English

Hwb

Dysgu am Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Bydd angen ichi ddarllen y trosolwg hwn ar y cyd â Canllaw i Gwricwlwm i Gymru 2022

Mae Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn ein galluogi i ddadansoddi a deall y byd o’n cwmpas.

Drwy helpu dysgwyr i lwyddo yn y maes dysgu a phrofiad hwn, cânt eu helpu hefyd i lwyddo ym mhob rhan o’r cwricwlwm.

Bydd Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn galluogi pob dysgwr i feithrin gwybodaeth a sgiliau yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn ieithoedd rhyngwladol yn ogystal â llenyddiaeth. Lle y bo’n berthnasol, bydd y ddarpariaeth hefyd yn cynnwys cyfleoedd i ddysgu Cymraeg a Saesneg fel ieithoedd ychwanegol [CIY/SIY] yn ogystal â dysgu ieithoedd cartref neu ieithoedd cymunedol eraill. Ym mhob achos, bydd yn annog dysgwyr i fod yn ymwybodol o’r cysylltiadau rhwng ieithoedd wrth iddynt ddod i werthfawrogi tarddiad geiriau ac ennill diddordeb mewn patrymau iaith. Cânt eu hannog i drosglwyddo’r hyn a ddysgwyd ganddynt ynglŷn â sut mae ieithoedd yn gweithio, er enghraifft, yn Gymraeg ac yn Saesneg i ddysgu a defnyddio ieithoedd rhyngwladol. Bydd y dull gweithredu amlieithog hwn yn tanio brwdfrydedd dysgwyr ac yn cynnig sylfaen gadarn iddynt ddatblygu diddordeb gydol oes mewn dysgu ieithoedd newydd ac mewn llenyddiaeth o Gymru a’r byd.

Cwricwlwm gweddnewidiol

Mae’r Papur Gwyn Cenhadaeth ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol yn nodi’r cynigion deddfwriaethol manwl ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022.

Y cynnig yw y bydd gofyn i leoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion ddarparu cwricwlwm eang a chytbwys sy’n bodloni pedwar diben y cwricwlwm ac sy’n cynnwys y chwe maes dysgu a phrofiad. Bydd dysgu Cymraeg, Saesneg, addysg grefyddol, addysg cydberthynas a rhywioldeb, a’r tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, i gyd yn ddyletswyddau statudol. Mae rhagor o wybodaeth ar sut y gall Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu gefnogi hyn yn adran ‘Datblygu cwricwlwm eang a chytbwys’ o’r ddogfen hon.

Bydd hawl gan leoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion i ddewis sut i gynllunio’u cwricwlwm ar lefel ysgol er mwyn cyflawni eu dyletswyddau cwricwlaidd. Fodd bynnag, wrth arfer yr hawl honno, bydd rhaid iddynt roi sylw i ganllawiau statudol a gaiff eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru. Yn ymarferol, golyga hyn y dylent ddilyn y canllawiau statudol oni bai bod ganddynt reswm da i beidio.

Nod y canllawiau statudol hyn ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, sy’n rhan o’r canllawiau statudol ehangach ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022, yw rhoi fframwaith cenedlaethol y gall lleoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion ei ddefnyddio i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain. Ni fwriedir iddynt fod yn faes llafur hollgynhwysfawr, nac yn ganllaw ar gyfer trefnu amserlenni. Maent yn nodi:

  • yr hyn y dylai lleoliadau a ariennir nas cynhelir ac ysgolion roi ystyriaeth iddo wrth lunio’u cwricwlwm, a sut y gellir ei strwythuro
  • y disgwyliadau eang ar gyfer dysgwyr ar bob cam cynnydd ym Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.

Bydd Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr feithrin gwybodaeth a sgiliau mewn gwrando a darllen, siarad ac ysgrifennu ac mewn llenyddiaeth, a hynny o fewn ieithoedd unigol ac ar draws amrywiaeth o ieithoedd. Bydd yn rhoi sylw arbennig i ddiwylliant gan gydnabod y cyswllt rhwng diwylliant ac iaith a deall sut mae’r cyswllt hwn yn bwysig i’n hymdeimlad o hunaniaeth, o’n lle ac o’n llais mewn cymdeithas. Gan hynny, mae’r maes dysgu a phrofiad hwn yn gweld pwysigrwydd annog dysgu sawl iaith, ac yn deall fod hyn yn ffordd o ddysgu am ddiwylliannau y tu hwnt i’n diwylliant ni ein hunain a hefyd yn ffordd o ehangu ein gorwelion. At hyn, mae’n cydnabod bod ieithoedd yn adnoddau pwysig ar gyfer mynegi empathi a chreadigrwydd.

Bydd Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn cyfrannu at ddatblygu dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes drwy eu galluogi i gyfathrebu’n effeithiol mewn amryw gyfrwng, gan ddefnyddio Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol. Mae cymhwysedd ieithyddol da nid yn unig yn helpu dysgwyr i wneud synnwyr o gysyniadau ond mae hefyd yn eu galluogi i fynegi eu rhesymu wrth iddynt ddatrys problemau a dadansoddi data a gwybodaeth. Ymhellach, mae cymhwysedd da mewn sawl iaith yn dyfnhau gallu dysgwyr i ymateb i wahanol gyd-destunau. Gyda’i gilydd, mae’r sgiliau hyn yn meithrin hyder dysgwyr i fanteisio ar gyfleoedd newydd ac i ymaddasu’n ddeheuig i wahanol rolau, a thrwy hynny wella eu cyflogadwyedd.

