English

Trosolwg

Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'r ffordd rydym yn nodi cynnydd dysgwyr yn adroddiadau asesiadau personol. Mae hyn yn ei gwneud yn haws deall cynnydd o dan Cwricwlwm i Gymru.

Rydym wedi ymgorffori 'amser dysgu' yn y sgoriau cynnydd a’r sgoriau safonedig ar sail oedran. Byddwn nawr yn dangos cynnydd dysgwyr drwy gydol pob blwyddyn ysgol, yn ogystal â rhwng un flwyddyn ysgol a’r llall.

Rydym hefyd wedi ailsafoni ym mhob pwnc sy’n destun asesiad personol. Rydym wedi ailwerthuso sut mae'r garfan genedlaethol yn perfformio ar sail y data diweddaraf.

Mae hyn yn golygu y byddwch yn gweld rhai newidiadau yn adroddiadau asesiadau o fis Medi 2023. Ni fydd hyn yn effeithio ar asesiadau a wneir hyd at ddiwedd blwyddyn ysgol 2022 i 2023.

Yr wybodaeth fanwl am sgiliau dysgwyr ddylai barhau i fod yn brif ffocws wrth ichi gynllunio ar gyfer cynnydd dysgwyr. Ni ddylid defnyddio sgoriau cynnydd a sgoriau safonedig ar sail oedran heb gyd-destun.

Newidiadau o fis Medi 2023

O fis Medi 2023, bydd sgoriau cynnydd a sgoriau safonedig ar sail oedran yn ystyried 'amser dysgu’. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws deall cynnydd o dan Cwricwlwm i Gymru. Mae’n golygu bod sgoriau dysgwyr yn cael eu haddasu yn ôl:

  • dyddiad cwblhau asesiad
  • y datblygiad a welwyd yn ystod y flwyddyn ysgol

Rydym wedi ailsafoni'r asesiadau personol. Mae hyn yn golygu bod y garfan gyfeirio a ddefnyddir i gyfrifo'r sgoriau cynnydd a’r sgoriau safonedig ar sail oedran wedi cael ei diweddaru.

Byddwn yn defnyddio carfan ddysgwyr 2022 i 2023 fel y garfan gyfeirio newydd o hyn ymlaen. O fis Medi 2023 cyfrifir sgoriau asesiadau yn unol â'r ailsafoni.

Rydym wedi diweddaru'r cromliniau cynnydd mewn adroddiadau i adlewyrchu'r ailsafoni. Mae'r newidiadau hyn yn berthnasol i bob asesiad a wneir o fis Medi 2023.

Manteision y newidiadau i ysgolion a dysgwyr

Bydd cynnwys amser dysgu a'r ailsafoni:

  • yn rhoi'r wybodaeth fwyaf dibynadwy a chyfredol i ysgolion i’w helpu i gynllunio cynnydd dysgwyr
  • yn ei gwneud yn haws nodi p’un a yw dysgwyr yn gwneud cynnydd cyson
  • yn ei gwneud yn haws i ymarferwyr gymharu cynnydd dysgwyr sy'n gwneud asesiadau ar wahanol adegau o'r flwyddyn
  • yn darparu cromliniau cynnydd sy'n adlewyrchu'r data diweddaraf sydd ar gael
  • yn sicrhau dosbarthiad gwell o sgoriau cynnydd a sgoriau safonedig ar sail oedran mewn adroddiadau grŵp. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i athrawon wahaniaethu rhwng cyrhaeddiad un unigolyn a’r llall
  • yn dilyn arferion gorau rhyngwladol o ran asesu, sef diweddaru carfanau cyfeirio yn rheolaidd i adlewyrchu'r newid yn nosbarthiad cyrhaeddiad dysgwyr dros amser
  • yn alinio pob pwnc sy’n destun asesiad, gan ddefnyddio'r un garfan gyfeirio (roedd ein carfanau cyfeirio blaenorol yn gymysgedd o’r cyfnod cyn COVID/ar ôl COVID)

Cyflwynwyd yr asesiadau personol yn raddol dros gyfnod o 4 blynedd. Cynhyrchwyd y sgoriau cynnydd a’r sgoriau safonedig ar sail oedran ar gyfer pob pwnc:

