn y trosolwg strategol o raglen Hwb
  • hwyluso’r broses o gaffael cyfarpar TGCh er mwyn sicrhau bod y cyfarpar yn addas i’r diben, yn darparu gwerth am arian ac yn sicrhau pryniant drwy lwybr sy’n cydymffurfio (cefnogi’r egwyddor Unwaith i Gymru)
  • cynnal adolygiadau strategol rheolaidd o ysgolion i bwysleisio pwysigrwydd TGCh fel y pedwerydd cyfleustod a sicrhau bod cynaliadwyedd cyfarpar a gwasanaethau yn cael ei gynllunio a’i reoli’n strategol mewn ysgolion

Ymrwymiadau ysgolion

Mae cyrff arwain a llywodraethu ysgolion yn gyfrifol am:

  • sefydlu a gwireddu gweledigaeth ar gyfer dysgu digidol drwy gynllun datblygu’r ysgol (gan gynnwys cymhwysedd staff a dysgwyr) ac sy’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm i Gymru
  • sicrhau bod strwythurau priodol ar waith ar gyfer arweinyddiaeth ddigidol effeithiol
  • datblygu cymhwysedd digidol o fewn trefniadau cwricwlwm yr ysgol
  • datblygu’r defnydd o dechnoleg i wella dysgu ac addysgu
  • adolygu arferion presennol a bwydo deilliannau i flaengynllunio
  • ymgysylltu â grwpiau llywodraethu technoleg addysg awdurdodau lleol i gefnogi cyfeiriad seilwaith a gwasanaethau technoleg addysg yn y dyfodol
  • ymgysylltu â chonsortia rhanbarthol i sicrhau bod cyfleoedd cwricwlwm digidol priodol yn cael eu darparu, wedi’u llywio gan eu gwaith blaengynllunio
  • sicrhau cyfleoedd dysgu proffesiynol digidol i bob ymarferydd
  • ymgysylltu â chyfleoedd cydweithio i ddatblygu arbenigedd a rhannu ymarfer enghreifftiol (e.e. drwy blatfform Hwb).