Drwy ddarparu cyd-destunau ystyrlon, bydd y maes dysgu a phrofiad hwn yn ysgogi dysgwyr nid yn unig i gaffael sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth ieithyddol ond hefyd i gymhwyso’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth honno. Bydd yn ei dro, yn meithrin agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu a defnyddio ieithoedd. Un agwedd ar ddysgu iaith yn effeithiol yw’r parodrwydd i fentro wrth roi cynnig ar greu seiniau a phatrymau newydd. Felly bydd y sgiliau a gaiff eu meithrin drwy Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn grymuso dysgwyr i ddod yn annibynnol ac yn wydn pan fyddant yn wynebu heriau, ynghyd â dod yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.

Mae mynd i’r afael yn ystyrlon ag ieithoedd a llenyddiaeth ar draws amrywiaeth o ffurfiau a chyfryngau yn gallu meithrin ymdeimlad o hunaniaeth yn y dysgwyr, a’u galluogi i ddeall eu diwylliant a’u cymuned a pheri iddynt ddod yn ymwybodol o’r cyfrifoldebau sydd ganddynt tuag atynt eu hunain, tuag at eraill o’u cwmpas a thuag at y byd ehangach. Yn hyn o beth, mae Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn cyfrannu at ddatblygu dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a’r byd wrth i ddysgwyr ennill yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gymryd rhan mewn cymdeithas a hynny’n hyderus a chydag empathi.

At hyn, mae sgiliau Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn allweddol o ran galluogi dysgwyr i fynegi eu hunain yn effeithiol, ac mae dysgwyr sy’n gallu cyfleu eu teimladau a dehongli teimladau pobl eraill mewn gwell sefyllfa i feithrin cydberthnasau cadarnhaol ac felly i ddod yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas, sy’n gallu cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel, boed ar y we ac oddi arni.

Yn olaf, bydd y maes dysgu a phrofiad hwn yn rhoi pwyslais ar y pleser a ddaw nid yn unig drwy ddysgu iaith ond hefyd drwy fwynhau llenyddiaeth, boed fel darllenwyr neu lenorion. Mae’r mwynhad hwn yn cyfrannu’n gadarnhaol at sawl agwedd ar daith y dysgwyr, gan gynnwys eu hiechyd a’u lles ynghyd â’u datblygiad fel unigolion creadigol.

Mae cyswllt agos iawn rhwng y pedair elfen a nodwyd fel yr hyn sy’n bwysig o ran Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.

Mae gwrando a darllen, yn ogystal â siarad ac ysgrifennu, yn perthyn i’w gilydd ac nid ar wahân i’w gilydd. Felly mae’n rhaid ystyried y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig canlynol ochr yn ochr.

  • Mae dysgwyr sy’n gwrando ac yn darllen yn effeithiol yn barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
  • Mae dysgwyr sy’n siarad ac yn ysgrifennu’n effeithiol yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.

Gwëir y ddau ddatganiad arall o’r hyn sy’n bwysig trwy bopeth a wnaed mewn Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.

  • Mae dysgu am hunaniaeth a diwylliant drwy ieithoedd yn ein paratoi i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd.
  • Mae llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd.

Gwelir sgiliau iaith a dealltwriaeth o hunaniaeth a diwylliant yn cael eu datblygu trwy lenyddiaeth; mae hunaniaeth a diwylliant yn cynnig cyd-destun ar gyfer dysgu ieithoedd.

Mae deilliannau cyflawniad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn cydnabod na fydd pob dysgwr yn symud ymlaen ar yr un cyflymder na dyfnder.

Mae deilliannau cyflawniad ‘Mae dysgu am hunaniaeth a diwylliant drwy ieithoedd yn ein paratoi i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd’ yr un fath i bob dysgwr ym mhob ysgol.

Ar gyfer y datganiadau eraill o’r hyn sy’n bwysig mewn Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, mae deilliannau cyflawniad ar gyfer Cymraeg/Saesneg, Cymraeg mewn lleoliadau/ysgolion/ffrydiau cyfrwng Saesneg ac ar gyfer ieithoedd rhyngwladol. Caiff y disgwyliadau ar gyfer Cymraeg mewn lleoliadau/ysgolion/ffrydiau cyfrwng Saesneg eu hadolygu a’u cynyddu dros amser wrth i’r carfanau cyntaf ddysgu drwy Gwricwlwm i Gymru 2022 ac wrth i ddysgu proffesiynol wella galluoedd.

Cafodd y deilliannau cyflawniad eu datblygu ar sail continwwm neu fframwaith cynnydd mewn ieithoedd, gan ddechrau gyda dim iaith neu heb fawr ddim iaith a gweithio tuag at ruglder. Dylai’r wybodaeth a’r sgiliau a ddysgir mewn un iaith gefnogi’r broses o feithrin gwybodaeth a sgiliau mewn ieithoedd eraill, ni waeth pa un sy’n cael ei dysgu gyntaf.

Bydd angen i leoliadau ac ysgolion gynllunio ar gyfer cynnydd dysgwyr yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mewn ieithoedd rhyngwladol. Bydd angen i ysgolion ystyried y deilliannau cyflawniad Cymraeg sydd fwyaf addas i’w dysgwyr. Yn ogystal ag ysgolion cyfrwng Cymraeg, mae’n bosibl hefyd mai’r cynnydd yn y Gymraeg a ddangosir yn y deilliannau cyflawniad Cymraeg/Saesneg fydd yr un mwyaf addas i rai dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg sydd, er enghraifft, wedi mynychu cylch meithrin neu sy’n trosglwyddo o ysgol cyfrwng Cymraeg i ysgol cyfrwng Saesneg. Efallai y bydd angen i ysgolion dwyieithog hefyd ystyried y deilliannau cyflawniad ar gyfer Cymraeg a Saesneg a’r deilliannau cyflawniad ar gyfer Cymraeg mewn lleoliadau/ysgolion/ffrydiau cyfrwng Saesneg.