  • yn seiliedig ar wahanol garfanau
  • ar wahanol adegau

Gwnaed y gwaith safoni ar gyfer Rhifedd (Gweithdrefnol) yn 2019 cyn pandemig COVID. Ar gyfer gwaith safoni Darllen a Rhifedd (Rhesymu), defnyddiwyd data ôl-COVID o flwyddyn ysgol 2020 i 2021. Mae'n debygol bod y lefelau cyrhaeddiad cenedlaethol wedi newid ym mhob pwnc ers y broses safoni flaenorol. Mae'r ailsafoni yn gyfle i ystyried y newidiadau hyn. Bydd yn darparu'r darlun mwyaf cywir ar gyfer pob un o'r pedwar pwnc.

Bydd dysgwyr yn derbyn sgoriau cynnydd a sgoriau safonedig ar sail oedran yn sgil y gwaith ailsafoni, ar sail dosbarthiad sgoriau dysgwyr ledled Cymru yn y flwyddyn gyfeirio newydd. Rydym wedi newid siapiau'r cromliniau cynnydd yn adroddiadau pob pwnc i ddangos dosbarthiad cyrhaeddiad yn y flwyddyn gyfeirio newydd, a datblygiad arferol dysgwyr yn ystod blwyddyn ysgol.

Bydd sgoriau cynnydd a sgoriau safonedig ar sail oedran nawr yn ystyried amser dysgu, sy’n golygu:

  • mae dysgwyr sy'n cynnal yr un sgoriau yn eu hasesiadau dros amser, neu sy’n cael sgoriau tebyg, yn gwneud cynnydd cyson
  • mae angen i ddysgwyr ddangos cyrhaeddiad uwch mewn termau absoliwt yn ddiweddarach yn y flwyddyn ysgol er mwyn cael yr un sgôr ag a gawsant yn gynharach yn y flwyddyn
  • bydd y pwyntiau ar gyfer pob asesiad blaenorol a newydd yn cael eu dangos ar bob siart cynnydd newydd

Adroddiadau hyd at ac yn cynnwys 2022 i 2023

Bydd data hanesyddol hyd at ac yn cynnwys blwyddyn ysgol 2022 i 2023 yn aros yr un fath.

Ni wneir unrhyw newidiadau i sgoriau asesiadau a wnaed eisoes. Byddant yn parhau i fod wedi’u plotio ar bob adroddiad cynnydd unigol a grŵp.

O fis Medi 2023, bydd siâp y gromlin gynnydd yn seiliedig ar y broses safoni newydd. Mae’n bosibl, felly, y bydd safle'r pwyntiau asesu ar y siart yn ymddangos ychydig yn wahanol i’w safle mewn adroddiadau blaenorol.

Yn ystod y flwyddyn bontio hon, byddwn yn cynnwys 'amser dysgu' am y tro cyntaf. Mewn asesiadau lle mae'r dysgwr yn dangos cyrhaeddiad tebyg:

  • bydd y rhai a wneir yn gynnar ym mlwyddyn ysgol 2023 i 2024 yn tueddu i arwain at sgoriau uwch, o gymharu â hydref 2022
  • bydd asesiadau a wneir yn ddiweddarach yn y flwyddyn ysgol yn tueddu i arwain at sgoriau is nag y mae’r defnyddwyr yn ei ddisgwyl, o gymharu â haf 2023

Wrth gymharu cyrhaeddiad ac adroddiadau, mae'n bwysig cofio, o fis Medi 2023 ymlaen:

  • bod sgoriau safonedig ar sail cynnydd ac oedran yn ystyried 'amser dysgu’
  • bod y cromliniau cynnydd yn siart adroddiad cynnydd dysgwyr a chynnydd grŵp wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r data diweddaraf

Wrth gymharu'r cromliniau hyn â chromliniau adroddiadau blynyddoedd blaenorol, fe welwch y bydd cromlin eleni:

  • ychydig yn uwch ar ddechrau'r flwyddyn
  • ychydig yn is ar ddiwedd y flwyddyn

Bydd hyn yn cynrychioli'r data cynnydd diweddaraf.

