English

3. Egwyddorion cynnydd

Cwricwlwm

Mandadol

Effeithiolrwydd cynyddol fel dysgwr

Mae datrys problemau a dylunio yn tueddu i fod yn iteraidd; daw meithrin hunaneffeithiolrwydd a gwydnwch sy'n gysylltiedig â sgiliau yn bwysig er mwyn galluogi dull 'treialu a gwella'. Drwy hyn, mae dysgwyr yn datblygu eu defnydd o sgiliau, yn ogystal â gwydnwch gan eu bod yn deall manteision methiant yn y Maes hwn i ddarganfod ffyrdd newydd o wneud pethau. Dros amser, ceir annibyniaeth gynyddol wrth ddysgu, gan gynnwys rhyngddibyniaeth mewn dysgu drwy grwp cyfoedion. Dylai dysgwyr feithrin ymwybyddiaeth o'u dealltwriaeth gynyddol soffistigedig a'r gallu i reoleiddio eu meddwl eu hunain.

Ehangder a dyfnder gwybodaeth cynyddol

Caiff cynnydd ym Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg (Maes) ei ddangos wrth i ddysgwyr archwilio a phrofi syniadau a chysyniadau cynyddol gymhleth sy'n rhan o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig. Mae gwybodaeth yn symud, drwy archwilio, o ddealltwriaeth bersonol o'r byd i safbwynt haniaethol sy'n galluogi'r dysgwr i gysyniadu a chyfiawnhau ei ddealltwriaeth. Yn hytrach na bod yn llinol, mae cynnydd dysgu yn gylchol, gyda dysgwyr yn ailystyried eu gwybodaeth bresennol, yn ei chysylltu â'r hyn y maen nhw newydd ei ddysgu, ac yn addasu sgemâu yn sgil darganfyddiadau newydd.

Dyfnhau'r ddealltwriaeth o'r syniadau a'r disgyblaethau yn y meysydd dysgu a phrofiad (Maes/Meysydd)

Mae cynnydd yn y Maes hwn yn cynnwys datblygu dealltwriaeth ddofn o'r dysgu a fynegir yn yr holl ddatganiadau o'r hyn sy'n bwysig o fewn y Maes a'r perthnasoedd a'r cysylltiadau cymhleth sy'n bodoli rhyngddynt. Gellir cymhwyso sgiliau ymchwilio a gwybodaeth disgyblaeth benodol sy'n cael eu meithrin yng nghyd-destun un datganiad o'r hyn sy'n bwysig mewn rhai eraill. Gall dulliau iteraidd o ddatrys problemau mewn cyfrifiadureg a dylunio a thechnoleg hefyd fod o fudd i bob gwyddoniaeth. Caiff dysgu yn y cyfnod cynnar ei nodweddu gan ddull holistaidd o ofyn cwestiynau ac archwilio'r byd o gwmpas y dysgwr, gan arbenigo'n gynyddol yn ystod cyfnodau diweddarach.

Mireinio a soffistigeiddrwydd cynyddol wrth ddefnyddio a chymhwyso sgiliau

Mae ymchwilio, archwilio, dadansoddi, datrys problemau, a dylunio yn sgiliau allweddol sydd eu hangen wrth i ddysgwyr weithio ar hyd continwwm dysgu y Maes hwn. Wrth i ddysgwr wneud cynnydd, mae'n cymhwyso dysgu blaenorol yn y Maes, archwilio ac yn ymchwilio i broblemau ac yn ffurfio atebion creadigol canlyniadol mewn ffordd gynyddol soffistigedig. Mae coethder a chywirdeb cynyddol yn yr hyn y mae dysgwyr yn gallu ei wneud a'i gynhyrchu yn yr amgylcheddau ffisegol a digidol.

Creu cysylltiadau a throsglwyddo'r dysgu i gyd-destunau newydd

Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd ar hyd y continwwm, byddan nhw’n gallu nodi cysylltiadau cynyddol rhwng dysgu presennol a phrofiadau eraill a gwybodaeth arall a gafwyd yn y Maes hwn a'r tu hwnt. Bydd hyn yn cynnwys creu cysylltiadau â gwybodaeth a phrofiadau o'r tu hwnt i amgylchedd yr ysgol. Mae problemau ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg yn ymwneud â phenblethau moesegol neu foesol a bydd dealltwriaeth gynyddol o'r ffordd yr ymdrinnir neu y dylid ymdrin â'r penblethau hyn yn dangos cynnydd. Bydd dysgwyr yn datblygu'r gallu i gymhwyso eu dysgu ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg er mwyn llywio'r ffordd y maen nhw’n meddwl ac yn gweithredu y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.

  • Blaenorol

    Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig

  • Nesaf

    Disgrifiadau dysgu