Mae deilliannau cyflawniad ar gyfer ieithoedd rhyngwladol yn dangos cynnydd o Gam cynnydd 3. Bydd dysgwyr yn datblygu ymwybyddiaeth o’r ieithoedd o’u hamgylch o oedran cynnar, a dylent gael amlygiad cynyddol i amrywiaeth o ieithoedd.

O fewn y llwybrau cynnydd hyn, bydd teithiau dysgwyr yn amrywio ac ni fydd y broses yn un llinol. Mae’n hanfodol cydnabod, er enghraifft, y gall dysgwyr ail iaith ddefnyddio iaith fformiwläig heb fawr ddim camgymeriadau i ddechrau ac wrth iddynt ddatblygu i fod yn fwy uchelgeisiol a ddigymell yn eu defnydd o iaith, efallai y byddant yn gwneud mwy o gamgymeriadau i bob golwg. Mae’n rhaid i ddysgwyr gael eu hannog i fod yn uchelgeisiol yn y ffordd y maent yn defnyddio ieithoedd a derbyn hyn fel rhan annatod o ddysgu iaith yn llwyddiannus a all arwain at fod yn ddefnyddwyr iaith mwy rhugl a chywir. Bydd cynnydd hefyd yn cael ei ystyried drwy gymhwyso’r un sgil mewn cyd‑destunau cynyddol heriol.

Dylid cyfeirio at y Model Pum Cam ar gyfer Saesneg/Cymraeg fel iaith ychwanegol (SIY/CIY) a deunyddiau cymorth wrth ystyried cynnydd dysgwyr SIY mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dysgwyr CIY mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae’r Pecyn cymorth arolwg asesu anghenion caffael iaith i athrawon cynradd ac uwchradd ar gael ar-lein ar Hwb yn

Cynradd: Pecyn cymorth arolwg asesu anghenion caffael iaith

Uwchradd: Pecyn cymorth arolwg asesu anghenion caffael iaith

Bydd ysgolion yn sicrhau dulliau addysgeg effeithiol iawn a chydweithio â phartneriaid perthnasol er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn cael mynediad teg at Faes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Mae’r broses hon yn dechrau gyda’r ysgol yn cydnabod ei thirwedd ieithyddol ei hun, gan gynnwys cryfderau a heriau ei dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Gyda’r wybodaeth hon, bydd ysgolion yn barod i gynllunio llwybrau perthnasol i bob dysgwr, gan gynnwys ystyried yr amgylchedd dysgu, mireinio/gwahaniaethu o ran addysgu a chydweithio priodol â phartneriaid perthnasol. Gall dysgwr sydd ag anghenion corfforol hynod gymhleth wneud cynnydd da iawn yn ei ddatblygiad ym mhob agwedd ar yr hyn sy’n bwysig ym maes Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu drwy ei lwybr unigol, e.e. drwy ddefnyddio technoleg i gyfathrebu, darllen ac ysgrifennu gyda chymorth partneriaid ym maes iechyd, gwasanaethau cynghori a grwpiau arbenigol eraill.

Cydnabyddir bod rhai o’n dysgwyr ieuengaf yn dod i’r ysgol gydag oedi mewn datblygu iaith. Bydd angen i ysgolion gynllunio yn eu cyd-destun penodol a chyda chymorth arbenigol lle y bo’n briodol fel y gellir asesu a chefnogi anghenion datblygiadol, ffisiolegol ac ymarferol ac anghenion dysgu ychwanegol eraill. Dylid cynllunio ar gyfer unrhyw gymorth ychwanegol gyda’r agweddau corfforol ar ysgrifennu, e.e. gofynion penodol dysgwyr llaw chwith. Ym mhob achos, dylid annog gweithwyr proffesiynol i gynllunio ar gyfer datblygiad ieithyddol plant ifanc a’i gefnogi yn unol â datblygiad plenty, gan gydnabod, er enghraifft, bwysigrwydd datblygu sgiliau siarad yn ddigon da cyn canolbwyntio ar ysgrifennu.

Llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol

Mae cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn cefnogi y rhan fwyaf o ddysgu ac maent yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr allu cymryd rhan yn llwyddiannus ac yn hyderus yn y byd modern.

Llythrennedd

Drwy ddiffiniad, mae llythrennedd wrth wraidd Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Caiff sgiliau llythrennedd eu haddysgu’n benodol drwy’r maes dysgu a phrofiad hwn. Bydd meysydd dysgu a phrofiad eraill yn hwyluso’r broses o ddefnyddio a datblygu’r sgiliau hyn mewn cyd-destunau dilys a’i gwneud yn bosibl i’r sgiliau hyn gael eu hatgyfnerthu.

Dylid ystyried llafaredd ac ysgrifennu fel yr adnoddau a ddefnyddir gan ddysgwyr i fynegi eu hunain, sy’n cynnwys dangos eu dealltwriaeth o amrywiaeth o gyd-destunau a sgiliau. Dylai sgiliau darllen gael eu datblygu i gefnogi dysgu, e.e. echdynnu gwybodaeth a data perthnasol o dablau, siartiau, graffiau a thestun i gefnogi eu prosesau gwneud penderfyniadau. Bydd datblygu sgiliau ysgrifennu yn helpu dysgwyr i fynegi ystyr a dibenion mewn nifer o feysydd.