Rhestr dermau

Safoni

Safoni yw'r broses o gyfrifo sgoriau cynnydd a sgoriau safonedig ar sail oedran. Mae'r sgoriau hyn yn gyfeirbwynt hawdd o ran sut mae cyrhaeddiad dysgwyr yn cymharu ag eraill yn eu carfan. Er enghraifft, mae dysgwyr sydd â sgoriau cynnydd o 1000 wedi dangos lefel gyrhaeddiad sydd ar y cyfartaledd cenedlaethol.

Rydym yn cymharu cyrhaeddiad dysgwyr â chyrhaeddiad y 'garfan gyfeirio' pan gynhaliwyd y broses safoni. O fis Medi 2023, bydd y garfan gyfeirio ar gyfer pob pwnc yn cynnwys dysgwyr a wnaeth yr asesiadau ym mlwyddyn ysgol 2022 i 2023.

Dros amser, mae dosbarthiad cyrhaeddiad dysgwyr mewn unrhyw asesiad yn newid. Mae’n arfer da ailsafoni asesiadau bob ychydig flynyddoedd. Mae hyn yn sicrhau bod sgoriau yn parhau i adlewyrchu'n gywir sur mae dysgwr yn cymharu â gweddill ei garfan.

Mae ailsafoni yn ailwerthuso lefel cyrhaeddiad pob sgôr safonedig ar sail cynnydd ac oedran. Mae'n ailasesu cyrhaeddiad y dysgwr cyffredin (a dysgwyr ar bob lefel arall).

Rydym yn cyfrifo'r sgôr cynnydd drwy gymharu canlyniad dysgwr â chanlyniadau dysgwyr eraill yn ei grŵp blwyddyn ledled Cymru. 950 i 1050 yw'r ystod sgoriau, a 1000 yw'r cyfartaledd. Darperir y sgôr hon ar waelod pob adroddiad grŵp sydd ar gael i ysgolion.

Fe'i defnyddir i olrhain cynnydd ar gromlin y siart ar adroddiadau cynnydd dysgwr unigol a grŵp.

Caiff y sgôr safonedig ar sail oedran ei chyfrifo drwy gymharu sgôr asesiad dysgwr â sgoriau disgyblion eraill yng Nghymru a anwyd yn yr un mis a'r un flwyddyn. 70 i 130 yw'r ystod sgoriau, a 100 yw'r cyfartaledd. Dangosir y sgôr safonedig ar sail oedran, a nodir yn asesiad diweddaraf y dysgwr, ar ei adroddiad cynnydd.

Mae amser dysgu yn cyfeirio at yr adeg yn y flwyddyn ysgol pan fydd dysgwr yn cwblhau asesiad.  Mae'n caniatáu ar gyfer y cynnydd y mae dysgwr yn ei wneud o fewn y flwyddyn yn ogystal â rhwng un flwyddyn a’r llall.

Fel rheol, ni fyddai dysgwyr sy'n gwneud asesiad yn gynnar yn y flwyddyn ysgol yn gwneud cystal â phe baent yn gwneud asesiad tuag at ddiwedd y flwyddyn ysgol. Y rheswm am hyn yw ei fod wedi manteisio o flwyddyn ychwanegol o ddysgu.

O dan y dull newydd, bydd y sgôr cynnydd a’r sgôr safonedig ar sail oedran yn ystyried amser dysgu. Mae hyn yn golygu bod sgôr dysgwyr yn cael ei haddasu yn ôl:

  • dyddiad cwblhau asesiad
  • y datblygiad a welwyd o fewn y garfan gyfeirio yn ystod y flwyddyn ysgol

Mae'r sgoriau wedi cael eu diweddaru i ystyried amser dysgu er mwyn:

  • ei gwneud yn haws deall cynnydd o dan Cwricwlwm i Gymru
  • darparu gwell gwybodaeth i ysgolion i gefnogi cynnydd dysgwyr a’i gwneud yn haws gweld p’un a yw dysgwyr yn gwneud cynnydd cyson
  • ei gwneud yn haws i athrawon gymharu cynnydd dysgwyr sy'n gwneud asesiadau ar wahanol adegau o'r flwyddyn

Yn dilyn y newidiadau hyn, ystyrir bod dysgwyr sy'n cynnal yr un sgoriau yn eu hasesiadau dros amser, neu sy’n cael sgoriau tebyg, yn gwneud cynnydd cyson.