English

4. Disgrifiadau dysgu

Mae’r disgrifiadau dysgu yn rhoi canllawiau ar sut y dylai dysgwyr wneud cynnydd o fewn pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig ar eu taith ar hyd y continwwm Dysgu. Dysgu mwy am y disgrifiadau Dysgu.

Mae archwilio’r byd o’n cwmpas yng Nghamau cynnydd 1 a 2 yn darparu sylfaen ar gyfer dysgu ar draws datganiadau am yr hyn sy’n bwysig mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Felly, mae rhai disgrifiadau  dysgu yn y camau cynnydd sylfaenol hyn yn cael eu dyblygu ar draws rhai datganiadau yr hyn sy’n bwysig, lle bo hynny’n uniongyrchol berthnasol, er mwyn cefnogi cynllunio ar gyfer cynnydd dysgu yn well.