Rhifedd

Mae elfennau o rifedd a fydd yn gorgyffwrdd yn amlwg â’r maes dysgu a phrofiad hwn, megis echdynnu gwybodaeth allweddol o amrywiaeth o ffynonellau neu ddefnyddio sgiliau rhesymu i wneud penderfyniadau.

Gallai profiadau cyntaf dysgwyr o ddefnyddio rhifedd godi drwy weithgareddau megis rhigymau rhif, wrth iddynt ddechrau ymateb a dadansoddi testunau, ac yn gwneud cynnydd a datblygiad pellach i wneud sylwadau ar ddehongliadau gwahanol o faterion a syniadau, gan ddefnyddio testunau i ategu barnau.

Wrth i ddysgwyr ddefnyddio rhifau mewn ieithoedd eraill bydd hyn yn ei dro yn atgyfnerthu dysgu a sgiliau rhifedd y pen a sgiliau rhifedd ysgrifenedig. Wrth i ddysgwyr ddechrau cael eu trochi mewn profiadau iaith cyfoethog ac amrywiol, bydd cysyniadau megis ymwybyddiaeth gronolegol yn digwydd yn naturiol ac yn cael eu datblygu.

Cymhwysedd digidol

Cydnabyddir bod sgiliau digidol yn gynyddol bwysig o ran datblygu llythrennedd, ieithoedd a sgiliau cyfathrebu ehangach dysgwyr. Mae’r gallu i ddefnyddio technoleg ddigidol yn briodol a gweithredu mewn amrywiaeth o amgylcheddau a chyfryngau digidol, gan weithio’n greadigol, ar y cyd, ac yn feirniadol, yn dod yn fwyfwy pwysig. Gellir trafod hawliau digidol, trwyddedu a pherchenogaeth wrth i ddysgwyr weithio’n annibynnol neu gydweithio ar brosiectau.

Wrth i ddysgwyr archwilio dulliau cyfathrebu ar gyfer sefyllfa benodol, gallant ddysgu sut i greu negeseuon clir a phriodol wedi’u teilwra ar gyfer cynulleidfaoedd penodol, gan rannu, golygu ac addasu yn ôl y gofyn. Gallant hefyd gael y cyfle i ddeall a datblygu ymwybyddiaeth o sut i storio data yn briodol a bod yn ystyriol o oblygiadau cyfreithiau data, gan gynnwys y defnydd o hawlfraint.

Gellir cael mynediad at lenyddiaeth drwy dechnoleg yn ogystal â rhagor o wybodaeth am themâu y deuir ar eu traws drwy lenyddiaeth, neu ymatebion gwahanol i lenyddiaeth.

Mae’r amgylchedd digidol hefyd yn hwyluso ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gynyddol o ddiwylliannau gwahanol, yn galluogi dysgwyr i gyfathrebu â’i gilydd yn y wlad hon ac mewn gwledydd eraill, ac yn cynnig cyfoeth o adnoddau ar gyfer dysgu ieithoedd a chael profiad ohonynt.

Y dimensiwn Cymreig a’r persbectif rhyngwladol

Drwy Faes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, mae dysgwyr yn datblygu ymdeimlad cryf o hunaniaeth fel dinasyddion yn eu cymuned leol, Cymru, y Deyrnas Unedig a’r byd ehangach, gan gydnabod amrywiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol pob cyd-destun. Mae teithiau dysgwyr yn dechrau gyda’u hiaith (hieithoedd) a’u diwylliant (diwylliannau) eu hunain yn y cartref, yn eu cymunedau ac yng Nghymru. Mae hyn yn rhoi sylfaen wrth iddynt ehangu eu dealltwriaeth o gyd-destun cenedlaethol a’r cyd-destun byd‑eang, a pharhau i fyfyrio ar eu persbectif personol a lleol ar yr un pryd. Mae hyn yn arbennig o wir am y datganiadau canlynol o’r hyn sy’n bwysig ym Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.

  • Mae dysgu am hunaniaeth a diwylliant drwy ieithoedd yn ein paratoi i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd.
  • Mae llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd.

Ar gyfer y datganiadau hyn o’r hyn sy’n bwysig, mae’r dimensiwn Cymreig a’r persbectif rhyngwladol yn ffurfio rhan allweddol. Er enghraifft, bydd dysgwyr yn cael cyfleoedd i adeiladu ar gysylltiadau, pethau cyffredin a gwahaniaethau rhwng eu hiaith (hieithoedd) a’u diwylliant (diwylliannau) eu hunain a rhai eu cymuned leol a’u cymuned ehangach.

Mae mynediad drwy Faes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu at amrywiaeth o lenyddiaeth yn galluogi dysgwyr i dderbyn a dathlu eu lle yn y byd, ac mae’n agor eu meddyliau at amrywiaeth o safbwyntiau, persbectifau a syniadau. Byddant yn profi llenyddiaeth Gymraeg, llenyddiaeth Gymreig yn Saesneg, llenyddiaeth Saesneg, llenyddiaeth o ddiwylliannau eraill a llenyddiaeth a ysgrifennwyd mewn ieithoedd rhyngwladol, gan gynnwys gwaith wedi’i gyfieithu. Mae’n bwysig bod dysgwyr yn cael cyfleoedd i ddathlu llenyddiaeth eu diwylliant (diwylliannau) eu hunain a’u bod yn cael eu cyflwyno i’r diwylliannau eraill o’u hamgylch. Mae iaith yn chwarae rhan bwysig o ran gwireddu pedwar diben y cwricwlwm, gan helpu dysgwyr i fod yn ddinasyddion byd‑eang sy’n gallu cyfathrebu’n effeithiol ac sy’n gallu gwerthfawrogi diwylliannau eraill, a dathlu eu diwylliant eu hunain.

