ASTUDIAETH ACHOS Ysgolion yng Nghymru fel sefydliadau sy’n dysgu: gwreiddio systemau i gasglu a chyfnewid gwybodaeth
Sut aeth athrawon Ysgol Gyfun Dŵr y Felin ati i rannu gwybodaeth am ddysgu.
Cyd-destun a chefndir
Mae Ysgol Gyfun Dŵr y Felin yn ysgol gyfun cyfrwng Saesneg i fechgyn a merched rhwng 11 oed ac 16 oed yng Nghastell-nedd Port Talbot. Ar hyn o bryd, mae 1,134 o ddysgwyr ar y gofrestr.
Daw'r dysgwyr o ardal sy'n cynnwys Castell-nedd a'r cyffiniau. Symudodd yr ysgol i un safle yn 2012. Mae ychydig mwy na 14 y cant o'r dysgwyr yn byw yn yr 20 y cant o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae ychydig mwy na 17 y cant o’r dysgwyr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy’n cyfateb i'r cyfartaledd ar gyfer Cymru, sef 17.4 y cant. Mae gan 25.8 y cant o'r dysgwyr anghenion addysgol arbennig, sy'n cyfateb i'r cyfartaledd cenedlaethol o 25.1 y cant. Mae gan oddeutu 1 y cant o'r dysgwyr ddatganiad anghenion addysgol arbennig, sy'n is na'r cyfartaledd cenedlaethol o 2.5 y cant.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Mae uwch arweinwyr o fewn yr ysgol wedi arwain ar lawer o feysydd gwella o'r blaen. Roedd yr arweinwyr am fabwysiadu dull o fynd i’r afael a gwelliant yn yr ysgol sy'n cael ei arwain gan gydweithredu rhwng athrawon. Fel ysgol arloesi ar gyfer dysgu proffesiynol, mae'r ysgol yn awyddus i ddatblygu cyfleoedd i staff feithrin dealltwriaeth o egwyddorion addysgeg trwy gydweithio a rhannu.
Er mwyn meithrin diwylliant dysgu proffesiynol rhagweithiol, penodwyd 'cydgysylltydd dysgu ac addysgu’ sydd â'r gwaith o ddatblygu addysgeg ar draws yr ysgol. Yn dilyn hyn, cyflwynwyd 'grŵp rhwydwaith dysgu athrawon', o dan arweiniad y cydgysylltydd.
Bu'r Grŵp Rhwydwaith Dysgu Athrawon yn cyfarfod bob mis i roi cyfle i'r staff rannu gwybodaeth am addysgeg ac adnoddau addysgu yn unol ag addysgeg dymhorol yr ysgol. Creodd y grŵp adnoddau a'u profi, a rhoddwyd y rhain ar waith ar lefel yr ysgol gyfan. Er enghraifft, aeth aelodau’r grŵp ati i greu, trafod, profi a golygu adnoddau marcio ac adnoddau rhoi adborth yr ysgol ar y cyd. Roedd hyn yn rhoi llais pwysig i arbenigedd staff ac yn gyfle i gael mynediad at y theori berthnasol y tu ôl i ddewisiadau ar lefel ysgol gyfan. Canolbwyntiodd y grŵp ar gyflawni blaenoriaethau’r ysgol, megis codi lefelau cyrhaeddiad y dysgwyr mwy abl, drwy edrych ar y ffordd y maent yn cynllunio cwestiynu, asesu ar gyfer dysgu a gwaith grŵp yn effeithiol.
Drwy'r prosesau a'r cylch hunanasesu blynyddol, mae modd i staff nodi meysydd o arfer da o fewn y dysgu a’r addysgu a’r addysgeg y mae angen eu rhannu neu eu datblygu ar draws yr ysgol. Y nod cyffredinol yw codi safonau yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4.
Pa effaith y mae'r gwaith hwn wedi'i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae'r ‘Grŵp Rhwydweithio Athrawon’ wedi cael effaith glir ar safon y dysgu a’r addysgu ar draws yr ysgol. Rhwng 2015/2016 a 2016/2017 mae ansawdd a chysondeb yr addysgu yn yr ysgol wedi gwella.
Mae llawer o'r staff wedi cael eu hannog i greu adnoddau eu hunain yn ymwneud â phwnc benodol gan ddefnyddio templedi adnoddau, a does dim dwywaith bod y diwylliant o gydweithio wedi cael ei feithrin. Mae nifer o'r adnoddau wedi cael eu rhannu ac mae dull cyffredin o addysgu wedi ennill ei blwyf bellach ar draws yr ysgol. Mae hyn wedi rhoi gwell cysondeb i'r profiad dysgu i ddysgwyr ac wedi helpu i gynyddu'r sgiliau a gaiff eu trosglwyddo ar draws y cwricwlwm.
Y camau nesaf
Bydd ffocws dysgu ac addysgu'r ysgol gyfan yn cael ei strwythuro mewn modd sy'n bodloni'r pedwar nod a ganlyn:
- meddylfryd a grym ymdrech: cefnogi’r ffocws ar ddysgwyr mwy abl yn ein cynllun datblygu ysgol. Bydd athrawon yn anelu at ddarparu gweithgareddau cyfoethogi sy'n ysgogi ac yn rhoi dyfnder a lled i'r dysgu ee addysgu eraill, trafod materion a throsglwyddo syniadau i ffurfiau newydd megis diagramau, modelau a chrynodebau
- meddwl dyfnach: beirniadol a chreadigol
- dysgu annibynnol: mae angen arweiniad ar ddysgwyr o hyd ond rhaid iddynt gael perchnogaeth o'r dysgu
- dysgu ystyrlon a dilys.
Bydd grwpiau rhwydwaith athrawon yn gysylltiedig â’r meysydd datblygu a byddant yn rhoi cyfle i'r holl staff wneud ymchwil gweithredu a dysgu proffesiynol mewn awyrgylch gydweithredol a chefnogol. Mae amser wedi cael ei neilltuo yn y calendr oriau cyfeiriedig ychwanegol ac mae'r rhaglen HMS wedi cael ei datblygu i hwyluso hyn mewn ffordd effeithiol sy'n hawdd ei reoli.
- Rhan o:
- Cyhoeddwyd gyntaf:
- Diweddarwyd ddiwethaf: