English

1. Cyflwyniad

Mae Academi Seren yn rhaglen a ariennir yn llawn i gefnogi dyheadau ac uchelgeisiau'r dysgwyr mwyaf galluog, gan helpu i ehangu eu gorwelion, datblygu angerdd am eu maes astudio dewisol, a chyrraedd eu potensial academaidd. Mae Academi Seren ar gael i ddysgwyr blynyddoedd 8 i 13 o ysgolion y wladwriaeth a cholegau addysg bellach ledled Cymru sydd wedi cael eu nodi gan eu sefydliad fel un sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd.

Ein gweledigaeth yw i ddysgwyr Seren, waeth beth fo'u cefndir economaidd-gymdeithasol, gael yr uchelgais, y gallu a'r chwilfrydedd i gyflawni eu potensial a rhagori yn nodau addysgol y dyfodol ar y lefel uchaf.

Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn cefnogi dysgwyr Seren wrth iddynt geisio rhagori drwy dri cam strategol:

  • Tanio chwilfrydedd a chymhelliant dysgwyr ar gyfer eu dysgu.
  • Grymuso dysgwyr i wneud dewisiadau uchelgeisiol, gwybodus am eu llwybr addysgol yn y dyfodol.
  • Datblygu gallu dysgwyr i gyrraedd eu potensial a llwyddo mewn prifysgolion blaenllaw.

Gwerthoedd: Yn sail i'n hamcanion mae 4 gwerth a hyrwyddir ledled Academi Seren:

  1. Hyrwyddo tegwch cyfle, mynediad teg, a darpariaeth yn Seren gydag anghenion y dysgwr wrth wraidd
  2. Hyrwyddo agwedd fyd-eang, gan ddathlu uchelgais, cyflawniad a llwyddiant pobl ifanc yng Nghymru ar lwyfan y byd.
  3. Hyrwyddo cydweithio ar draws haenau ein system addysg, adrannau'r llywodraeth a diwydiant.
  4. Hyrwyddo gwelliant parhaus o Academi Seren trwy fonitro a gwerthuso, wedi'i ategu gan arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth a weithredir yn drylwyr.