Sgiliau ehangach

Mae Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn cynnig cyfleoedd lu i ddysgwyr datblygu pob un o’r pedwar sgil ehangach.

Meddwl yn feirniadol a datrys problemau

Mae sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu yn rhan annatod o ddatblygu’r gallu i feddwl yn feirniadol a datrys problemau. Rydym yn gwrando ac yn darllen er mwyn dadansoddi a deall sefyllfaoedd a llunio ymatebion drwy siarad ac ysgrifennu. Mae dysgwyr hefyd yn datblygu eu sgiliau meddwl yn feirniadol drwy ymdrin â llenyddiaeth ac yn datblygu eu sgiliau datrys problemau drwy ddadadeiladu a defnyddio eu hieithoedd.

Cynllunio a threfnu

Wrth i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau gwrando a darllen, siarad ac ysgrifennu, byddant hefyd yn datblygu sgiliau cynllunio a threfnu, yn penderfynu ar y ffordd orau o gyflwyno eu syniadau a’u gwaith creadigol, yn myfyrio ar eu gwaith a chynllunio a rhoi gwelliannau pellach ar waith.

Creadigrwydd ac arloesi

Mae llenyddiaeth yn ysbrydoli creadigrwydd ac mae sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu yn hanfodol er mwyn archwilio syniadau a mynegi safbwyntiau yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn ieithoedd rhyngwladol. Mae deall eu hunaniaeth a’u diwylliant eu hunain drwy ieithoedd, a datblygu agwedd agored tuag at eraill, yn rhoi dewrder i ddysgwyr fentro, arbrofi a defnyddio ieithoedd yn greadigol.

Effeithiolrwydd personol

Mae myfyrio ar eu diwylliannau a’u hunaniaeth eu hunain a diwylliannau a hunaniaeth eraill drwy ieithoedd yn agwedd bwysig ar ddatganiadau o’r hyn sy’n bwysig ym Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Drwy wrando, gwylio a darllen, mae dysgwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o gyfathrebu effeithiol a phriodol y maent yna’n ei ddatblygu ymhellach drwy eu siarad a’u hysgrifennu. Bydd dysgwyr yn datblygu eu heffeithiolrwydd personol a’u hunanymwybyddiaeth wrth ddefnyddio ieithoedd a fydd yn eu tro yn cefnogi dysgu ar draws y cwricwlwm cyfan.

Gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith

Dysgu o wybodaeth am yrfaoedd a’r farchnad lafur

Mae’n hanfodol i ddysgwyr gael gafael ar wybodaeth o ansawdd uchel am yrfaoedd a’r farchnad lafur ac iddynt feddu ar ddealltwriaeth o’r hyn y mae hynny’n ei olygu iddynt, er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus a chynaliadwy am eu gyrfa.

Mae cryn dipyn wedi cael ei ysgrifennu am fanteision dwyieithrwydd ac amlieithrwydd. Mae siarad mwy nag un iaith yn sgil a fydd yn gwneud dysgwyr yn fwy atyniadol ar y farchnad lafur, ac mae llawer o brifysgolion a chyflogwyr yn ffafrio’r rhai sy’n gallu siarad mwy nag un iaith.

Mae sgiliau mewn ieithoedd rhyngwladol yn hanfodol i Gymru ffynnu fel gwlad fasnachol ryngwladol. Mae ieithoedd rhyngwladol yn cynnig llu o lwybrau gyrfa i ddysgwyr, o weithio gyda MI5 i weithio ym maes marchnata i gwmni rhyngwladol, o griw awyren i reoli digwyddiadau. Mae cyfleoedd yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang i ieithyddion.

Mae llawer o yrfaoedd sy’n cysylltu’n uniongyrchol ag Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Fodd bynnag, mae’r sgiliau a ddatblygir, megis y gallu i ddarllen ac ysgrifennu’n glir, cynnal ymchwil, rhoi cyflwyniad, cyfathrebu’n glir a rhoi sylw i fanylion, yn cael eu gwerthfawrogi gan amrywiaeth eang o gyflogeion, gan gynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddysgwyr.

Cysylltu’r maes dysgu a phrofiad â gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith

Mae sgiliau rheoli gyrfa a sgiliau cynllunio, megis cymhelliant, hunanymwybyddiaeth, ymwybyddiaeth o gyfleoedd, gwneud penderfyniadau, ymroddiad a gwydnwch, i gyd yn elfennau allweddol o Faes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Mae cyfathrebu a llythrennedd yn hanfodol i fod yn barod at yrfa, ynghyd â chymwyseddau cymdeithasol fel meddwl yn feirniadol, dadlau darbwyllol ac ymgyflwyno hyderus. Dylai dysgwyr ddeall y cysylltiadau rhwng Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu a’r llwybrau gyrfa y maent yn eu cynnig iddynt a gallu eu hesbonio.

Mae sgiliau dwyieithog yn ddefnyddiol ar gyfer unrhyw swydd ond yn enwedig y rhai sy’n cynnwys cyfathrebu â phobl. Mae meysydd lle mae’r galw am bobl sydd â sgiliau dwyieithog yn cynyddu yn cynnwys addysg, iechyd, gofal plant, gofal cymdeithasol, busnes a thechnoleg gwybodaeth, twristiaeth a hamdden, y cyfryngau a’r celfyddydau perfformio, ieithyddiaeth, ieithyddiaeth gyfrifiannu ac amaethyddiaeth.

