Asesiadau personol
- Rhan o
Asesiadau Personol yn 2022 i 2023
Mae asesiadau personol Darllen a Rhifedd i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 9 yn statudol ac ar gael i’w gwneud drwy gydol y flwyddyn ysgol. Nod yr asesiadau yw cefnogi cynnydd mewn sgiliau darllen a rhifedd.
Ar ôl i ddysgwyr gwblhau’r asesiadau hyn, bydd gan ysgolion fynediad at adborth ar sgiliau eu dysgwyr, eu cynnydd, eu sgoriau safonedig ar sail oedran ac ystod o adroddiadau i helpu i gynllunio dysgu ac addysgu.
Gosodir y gofynion ar gyfer y flwyddyn academaidd hon yn llawlyfr gweinyddu yr asesiadau personol.
Cael mynediad at yr asesiadau
Er mwyn cael mynediad at yr asesiadau, bydd angen i chi fewngofnodi i Hwb. Ar ôl i chi fewngofnodi, dewiswch yr eicon asesiadau personol ar yr hafan neu o'r ddewislen.
Mae'r fideo hwn yn dangos sut i fewngofnodi i Hwb a chael mynediad at y wefan asesiadau personol.
Canllawiau i ysgolion
- Yn ystod y flwyddyn academaidd hon, mae asesiadau personol Darllen a Rhifedd yn statudol i'w defnyddio ym Mlynyddoedd 2 i 9. Cynghorir athrawon i ddarllen 'llawlyfr gweinyddu yr asesiadau personol', sy’n amlinellu’r gofynion ar gyfer eleni.
- Gall ysgolion amserlennu asesiadau personol ar adeg y maent yn ei hystyried yn fwyaf buddiol i gefnogi addysgu, dysgu a chynnydd.
- Gofynnir i athrawon sicrhau bod eu holl ddysgwyr yn defnyddio'r asesiadau ymgyfarwyddo ar Hwb i roi cynnig ar y mathau o gwestiynau cyn cymryd yr asesiadau.
- Mae gwybodaeth ymarferol fanwl am amserlennu a chyflwyno'r asesiadau (gan gynnwys rhestrau gwirio), ac ar gael gafael ar adroddiadau, yn y canllaw i ddefnyddwyr ar y wefan asesu.
Cymorth ac arweiniad i ysgolion
Mae cymorth ac arweiniad ar gael ar wefan yr asesiadau. Ar ôl cael mynediad at y wefan, cliciwch 'Help' i gael mynediad at fideos, canllaw i ddefnyddwyr, deunyddiau hyfforddi ac asesiadau ymgyfarwyddo.
I gael cymorth ar reoli cyfrifon defnyddwyr Hwb yr ysgol, cysylltwch â hwb@llyw.cymru neu 0300 0252525.
I gael cymorth ar yr asesiadau personol, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth Asesiadau (ar gyfer ysgolion yn unig) ar 029 2026 5099 rhwng 8am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener neu cymorth@asesiadaupersonol.cymru.
Llawlyfr gweinyddu
-
Llawlyfr gweinyddu 2022 i 2023
- Canllawiau statudol
Canllawiau i ymarferwyr ar adborth dysgwyr unigol ac adroddiadau cynnydd
Gweminarau ar gyfer athrawon
Mae gweminarau ar gyfer athrawon ar gael ar system yr asesiadau personol.
Astudiaethau achos ysgolion
Mae’r astudiaethau achos hyn yn amlygu’r defnydd o asesiadau personol i dargedu a gwella canlyniadau’r dysgwyr.
Gwybodaeth i rieni a gofalwyr
Mae gwybodaeth i rieni a gofalwyr hefyd ar gael.
Rhagor o wybodaeth
- Mae'r asesiadau personol yn addasol, sy'n golygu y caiff y cwestiynau eu dewis ar sail ymateb dysgwr i'r cwestiynau blaenorol. Mae hyn yn cynnig profiad asesu sydd wedi'i deilwra ar gyfer pob dysgwr a bydd yn helpu pob dysgwr i ddatblygu eu sgiliau drwy ddeall yr hyn y gallant ei wneud, yr hyn efallai y mae angen iddynt ei wella, a’r camau nesaf posibl
- Mae'n ofynnol i ddysgwyr sefyll pob asesiad unwaith yn ystod y flwyddyn academaidd. Gall ysgolion hefyd ddefnyddio'r asesiadau unwaith yn rhagor yn ystod y flwyddyn academaidd.
- Mae'r asesiadau yn rhoi gwybodaeth i ysgolion am sgiliau dysgwyr unigol, grwpiau a dosbarthiadau cyfan.
- Nid oes unrhyw 'gyfnod asesu' ar gyfer asesiadau personol; mae amseru yn ôl disgresiwn yr ysgol.
- Gall y dysgwyr sefyll yr asesiadau personol naill ai mewn grwpiau bach neu grwpiau mawr, yn dibynnu ar ddewisiadau a chyfleusterau'r ysgol, ac nid oes angen nifer fawr o ddyfeisiau ar ysgolion.