Bydd y sgiliau trosglwyddadwy sydd wrth wraidd Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn cyfrannu at baratoi gweithlu ar gyfer proffesiynau a swyddi nad ydynt yn bodoli eto, er mwyn diwallu anghenion gyrfaoedd newydd ac sy’n datblygu.

Gall y Gymraeg hefyd agor drysau i fyd gwaith, gan roi mantais yn y farchnad swyddi yng Nghymru a chyfle i gael profiad gwerthfawr mewn diwydiannau cystadleuol a all arwain at gyfleoedd eraill yng Nghymru a thu hwnt. Mae’n rhaid i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae hyn wedi golygu cynnydd yn y galw am bobl sy’n gallu cyfathrebu’n dda yn y ddwy iaith. Mae mwy o bobl bellach yn teimlo eu bod yn gallu defnyddio eu Cymraeg wrth ddefnyddio gwasanaethau ac, o ganlyniad, dengys ymchwil fod y galw gan gyflogwyr am staff sydd â sgiliau Cymraeg yn cynyddu. Mae Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn helpu dysgwyr i ddeall amrywiaeth a herio stereoteipiau er mwyn codi uchelgais dysgwyr a’u cred yn eu dyfodol posibl.

Mae cynnydd dysgwyr o ran gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith yn rhan o gontinwwm dysgu ar gyfer dysgwyr rhwng 3 ac 16 oed. Gallai llwyddiant i ddysgwr ifanc ysgol gynradd gynnwys:

  • chwarae rôl ar gyfer amrywiaeth o wahanol swyddi
  • y gred y gallant gyflawni unrhyw swydd – gan fynd i’r afael â stereoteipiau rhyw
  • cyfathrebu â phobl yn eu cymuned am y gwahanol swyddi y maent yn eu gwneud a’r boddhad a all ddeillio ohonynt.

Drwy wneud cynnydd dysgu, gallai llwyddiant i ddysgwyr 16 oed gynnwys:

  • dangos a chymhwyso’r sgiliau a ddysgwyd mewn perthynas â’r byd gwaith
  • adnabod diddordebau, cryfderau a sgiliau er mwyn gwneud dewisiadau gwybodus ôl-16
  • deall ac arddangos y mathau o ymddygiad mae cyflogwr yn dymuno eu gweld mewn cyflogai da
  • gwerthuso risgiau wrth ddatblygu syniad busnes ac ystyried gwahanol ffyrdd o sefydlu a chynnal menter.

Profiadau sy’n gysylltiedig â gwaith

Mae dysgwyr yn datblygu diddordebau, cryfderau, sgiliau a dyheadau drwy brofiadau fel rhan o’r cwricwlwm ac mewn bywyd y tu hwnt i’r ysgol. Mae amrywiaeth o bartneriaid ynghlwm â’r teithiau cyffrous hyn drwy gyd-ddylunio a chyd-gyflwyno a, chyda’i gilydd, maent yn llywio penderfyniadau dysgwyr am eu dyfodol a’r llwybrau y byddant yn eu dilyn. Gall cyfleoedd megis ymweliadau, siaradwyr gwadd a gweithgareddau ymarferol, helpu i wella’r dysgu a’i roi mewn cyd-destun.

Gall cydweithio a chyfleoedd i gysylltu ag unigolion a chyflogwyr, e.e. mewn llywodraeth leol, lletygarwch, cysylltiadau cyhoeddus, hysbysebu, addysgu, manwerthu, cyfrifiaduro, twristiaeth a gwaith cymdeithasol, roi cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu am waith, cyflogaeth a’r sgiliau a werthfawrogir yn y gweithle.

Gall dysgwyr ddefnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a feithrinwyd drwy gymryd rhan mewn profiadau sy’n gysylltiedig â gwaith i ddatblygu gweithgareddau menter llwyddiannus. Gall y rhain gynnig profiad dysgu dilys sy’n arwain at gynaliadwyedd i’r maes dysgu a phrofiad hwn, gan ddatblygu dysgwyr yn gyfranwyr creadigol a mentrus, a chreu cysylltiadau â’r byd gwaith.

Deall cyfleoedd ôl-16 ac addysg uwch

Mae’n hanfodol bod dysgwyr yn ymwybodol o’r holl gyfleoedd sydd ar gael iddynt ôl-16. Felly, yn ogystal â deall am gyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau, dylid rhoi gwybodaeth i ddysgwyr am ddarparwyr dysgu a chynnig y cyfle iddynt ymgysylltu ag amrywiaeth o ddarparwyr o’r fath. Dylai’r cyfleoedd ymgysylltu gynnwys mynychu ffeiriau gyrfaoedd a sgiliau, sgyrsiau gan ddarparwyr addysg bellach ac uwch ac ymweliadau gan y darparwyr hynny, yn ogystal â chyflwyniadau gan fyfyrwyr mewn addysg bellach neu uwch. Dylid hefyd gyfeirio dysgwyr at adnoddau ymchwil ar‑lein sy’n cynnig gwybodaeth am gyrsiau a chynnydd, er mwyn eu helpu i ddeall yr amrywiaeth o gyfleoedd dysgu sydd ar gael, ac i helpu i godi eu dyheadau a chynnig sail iddynt allu gwneud penderfyniadau gwybodus.

Addysg cydberthynas a rhywioldeb

Mae Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn cynnig cyfleoedd dilys i ddysgwyr feddwl yn feirniadol am heriau byd‑eang cyfoes, normau cymdeithasol ac agweddau sy’n cefnogi addysg cydberthynas a rhywioldeb.

Cydberthnasau

Bydd dysgwyr yn ystyried cydberthnasau mewn nifer o gyd-destunau drwy lenyddiaeth a dysgu ieithoedd. Caiff dysgwyr eu hamlygu i nifer o fodelau o gydberthnasau, normau a gwerthoedd diwylliannol, datblygu dulliau o ddadansoddi a gwerthuso er mwyn asesu a llunio barnau ar ffurfio cydberthnasau diogel ac iach. Gall dysgwyr:

  • ystyried ffactorau sy’n dylanwadu ar gydberthnasau iach a’u mynegi
  • ystyried y teimladau sy’n gysylltiedig â datblygu cydberthnasau iach a’u mynegi
  • datblygu’r sgiliau ar gyfer ffurfio cydberthnasau rhyngbersonol llwyddiannus, gan gynnwys cyfleoedd i fod yn rhan o drafodaethau a thrafod cysyniadau allweddol
  • dadansoddi a gwerthuso’r ffordd y mae cydberthnasau yn cael eu creu a’u cyflwyno drwy lenyddiaeth
  • dadansoddi a gwerthuso’r amrywiaeth o gydberthnasau ymhlith amrywiaeth o ddiwylliannau
  • datblygu sgiliau gwrando sy’n galluogi dysgwyr i ffurfio cydberthnasau cadarnhaol.

Gwerthoedd, hawliau, diwylliant a rhywioldeb

Gall dysgwyr:

  • ystyried ffactorau sy’n dylanwadu ar werthoedd cymdeithasol a diwylliannol a’u mynegi
  • gwerthuso’r ffyrdd y mae cysyniadau’n cael eu creu a’u cyflwyno i ddatblygu barn ystyriol o gymdeithas a’r heriau y mae’n eu hwynebu
  • datblygu’r ymagweddau a’r cymhelliant sydd eu hangen i fod yn ddinesydd byd-eang gweithredol a datblygu’n aelod empathig, gwybodus a gwerthfawr o gymdeithas
  • archwilio a thrafod y defnydd o derminoleg addas i fynegi eu hunain yn gywir gyda goddefgarwch a pharch.

Deall rhywedd

Gall dysgwyr:

  • ystyried ffactorau sy’n dylanwadu ar ddeinamig pŵer a’r defnydd o iaith sy’n ymwneud â rhywedd
  • profi llenyddiaeth llawn gwybodaeth i ddatblygu hunaniaeth, deallusrwydd emosiynol a lles cadarnhaol
  • adnabod rhagfarn ar sail rhyw mewn iaith er mwyn dod i gasgliadau ynglŷn ag ystyr a chyd‑destun
  • ystyried themâu mewn llenyddiaeth a’r cyfryngau sy’n ymwneud â stereoteipio a rhagfarn ar sail rhyw
  • ystyried a defnyddio iaith a chywair priodol er mwyn datblygu cydraddoldeb rhywiol a chydraddoldeb o ran iaith a llenyddiaeth.

Trais a chadw’n ddiogel

Gall dysgwyr:

  • ddadansoddi a gwerthuso’r ffyrdd y mae agweddau ar fwlio, trais a chydsynio yn cael eu cyflwyno a’u dehongli drwy ddatblygiad iaith a chyd-destun
  • dehongli a gwerthuso themâu mewn llenyddiaeth sy’n ystyried materion megis bwlio, trais a chydsynio
  • adnabod rhagfarn a bwriad mewn iaith a llenyddiaeth er mwyn gwneud penderfyniadau diogel wrth rannu gwybodaeth
  • datblygu’r sgiliau iaith sydd eu hangen i fynegi eu hunain yn glir er mwyn cadw eu hunain yn ddiogel a defnyddio arferion preifatrwydd diogel
  • dadansoddi a gwerthuso’r ffyrdd y mae annibyniaeth corfforol yn cael ei ddatblygu drwy iaith a llenyddiaeth er mwyn meithrin agweddau parchus tuag at eu hunain ac eraill.

Sgiliau ar gyfer iechyd a lles

Gall dysgwyr:

  • ddatblygu sgiliau iaith sy’n eu galluogi i ymwneud ag eraill a mynegi emosiynau a theimladau’n effeithiol
  • adnabod rhagfarn mewn iaith a llenyddiaeth i drafod agweddau tuag at iechyd a lles er mwyn llywio penderfyniadau sy’n caniatáu ffordd o fyw iach
  • datblygu agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu ieithoedd er mwyn ymgysylltu’n effeithiol ag eraill a gwella iechyd meddwl
  • manteisio ar y buddiannau i iechyd sy’n gysylltiedig â llenyddiaeth.

Y corff dynol a’i ddatblygiad

Gall dysgwyr:

  • ddod o hyd i gysylltiadau rhwng ac ar draws ieithoedd sy’n ystyried elfennau o’r corff dynol a’i ddatblygiad
  • datblygu sgiliau iaith sy’n galluogi dysgwyr i ymgysylltu a mynegi’n effeithiol emosiynau a theimladau sy’n dylanwadu ar ddelwedd gorfforol
  • dadansoddi a gwerthuso’r ffordd y mae elfennau o’r corff dynol a’i ddatblygiad yn cael eu creu a’u cyflwyno drwy lenyddiaeth.

Cyfoethogi a phrofiadau

Mae cynnig cyfleoedd dilys i wrando, darllen, siarad ac ysgrifennu, yn Gymraeg ac yn Saesneg ac mewn ieithoedd rhyngwladol, yn hanfodol i ddysgwyr. Mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog mae’n bwysig ystyried a chynllunio ar gyfer cyfleoedd i ddefnyddio Cymraeg ym mhob rhan o’r cwricwlwm ac mewn gweithgareddau y tu allan i’r ystafell ddosbarth fel modd i gyfoethogi datblygiad iaith ac ymestyn y defnydd o’r Gymraeg. Mae dysgu a defnyddio Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth yn rhoi cyd-destunau dysgu dilys, gwerthfawr i bob dysgwr. Yr egwyddor hon hefyd sydd wrth wraidd y Siarter Iaith sy’n rhoi fframwaith ar gyfer galluogi defnydd ehangach dysgwyr o’r Gymraeg.

Dylai pob dysgwr gael cyfle i ddarllen llenyddiaeth sy’n ddiddorol ac yn gyffrous iddynt. Mae cael cysylltiad ag awduron a gwrando arnynt yn darllen yn gymhelliant grymus. Gall awduron/beirdd/perfformwyr o’r ardal leol fod yn fodelau rôl pwysig a pherthnasol. Mae perfformiad yn dod â thestun yn fyw, p’un a yw’r dysgwr yn gwylio neu’n cymryd rhan. Mae profiadau fel y rhai a geir drwy weithdai adrodd stori a drama, y cynllun Llenorion ar Daith, eisteddfodau ysgol ac eisteddfod yr Urdd, gwyliau llên, cystadlaethau’r gair llafar a stomp barddoniaeth, ac ati, yn chwarae rôl bwysig i gynnig dysgu cymhwysol gwerthfawr i ddysgwyr.

Mae dysgwyr angen rhywbeth i siarad ac ysgrifennu amdano, ac mae ymgorffori chwarae a’r amgylchedd awyr agored lle y bo modd yn ffordd o ddatblygu’r dychymyg a chynnig ysgogiadau iddynt fynegi eu hunain.

Gall cydnabod amrywiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol Cymru, ei dathlu a manteisio i’r eithaf arni gyfoethogi bywydau ein dysgwyr, a hwyluso cydlyniant cymdeithasol. Mae dysgu drwy brofiad yn creu cymhelliant ac awydd i ddysgu a defnyddio ieithoedd.

Gellir cyfoethogi dysgu iaith a dysgu am ddiwylliannau gwahanol drwy ymgysylltu â phobl yn y gymuned leol a’r gymuned ehangach a thrwy gysylltu’n ddigidol. Dylai ysgolion fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gynnwys rhieni, gofalwyr a’r gymuned ehangach.

Mae cyswllt agos iawn rhwng y pedair elfen a nodwyd fel yr hyn sy’n bwysig mewn Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Mae gwrando a darllen, yn ogystal â siarad ac ysgrifennu, yn perthyn i’w gilydd ac nid ar wahân i’w gilydd. Bydd profiadau cyfoethog ym mhob un o’r pedair elfen yn cefnogi datblygiad yn y tair arall, a dylai gwaith cynllunio’r cwricwlwm ar lefel ysgol adlewyrchu hyn.

Yn yr un modd, dylai’r gwaith cynllunio adlewyrchu’r ffordd y mae’r maes dysgu a phrofiad hwn yn cydnabod y cyswllt sydd rhwng ieithoedd a’i gilydd a bod dysgu sgiliau mewn un iaith yn cryfhau dysgu’r sgiliau hynny mewn ail a thrydedd iaith, ac yn y blaen. O ran hynny, mae’r maes dysgu a phrofiad hwn yn mynd i’r afael â’r weledigaeth a fynegir yn un o bedwar diben y cwricwlwm, sef, yng nghyd-destun Cymru ddwyieithog, fod Gymraeg a Saesneg fel ei gilydd yn perthyn i holl bobl Cymru ac y bydd ‘ein holl blant a phobl ifanc yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sydd yn gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, drwy Gymraeg a Saesneg’.

Yn ogystal â hyn, mae’r maes dysgu a phrofiad hwn yn cydnabod sut y mae ieithoedd yn cynnig allwedd i gynhwysiant cymdeithasol ac yn gallu hybu gwell dealltwriaeth yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. O ganlyniad, mae’r maes dysgu a phrofiad wedi ei gynllunio er mwyn caniatáu i ddysgwyr adeiladu ar yr hyn y maent yn ei wybod am Gymraeg a Saesneg i ddysgu o leiaf un iaith ryngwladol yn yr ysgol a, lle bo dysgwyr yn dod ag ieithoedd eraill i’r ysgol o’u cartrefi neu eu cymunedau, bod modd dathlu’r ieithoedd hynny a datblygu llythrennedd ynddynt i’r graddau y bo hynny’n bosibl.

Bydd y modd y mae dysgwyr yn profi llenyddiaeth yn dylanwadu ar eu gallu i ddefnyddio iaith mewn ffordd greadigol i fynegi eu hunain. Bydd mynediad at lenyddiaeth a chyfleoedd ymdrochi ynddi yn ystod pob cyfnod yn helpu i hwyluso’r broses o ddysgu iaith, yn ogystal ag ysbrydoli defnydd mwy creadigol o iaith, ac i helpu dysgwyr i fyfyrio ar eu profiadau personol a chymdeithasol. At hyn, mae llenyddiaeth yn cynnig cyd-destun gwerthfawr ar gyfer y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn gyffredinol, yn ogystal ag ar gyfer y meysydd dysgu a phrofiad eraill.

Ar ben hynny, mae llenyddiaeth yn cynnig cyd-destun amrywiol i Faes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu a’r cwricwlwm ehangach, yn ogystal â chyfleoedd i archwilio hunaniaeth a diwylliant.

;
  • Cyhoeddwyd gyntaf 30 Ebrill 2019
  • Diweddarwyd diwethaf 30 Ebrill 2019